Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
LLANELLI.
News
Cite
Share
LLANELLI. Y mae'r gwaith o harddu ac adgyweirio'r capel vmron a chael ei orffen. Disgwylir y gall yr eglwys ddychwelyd iddo i addoli ar fyr amser bellach. Yn y Pt-rish Hall y cyferfydd bob nos Sul yn awr, ac y mae'r Ysgol Sul yn dair rhan, ac yn cyfarfod mewn gwahanol leoedd. Bydd pawb yn falch o ddychwelyd i'r capel. Edrycha yn hardd a gwych, a dian y rhydd lawer o fwyn- had i'r eglwys a'r gynulleidfa weld y gwaith wedi ei wneud. Ffaith bur darawiadol yw hon-iiiai un o frodorion Belgium sydd wedi bod wrthi fwyaf yn paentio ac addurno'r nenfwd. Cofir am y rhyfel mawr fel y flwyddyn y gwnaed y gwaith, pe ond drwy gyfeirio at hyn. Cynlialiodd Cor y Plant, o dan arweiniad Mr L. W. Adams, gyngerdd eithriadol Iwyddia-nnus yn y Drill Hall ar nos Sul yn ddiweddar, ar ol holl odfeuon crefyddol y dref. Yr oedd y neuadd fawr yn orlawn, a Mr D. Brazell yn canu gyda'r cor. Gwnaed casgliad tuag at anion cysuron i'r milwyr Cymreig, a throsglwyddwyd ynfagos i £ 18 i'r drysorfa at hynny. Parhau yn bur wael y mae Mr Meudwy Davies, yr organydd, wedi wneud am wythnosau bellach. Llonnodd a siriolodd a daeth ycliydig yn well yr wytlmos ddiweddai. Gobeithia pawb am ei adferiad buan. Gwneir y gwaith gyda'r offer- ynnau hyd nes y dychwelo gan ddau o frodyr ieuainc yr eglwys—Mri Robert Charles ac A. C. Richmond. Mae'r gweinidog, Dr Gwylfa Roberts, a'r ysgrifennydd, Mr Rhys Richards, ynghydag ael- odau y Pwyllgor sy'n cario allan drefniadau'r adgyweirio, wrthi yn brysur yn ymweled a. theuluoedd ac a phersonau unigol yn yr eglwys yr wythnosau hyn er mwyn sicrhau addewidion sylweddol i gyfarfod a'r draul. Siriol yw eu derbyniad ymhob man a chan bawb, ac y mae nifer ragorol wedi addaw cyfrannu yn y cyfar- fodydd agoriadol symiau gwir anrhydeddus. Gwyr yr eglwys sut i fynd o gwmpas pethau yn dda; a dim ond iddi gymeryd at unrhyw waith, hi a'i gwna gydag urddas. GOHEBYDD. I
Advertising
Advertising
Cite
Share
0 sleepless & Nerve-worn Business Man's Testimony to Dr. Cassell's Tablets. Vx. Poole, a busi- ness man, of 60, In- firmary-road, Sheffield, JM says: "Dr. Cassell's i TaMete ha.ve simply worked wonders in me. I had become so s excessively nervous and run-down that I would jump at a. H nt S sound. I had lost. COl. fidence in myself, and the alertness and business activity I hart Mr It'ilrre(Y Pool,- formerly possessed ——————————" were gone. My diges. tion was very feeble, often there waspa,in and wind, and at night I used to wake up with a start and a queer feeling of dread. This had gone on for months, I was getting more and more run- down, when one day I read of similar cases cured by Dr. Caesell's Tablets. I got some and almost at onee I felt better. Naturally I persevered, and now I am as well and fit as any man of my age." Dr. Cassell's Tablets. Dr. Caseell's Tiablets are a genuine and tested remedy g for all fcrms of nerve of bodily weakness in old or I young. Compounded oi nerve-nutrients and tome* oi indisputably proved efficacy, they are the recognised modem tome treatment for NERVOUS BREAKDOWN NERVE PARALYSIS SPINAL PARALYSIS INFANTILE PARALYSIS NEURASTHENIA NERVOUS DEBILITY SLEEPLESSNESS ANÆMIA KIDNEY DISEASE INDIGESTION STOMACH DISORDER MAL-NUTRITION WASTING DISEASES PALPITATION VITAL EXHAUSTION PREMATURE DECAY Specially valuable for Nursing Mothers, end the Critical Periods oi Life. Chemists and stow-' all parts of the wCTld BeU Dr. Cassell's Tablets Pr ■ 1 n:-<i !>"»- ?.' 9 size being the il"- ec??ca.i. A"'t?..? ':m.9 s:Iejni1í1]be scnt CD YDU 00 Tpcpipt of name and addreæ and two I>snnj 'a.mBK for ?sta?e and Mc!dn? Address: Dr. Cass?Us Etd.. Jf¿a¿h:r?xa:nKla:t: Dr. ose11's
; NAZARETH PONTLOTYN.
