Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

I CYFUNDEB GOGLEDD MORGANNWG.I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

I CYFUNDEB GOGLEDD MORGANNWG. CYllhaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb uchod yn Gwernllwyn, Dowlais, 110s Fercher a dydd Iau, Hydref 6ed a'r 7fed, Gwasanaethwyd y noson gyntaf gan y Parch E. J. Owen, Cwmaman, pan y cafwyd odfa wir hyfryd. Bore Iau, wedi i'r Parch R. Dervel Roberts ddechreu'r cyfarfod trwy ddarllen a gweddio, llywyddwyd y Gynliadledd gan y Parch Jacob Thomas (Cefn gynt). Ar ol cadarnhau y cofnod- ion, pasiwyc1- 1. Pod y cyfarfod nesaf i fyned i Bethesda, Abernant. 2. FocI y Parch D. Adams, B.A., B.D., i bregethu ar Le yr Ysbryd Glan yng Nghad- wedigaeth Pechadur.' 3. Y Parch John Phillips, Mountain Ash, i ddarllen papur ar Yr Eghvys a Gofynion yr Oes.' 4. Etholwyd Mr Thomas Thomas, Brynheulog, Penywern, yn gadeirydd am y flwyddyn. Mae Mr Thomas yn un o lej-gwyr mwyaf ymcIrecho1 y Cyfundeb, a lleinw y swydd newydd hon yn deilwng o'r unfrydedd yn ei etholiad iddi. 5. Etholwyd y Pwyllgorau fel y canlyn:- Pwyllgor Gweithiol (Yll cynnwys Pwyllgor Dir- west) .—Deuddeg ynghyda'r swyddogion: Parchn H. A. Davies, J. W. Price, Jacob Jones, T. E. Roberts, T. Emrys James, William Davies, J. Grawys Jones, T. Thomas, B. Wern Williams (ysgrifennydd) Mri B. M. Thomas, Aberian Thomas Lloyd, Cwmbach John Rees, Dowlais Thomas Morgan, Nelson Richard Morgan (trys- orydd) Thomas Thomas (cadeirydd). Dau o bob ochr i'r mynydd i fyned allan bob blwyddyn. Y Pwyllgor i benderfynu pa rai fyddant. Pwyll- gor Llenyddiaeth (yn cynnwys Pwyllgorau yr Ysgol Sul, Adroddiad a Hanes).—Naw aelod ynghyda'r swyddogion: Parchn E. J. Owen, J. Bowen Davies, R. Dervel Roberts, T. B. Mathews, E. J. Gruffydcl, J. Sulgwyn Davies, E. Wern Williams Mri Mathew Owen, John Lloyd, James Evans, Richard Morgan (trysor- ydd) a Thomas Thomas (cadeirydd). Dau o bob ochr i'r mynydd i fyned allan bob blwyddyn. Y Pwyllgor i benderfynu pa rai fyddant. Pwyll- gor Codi Pregethwyr.—Naw aelod ynghyda'r swyddogion: Parchn H. A. Davies, J. W. Price, D. Adams, B.A., B.D., D. Silyn Evans, R. Dervel Roberts, T. B. Mathews, J. Bowen Davies, R. H. Davies, B.A., Jacob Jones a Wern Williams (ysg.) Mri Richard Morgan (trysorydd) a Thos. Thomas (cadeirydd). Dau o bob ochr i'r mynydd i fyned allan bob blwyddyn. Y Pwyllgor i ben- derfynu pa rai fyddant. Pwyllgor Blaensymudol. —Parchn H. A. Davies, Rhys D. Jenkins, J. W. Price, J. D. Rees, E. Wern Williams (ysg.) Mri John Lloyd, Morgan John, James Evans, R. Morgan (trysorydd), a D. H. Edwards, Dowlais. Yr Ysgrifennydd yn gynhullydd. Eglwysi Cym- reig y De.—Parchn D. Silyn Evans ac E. Wern Williams (ysg.), a Mr S. Sandbrook, Y.H. 6. Trysorfa Gynorthwyol yr Annibynwyr CYln- reig. %-Wedi darllen gohebiaeth oddiwrth swydd- ogion yr uchod, pasiwyd ein bod yn mabwysiadu awgrym y Cyngor, ac yn penodi y Parch D. Silyn Evans a'r Mri Mathew Owen, Cefn I. P. Davies, Penrhiwceibr a Thomas Thomas, Frohheulog, Penywern (cadeirydd), i'n cynrychioli gyda'r Parch Jacob Jones a Mr S. Sandbrook, Y.H. 7. Llongyfarehiadaii. Amlygwyd teimladau llawen y Gynhadledd oherwydd yr anrhydedd a osododd yr Undeb Cymreig ar ddau o aelodau ein Cyfundeb trwy alw y Parch Jacob Jones i'r Gadair, a Mr S. Sandbrook, Y.H., i fod yn Drys- orydd. Siaradwyd gan Mri Richard Morgan a John Lloyd, a phasiwyd pleidlais galonnog o longyfarchiad i'n hannwyl frodyr. Atebwyd yn bwrpasol gan Mr Jones. 