Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

0 FRYN I FRYN.i

News
Cite
Share

0 FRYN I FRYN. Miss Edith Cavell. DYMA enw a erys yn fyth- wyrdd. Dyma enw rydd newydd-deb ac urddas i'r ferch ieuanc hyd ddiwedd hanes. Wele foneddiges yn sefyll yn gyf- ochrog a rhagorolion y byd, ac i'w dos- barthu gyda llu'r merthyri.' Synnir ni yn fawr yn ei phresenoldeb, nid gan ei hanes na chan ei harwriaeth yn ei llofrudd- iaeth, ond gan ryw fath o gysegredigrwydd a chan genhadaeth ei hol-ddylanwad. Rywsut mae'r rhyfel hwn yn llyncu per- sonau a digwyddiadau iddo ei hun. Bfe ynddo ei hun a'i waith ydyw popeth. Darostyngir y bryniau a'r mynyddoedd iddo ef. Ond, er hynny, wele enw a gyfyd o ganol y rhyfel ac o flaen wyneb y gelyn, nas gall holl gynllwyn a chythreuldeb y Kaiser roi ei ben i lawr ac fe fydd byw i iiitysio y da sydd yng nghenhedloedd y byd pan fo Berlin yn adfeilion ac yn ddryg- sawredd. Cerddodd marwolaeth y fonedd- iges hon i ysbryd y gwledydd gyda deffroad ac ymwroliad, fel y gwnaeth boddi'r Lusitania. Ni laddwyd gwasanaeth y ferch hon pan laddwyd ei chorff. Hi sydd yn fyw, a'i llofruddion sydd yn feirw. Ni chaiff ei llofruddion lonydd gan y diafol ei hun. Mwy ei honour ef na'r eiddo hwy. Erys gwaradwydd byth ar ei llof- ruddion, er fod Germani yn galw hynny yn weithred o gyfiawnder.' Germani, yn wir, i son am gyfiawnder Y mae crech- wen drwy Gehenna wrth eu clywed. Yr ydym y tro hwn am ddarllen ei chymeriad a'i chenhadaetlr i FERCHED CYMRU. Dengys hunanymwadiad ei gwasanaeth y Gwaredwr mawr Ei Hun, ac nis gellir edrych ar arwriaeth ei marwolaeth heb glywed y lief, (0 Dad, maddeu iddynt,' ac heb weled Stephan, y merthyr Cristion- ogol. Y mae Miss Edith Cavell yn wrth- rych-wers i ferched Ewrop a'r byd. Cyfrol drom a hardd fydd cyfrol anfarwolion y rhyfel hwn, a hawdd fydd ei gweled hi yn y rhestr. Y ddau air mwyaf nodweddiadol ohoni a gawn i'w gosod ger bron ydyw, Dyngarwch a Dyledswydd. Gyda llaw, y rhai hyn yw deuair mawr y rhyfel. Bid sicr, nid ydym ni yn 'na bod y rhyfel hwn ond fel y'i harddanghosir gan Brydain a'i Chydymgeiswyr. O'r ochr arall iddo, nis gallwn weled ond y lythyren d mewn diafl a difrod ond o ochr Prydain, gwelir mai Dyngarwch a Dyledswydd sydd ar y blaen. Dyma'r ddeuair gyfyd ein dynion ieuainc o'u cartrefi clyd, ac o'u cysyllt- iadau cymdeithasol urddasol a phwysig, a hyn rydd iddynt ynni a gwydnwch yn y tan. Ni ddarfu i ni hyd yn awr weld grym y gair Dyledswydd ar ei oreu, ffordd bynnag, am ei fod yn ei fan goreu. Edmygem o'r blaen symledd a gonestrwydd ein dynion ieuainc, ond vn awr cawsom achlvsur i weld eu hymlynwch (persistency) wrth ddyledswydd. Mae'n ddyledswydd arna'i fynd.' Euthum allan o ddyledswydd.' Fi oedd unig blentyn nhad a mam ac er fy mod yn afiach, euthum i'r front o ddy- ledswydd.' Fydda'i ddim yn ofni'r gelyn a'r bidog waeth mae'n ddyledswydd arnaf.' Hyn ydoedd symudydd a cheidwad Miss Edith Cavell. Duty was her motto in life.' Yr ydoedd yn Lloegr gyda'i mam oedrannus pan dorrodd y rhyfel allan a dywedai wrth ei mam I must go, mother, it's my duty.' Dynes a duty a must yn ei chymenad ydoedd Miss Cavell. Dyna ryw- beth dwyfolach a chryfach na militariaeth Germani, a hwn sydd yn mynd i ladd hwnnw ac heb hwn nis gellir ei ladd. Y mae bywyd ac angeu Miss Cavell eisoes wedi gwneud mwy i ladd Kesariaeth na byddin dan arfau. Hen dc]ywedia"d yw fod i ddigwyddiadau mawr eu rhagredeg- wyr, ond hen ddywediad a yngenir ydyw yn lied ysgafn a difeddwl. Yr oedd i hon ei gweledigaethau boreol. A'ch gwyr ieuainc a welant weledigaethau' ac odiach wedyn yw dechreu'r adnod—'A'ch meibion a'ch merched a welant freuddwyd- ion.' Yr oedd Miss Cavell yn weledydd brenddwydion. Medrai eu gweld hwynt yn ogystal