Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

MELINE A'R CYLCHOEOD. I

News
Cite
Share

MELINE A'R CYLCHOEOD. I Pi-iodas.-Cymerodd amgylchiad diddorol iawn le yng Nghapel Mair, Abeiteifi, Medi 30iin, pryd yr unwyd mown glgn briodas Miss Lydia Mary (Lyd), ail ferch Mrs Morris a'r diweddar Mr John Morris, Tyllwyd, Bryn- berian, & Mr Joseph Rees, ail fab y diweddar Mr a Mrs Jacob Rees, Esgairoedd, Penygroes. Gweinyddwyd gan y Parch D. Myddfai Thomas, Penygroes, gweinidog y priodfab. Rhoddwyd y briodasferch ymaith gan ei hcwythr, Mr David Morris, Tycauol Gweinyddwyd fel morwynion gan Miss Sarah Anna Morris, chwaer y briodasferch, a Miss Martha Anne Rees, chwaer y priodfab, ac fel gweision gan Mr Caleb Rees, M A., arolygwr ysgolion Cas- newydd-ar-Wysg, brawd y priodfab a Mr Stephen John Morris, brawd y briodasferch. Aethpwyd o Capel Mair i'r Coffee Tavern, lIe yr oedd gwledd briodasol o'r fath oreu, teilwng o'r amgylchiad dedwydd wedi ei pharatoi ar gost Mrs Morris, mam y briodasferch. Aro ol mwynhau'r wledd, aetti y parti mewn modur- gerbyd i Gubert, lie y bu farw yr enwog Barch Caleb Morris, Llundain; ac yno drachefn buont yn yfed tê gyda Ilawer o' ddanteithion. Ar ol i'r parti fwyohau eu hunain yn dda, aeth y par ieuanc dedwydd i ffwrdd gyda'r tren i Gaerdydd, lie y treuliant eu gwyliau priodaso! ynghanol dymuniadau da eu cvfeillion. Pan ddychwelont adref ant i ddechreu eu byd newydd i Goedcefnlas Uchaf, Penygroes. Trwy hynny collir Miss Morris o Brynberian, lie y mae wedi bod yn aelod def nyddiol er yn ieuane iawn; ond sicr yw y bydd ein coHed ni yn ennill mawr i Benygroes lie y mae ei phriod yn aelod defnyddiol Hir oes iddyut. ===-====-==-=-===-= M. R. I

[No title]

PRAWF 0 FERTHYR.I

TABOR, MAESYCWMVVR.! !

MOUNTAIN ASH. I

I MANCHESTER A'R CYLCH.

[No title]

Advertising