Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Undeb Ysgolion AnnibynwyrI…
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Undeb Ysgolion Annibynwyr I Edeyrnion. ADRODDIAD YR YMWEDWYR, 1912-15. Yn ystod ein tair blynedd fel Ymwelwyr bitolii ddwywaith ymhob Ysgol yn yr Undeb, a chaw- som bob sirioldeb gyda'r gwaith ac wrth ei adolygu a threfnu adroddiad, hoffem gadw hyd ganol y ffordd, heb wyro ar y naill law i feio pawb a phopetli, nag ar y llaw arall ganmol yn ormodol. A thra yn parchu ac edmygu hen uodweddion Ysgol Sul Cymru, ni fyddwn rhy geidwadol i nodi ambell fai ac awgrymu gwell- iantau cyfatebol i ofynion yr oes. Ac heb ym- restru dan faner na hen na newydd,' hoffem dderbyn a gwerthfawrogi y goreu yn y ddwy, canys disgleiried yng ngolwg ein Duw ni oedd marwor yr allor bridd a goleuni llachar cyflawn- der datguddiad y dyddiau diweddaf hyn.' PRESENOLDEB. I Drwg gennym addef nad yw y presenoldeb mor gyson ag y disgwyliem iddo fod, er nad allwn olrhain dirywiad arbennig yng nghyfnod y tair blynedd diweddaf. Y mae un neu ddwy o'r Ysgolion wedi cynhyddu, a dwy arall wedi lleihau ond gellir priodoli'r lleihad i golli teulu- oedd o'r eglwysi hynny, tra y dywedwn am y mwyafrif eu bod ddoe a heddyw yr un,' yn lied sefydlog yn eu ffyddlondeb neu anffyddlondeb, yn ol eu harfer. Wrth edrych dros ein nodiadau gwelwn a ganlyn (defnyddiwn y llythrennau yn lle enwi'r Ysgolion) A. Dan ddosbarth cyian ar ol. B. Y dosbarth hynaf—5 o 9 yn absennol. C. Dosbarth y merched ieuainc yn anweledig. D. Dosbarth y gwragedd—dros yr banner yn absennol. I Nid yw y cytriion dderbynmr ar y taflenni dau-fisol yn hollol gywir gan rai Ysgolion. Dylai y nifer ar burned llinell y daflen, sef yr holl aelodau,' fod yn gyfartal a'r nifer sydd ar y pedair llinell gyntaf, sef athrawon, athrawesau, plant dan 13eg oed, ac ysgolheigion eraill.' Er cael cymhariaeth glir o ffyddlondeb y gwahanol Ysgolion, cyfrifwn y cyfartaledd presenoldeb yn ol y cant oddiwrth 11 o'r taflenni sydd wrth law :— Betws 87 Xdaudderfel 61 Corwen .78 Faerdref. 58 Soar 76 Glyndyfrdwy .52 Cynwyd 74 Llandrillo 50 Bethel 69 Tre'rddol .44 Rhydy wern 62 Credwn fod cyfartaledd presenoldeb yr ysgol- ion dyddiol yn tra rhagori arnom iii a phaham y mae gwell ufudd-dod i ddeddf orfodol Brenin Prydain nag yng ngwasanaeth gwirfoddol Brenin y nefoedd ? Wedi nodi diffygion, efallai fod disgwyliad cyf- reithlon am ychydig gynghorion ac awgrymiadau mewn adroddiad fel hyn. Anawdd iawn symud ymlaen—y mae gafael ffurf a thraddodiad yn gryf iawn. Nid ydylll yn honni gwreiddioldeb i unrhyw awgrymiad, ond hoffeni uno golwg glir ar y delfrydol a gallu i ymwneud a'r ymarferol felly nid doeth gwthio dim ar unrhyw Ysgol, ond gadael i farn leol, a'u gwybodaeth well o'u ham- gylchiadau eu hunain, benderfynu eu cwrs ymhob man. Ond gallwn ddweyd ein bod wedi cael rhydd- ymddiddan ac ymgynghoriad ag amryw-o ben- defigion yr Ysgol yn yr Undeb, a phlethir eu gwahanol gynghorion ynghyd trwy wahanol adrannau adroddiad eich Ymwelwyr. Ynglyn a phresenoldeb cawn y cymhellion canlynol i. Yr arolygwr yn recruiting agent. 