a'u breuddwydio. Hawdd yw eu breuddwydio, ond nid cyn hawdded eu gweld. Hen arfer loan Fedyddiwr yw mynd allan i'r anialwch. I'r anialwch yr a pob loan o fath hwn a dweyd, a bed- yddio, ac edrych, a bod yn 6d yw'r oil a wna. Ond mae Iesu yn dod ar ei ol. Gwelwyd loan a lesu yn Miss Edith Cavell. Dywed hen chwiorydd Norwich, y rhai a'i hadwaenent, ei bod pan yn eneth a chanddi ei dewis-fannau i eistedd a chware o gylch ficerdy ei tliad a'i bod yn y mannau cysegredig hynny, fel Maz- zini, yn son llawer am y dyfodol. A'i dyfodol hi oedd Brussels, a charchar, a bedd y merthyr. Felly yr ydys yn cadw llygad ar DDYIVEDSWYDD fel egwyddor amlwg yng nghymeriad y foneddiges hon. Yr oedd hon yn gryfach ynddi na'i gwladgarwch, am mai dyled- swydd mewn ac o ddyngarwch ydoedd hon. Ymgollai ei gwladgarwch, felly, yn ei dyledswydd at ddyn yn gyffredinol. Llifai ei chariad allan at bob dyn ac at bawb, heb feddwl am wahaniaethau lie a chenedl. Mwy, ac nid llai, ydoedd ei gwlad- garwch ar gyfrif hyn. Ymgeleddai wedyn ddioddefwyr Germanaidd fel y gwnai a rhai o blith y Cydymgeiswyr. Dioddef oedd yr apel at hon, ac wrth hwylysu ymwared i ffoedigion teirgwlad. Ceir yr 1 eglurhad ar hynny yn ei chydymdeimlad a dioddefwyr, ac nid yn ei gwladgarwch. Ei geiriau hi ei hun cyn marw ydoedd Standing as I do, in view of God and eternity, I realize that patriotism is not enough.' Ystyriwn fod y frawddeg hon yn un o frawddegau pwysicaf y rhyfel hwn. Rhydd argyfyngau bwys ar ddy- wediadau ond nid oes yr un dywediad a dclywedir yn y rhyfel hwn a gyfyd yn uwch na hwn. Er cymaint ydyw ein brol a'nbost am wladgarwch, arwynebol ydyw ein syniad yn ei gylch. Gwan, a gwan iawn, ydyw ein trem i'w gyfriniaeth a'i athron- iaeth. Y mae i'r frawddeg hon o enau y fath berson, ar y fath achlysur, ystyr o arbenigrwydcl. A phwy a wel yr ystyr hwn, ac a'i harddel ? Tra yn siarad fel hyn am y frawddeg hon (a gallesid siarad yn gyffelyb am frawddegau eraill o'i heiddo), eto mwy oedd hi na'i geiriau, a mwy oedd hi na'i gweithredoedd. A hoffwn i ferched Cynirn weled y mwy hwn. Hyfryd yw meddwl am yr ymgais sydd eisoes ar droed i godi iddi gofgolofn barhaol a mwy ymarferol na chofgolofn o farmor. Ac mae hi yn haeddu gwneuthur ohonom hyn iddi. She was only a woman but what man has ever died a nobler death ? Yr ydym a'n llygad ar y ferch Gymreig, a hynny mewn modd dwys a gweddigar oherwydd lled-amheuwn ambell dro ei bod yn meddu y difrifwch a weddai i'w hoed a'i rhyw. Yniddengys fel petai byw iddi yn fwy o amheuthun a phlseer nag o ddyledswydd ac hunanaberth. Syniad arweiniol Miss Edith Cavell vdoedd byw i wasanaethu, ac nid i'w gwasanaethu, ac am hynny collodd ei bywyd yn achos eraill. Yn gynnil yr ymholwn, A ydyw y ferch Gym- reig yn meddu y fath arwriaeth aruchel a sanctaidd ? Yn wyneb hyn y cawn ddadl gref o blaid y Suffragettes, y rhai sydd wedi bod ac yn ceisio hawl er mwyn gwasan- aeth. Pleidlais i ddefnyddioldeb pellach ydyw eu pleidlais hwy. Nid oes a fynnom yn awr a moddau eu cenhadaeth mae a fynnom a'r ysbryd, ac ni bu hwnnw yn uwch yn ei deilyngdod nag ydyw yn yr adeg bresennol. Cwestiwn mawr rhieni a fydd—ac mae yn bod yn awr—nid esmwythyd a ffasiwn a chystadleuaeth, ond cymeriad, gwasanaeth a defnvddiol- deb. Hynny, er yn ddigon anelwig ac an- hardd lawer tro, oedd wrth wraidd cvffro- adau sydyn a phenwan chwiorydd cyn y rhyfel. Teimlent oddiwrth ddau beth, sef fod tuedd yn parhau i gadw y fenyw yn 01 ac yn slaf ac islaw'r gwryw ;c yn ail, yr eithafion i hyn, sef gwneyd y fenyw yn arddanghosiad o safle gymdeithasol ei gwr. Dau ddefnydd neu wasanaeth wneid ac a wneir gan rai o'r wraig ydyw y ddau hyn, sef slaf a shew. Yn y cyfnod blaenaf hawdd fuasai gweld yr is a'r uwch yn y