8. Cydymdeimlad.—Gyda theimladau dwys a chydyindeimlad. pur y pasiwyd pleidlais arall, set cydymdeimlad a'r brodyr canlynol yn eu trallod o golli eu priod hoff :—Mr J. P. Davies, Penrhiwceibr; Mr J. Prosser Davies, Dowlais; a Mr John Thomas, Brynonen, Cefn, a'u teulu- oedd. Yr Ysgrifennydd i anfon llythyrau iddynt. Siaradwyd yn dyner a pharclius am y gwragedd ymadawedig gan Mr Mathew Owen a'r Parch J. Bowen Davies. Dymunwyd mewn gweddi ddistaw-pawb ar eu traecl-am nerth a diddan- wch Duw i'r pertlrynasau oil yn eu trallod, hyd onid ymgyfarfyddom oil mewn gwlad lie nad oes cyn'lleidfa yn ysgar,' a lie nis gallant farw mwy.' 9. Penodwyd y Parchn T. Sinclair Davies, Merthyr, a W. Davies, Mountain Ash, i ymweled a'r eglwysi ar ran y Genhadaeth Dramor. 10. Yn nesaf cafwyd ychydig eiriau gan y Parch Robert Griffith, y cenhadwr. Awgrymodd mai dymunol fyddai cael Pwyllgor Cenhadol vn y Cyfundeb. Ymddiriedwyd y mater i'r Pwyll- gor Gweithiol. 11. Pasiwyd ein bod yn galonnog gyflwyno trwy lythyr y Parch Jacob Thomas, Cefn, i Gyfundeb Gorllewinol y sir, a dymunwyd Duw yn rhwydd iddo yn ei faes newydd. Bu Mr. Thomas yn aelod ffyddlon o'r Cyfarfod Chwart- erol am ugain mlynedd, a gosodwyd arno ef anrhydedd uchaf y Cyfundeb trwy ei ethol yn gadeirydd. Terfynwyd gan y Parch Robert Griffith. Am 2 o'r gloch, wedi i Mr H. C. Roberts, Penrhiwceibr, ddechreu y gwasanaeth, cymer- wyd y gadair am y tro gan y Parch H. A. Davies, Cafwyd anerchiad gan y Cenhadwr a nodwyd. a dilynwyd ef gan y Parch Jacob Thomas a'i anerchiad wrth adael y gaclair. Amserol iawn oedd ei bwnc, barddonol iawn ei ymadroddion, a byw iawnei draddodiad. Diolchwyd yn galon- nog iawn iddo am ei wasanaeth ar hyd y flwyddA-n ac hefyd am ei araith aréfderchog. Yn nesaf cafwyd pregeth ar y pwnc, Yr Eglwys fel Cyfrwng yn Achubiaeth y Byd,' gan y Parch J. Bowen Davies. Diolchwyd yn wresog iawn i Mr Davies hefyd am gydsynio ac am ei bregeth wir adeiladol. Ni chlybuwyd ef i fantais well nemawr erioed, ac y mae dweyd hyn yn golygu cryn lawer. Siaradwyd dros y Gynhadl- edd am yr areithiau a'r bregeth gan Mr John Llovd a Mr Tames Evans. ) Diweddwyd y gwasanaeth hyfryd hwn gan y Parch R. H. Davies, B.A., Cwmbach. Am 7 o'r gloch gwasanaethwyd gaii y, Parchn T. Thomas a T. Hmrys James—y blaeuaf ar y pwnc a gafodd, sef Sel Genhadol yn Hanfodol i Lwyddiant Ysbrydol P}glwys.' Cafwyd amser da, a diolchwyd yn gynnes i'r brodyr am eu cynnyrch da. Rhoddodd eglwys y Gwernllwyn dderbyniad teilwng a chroesaw mawr i'r ymwelwyr. Dar- paresid yn helaeth a bras ar eu cyfer. Cymcr- wyd rhan yn y diolchiadau i'r eglwys, y rhai weinyddent, a'r gweinidog, gan y Parch Robert Griffith, Madagascar, a Mr W. Lloyd Jones, Hengoed. Cydnabyddoclel y Parch D. Adams y diolch, a dywedai eu bod wedi cael llawn dal yn y mwynhad a gawsent. Diolch i'r Pen-llywydd da am roddi hin ffafriol a gwenau siriol Ei Ysbryd Sanctaidd. Diolcliwn o galon iddo Ef ymlaenaf oil. Haleliwia iddo byth. Hirwaun. E. vVBRN Wiixiams, Ysg.

J CYFUNDEB CYMREIG PEN FRO.

i- - Rhiwmatic ac Anhwyldeb…