Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

+ t Y WERS SABOTHOL. f t t

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

+ t Y WERS SABOTHOL. f t t ♦ ———— 9 t Y WERS RYNGWLADWRIAETHOL. XJ $y I Gan y Parch. D. OLIVER, D.D., î J TREFFYNNON. ? AÓÓ v T v HYDREF 24ain.—Ainddiffynwyr Nefol Eliseus.- 2 Bren. vi. 8-17. Y TivSTVX EURAIDD.Angel yr Arglwydd a gastella o aingylch y rhai a'i hofnatit Ef, ac a'u gwared hwynt.'—Salm xxxiv. 7. Riiagarweiniol. Rhoddxr i ni olwg ar y berthynas agos oedd rh wng Eliseus a meibion y proffwydi yn yr aduodau cyntaf o'r bennod hon. Efe oedd eu llywydd a'u harweinydd. Yn y Wers cawn olwg ar berthynas gyhoeddus Eliseus a llywodraetli Israel, a'r modd y cynghorai y brenin trwy ysbryd proffwydoliaeth rhag syrthio i afael y Syriaid. Y mae yr hanes yn dangos gofal rhag- luniaeth Duw dros Ei bobl. Yr oedd perthynas Jehoram ag Eliseus yn wahanol iawn i berthynas Ahab ag Elias. Edrychai Jehoram ar y proff- wyd fel ei gyfaill ac nid fel ei elyn. Cynysgaedd- wyd Eliseus a gallu i wybod am holl symudiadau y gelynion, a rhoddai hysbysrwydd i frenin Israel, ac felly galluogid ef i ragflaenu'r niwed a gwaredu ei hun a'i filwyr. Gwnaed hyn lawer gwaith gan Eliseus, nes o'r diwedd yr aeth brenin Syria i ddrwgdybio ei ganlynwyr ei hun o fod yn dat- guddio i frenin Israel benderfyniadau ei ddirgel- gyngor. JiSBONIADOIy. Adnod A brenin Syria oedd yn rhyfela yn crbyn Israel; ac efe a ymgynghorodd a'i weision, gan ddywedyd, Yn y lie a'r lie y bydd fy ngwer- syllfa.' A brenin Syria. Benhadad II., neufe1 y gelwid ef weithiau, Adad. Lladdwyd ef gan ei was Hazael, yr hwn a deyrnasodd yn ei le. Efe anfonodd lythyr at frenin Israel ynghylch Naaman. Oedd yn rhyfela yn erbyn Israel. Os mai ar ol iachad Naaman y cymerodd hyn le, y mae yn dangos ysbryd anniolchgar iawn ar ol y caredigrwydd a dderbyniasai. Amlwg yw fod Syria yn elyn peryglus i Israel yr adeg yma. Cyfeirir at ymosodiadau ysbeilgar y Syriaid ar Israel. Math o guerilla warfare a ddygid ymlaen. Ac efe a ymgynghorodd a'i weision. Ymgyng- horodd a hwynt er mwyn cynllunio y ffordd fwyaf effeithiol i ymosod ar Israel, a'u maglu. Yn y lie a'r lie. Golyga y gair yn y gwreiddiol le digon adnabyddus i'r rhai a gyferchid, ond yr hwn nid oedd yn ddiogel enwi. (Cymharer Ruth iv. i a i Sam. xxi. 2.) Fy ngwersyllfa. Fy ngwersyllfan-ambltsh. Golygir man cyfar- fod y fintai arbennig oedd i wneud yr ymosodiad. Adnod 9.—' A gwr Duw a anfonodd at frenin Israel, gan ddywedyd, Ymgadw rhag myned i'r lle a'r lie canys yno y disgynnodd y Syriaid.' Gwr Duw. Eliseus. Gelwir ef gwr Duw am mai trwyddo ef yn arbennig yr oedd Dnw yn cgluro Ei ewyllys. A anfonodd at fyciii),i Isyaci. Jehoram. Dywed Josephus ei fod ar y pryd ar gychwyn ar ymdaith helwriaethol pan rybudd- iwyd ef gan Eliseus. Ymgadw rhag myned i'r lle a'r lie. Neu ymgadw rhag myned heibio i'r lie a'r lle. Canys yno y disgynnodd y Syriaid. Cyf. Diw., Canys y mae y Syriaid ar ddisgyn yno.' Yr oedd yn angenrheidiol gadw yn glir o'r lie, rhag cael ei ddal gan y Syriaid yn ddi- arwybod iddo, neu ynte gymeryd meddiant o'r lie yn flaenorol, a bod yn barod i gyfarfod y Syriaid, y rhai oeddynt ar y ffordd yno. Profodd cynlluniau y Syriaid yn aflwyddiannus y naill ar ol y llall, am fod gwr Duw yn rhoddi hysbys- rwydd i frenin Israel olionynt ymlaen llaw. Adnod 10.