Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

PISGAH, ARFON.

TABERNACL, YNYSYBWL.

Advertising

TREDOMOS. ]

News
Cite
Share

TREDOMOS. ] SBFYDLU EGLWYS Cynhaliwyd cyfarfodydd arbennig yn y lie uchod dydd Mercher, Medi 29ain, i'r amcan o sefydlu eglwys Gynulleidfaoi Teirulid fod gwir angen am aehos Annibynnol yn yr ardal hon sydd yn cynyddu mor gyilym. Mae yma lofa fawr wedi ei chychwyn er's peth amser gan y boneddwr calonagored Syr W. James Thomas, ac y mae yma ddylifiad pobloedd lawer, ac yn eu plith niter o Annibynwyr ff yddlawn, yr hyn gododd awydd cryf am achos yn y lie. Y mae gan y Methodistiaid a'r Bedyddwyr eu hachosion, ac y mae y Primitive Methodists wedi dechreu achos yma. O'r diwedd wele achos i'r Annibynwyr wedi ei sefydlu bellach. Yehydig amser yn ol sefydlwyd egiwys An- nibynnol yn y Bed was, ac ymgymerodd hi, dan nawdd y Cwrdd Chwarter, i gychwyn achos yn Nhredomos. Cynhaliwyd cyfarfod y corffoli yn y pryd- nawn dan lywyddiaeth y Parch T. Hughes, A.T.S, Caerdydd, Cadeirydd y Cyfundeb. Dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch J. Rhed- ynog Evans, Treherbert. Traethwyd ar Natur Eglwys gan y Parch Ben Evans, Barry. DarUenodd y .Cadeirydd enwau 47 o bersonau wedi eu gollwng o eglwys y Bed was, ac wedi eu hannerch yn efengylaidd gofynnodd iddynt sefyll ar eu traed fel arwydd eu bod yn ymgyfamodi i fod yn eglwys i lesu Grist Gweddiwyd am fendith gan y Parch E. G. Davies, Abertridwr. Yna gweinyddwyd yr ordinhad o Swper yr Arglwydd dan lywydd- iaeth y Cadeirydd. Cymerwyd rhan gan y Parchn G. Penrith Thomas, Ferndale, a D Tafwys Jones, Caerffifi. Gweddiwyd i orffen gan y Cadeirydd. Yn yr hwyr cynhaliwyd yr odfa yng nghapel y Bedwas. Pregethwyd gan y brodyr uchod, sef y Parchn D. Tafwys Jones a G. Penrith Thomas. Cychwynna yr eglwys dan amgylchiadau hynod o ffafriol: y mae ysgoldy helaeth ar waith wedi ei godi mewn man cyflaus ar ymyl y priffordd, a chynhelir y cyfarfodydd agor- iadol Hydref 30ain a'r 31ain, a'r nosweithiau dilynol. Hyderwn y bydd llwyddiant mawr yn dilyn eu hymdrechioo, ac y daw v fechan vn fil. a'r I wael yn genedl gref. EWYLLYSIWR DA.

MORIAH, BEDLINOG.

Advertising