News
Cite
Share
NAZARETH PONTLOTYN. i Cyfarfod A nrhegu.—Nos Iyun, Medi 27am, cyn- I haliwyd cyfarfod i anrhegu y brawd ieuanc Mr. John Henry Beddoe, A.L.C.M., organydd yr eglwys uchod, ar ei ymadawiad am y Brifysgol yn Aberystwyth, lie y bwriada fyned am gwrs pellach o addysg i'w gymhwyso i fod yn ysgol- feistr. Y mae ei yrfa yn Ysgol y Sir wedi bod. yn liyiiod lwyddiannus, ac edrycha ei gyfeillion ymlaen at yrfa lwyddiannus iddo yn y Brifysgol. Yn ychwanegol at ddilyn ei wersi yn yr ysgol gyda llwyredd a manylder, llwyddodd i dalu sylw ac astudiaeth eang i gerddoriaeth. Y mae yn organydd rhagorol. Prawf o hyn ydyw ei fod wedi ennill gwobrwyon lawer fel chwareuydd mewn eisteddfodau o nod, yn ogystal a'r ffaith fod eglwys Nazareth wedi ei apwyntio fel ei horganydd a chyflawnodd y gwaith hwn er boddlonrwydd cyffredinol, fel y gellid yn hawdd deall oddiwrth y dyrfa fawr ddaeth ynghyd y noson honno i ddangos eu parch a'u gwerthfawr- ogiad ohono, a'u dymuniadau da iddo eto ar ei yrfa addysgol yn y Brifathrofa. LJywyddwyd y cyfarfod gan y Parch J. R. Salmon, gweinidog parchus yr eglwys. Dywedai fod yn dda ganddo weled cynulleidfa mor luosog wedi dod ynghyd ar yr achlysur diddorol hwn. Eu bod fel eglwys yn talu parch i'r hwn yr oedd parch yn ddy- ledus. Fod y brawd ieuanc yn dod o stock dda -ei dad, Mr W. R. Beddoe, wedi bod yn ddiacon yn yr eglwys am flynyddoedd, ac yn weithgar iawn gyda phob adran o waith yr eglwys. Y mab yntau yn dilyn yr un llwybrau niewn ffydd- iondeb a gweithgarwch. Dymunai bob llwydd- iant iddo yn ei yrfa golegawl. Yna cafwyd over- ture ar yr organ gan Mr J. H. Beddoe, A.L.C.M. unawd, My Dreams,' gan Mr J. IJ. Bebb, Aber- tyswg; ac unawd eto, The Trumpeter,' gan Miss Jane Williams, Pontlotyn. Yna daethpwyd at orchwyl hapus iawn, sef cyflwyno anrhegion i Mr J. H. Beddoe, A.D.C.M. Cyflwynwyd iddo oriawr aur gan Mr Edward Davies, arweinydd y cor. Dywedai fod yna gysylltiad agos iawn bob amser rhwng arweinydd y gan a'r organydd. Fod cyd-ddealltwriaeth hollol wedi bod rhyngddylit hwy. Dyrnunai lwyddiant y brawd eto yn ei gylch newydd. Cyflwynwyd iddo dressing-case a chodaid o anr gan Mrs Samuel mewn modd tyner a dymunol iawn. Diolchodd Mr Beddoe i'r cor a'r eglwys am yr anrhegion hyn. Edrychai arnynt fel arwyddion o'u gwerthfawrogiad o'i wasanaeth yn y gorffeunol. Nid oedd yn disgwyl y pethau hyn. Y gwaith wedi bod yn bleser iddo ef bob amser. Gobeithiai wneud popeth fedrai gyda phob achos da bob amser. Yna caf- wyd unawd, I fyny bo'r nod,' gan Madame Clement Jones, Rhymni. Siaradwyd ymhellach gan y rhai canlynol :—Mr John Jones, trysorydd yr eglwys Blin ganddo golli y brawd ieuanc, ond rhaid boddloni gan mai mynd ar lwybr dyrchafiad yr oedd. Yr oedd wedi bod yn ffydd- lawn ac yn teimlo diddordeb yn y gwaith. Byddai yr oriawr yn ei atgofio o'i berthynas a'r eglwys. Mr Edward Cendrick Nid oedd eisiau i neb fethu dweyd gair am y brawd oedd yn ymadael. Ei wasanaeth yn fawr, a'i gymeriad yn ddiargy- hoedd. Fel arall