Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
I SALEM, HEOLGERRYG.
News
Cite
Share
SALEM, HEOLGERRYG. Yn nechreu'r haf eleni ymgymerwyd a'r gorchwyl o adnewyddu tufewn i'r capel uchod. Dydd S118 Llun, Medi 26ain a'r 27ain, cynhal- iodd yr eglwys ei chyfarfodydd agoriadol. Gwasanaethwyd gan y Parch Samuel Roberts, Llanbrynmair, a'r Parch Gwilym Rees, B.A., Merthyr. Yr oedd y cenhadon ar eu goreu. Cafwyd cyrddau gwlithog, cynulliadau mawr- ion, a gwenau'r net yn helaeth. Amlygwyd yr adeg hon ymhellach fod yn yr eglwys weithgar yma bobl dduwiol eu hanian ac haelionus eu hysbryd. Ni cha un rhwystr eu lluddias rhag prydferthu teml yr Arglwydd a hyrwyddo'r achos dyrchafol. Rhoddodd un aelod buJpud newydd. Cyflwynodd un arall ddodrefn cymwys ar gyfer y pulpud a'r sedd fawr. Anrhegwyd ni gan aelod arall a. ffenestr liwiedig hardd. Breintiwyd ni gan aelod eto a Llestri Cymundeb Unigol. Llawen gennym weled fod crefydd yr Arglwydd lesu wedi ei hymgnawdoli gymaint ym mywydau'r aelodau nes eu symbylu i gyflwyno yn helaeth o'u trysorau i harddu cysegr y Goruchaf. Yn ystod y cyrddau agoriadol caed arwydd- ion amlwg fod gan y ddiadell hon yng nghesail y mynydd galon i weithio. Rhydd Duw i bob blodeuyn ei arogl ei hun, a rhydd i bob dyn ei ddawn a'i gyfle ei hun. Erbyn hyn mae amryw o olwynion yr eglwys hon wedi eu gosod ar waith. Mae yma Gym- deithas Lenyddol gref a llewyrchus. Agorwyd y tymor cos Wener cyn y diweddaf gan y bardd cadeiriol Sarnicol. Traddododd anerchiad rhagorol ar 'Y Cymro yn y Cywair Lion.' Daeth torf ynghyd, a dechreuwyd y tymhor mewn cywair dymunol. Yma hefyd y cyferfydd adran o Gymdeithas Merched y De, a gwnant waith canmoladwy o blaid dirwest a daioni. Telir sylw neilltuol i'r plant. Trefnir gwas- anaeth bore Sul yn arbennig ar eu cyfer. Daw lliaws ohonynt i fyny i'r Gobeithlu i ddysgu ymwrthod a. gelyn creulon y rhyw ddynol, a chryfhau eu camrau yn llwybrau sobrwydd a rhinwedd. Anrhegir hwynt tua'r Nadolig yn flynyddol a Pbren Nadolig gan chwaer ffyddlon. Ar ddiwedd y tymor rhydd aelod arall iddynt wledd flasus. Gwisga'r achos wledd lewyrchus o dan wein- idogaeth y Parch George Evans, B A Parhaed bendith gyfoethog y net i goroni ymdrechion ei phlant ar lethrau'r mynydd hwn a phob mynydd a dyfiryn drwy'r hollfyd.
