Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
6 BUCKINGHAM PALACE. TO MY PEOPLE. ) At this grave moment in the struggle between my people and a highly organ- ised enemy who has transgressed the Laws of Nations and changed the ordinance that binds civilized Europe together, I appeal to you I rejoice in my Empire's effort, and I feel pride in the voluntary response from my Subjects all over the world who have sacrificed home, fortune, and life itself, in order that another may not inherit the free Empire which their ancestors and mine have built. I ask you to make good these sacrifices. The end is not in sight. More men and yet more are wanted to keep my Armies in the Field, and through them to secure Victory and enduring Peace. In ancient days the darkest moment has ever produced in men of our race the sternest resolve. I ask you, men of all classes, to come forward voluntarily and take your share in the fight. In freely responding to my appeal, you will be giving your support to our brothers who, for long months, have nobly upheld Britain's past traditions and the glory of her Arms. I
I DOSBARTH -TREFFYNNON.
News
Cite
Share
I DOSBARTH TREFFYNNON. Cynhaliwyd Cyfarfod Ysgolion eithriadol perthynol i'r dosbarth hwn yn Seion y Saboth olaf yn Medi. Yr oedd pob ysgol, ac eithrio Fflint, yn cael ei chynrychioli y bore, pryd- nawn, a'r hwyr, a buasai Fflint yno hefyd onibai am brofedigaeth lem ei chynrychiolwr, Mr Savage Jones, yr hwn oedd newydd golli ei annwyl fab. Pasiwyd cydymdeimlad llwyraf y gynhadledd fig ef, ac k theulnoedd Mr a Mrs Price, Penypyllau, a Mr a Mrs Jones, Mostyn, bechgyn dewr pa rai a laddwyd yn y Dar- danelles. Nid yn ami y ceir y fath lafur mewn Ysgol Sabothol ag a geir yn Seion. Yr oedd y plant yn odidog yn eu canu a'u hadrodd, a rhoddwyd esiampl rhagorol gan bob athraw o'r ysgol yn eu gwaith yn adrodd penodau eyfain o Broff- wydoliaeth Eaaiah; ac un o'r pethau roddodd fwyaf o fwynhad oedd gwrando air ddosbarth Cyfan o chwiorydd, pob un a'i phounod, nes adrodd yr oil o'r Llythyr at yr Ephesiaid Rhagorol! Yr oedd yr holi hefyd—y plant, y canol oed, a'r henafiald-yn eu gwahanol feus- ydd yn newydd, yn felus, ac yn bert iawn, nes ennyn canmoliaeth yr oil o'r cynrychiolwyr. Credwn fod hon yn engraifft ragorol o beth ddylai Cyfarfod Ysgol fod; a phe ceid ychwaneg tebyg iddo, ni byddai y gwyn o leihad yn yr Ysgol Sabothol yn bod yn hir. Rhagot yr elot, Ysgol Seion, yn esiampl i bob ysgol arall. J. L. T.
LLEN A CHAN. I
News
Cite
Share
ym mhrofiad dyn. Ond y Crist wedi ymddyrchafu uwchlaw pob terfyn a chyf- yngau lie ac amser yw Hwn, Crist yr Ysbryd Glan, yr Hwn sy'n tragwyddol ddeilliaw o'r Tad, ac yn preswylio yn y saint. Llyfr cryf, gonest, gwrol, galluog, craff a dwfn ydyw hwn, a llyfr sydd yn sicr o beri myfyrdod ac ymchwil, os nad hefyd chwalfa ac ail drefnu ac ystyried dwys a difrifol, yng nghalon a deall pob efrydydd diffuant a phob crediniwr profiadol o Ysbryd Glan Duw. Ni wyddom am un- rhyw gyfrol wnelai well llawlyfr i gyfar- fodydd gweinidogion yn ystod y gaeaf. Talai yn dda am astudiaeth fanwl ohoni. Gwlad ly Nhadau.' R H o D D Cymru i'w Byddin' yw is-deitl y gyfrol ardderchog hon- un o'r llyfrau prydierthaf, cemiaf, a godidocaf ei throad allan welsom erioed. Nid yw ei phris ond 2 /6 net, a sut y gallwyd cynhyrchu y fath gyfrol a dar- luniau ysblenydd am y fath bris sydd tuhwnt i'n dirnadaeth. Hodder & Stough- ton yw y cyhoeddwyr, a dywedir ar glawr y llyfr y rhoddir yr holl elw i Gronfa Genedlaethol y Milwyr Cymreig.' Ni buasid erioed wedi cael y fath lyfr onibai i bawb ymron ynglyn ag ef wneud eu gwaith yn rhad neu am ddim. Fel hyn y dywed Mrs. Lloyd George yn y rhagair Cyhoeddir y llyfr hwn ar ran Cronfa Genedlaethol y Milwyr Cymreig sydd yn darparu cysuron ychwanegol i Gatrodau Cymreig