Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

POB OCHR I'R HEOL. I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

POB OCHR I'R HEOL. I (1) Y mae eglwys Lloyd-street, yn y dref lion, wedi rhoddi galwad i'r Parch. Rowland Evans, Ynysmeudwy, ger Pont- ardawe, i ddod i'w bugeilio, ac hyderwn yr etyb yntau'r alwad yn gadarnhaol. Cylch cyfleus a manteisiol iawn yw hwn, yn enwedig i ddyn ieuanc. Bydd yn ysgol dda iddo o lawer cyfeiriad, ac yn ei ddwyn i gysylltiad a bywyd Cymru yn ei wahanol agweddau. Y mae n gylch masnachol o bwys vn gylch gweithfaol prysnr, ac amrywiaeth yn ei weithfeydd yn gylch poblog, a phob arwyddion o gynnydd yn y cyfeiriad hwn; yn gylch sydd mewn cysylltiad a'r wlad, a ffermwyr y gymdog- aeth yn dod i'w farchnad ddwywaith yn yr wythnos. Y mae ar brif linell trafnid- iaeth y De, a phob manteision felly i'w cael ynddo. Dyma lie mae Ymneilltuaeth yn fwyaf blodeuog o bobman yng Nghymru hefyd, a dyma lie mae Annibyniaeth gryfaf led-led y wlad. Daw Mr. Rowland Evans felly i gylch sy'n golygu llawer, yn enwedig i wr ieuanc sydd newydd ddechreu ei weinidogaeth ymron. Y mae eglwys Lloyd-street ynddi ei hun hefyd yn eglwys dda, ac adnoddau lawer ynddi—dynion y gellir gwneud llawer gyda hwy. Deued ein brawd annwyl yn galonnog. (2) Clywsom fod eglwys Pendref, Llan- fyllin, wedi rhoddi galwad i'r Parch. J. H. Richards, Talwrn, ger Gwrecsam. Y mae Mr. Richards yn fab i'r Parch. D. Richards, Myddfai, ac wedi ei gyfaddasu i'r weinid- ogaeth gyda gofal mawr troed ef allan o aelwyd oedd yn batrwm yn y cyfeiriad hwn yn ddios, a bydd maes fel Llanfyllin yn bur debyg i'r hyn ellid gael mewn lle- oedd fel Llandeilo neu Lanymddyfri, ger- Uaw cartref ein hannwyl frawd-yn fwy felly nag y gall ardal y Talwrn fod, o angenrheidrwydd. Gweithiodd yn dda yn ei faes presennol, a bu'n gymeradwy a llwyddiannus iawn. Os yn symud i Ben- dref, Llanfyllin—i"- gylch oedrannus, a chylch hynod oherwydd ei gysylltiad eithr- iadol ag Ann Griffiths-, pe am ddim arall- hyderwn yn fawr y bydd ei lafur eto yr un mor gymeradwy a llawn o ffyniant. (3) Swn casglu i'r fyddin, a hynny trwy fath o orfodaeth ddienw, sydd mewn rhai cyfeiriadau,—troi y dynion ieuainc allan o'r gwahanol weithfeydd, gydag awgrym fod mwy o'u hangen yn y fyddin nag yno. Math o drais llechwraidd a melltigedig yw hwn. Byddai'n fil gwell dwyn gorfodaeth agored a didderbyn-wyneb i'r wlad- gwyddai pawb lie y safai wedyn. Ond y mae rhwydo ein meibion i'r rhyfel yn y ffordd hon yn wael a ffiaidd y tuhwnt cymeryd arnynt nad oes gwaith ar eu cyfer, a'i bod yn yslac, a rhyw dwyll felly. Os mai gwirfoddoliaeth yw cyfundrefn y wlad hyd yma, bydded felly; rhodder, o leiaf, ei ryddid llawn i bob un, gan ei adael lie y mae hyd nes y dewiso ymrestru. Os Had oes modd cael milwyr heb luchio ein bechgyn i ben heol, a'i gwneud yn amhosibl iddynt gael tamaid heb fynd i'r fyddin— wel, gwneler hi yn orfodaeth ddilol, a t hynner hwy i mewn yn rheolaidd. Y mae awdurdodau'r chwareli setts