Advertising
Advertising
Cite
Share
REHOBOTH, PUMP HEOL.—Y Parch J Elias Thomas, Llangadog, fa yn gwasanaethu yn ein cyfarfodydd hanner-blynyddol eleni. Cawsom bregethau amserol a nerthol. Da gennym fod ein parchus weinidog yn graddol ennill nertb, er yn parhau yn bar wannaidd. DAVIES'S COUGH MIXTURE PESWCH PESWCH Ni raid i neb ofni canlyniadau Anwyd a Pneswcb ond gofalu fod potelaid o Davies's Cough Mixture yn y tt. Bydd pob dyn yn feddyg i'w deulu at holl anhwyJ- derau y Gwddf a'r Frest, os bydd Davies's Oough Mixture wrth law. Y mae miloedd lawer wedi cael iachad ao yn gwneud eu goreu i'w gymell ar eraill sydd yn dioddef. Ni raid oymeryd ond UN dobb er profi ei ddylanwad union- ongyrchol er rhyddhau y Phlegm., yn olirio y Llais, yn oynhesn ac yn cryfhau y Frest, gan weithio pob Anwyd a Chrygni ymaith. DAVIES'S COUGH MIXTURE at BESWCH. DAVIES'S COUGH MIXTURE at ANWYD. DAVIES'S COUGH MIXTURE at ASTHMA. Os gwyddoch am rywun yn dioddef oddiwrth Beswoh a Bronchitis, aerhegwch ef & photelaid o Oough Mix Trim HUGH DAVIBSO so fe'oh bendithio ryw ddydd. Is lie a 2s 9c y botel. HUGH DAVIES, CHEMIST, MACHYNLLETH,L
* ? Y WERS SABOTHOL ? /,
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
? Y WERS SABOTHOL ?  A ♦ 9 V WERS RYNGWLADWRIAETHOL 40 Y t Gan y Parch. D. OLIVER, D.D., i § TREFFYNNON. t HydrEF 3Iain.-Eneinio y Bachgen Joas yn Preniii.-2 Bren. xi. 4-12. Y Testyn EURAIDD.—' Ty yr amiuwiol a ddinistrir ond pabell y rhai uniawn a flodeua.' -Diar. xiv. iii. Rhagarweinioi,. PROFODD cysylltiad Jehosaphat ag Ahab yn niw- eidiol i Judah. Nid yn unig aeth Jehosaphat i gynghrair ryfel a'r brenin annuwiol Ahab, ond caniataodd i'w fab Joram briodi Athaliah, merch Ahab a Jezebel. Yr oedd hi yn rhodio yn ol drygioni ei thad, ac o'r un ysbryd a'i mam. Yr oedd ei dylanwad ar Joram yn debyg i ddylan- wad ei mam ar Ahab. Dygwyd drachefn addol- iad Baal i Judah. Dilynwyd Joram yn y fren- hiniaeth gan Ahaziah ei fab, yr hwn a deyrn- asodd am un flwyddyn, ac a laddwyd gan Jehu. Yr oedd Ahaziah yn hollol dan ddylanwad ei fam, ac yn gweithredu yn ol ei hewyllys. Pan welodd Athaliah farweimab, cymeroddawenauy llywodraeth yn ei Haw ei hun. Er mwyn gwneud ei hun yn sicr ar yr orsedd, penderfynodd ddi- fetha yr holl had brenhinol, gan gynnwys ei hwyrion ei hun. Yn y Wers cawn hanes pa fodd y cadwyd yn fyw Joas, plehtyn bychan Ahaziah. Ar ol saith mlynedd esgynnodd Joas i'r orsedd, a lladdwyd Athaliah. Trwy offerynoliaeth Joseba merch Joram, chwaer Ahaziah, cuddiwyd Joas a'i famaeth yn ystafell y gwelyau yn y deml, rhag cael ei ladd. Y mae yn debygol fod Joseba yn chwaer Ahaziah o fam wahanol. Prin y gellir meddwl fod Athaliah yn fam iddi. Yr oedd yn wraig i Jehoiada yr offeiriad, a gallwn fod yn sicr na fuasai Athaliah yn caniatau i ferch iddi hi briodi offeiriad Jehofah. Bu Joas ynghudd yn y deml am chwe blynedd, ac Athaliah yn teyrnasu ar y wlad. Bsboniadoi,. Adnod 4.Ac yn y seithfed flwyddyn yr anfonodd Jehoiada, ac y cymerth dywysogion y cannoedd, a'r capteniaid, a'r swyddogion, ac a'u dug hwynt i mewn ato i dy yr Arglwydd, ac a wnaeth a hwynt gyfamod, ac a wnaeth iddynt dyngu yn nhy yr Arglwydd, ac a ddang- hosodd iddynt fab y brenin.' Ac yn y seithfed flwyddyn. Y seithfed flwyddyn o. oed Joas. Erbyn hyn yr oedd gorthrwm Athaliah yn gor- wedd yn drwm ar y wlad, ac efallai fod Jehoiada yn ofni cadw y tywysog ieuanc yn hwy ynghudd. Ac y cymerth dywysogion y cannoedd. Yn ol 2 Cron. xxiii. 