gartref ac oddicartref ac y mae diolch arbennig y Pwyllgor yn ddyledus i'r Athro Morris Jones a'r Athro Lewis Jones, a wnaethant gyfraniad mor hael o'u hamser a'u galluoedd trwy baratoi Gwlad fy Nhadau.' Pe na bai ddim ond yr amcaii aruchel dyngarol sydd i'r gyfrol, dylai gael gwerth- lant o gannoedd o filoedd. Ond mae cyn- nwys y gyfrol hefyd yn un a ddylai apelio at bob Cymro gwladgar. Pigion lien Cymru, hen a diweddar, wedi eu casglu gan y ddau Athro uchod, sydd ynddo, o Taliesin, Sieffre o Fynwy, Llywarch Hen, Dafydd ap Gwilym, Dr. Gruffydd Roberts a Goronwy Owen i lawr at Islwyn, Ceiriog, Mynyddog, Daniel Owen, Silvan Evans, a beirdd a llenorion sydd heddyw'n fyw. Anodd fuasai cael gwell casgliad o geinion llenyddiaeth Cymru. Ac am y darluniau, wel, maent tuhwnt i bob canmoliad. Y maent oil o waith arlunwyr profedig, gan mwyaf yn Gymry hollol, a'r oil wedi eu dwyn allan yn y lliwiau gwreiddiol. Ni welsom lyfr wedi ei ddarlunio mor hardd erioed, a sicr gennym na fu llyfr Cymraeg hafal iddo yn y peth hwn. Ymhlith yr arlunwyr ceir yr enwau a ganlyn :—Syr Goscombe John, R.A., B. W. Leader, R.A., Frank Brangwyn, A.R.A., P.R.B.A., Kelt Edwards, ChristopherWilliams a llu eraill. Nid rhyfedd i Mr. Lloyd George ddywedyd ar ol rhagair ei briod Cymeradwyaf y llyfr hwn i bob Cymro led-led y byd" Amen, meddwn iiinnau. I Y Rhyfel. EDRYCH yn ddigon du y mae pethau ynglyn a'r rhyfel, yn en wedi ef vu Serbia. Mae Bwlgaria fel pe wedi ymddio- frydu i ddial ar ei chymydog pan mae ar lawr dan draed y gwaedgwn o Germani. Beth pe buasai Rwsia a Phrydain wedi delio fel hyn tuag ati hi pan oedd y Twrc  yn sugno ei gwaed ac yn sarnn ei bywyd allan ? Mae rhyw ddydd cyfrif ofnadwy yn aros bradwriaeth mor gowardaidd a hyn. Yn y cyfamser, eistedd ar ben y clawdd ac yn gwylio'r difrod mae Croeg a Rwmania. Mae moeseg wleidiadol y Balkans yn declyn ar ei ben ei hUll, ac yn anhyall i relyw y byd, Nid yw Ger- mani yn gwneud fawr drwst y dyddiau hyn, a byddai yn burioni'nhanobeithwyr ofyn paham ? a Y Brad Cartrefol. Y PETH so braf ynglyn a'r rhyfel yw budrwaith gang o Seneddwyr, tufewn a thu- allan i'r Weinyddiaeth, yn chware game ysgymun Northcliffe a'i griw. Tra mae'r wlad yn unol, ac yn disgwyl arweiniad Llywodraeth unol, mae'r Senedd wedi ei rhidyllu gan gynllwynwyr gwarthus yng ngwasanaeth gwasg sydd yn gwneud ei goreu i ddinistrio rrydain a chalonogi'r gelyn. Ni fyn y bradwyr hyn ddim llai na merthyru Asquith a Syr Edward Grey, yn unig am eu bod yn gwrthwynebu eu hystryw i rwymo Gorfodaeth ar war y werin. Byddai yn well ganddynt golli y rhyfel na cholli Gorfodaeth, ac yn en gwallgofrwydd ymwerthant i ladd Pryd- ain. Pam na roddai'r Llywodraeth y giwed bradwrus dan glo ? Crybwyllion. -Bu yr annwyl frawd a'r Radical pybyr, y Parch E. Richards, Tonypandy, yn wael lawn yn ddiweddar. Bu raid iddo fynd dan driniaeth feddygol bwysig yng Nghaerdydd, a da gennym ddweyd iddi fod, dan fendith Duw, yn hollol Iwydd- iannus. Dioddefodd ein brawd ei gystudd yn union fel efe ei hun, mor lion a'r gog, a'i wyneb yn barhaus tua'r wawr. Erbyn hyn mae allan o'i boen, er yn wan a gwael. Ond mae'r pryder mawr drosodd, ac yntau unwaith eto yn ei gartref clyd yn Nhon- ypandy, a phob argoel y bydd yn fuan yn holliach. Cyfarchion iddo. —Mae swn tyrfa yn dod i gyfarfodydd blynyddol Undeb Eglwysi Efengylaidd Cymru ym Mhontypridd yr wythnos hon.. —Mae'r Parch Ben Williams, Prestatyn, yn wael, ac yn ei fro enedigol, Llanllechid, yn ceisio adenill ei nerth. Brysied wella brawd annwyl a galluog yw ef, ac mae ei bobl yn garedig iawn iddo. —Daw'r adolygiad ar lyfr gwerthfawr Dr. Griffith Jones, ac ar lyfr P. H. Lewis a D. Roberts—' Cainc y Delyn, a Ben Bowen gan Myfyr Hefin, a Llawlyfr yr Athrawon gan M. H. Jones, ac Abide with Me,¡' gan E. P. Mills, ac amryw eraill, yn ein nesaf.