—' A brenin Israel a anfonodd i'r lie am yr hwn y dywedasai gwr Duw wrtho, ac y rhybuddiasai ef, ac a ymgadwodd yno, nid unwaith, ac nid dwywaith.' A brenin Israel a anfonodd i'r lie. A anfonodd ysbiwyr i'r lie er mwyn cael gweled a ydoedd rhybudd Eliseus yn gywir, neu ynte anfonodd filwyr i gymeryd meddiant o'r lie Cyll i'r Syriaid ddyfod yno, ac felly ddyrysu eu cynlluniau. Nid upiwaith, ac nid dwywaith. Digwyddodd y peth lawer gwaith. Adnod II.A chalon brenin Syria a gyth- ryblwyd herwydd y peth hyn ac efe a alwodd ar ei weision, ac a ddywedodd wrthynt, Oni fynegwch i mi pwy ohonom ni sydd gyda brenin Israel ? A chalon brenin Syria a gythryblwyd. Yr oedd yn dclig am fod ei gynlluniau yn cael eu dyrysu, ac yn bryderus oherwydd y dull rhyfedd y gwnaed hyn. Pwy ohonom ni sydd gyda brenin Israel ? Yr oedd yn naturiol i frenin Syria ameu ffyddlondeb ei weision. Nis gallasai gyfrif mewn unrhyw ffordd arall ain y ffaitli fod ei gynlluniau yn wybyddus i frenin Israel. Ymdrechodd ddyfod o hyd i'r bradwr. Adnod 12.Ae un o'i weision ef a ddywedodd, Nid oes neb, fy arglwydd frenin ond Eliseus y proffwyd, yr hwn sydd yn Israel, a fynega i frenin Israel y geiriau a leferi di ynghanol dy vstafell wely.' Un o'i weision. Nid oes sail ddigonol dros dybied mai Naaman ydoedd y gwas hwn. Gallai fod y gwas hwn wedi clywed gan rai o'r Israeliaid eu hunain. Yr oedd hanes Eliseus erbyn hyn yn bur adnabyddus. Ynghanol dy ystafell wely. Yn y lie mwyaf diogel yn y ty. Gwyr am dy gynlluniau mwyaf dirgel—dy fedd- yliau yn dy ystafell wely. Yn atebiad y gwas y mae yna gyfaddefiad o wybodaeth ddiderfyn Duw Israel. Adnod 13. Ae efe a ddywedodd, Ewcli, ac edrychweli pa le y mae efe, fel yr anfonwyf i'w gyrchu ef. A mynegwyd iddo, gall ddywedyd, Wele, yn Dothan y mae efe.' Ewch, ac edrychwch pa le y mae efe: Derbyniodd y brenin esboniad ei was. Ei benderfyniad mwyach ydoedd dal y proffwyd, a'i gadw yn garcharor yn Syria, ac felly ei gwneud yn amhosibl iddo hysbysu dim i frenin Israel. Nid ydyw yn ineddwl unwaith y gallasai y Duw a ddyrysodd ei fwriadau hyd yma ddyrysu ei amcan gyda golwg ar ddal y proffwyd.. Yn Dothan y mae ele. Cafodd allan fod y proffwyd yn Dothan. Safai Dothan ar yr ochr ddeheuol i ddyfiryn Je-zreel, tua deuddeg milltir i'r gogledd o Samaria. Ystyr y gair, meddir, ydyw dwy ffynnon. Yma y rhodd- wyd Joseph yn y pydew, ac y gwerthwyd ef gan ei frodyr. Tybia rhai fod gan Eliseus dy yma ond y mae yr hanes yn awgrymu mai ar ■yinwel- iad 4'r lie yr oedd y proffwyd, ac nid yn car- trefu yno. Adnod 14.—'Am hynny efe a anfonodd yno feirch a cherbydau, a llu mawr a hwy a ddaeth- ant liw nos, ac a amgylchynasant y ddinas.' Efe a anfonodd yno feirch a clierbydau. Mae yn amlwg fod y Syriaid yn gallu myned am gryn bellter i fewn i derfynau Israel. Anfonodd feirch a cherbydau er mwyn dychrynnu y trigolion, fel y buasent yn foddlon rhoddi y proffwyd i fyny. Lllt mawr. Nid byddin a olygir, ond llu mawr i ddal un. Liw nos. Er mwyn cymeryd y fan yn sydyn, fel na buasai modd i'r proffwyd ddianc. Defnyddiasant bob rhag-ofal i ddal yr hwn yr oeddynt wedi eu danfon i'w gyrchu at y brenin. Adnod 15.—' A phan gododd gweinidog gwr Duw yn fore, a myned allan, wele In yn amgylcli- ynu y ddinas a meirch ac a cherbydau. A'i was a ddywedodd wrtho ef, Aha, fy meistr pa fodd y gwnawn ? Gweinidog gwr Duiv. Nid Gehazi, ond un arall oedd wedi cymeryd ei le. Hwyrach nad oedd y gwas hwn wedi cael llawer o brawf eto ar adnoddau y proffwyd. Yn fpre. Yr oedd rhywbeth wedi peri ei fod wedi codi yn foreuach nag arferol. Efallai ei fod wedi clywed swn y milwyr a'r cerbydau. A myned allan. I weled pa betli oedd yn peri y swn oedd wedi ei aflonyddu. Pan welodd yr olygfa, daliwyd ef gan ddycliryn. Dychwelodd at ei feistr, a dy- wedodd yn dorcalonnus 'Aha, fy meistr pa fodd y gwnawn ? Nid oedd yn gweled modd i ddianc. r Adnod 16.