yn y Gogledd—ym Mhenmaenmawr a LIanael- haearn a lleoedd eraill-yn gweithio ar y cynllun ysgymun hwn o droi gwyr ieuainc o oedran milwrol allan o'r gwaith. Nid aethwn i byth yn filwr drwy drais y Pharo- aid bychain hyn sydd ar hyd a lied ein gwlad yn torfynyglu rhyddid ein meibion. Byddai'11 lies eu casglu hwy o'u tipyn plasau, a'u rhwymo, a'u dodi oil o flaen magnel. Cadwasant y chwarelwyr yn ddigon tlawd drwy'r blynyddau, ac ym- gyfoethogasant eu hunain. Gofalant hefyd am beidio peryglu llawer ar eu crwyn, nac eiddo eu plant. Annog eraill i fynd y maent, a llechu gartref eu hunain-y peth mwyaf cywardaidd yn y fusnes i gyd. (4) Y mae tros ddau cant ymhell wedi m y n d o ardal Penmaenmawr ardal fechan, deneu ei phoblogaeth ac y mae'r chwarelwyr dewrion wrtlii'n mynd eto y dyddiau hyn. Mor bell ag y mae bod yn nyled y Wladwriaeth yn y cwestiwn am fyd da helaethwych beunydd,' nis gwn am neb sydd a chyn lleied ganddynt i'w dalu. Dyma'r dosbarth sydd wedi ei gadw'n fwyaf llwm a bychan ei gyflog o'r un dosbarth o weithwyr yn y wlad— chwarelwyr y cerryg palmant (setts). Yn y creigiau oerion uchel y gweithiant, heb na chysgod na chlydwch; dannedd y graig, a dannedd yr hin, a dannedd tlodi yw o hyd yn eu hanes. Ac Ow mor druenus eu ey-flogau, mor amhosibl bod yn ddim ond tlodion gresynus yn niwedd oes fel ei dechreu Gwesgir, methrir, diystyrrir hwy gan eu hedlychod cytlog- wyr. Y mae'n sarhad ar ddynoliaeth i weithio dan amodau y bobl hyn. Rhy fach yw eu nifer i allu ffurfio Undeb cryf, lias mentrai eu hurvvyr ei herio. Oher- wydd hyn dioddefasant yn dawel. Ac eto yn v rhyfel hwn rhoes y bechgyn eu hoffer gwaith heibio wrth y lluoedd, a phrysurasant i'r gwahanol gatrodau. Lladdwyd amryw ohonynt gwnaeth rhai ohonynt wrhydri y bydd son am dano fel rhamant yn yr ardal. Teneuwvd y bobl- ogaeth, ac aeth pobl ieuainc yn lied brin yno. Ond eto wele rybuddion' iddynt ymadael o'r gwaith—pythefnos i'r bech- gyn dibriod i ddechreu, a son am byth- efnos arall i'r gwýr priod o oedran mil- wrol/ gydag hysbysrwydd that their services are more urgently needed in the Army or at munition works.' Gwyr pawb ohonom angen y wlad parod y hefyd yw pawb i helpu ond nid dyna'r ffordd i godi byddin wirfoddol.' Y mae ar ein calon ddamnio peth fel hyn wreiddyn, rhuddyn a brigyn. (5) Nid hawdd yw gwybod beth i'w ddweyd yngIýn a mater yr ymrestru bellach. Gwasgerir chwe mil o lythyrau yn y dref hon i wyr ieuainc sengl o oedran milwrol, yn apelio am eu gwasanaeth. Mae tua phedair mil wedi ymrestru oddi- yma eisoes. Eitlir er apelio drwy lythyrau atynt, eto nid oes orfodaeth i fynd. Theflir monynt allan o'u swyddi, na dim felly. Gallesid tybio, yn wir, nad ydym wedi gwneud dim yng Nghymru ac eto y mae ugain mil yn rhagor o filwyr wedi eu codi yn y wlad fechan lion nag yn holl I werddon sydd yn ddwbl ei phoblogaeth Da y gwna y South Wales Daily News yn ymosod ar y bobl sy'n brolio'r Trefedigaethau amen I liebyrth, a'r un pryd yn haeru fod Cymru, sydd wedi gwneyd