2. Yr athrawon, ac i gyflwyno adroddiad cy- hoeddus o'u gwaith. Gwneir felly yn un o'n hysgolion mwyaf llewyrchus. 3. Athraw a disgybl ynghyd. 4. Y disgyblion eu hunain. 5. Ymweliad cyffredinol yn achlysurol. 6. Rhestr o'r absennol i'r gweinidog bob mis. 7. Ymweled ar y Sul hefyd a'r claf ddigwydd fod yn methu dod, i ddenu cariad i'n clymu wrth ein gilydd, nes byddwn mewn brys am weled y Saboth yn dod er nnvyu cyd-drafod gwirioneddau dwyfol. Anawdd pwysleisio gormod ar ftyddlondeb os anffyddlon i'r Ysgol, anffyddlon i'n gwersi; a bydd ein gwybodaeth o'r Gair yn adwyog iawn -adnod yma ac adnod acw-a'r cymesuredd priodol ar goll—gwybodaeth anghyflawn fydd yn gam a'r Datguddiad ac a'u lieuei d iau ein â'r Datguddiad ac â'll heneidiau eit11 hun air: VR ADRODD A I, I, AN. Barna eich Ymwelwyr fod gaii ein Hundeb lawer o le i wella yn yr adrau hon o'r gwaith, yn enwedig yn y dosbarthiadau ieuainc, pan y mae y cof yn afaelgar a'r amser yn fanteisiol i drysori'r Gair. Ofnwn fod tuedd i'n camarwain yn llyfrau cyfrifon y llafur cawsom amryw ael- odau yn y cylch wedi rhoi i lawr 5 neu. 6 o adnodau ac wrth ofyn am ail-adroddiad, yr oedd yn amlwg mai casgliad o hen adnodau adroddwyd am flynyddoedd oeddynt. Creclwn na ddylid cyfrif Yn y dechreuad yr oedd y Gair,' a'r cyffelyb, fel llafur presennol dosbarth- iadau 12 i 15 oed. Synnwyd ni mewn un Ysgol wrth glywed dosbarth o ddynion mewn oed yn adrodd rhannau helaeth o'r Ysgrythyr yn rhag- orol iawn Ymdaenodd penwynni drostynt,' ond nis gwyddent yn eu cysylltiad a dysgu allan.' Ond-.ac' ymhell y bo'r ond (chwedl Mynyddog)—yr oeddynt wedi syrthio i gyffred- inedd tlawd erbyn yr ail dro y cawsom y fraint o ymweled a hwynt. Rhaid mai rhoddi ei ffrwyth yn ei bryd yr oeddynt, ac nad oedd yn bryd yr ail Sul y buom yno. Awgryma eicli Ymwelwyr y diwygiadau can- 1. Yr athraw (hyd y inae n bosibl) i wrando ar adnodau y plant. 2. Rhyw awdurdod ymhob Ysgol- -yn Arol- ygwr, Cwrdd Athrawon, neu Athraw—i drefnu adrannau neilltuol i'w dysgu. 3. Yr Undeb Ysgolion i baratoi taflenni ar gyfer blwyddyn y Maes Llafur, yn nodi yr adnodau neu y penodau ddylul eu hadrodd. Na adawer yr leuenctyd yn cldi-arweiniaa, 1 ddysgu unrhyw adnod, facli neu fawr (fach y rhan amlai) a ddigwydd ddal eu llygaid wrth redeg yn frysiog drwy y Salmau, and eu tywys i ddysgu mewn trefn ac yn eu cysylltiadau pri- odol, fel ag i gael golwg iawn ar yr hen Feibl, ac i'r llafur yna droi yn ganllawiau i'w bywyd ysbrydol yn y dyfodol pan ar ddibyn ami i glogwyn sydd yn yiuylu y daith. Yr oedd yn dda gennym glywed ambell i ddos- barth yn adrodd rhannau o'r Maes Dlafur yr oedd hynny yn sicrhau y newydd-deb yr ydym yn ymgyrraedd ato, ynghyda threfn gryno a chyfaddas yn y llafur. | (T'w barhau).