—'Ac efe a ddvwedodd, Nae ofua canys amlach yw y rhai sydd gyda ni na'r rhai j svdd gyda hwynt.' Nacoliia. Y fath gyferbyniad sydd rhwng hunanfeddiant a thawelwch y proff- wyd ac ysbryd eyffrous y gwas. Credai Eliseus y buasai Duw yn amddiffyn iddyut. Calonoga ei was, a sicrha iddo fod y rhai oedd gyda hwy yn amlach na'r rhai oedd yn eu herbyn. Gwyddai y proffwyd fod Duw o'i blaid, ac yr oedd hynny yn ddigon i dawelu ei feddwl. Canys amlach yw y rhai sydd gyda ni [i'n hamddiffyn] ná'r rhai sydd gyda hwynt [i'n diuistrio], Angylion.yn annhraethol fwy anil, Duw yn anfeidrol fwy galluog. Dywed y Salmydd Pe gwersyllai llu i'm herbyn, nid ofna fy nghalon pe cyfodai cad i'm herbyn, yn hyn mi a fyddaf hyderus (Salm xxvii. 3). Adnod 17.—' Ac Eliseus a weddiodd, ac a ddy- wedodd, 0 Arglwydd, agor, atolwg, ei lygaid ef, fel y gwelo. A'r Arglwydd a agorodd lygaid y llanc ac efe a edrychodd ac wele y mynydd yn llawn meirch a cherbydau tanllyd o amgylcli rlisens.' Ac Eliseus a weddiodd. Yr oedd y proffwyd yn awyddus am i'w was feddu ar yr un hyder ag a deimlai ef. Gofynna am iddo gael gweledigaeth—cael llygaid ysbrydol i weled syl- weddau ysbrydol oedd o'u cwmpas. Nid oeddynt i'w gweled a llygaid naturiol. Ffydd yn iitiig sydd yn gallu sylweddoli y galluoedd ysbrydol hyn. Agorodd Duw lygaid y llanc gwelodd fod y mynydd yn llawn o feirch a cherbydau tanllyd o amgylcli ei feistr, a rhyngddo a'r Syr- iaid. Yr oedd Duw yn gofalu am Ei was, ac yn amddiffyn iddo. Dyma'r llu a aeth allan liw nos i amgylchynu un dyn a'i wiieud yn garcharor, yn y bore yn cael eu gwnend yn garcharorion gan yr un hwnnw, a'u harwain at frenin Israel. Tywyllodd Duw lygaid y Syriaid fel y gallent weled, ond nid canfod. Gallent weled goleuni, ond nid oeddynt yn adnabod lle- oedd a pherson an. Arweiniodd y proffwyd hwy i Samaria. Tynnwyd y lien oddiar eu llygaid. Yr oeddynt wedi myned allan i gymeryd y proff- wyd yn garchoror ond er eu syndod yr oeddynt hwy, yn ddiarwybod iddynt eu hunain, yn garch- arorion yn Samaria. Yr oedd brenin Israel yn awyddus i'w taro, ond yr oedd Eliseus yn fwy tyner a thrugarog na'r brenin. Carcharorion Duw oeddynt, a dyledswydd y brenin ydoedd ymddwyn yn dyner a charedig atynt. Felly y gwnaeth, a gorchfygwyd hwy trwy garedigrwydd. Minteioedd ysbeilgar Syria ni chwanegasant ddyfod niwyacli i wlad Israel. Goeyniadau AR Y Wers. i. Beth oedd amcan bretiiii Syria wrtli ddan- fon ei filwyr i ddal Eliseus ? Pwy oedd'brenin Syria ? 2. Paham y daeth brenin Syria i feddwl fod rhai o'i filwyr yn fradwyr ? 3. Pa eglurliad a roddodd un o'i weision am yr hyn a ddigwyddasai ? 4. Pa le yr oedd Dothan ? Pa ddarpariadau a wnaeth milwyr brenin Syria i sicrhau Eliseus wedi deall ei fod yn Dothan ? 5. Paham y dychrynnodd gwas Eliseus gy- niaint pan welodd y milwyr ? 6. Pa fodd y gallocld Elisens fod mor dawel a liunanieddiannol ? 7. Beth oedd ystyr gweddi Eliseus ar ran ei was ? 8. Pa fodd yr yinddygodd Eliseus at y Syr- iaid ? 9. I ba le yr arweiniwyd y Syriaid, a pha fodd yr ymddygwyd tuag atynt ?

Advertising

Rhiwmatic ac Anhwyldeb yr…