1-3, cawn fod pump o'r capteniaid hyn yn gweithredu fel royal body-guard. Rhaid fod Jehoiada yn gweithredu yn ddirgelaidd wrth eu dwyn i mewn ato i dy yr Arglwydd yr oeddynt yn y lie diogelaf rhag cael eu haflon- yddu gan Athaliah. Wedi ymgynghoriad, cafodd ar ddeall y gallasai ymddiried ynddynt. Hys- bysodd hwynt fod Joas, mab y brenin, yn fyw. Gwnaeth gyfamod a hwynt, a chafodd hwynt i dyngu llw o ffyddlondeb iddo, a chydweithredu yn ei gynlluniau. Adnod 5.—' Ac efe a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Dyma y peth a wnewch chwi Trydedd ran ohonoch sydd yn dyfod i mewn ar y Saboth, a gadwant wyliadwriaeth ty y b,renin.' Ac a orchmynnodd iddynt, gan ddy- wedyd. Eglurodd iddynt y cynllun pa fodd i weithredu. Yr oedd y cynllun yn un manwl ac effeithiol. Trydedd ran ohonoch sydd yn dyfod i mewn ar y Saboth. Yr oedd yr offeiriaid a'r Lefiaid yn gwasanaethu ar gylch o wythnos ar y pryd, a dechreuent eu dyledswyddau ar y Saboth. A gadwant wyliadwriaeth ty y brenin. Yr oedd y drydedd ran a ddeuent i wasanaethu i gadw gwyliadwriaeth ar dy y brenin, fel na ddeuai perygl oddiyno. Adnod 6. A thrydedd ran fydd yin mhorth Sur a thrydedd ran yn y porth o'r tu ol i'r swyddogion felly y cedwch wyliadwriaeth y ty rhag ei dorri.' A thrydedd ran fydd ym mhorth Sur. Ni chrybwyllir am y porth yn unlle arall, ac felly y mae ei safle yn anadnabyddus. Y mae yn amlwg fod Jehoiada yn ofni y gallai perygl godi o'r cyfeiriad hwn. Yn y porth o'r tu ol i'r swyddogion. Y royal guards. Rhag iddynt ymdrechu rhwystro coroniad y brenin. Felly y cedwch wyliadwriaeth y ty. Y palas bren- hinol. Gosodir gwylwyr mewn safleoedd priodol a manteisiol. Adnod 7.—' A deuparth ohonoch oil sydd yn myned allan ar y Saboth, a gadwant wyliadwr- iaeth ty yr Arglwydd ynghylch y brenin.' A gadwant wyliadwriaeth ty yr Arglwydd. Y lie arall a orchmynnir ei ddiogelu ydoedd y deml, rhag i'r bachgen-frenin gael unrhyw niwed. Adnod 8.—'A chwi a amgylchynwch y brenin o bob parth, pob un a'i arfau yn ei law a'r hwn a ddelo i'r rhesau, lladder ef a byddwch gyda'r brenin pan elo efe allan a phan ddelo efe i mewn.' A chwi a amgylchynwch y brenin. Yr oeddynt i amgylchynu y brenin o bob parth, a phob un a'i arfau yn ei law yn barod i daro os byddai angen. Os beiddiai un wthio i mewn i'r rhesau (ranges), yr oedd i gael ei ladd ar unwaith. Yr oeddynt i amgylchynu y brenin yn ei ddyfodiad a'i fyn- ediad allan. Adnod 9.