Gogtedd Gwyr.I
News
Cite
Share
Gogtedd Gwyr. I Cor Bryntcg.Cafwydliwyl a bias wrth baratoi a pherHonnio Charles o'r Bala gan y cor y llynedd. Awgrymwyd yn garedig ar iddo barhau gyda'r fath waith yn flynyddol. Mabwysiadwyd yr anogaeth, ac mae'r cor wrthi yn ddiwyd yn paratoi Mordaith Bywyd (Pencerdd Maelor) erbyn y Nadolig nesaf. Bydd yn cael ei gynortli- wyo gan ran o gerddorfa y capel. Elwyddiant mawr fyddo ar ei waith. Gorseinon.-Mae nifer o Gymry blaenllaw yr ardal hon wedi bod wrthi yn trefnu i sefydlu Cymdeitlias Cymreigyddion yn y lie, a cliynlielir y cyfarfod agoriadolnos Iau, Hydref I4eg, pryd y traddodir darlith gan y Parch W. Glasilant Jones, Dunvant, ar Watcyn Wyn.' Disgwyliwn gael noson ddiddorol iawn yng nghwmni Glas- nant a Watcyn, a gobeithiwn y bydd i'r Gym- deithas gael tyinor llwyddiannus ymhob agwedd angenrheidlol iddi. Hyderwn y cawn gyfle eto i longyfarch y pwyllgor ar ei ddeheurwydd yn trefnu raglen atyniadol a sylwecldol. Caslhvchw.—By&d yn flin iawn gan gylch eang cyfeillion ac adnabyddiaeth Mr Charles Harris, Dantwyn, ddeall fod Mrs Harris, ei annwyl briod, yn wanaidd ei hiechyd er's cryn dipyn, ac yn analluog i fynd o gwmpas fel y gwelwyd hi lawer gwaith. Maent en dau yn adnabyddus iawn i In o weision y Goruqliaf, pa rai sydd wedi bod yn derbyn caredigrwydd a serchowgrwydd ar eu haelwyd pan yn dod i wasanaethu yr eglwys yn Horeb. Nid yw Mr Harris ei hun cystal ag y dyiuunem iddo fod. Mawr hyderwn nad yw y dydd ymhell pan y cawn ddweyd eu bod. hwy eu dau yn gwella eto. Bydded i'r Hwn y maent wedi ymdrechu Ei wasanaethu en cvsuro a'n diddanu yneuliadfyd cystuddiol. G wyliau Pregciftti. —Mae cyfres o'r rhai liyn wedi bod yn y cylch yn dcli-,veddar-Parcli W. James, Abertawe, yn Waungron Parch T. Roderick, Cwmgors, yn Grovesend Parch J. Evans, Penarth, yn Ebenezer; Parchn D. C. I Jones, Boro, Ivlundaiu, a J. Phillips, Mountain Ash, yn Horeb. Bendith y Meistr fycldo ar I waith y gweision. IlJ/fYD.
I Treffynnon.
News
Cite
Share
I Treffynnon. Adref o'i WyZialt.Yr wythnos ddiweddaf dychwelodd y Parch D. Oliver, D.D., y Manse, adref o'i wyliau, wedi lllwvnhau ohollo ei hun yn fawr yn. ei hen gartref iach yn Idanfynydd, sir Gaerfyrddin. Y mae golwg iacli a chryf arno i afael ar ei ddyledswyddau, gan obeithio fod yna flynyddoedd yn ei aros i fod o'r un gwasanaetli eto yn y dyfodol ag y bu yn y gorffennol a Uongyfarchwn Dr Oliver ar ddechrpu ei 43ain blwyddyn fel gweinidog yng nghapel Heol-y- Capel. Cymaufa Ddirwestol.—Cynlialiwyd cyfarfod- ydd blynyddol Cymanfa Ddirwestol Undebol sir Fflint nos Pawrth a thrwy dydd Mercher diw- eddaf, prycl. y ffafrwyd y cyfarfodydd a thywydd dymunol. Yng nghapel y Presbyteriaid y cyn- lialiwyd y cyfarfod cyntaf o'r wyl. Cyfarfod i'r merched ydoedd hwn, ond rhoddid rhyddid i feibion, os dewisent. Ulywyddwyd y cyfarfod gan Mrs Dr J.H.Williams, Fflint. Wedi rhoddi emyn allan i'w ganu, arweiniwyd ni mewn gweddi ddwys am i lwyddiant ddilyn y Gymanfa gan ein hannwyl chwaer, Miss Sarah Williams, Tudor Villa, yr hon sydd wedi ac yn bod yn hynod