yn digwydd weithiau, ac yr oedd yn anawdd siarad yr adeg honno. Dymunai Duw yn rhwydd iddo. Mr David J. Havard, cadeirydd y cor Yn cydnabod ei weithgarwch a'i fyddloilcleb. Gobeithiai y byddai yn parhau i fod yn ffyddlon gyda phethau goreu bywyd. Henadur W. Williams, Y.H. Teimlai fod parch yn cael ei roddi i'r hwn yr oedd parch yn ddy- ledus. Wedi bod yn ffyddlon1 iawn yng nghyfar- fodydd yr wythnos. Llawer yn ffyddlon ar y Saboth, ond yn anffyddlon yn yr wythnos. Yr oedd bob amser yn ymddwyn yn weddaidd, ac yn deilwng o ganlynwr i lesti Grist. Mr T. Price, M.A., athraw yn yr Ysgol Sirol, Pengam Gallai ddwyn tystiolaeth uchel i ymroad y brawd. Wedi gwneud gwaith da gyda'i wersi yn yr ysgol. Yr oedd yn un y gellid ymddibynnu arno bob amser. Mr John Jones, attendance officer Wedi adnabyddiaeth helaeth ohono, yn gallu dwyn tystiolaeth uchel i'w waith fel organydd. Yr oedd wedi bod yn ffyddlon i wahanol rannau o waith y cysegr-yn athraw yn yr Ysgol Sul, &c. Y cartref a'r eglwys a'r Gobeithlu wedi chware rhan bwysig yn natblygiad ei gymeriad. Parch R. D. Jenkins, Fochriw Da ganddo fod yn y cyfarfod. Ffyddlondeb a gweithgarwch yn sicr o gael eu gwobrwyo yn y diwedd. Yr eglwys heb fod mor barod a'r byd ar brydiau i gydnabod teilyngdod. Proffwyd y noson honno yn cael anrhydedd yn ei wlad ei hun, ac ymysg ei bobl ei hun. Y brawd yn ymadael am ychydig amser, ond deuai yn ol eto i Nazareth, a byddai ei wasanaeth "yn well ac yn rhagorach, oblegid yr oedd yn un fyddai yn sicr o ddal ar bob cyfleus- tra gawsai yn y Brifysgol i berffeithio ei hun i fod o wasanaeth inwy yn ei alwedigaeth ac yn yr Eglwys. Teimlai yn sicr y byddai addysg grefyddol yi- aelwyd a'r capel yn nerth ac yn wroldeb iddo wrthsefyll pob profedigaeth allai ddod ar ei lwybr yn ei gylcll newydd. Mr. Emrys Williams Dygai dystiolaeth uchel iddo fel un deimlai ddiddordeb yng Nghymdeithas y Bobl Ieuainc. WTedi bod yn ysgrifennydd y Gymdeithas honno. Dymunai ei lwyddiant yn y dyfodol. Yna cafwyd overture ar yr organ, Nearer, my God, to Thee,' gan yr organydd, Mr J. H. Beddoe, ac unawd gan Miss Jane Evans. Terfynwyd trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau.' Teimlad pawb oedd eu bod wedi cael cyfarfod da. Ymadawa y brawd. ieuanc gyda dymuniadau goreu ei liaws cyfeillion yn yr eglwys, yr ardal a'r cylch. Gwyddom y teimla ei rieni yn ofidus wrth" feddwl ei golli o gartref am beth amser ond teimlant yn hyderns, os ca nerth ac iechyd i fyned drwy ei gwrs athrofaol, y daw yn ol gartref wedi ennill ei radd. Deallwn fod yr eglwys wedi apwyntio Master leuan Ellis Salmon, mab y gweinidog, i fod yn olynydd i Mr Beddoe fel organydd. Nid yw leuan ond ychydig dros 12eg oed, ac y mae yn glod mawr iddo fod yr eglwys wedi ei ddewis fel ei horganydd, a'i fod yntau yn meddu cymhwyster i hynny mor ieuane. Hyderwn y ca bob cymorth a chydymdeimlad gan yr eglwys yn ei waith, a phroffwydwn fod dyfodol disglair o'i flaen yntau fel ei flaenorvdd yn y byd addysgol a cherddorol. AMICUS.