—' A thywysogion y cannoedd a wnaethant yn ol yr hyn oil a orchymynasai Jehoiada yr offeiriad, a chymersaant bawb eu gwyr y rhai oedd yn dyfod i mewn ar y Saboth, gyda'r rhai oedd yn myned allan ar y Saboth ac a ddaethant at Jehoiada yr offeiriad.' A thywysogion y cannoedd a wnaethant. Yr oeddynt yn barod i gydweithredu a'r offeiriaid, a gwnaeth- ant yn fanwl yr oil a orchymynasid iddynt. Yr oeddynt yn ddynion ffyddlon, ac yn credu y dylai cyfiawnder gael ei amddiffyn. Adnod 10. A'r offeiriad a roddodd i dywys- ogion y cannoedd waywffyn a thariannau y brenin Dafydd, y rhai oedd yn nhy yr Arglwydd.' Waywffyn a thariannau y brenin Dalydd. Offer- ynnau rhyfel a gymerasai Dafydd, a'r rhai a adawsai efe yn y deml fel ysbail wedi ei gysegru i'r Arglwydd. Yr oeddynt yn awr i gael eu defn- yddio i sefydlu hiliogaeth Dafydd ar yr orsedd. Adnod ix.—'A'r swyddogion a safasant bob un a'i arfau yn ei law, o'r tu deheu i'r ty, hyd y tu aswy i'r ty, wrth yr allor a'r ty, amgylch ogylch y brenin.' A'r swyddogion a salasant bob un a'i arfau yn ei law. Wedi eu trefnu yng nghyn- tedd y deml, lie yr oedd yr allor o flaen porth y deml. Dygodd Jehoiada Joas allan i'r cyntedd, a choronodd ef yn frenin. Adnod 12.—'Ac efe a ddug allan fab y brenin, ac a roddodd y goron arno ef, a'r dystiolaeth a hwy a'i hurddasant ef yn frenin, ac a'i henein- iasant ef curasant hefyd eu dwylaw, a dywed- asant, Byw fyddo y brenin.' Ac efe a ddug allan lab y brenin. Ychydig oedd yn gwybod ei fod yn fyw, hyd nes y dygwyd ef allan gan Jehoiada. Gosodwyd ef i sefyll wrth y golofn—Jachin neu Boaz—lie yr arferid coroni brenhinoedd. A roddodd y goron arno ef. Jehoiada, fel offeiriad, oedd i wneud hyn. A'r dystiolaeth. Sef rhannau o Gyfraith Moses oedd yn cyunwys yr egwydd- orion wrth ba rai yr oedd i lywodraethu. Tybia rhai beirniaid mai yr hyn sydd i olygu wrth y dystiolaeth ydoedd yr addurniadau eraill perthynol i'r goron. Urddasant ef yn frenin, ac eneiniasant ef ynghanol arwyddion o gymer- adwyaeth. Curasant ddwylaw, a gwaeddasant, Byw fyddo y brenin.' Dyma'r hyn a waedd- wyd pan eneiniwyd Saul yn frenin ar Israel (r Sam. x. 24). Pan glywodd Athaliah gymer- adwyaeth y bobl, prysurodd allan i wybod yr achos. Pan edrychodd, gwelodd Joas ei liwyr yn sefyll wrth y golofn, sef y fan yr eisteddai brenhinoedd. Rhwygodd ei dillad mewn cyn- ddaredd, a gwaeddodd mewn dychryn—' Brad- wriaeth O'r diwedd daliwyd hithau, a gor- fodwyd hi i ddioddef canlyniadau ei gweithred- oedd creulawn. Gosodwyd dwylaw arni hi, a dygasant hi i dy y brenin, a rhoisant hi i farw- olaeth. Yr oedd wedi profi ei hun yn wir ferch i Ahab a Jezebel, a danghosodd ei bod yn fedd- iannol ar nodweddion gwaethaf cymeriad ei rhieni. GOVYNIADAU AR Y WERS. i. Pwy oedd brenin Judah ar ol Jehosaphat, cyn i Athaliah gymeryd meddiant o'r orsedd ? 2. Pwy oedd Athaliah ? Pa foddion a ddefn- yddiodd i sicrhau yr orsedd iddi ei hun ? Beth oedd ei amcan wrth ladd yr holl had bren- hinol ? 3. Pwy oedd Joseba ? Pa berthynas oedd hi i Athaliah ? Pa fodd y llwyddodd i gadw joas?, yn fyw ? 4. Pwy oedd Jehoiada ? Pa gynlluniau a wnaeth i goroni Joas yn frenin ? 5. Pa fodd y dygodd hyn oddiamgylch ? 6. Beth oedd oed Joas pan gyhoeddwyd ef yn frenin ? 7. Beth oedd natur y cyfamod a wnaeth y brenin a'i bobl ? 8. Pa fodd y tynuwyd sylw Athaliah at y ifaith, a pha beth a wnaeth pan welodd fod J oas wedi ei goroni yn frenin ? 9. Beth fu tynged Athaliah ?