o weithgar gyda'r achos dirwestol yn y dref. Wedi anercli iad byr gan y llywyddes, cafwyd anerchiad gwir dda ac hynod o ainscrot yn Gyniraeg gan Mrs Davies, alinwyl briod y Parch Morgan Davies, Abergele. Wedi hynny cafwyd deuawd gan Misses Myfanwy a Buddug Williams. Yna cafwyd anerchiad Saesneg gan Mrs Vaughan Pavies, Caernarfon. Wedi canu, a chyhoeddi y trefniacl au am y dydd dilynnol, diweddwyd y cyfarfod dymunol hwn trwy weddi gan y Parch 1 H. Roberts, Llanerchymor. Dechreuwyd cyfar- fod dydd Mercher am 10.30 o'r gloch yng nghapel Cynulleidfacl Heol-y-Capel, o dan lywyddiaeth y llywydd, Mr C. D. Williams, C.S., Sychtyn. Wedi canu a gweddio, traddododd y Ulywydd ei anerchiad, vr hwn oedd yn un da. Yna cafwyd adroddiadau yr ysgrifennydd a'r trysorydd, y Parch T. Morgan, Wyddgrug, a Mr J. Williams, Fflint. Am 2.30, yng nghapel Rehoboth (M.C), cynhaliwyd cyfarfod y plant o clalllywydcliaeth Mr H. T. Roberts, N. & S. W. Bank. Arweinydd y canu ydoedd Mr J. Roberts, y Grove. Dywedir na welwyd cymaint o blant gyda'u gilydd yn y dref er's amser mawr, os erioed. Yr oeddynt wedi dyfod ynghyd o gymaint ag ugain o gapeli. Dechreuwyd trwy ganu, ac offryniwyd gweddi gan y Parch Morda Evans. Yna canwyd y don Blodau'r Iesu,' a chafwyd anerchiad penigamp gan v Ulywydd- Y11 ystod y cyfarfod cafwyd anercliiadau da gan Mrs Darley Davies a Mr Ernest Walker, Caer. Yr oedd cyfarfod olaf y Gvinanfa yn cael ei gynnal yng nghapel Pendref (W), o dan lywyddiaeth Mr William George, C.S., Cricieth. Wedi canu, offryniwyd gweddi gan y Parch D. Oliver, D.D., Yna cafwyd anerchiad y Cadcirydd, yn cael ei ddilyn gan anerchiad tanbaid a gwresog iawn gan y Parch D. Gwyn- fryn Jones. Wedi canu drachefn, galwyd ar y Grand Old Alan Dirwestol, sef Plenydd. Y mae enw y gwr adnabyddus uchod yn ddigon o brawf fod y cyfarfod olaf o'r wyl yn un i'w gofio. Diau fod llwyddiant wedi dilyn y Gy- manfa. Cafwyd cyfarfodydd hynod o dda o'r dechreu i'r diwedd, a gobeithio y bydd lddynt adael eu hoi ar y dref a'r gymdogaeth. Cawd. cynulliadau da iawn nos Fawrth a phrydnawll j .a hwvr nos Fercher. Da iawn gennym pe buaseni yn nieclru credu fod banner y cynulliadau yn | llwyrymwrthodwyr hollol ond ofnaf fod y ffigiwr yn rhy uchel o lawer., Y syniad a'm tar- | awodd wedi i'r cyfarfodydd fyned heibio oedd j mai y dyn ac nid yr achos oedd yn cael y sylw 1 mwyaf. Nid oes amheuaeth nad ydoedd llwydd- 1 iant y Gvmanfa eleui yn ddyledus iawn i'r ysgrif- j el,iyddioii lleol, Mr W. Rees Jones a Miss Sarah j Williams, Tudor Villas, am y ffordd ddeheuig Yí maent wedi gweithio. Rhoddasant eu goreu i'r J gwaith. Y mae Miss Williams yn un o'r merched mwyaf blaenllaw a pharod i wneud unrhyw waith ynglyn a phob symudiad daionus, a mawr ydyw ei set dros ddirwest a phurdeb, a'i ffydd- loudeb yn niynychu y Tloty ar y Suliau i ymweld a'r claf ac i weini iddynt mewn pethau crefyddol. Hefyd, y mae hi yn barod bob amser i gymeryd rhan yn y cyfarfodydd gweddi, ac yn athrawes o'r iawn ryw. Yr Arglwydd a'i bendithio yng nghanol y gwaith da y mae yn ei wneud. J. T. W.