' GWYLFA A'R OFFEIRJAID.'
News
Cite
Share
GWYLFA A'R OFFEIRJAID.' At Olygydd y Tyst. Svit,—-O dan y pennawd uchod hola J. H. J. 'Ai tybed y gwelir geiriau canmoliaethus yn y cylchgronau Eglwysig am weinidogion. Ymneill- tuol ?' Anaml y byddaf yn gweled yr un ohonyut, ond gallaf ddywedyd fod sylwadau cymeradwyol iawn am danaf fi fy hun a'm gwaith wedi ymddangos yn y Ltoii o bryd i bryd, ac y gwneir yr un chware teg a m hapeliadau ag a wneir gan bob cylchgrawn Cymreig arall. Pan fu farw Edward fy mrawd, druan, ymddang- hosodd yn y Llan fywgraffiad byr ohono, yn cyfeirio at ei lafur crefyddol, ei bregethu a'r cwbl, ac heb ynddo yr un awgrym fod mwy nag un blaid o Gristionogion yn bod. Yn yr Haul, yr un adeg, canmolwyd ef fel esiampl o gref- yddwr Ymneilltuol. Aeth y tamaid hwnnw drwy'r wasg am fod yr ysgrifennydd wedi gweled yn dda, yn ddigon dianghenraid, ddiraddio'r crefyddwr Eglwysig. Gwelais innau dro byd yn ol, mewn papur Seisnig Eglwysig, ganiuol y croeso brawdol a rydd Ymneilltuwyr i'r bob! a ddaw i'r moddiou ond gan nad yw hynny yn ganmol gweinidogion, nid ymhelaethaf. Nid wyf yn synnu dim at yr argraff fratnol a gafodd moes a gweithgarwch yr offeiriaid ar Gwylfa. Y mae'r rhai a adwaen i oreu yn bobl ddiwyd, yn codi'n fore, ac yn gweithio'n ddygn dan nos. Y maent hefyd yn bobl hynaws. Un felly yw fy nghyfaill, y Parch David Davies, Sant Paul, Llanelli. Gallaf ddywedyd licfyc1 mal Eglwyswyr yw pawb ymron o'r ceuliadon at y mudion a'r byddariaid, a bod y rhai ordeiniedig yn eu plith wedi dangos y brawdgarwch mwyaf tuagataf erioed. Hir y cofir gennym ni yma am garedigrwydd y Parch F. W. G. Gilby, prif gaplan v Ieoycl Association in aid of the Oect,i and Dumb, Llundain, yn dyfod i'n cynorthwyo ar ddydd agoriad ein sefydliad. Nid yn unig dehonglodd yn y cyfarfodydd gyda'i fedr dihafal, ond pregethodd ar ein rhan fore Sul yn eglwys y plwyf, ac i ninnau yn yr Institute yn yr hwyr. • Gallwn ymhelaethu yn ddiddiwedd y ffordd hon, ond ymataliaf. Yn gymaint ag y dywed J. H. J. fod yr Eglwyswyr mor elyniaethus ag y medront tuag atom,' diddorol fydd ganddo glywed i un offeiriad dclywedyd wrthyf fod yr Ymneilltuwyr yn dal ar bob cyfle i'w cabin a'u gwawdio. Beth barodd i liwnnw feddwl peth felly, tybed, a ninnau, 0 J. H. J. i fyny, yn eu caru fel brodyr yn yr Arglwydd ? Yn bur, BODFAN. V