mzoy o lawer na'r un Dv&fedigaeth, ymhell ar ol, ac yn ddifraw, ac yn bopeth gwaeth na'i gilydd. Beth hefyd am ebyrth ac haelioni yr eglwysi ? Gellid tybied na wnaethant hwythau ddim gan fel y cyhuddir hwy, ae y danodir claiarineb, a phob rhyw aflerweh iddynt. Daeth i'111 llaw bamffledyn eirias o Lerpwl yn holi beth mae pawb a phopeth ohonom yn wneud-yn eglwys a gweinidogion ac arweinwyr a rhieni a phawb ? Y mae ei awdur yn angerdd ei frwdfrydedd yn tueddu i fod yn rhy lawdrwm. Disgwylia i ni daflu popeth arall dros y bwrdd er mwyn gofalu am y fyddin a chyfrannu tnag ati. Nid oes gennyf ond cymeradwyo ei sel yn y cyfwng hwn. Vr un pryd, teg yw dweyd fod cyflawniadau'r eglwysi yn eu dodi ymhell o gyrraedd beirniadaeth un- ochrog, a'u codi uwchlaw pob math o ddannod, o ba gyfeiriad bynnag y daw. (6) Cyfranasant yn liael-iiiewti bech- gyn ac arian. Cofiasant eu dyledswyddau led-led y wlad. Nid wyf yn gwybod pa niter c/r gweinidogion fu yn crwydro'r wlad, gan annog pobl ieuainc i ymrestru. Goreu po leiaf fo eu nifer, dyna fy marn, er mwyn eu gwaith mawr pan fyddo r rhyfel drosodd. Eithr sicr wyf nad oes yr un gweinidog yn y wlad wedi dweyd wrth neb am beidio ymuno, hyd yn oed cyn i'r Defence of the Realm Act gael ei phasio, a chyn i wahardd ymrestru ddod yn drosedd cosbadwy mawr. Gadael rhwng pob dvn ieuanc a'i gydwybod a wnaethant. Mater personol yw i bawb. Ymadawodd ugeiniau o bob eglwys weddol gref. Gofal- odd yr eglwysi am danynt wedyn hefyd, gan gadw eu llygaid arnynt ac y mae llythyrau'r milwyr at eu gweinidogion o bob cyfeiriad yn dangos ymlyniad y naill wrth y llall. Mae gennyf lythyrau a drys- oraf byth oddiwrth rai ar y maes ac ar y mor ac o blith yr awvr-longau—llvthyrau fu yn datguddiad o ddwyster a chrefydd- older a difrifwch na freuddwydiais am dano. Yr un yw profiad fy mrodyr vmliob man yn ddios. Wei, ni ddaethai peth fel liyn yn bosibl petai'r eglwysi a'u gwein- idogion yn esgeulus a difraw, a hyn ac arall. Ymbwyller cyn condemnio. (7) Y mae cysylltiad crefydd, neu'r sef- ydliadau crefyddol, a'r rhyfel hwn yn un agos iawn, a hynny yn anocheladwy. Nid peth i ymfalchio ynddo ydyw. Amhosibl i'n calon orfoleddu oherwydd tynnu'r eglwysi i mewn i'r gethern annuwiol sydd yn Ewrop heddyw. Ar ein gwaethaf yr ydym ynddi. O'n hanfodd yr ydym yn gorfod rhoi achles i drefniadau milwrol. Os dywedwn yn wahanol yr ydym yn anffyddlon i'n holl egwyddorion, ac yn gwbl annheyrngar i'n Tywysog Tangnef- eddus. Rhaid gofalu hefyd nad awn yn rhy bell. Cred rhai ohonom ein bod eisoes ymhell iawli-Ye, ymhellach nag a ddylem fod mewn gwirionedd petaem wedi ym- bwyllo ac ystyried. Gwyliwn rhag mynd yn aberth i'r ysbryd gwaedlycl sydd ar led, ac na ddifwyner ni fel eglwysi gan y dylanwad rhyfelgar, nes ein gwneud yn anghyfaddas i gyfarfod a'r amgylchiadau fydd yn dilyn y rhyfel- (8) Da iawn geiinym nad yw'r clcl. ill- wain gyfarfu a Mr. W. J: Parry, Bethesda, Par had ar tudal. 12.

HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR.