Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR.
News
Cite
Share
HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR. GAN^EYNON. Cawsom lonydd gan y Zeppelins yr wythnos hon, er eu bod wedi anfon eu cyhoeddiad i roddi tro am danom. Drwy lwc, darfu iddynt dorri eu cyhoeddiad. Nid oes raid diolch i'r Kaiser am hynny, Ar hyn o bryd y mae ganddo heyrn newydd yn y tan. Mae'r Balkans wedi eu tynnu i fewn i'r pwll tro, a Bwlgaria-a ryddha- wyd gan dafod hyawdl Gladstone a chan gleddyf Rwsia-wedi ein bradychu, a bwrw ei choelbren i fewn gyda'r gelynion. Fer- dinand y brenin wnaeth hyn. Mae'r bobl fel arall, naw o bob deg ohonynt. Ond yma, fel yn Rwsia, nid y bobl sydd yn llywodraethu, ond yr ysbryd milwrol ac y mae Bwlgaria o dan draed y cleddyf, fel Prwsia ei hun. Pan ddaw y rhyfel hwn i ben, cyst i'r werin a'r miloedd bellach droi ar eu gorthrymwyr a'u hanfon i'w ffordd. Nid i greu sport i lonaid dwrn o ryw ffyliaid coronog fel y Kaiser a Fer- dinand o Bwlgaria y crewyd plant dynion. Ac onid yw plant dynion yn ffyliaid an- faddeuol i ddioddef peth fel yma cyhyd ? Cefais y fraint o roddi tro am Ben- mynydd ym Mon yr wythnos o'r blaen i roddi help i fy hen gyfaill, Keinion Thomas sydd yn fath ff esgob di-gyflog yn y rhan honno o'r ynys. Y mae Rhagluniaeth dir- ion wedi gwneud y gwasanaeth hwn yn bosibl iddo, ac y mae yntau yn ddedwydd iawn yn y gwaith. Melys oedd efengylu eto ynghanol y wlad, a chanu mawl heb help na thannau nac organ na dim ond y llais dynol. Cartrefol iawn oedd popeth, a syml dros ben, eto calonnog. Ac yr oedd cael camu yn ol o'r dull ffasiynol Seisnig o addoli i'r hen ddull Cymreig arferaswn ei ddilyn gynt tua Pen Cipin o dan deyrnasiad Jones, Trewyddel, yn amheuthun a dweyd y lleiaf. Mor trIte to nature (chwedl Wil Bryan) yw y saint annwyl hyn ac y mae gwreiddyn y mater ganddynt, yn sicr i chwi. Diolch am yr hen ddull Cymreig o addoli. Yr oedd Gogledd Cymru mewn galar mawr am farw yr hen wron ardderchog, y Parch Evan Jones, Caernarfon. Dyma hen ryfelwr na bu staen ar lafn ei gleddyf erioed. Yr oedd yn rhyfelwr o'i febyd. Bu yn dysgu'r grefft, meddai ef ei hun, yn hen Athrofa IIanbryiimair, wrth draed yr R-iaid '-proffwydi blaen y wawr. Tebyg fod Thomas Gee a Michael Jones wedi yfed o'r un ffynhonnau, ac y mae Mr Lloyd George ei hun yn cyfaddef ei fod yntau yn yr un Olyniaeth Apostolaidd. Ond at Bvan Jones yr oeddwn yn cyfeirio. Dar- llenais bopeth am dano a gyhoeddid yn y wasg yr wythnos ddiweddaf, ac yn sicr i chwi dyn mawr oedd y dyn hwn. Mawr fel pregethwr, mawr fel lienor newydd- iadurol, mawr fel arweinydd gwladol, a mawr fel gweinidog da i Iesu Grist. Cefais yr atirhydedd un tro yn Southport o ddadleu achos Cymru o tlaen y Saeson yn ei gwmni, pan oedd yr Eglwysi Rhydd- ion yn cadw eu cwrdd blynyddol yno. Cawsom ein gwasgu ein dau i gornel bella'r program fel arfer. Dyna oedd y ffasiwn efo Datgysylltiad bob amser, ac yr oedd Evan Jones, fel pawb ohonom, mewn tipyn o natur ddrwg pan yn ceisio dweyd y drefn. Coffa da am yr hen wron braf. Gadawodd ei fare ar Gymru, ac yr ydym oil yn dd}dedwyr iddo. Y mae Cymro arall wedi ei ychwanegu at y Cymry sydd eisoes yn gweinidogaethtt yn y Brifddinas. Ddoe (y Sul) y dechreu- odd Mr Emrys James ei waith yn fy hen eglwys fy hun yn Fins bury Park. Yno, rhyw 25 mlynedd yn ol, y cefais innau y fraint o godi'r faner i fyny yn y gymdog- aeth fawr flodeuog honno. Os ca Mr James gymaint o ddedwyddweh yno yn y gwaith ag a gefais i, bydd popeth yn dda. Nid wyf wedi ei weled na'i wrando yn preg- ethu erioed ond peth ddywed pawb sydd wir,' ac felly pan ofynnodd saint Finsbury Park i'w hen fugail am hanes a helynt 'this young Welshman' o Bont- ypridd, nid oedd yn anawdd ateb a dweyd Go ahead.' Felly y gwnaed a chan fod gan ein cyfaill y ddawn bregethwrol mewn mesur mor ddiamheuol, 'rwy'n proffwydo y clywir newyddion da o lawenydd mawr am ei weinidogaeth draw yng Ngogledd- barth Babilon. Bendith y nefoedd ar yr undeb. Y Saboth diweddaf oedd Saboth olaf Mr R. J. Campbell yn y City Temple. Gwnaeth yn ddoeth iawn i beidio cyrchu tua Leeds i'r cyrddau Hydrefol i ddweyd ffarwel wrth ei hen ffrindiau yr Annibyn- wyr. Darllenwyd llythyr oddiwrtho, ac ar ol ei ddarllen—wnaed dim sylwadau. Dymunir pob bendith arno ymhlith ei ffrindiau newyddion. Gobeithio y bydd yn fwy cartrefol yno nag ydoedd yn ein plith ni. Y cam doethaf yn awr fydd cael Jowett yn ol o New York i'r City Temple. Mae'n wir ei fod yntau yn Bresbyteriad yn yr Amerig ond yn y wlad fawr honno y mae y ddau enwad yn dewis gweinid- ogion eu gilydd fel y mynnont. Os daw, dyna'r bwlch wedi ei lanw—a mwy na'i lanw o ran hynny.
Trem yn ol yn Ebenezer, Arfon.
News
Cite
Share
Trem yn ol yn Ebenezer, Arfon. Wrth edrych dros ysgwydd yr wythnosau a'r misoedd diweddaf, prudd-der a gofid sydd wedi gordoi gobeithion pob eglwys a chartref trwy Gylllrn ac felly yn Ebenezer, Arfon. Clywyd corn y gad yn galw, ac atebodd dros ddeugain o fechgyn glewion yr Eryri yr alwad, yn barod i wasanaethu eu gwlad a'u Brenin yn y frwydr ofnadwy bresennol. A phwy .yn well na gweith- wyr caled Arfon, y rhai sydd wedi arfer dvrnil ac ymladd ag anawsterauyng nglilogwyni yr hen Elidir, a'r rhai oedd yn filwyr da i Iesu Grist trwy weithio yn Hi Eghvys gartref ? Gadawodd rhai gartrefi clyd yn Waengwynfi, ac eglwys annwyl yn lbenezer, Arfon eraill wedi gadael eu cyfeillion gartref er mwyn gweini ar eu cyf- eillion clwyfedig. Yn cefnu ar gysuron eglwys i fylied i swn griddfannau a gweddxau cyfeillion cefnu ar swn mawl eu hoff- eglwys, a cherdded yn gryf i Rama mewn bywyd. A beth allasai gweinidog ac eglwys wneud yn well nag anrhegu a chydnabod eu dewrder trwy roddi llyfr bychan, Y Bachgen, i bob un ymunodd dan faner eu gwlad ? A'n dymuniad yw y cant gyfle i ddar- llen y llyfr pan fyddant yn llaid y ffosydd yn gwylio eu cyd-ddynion o'r Almaen, ac y cwyd rhyw hiraeth arnynt am y Mab a roddwyd a'r Bachgen a anwyd yn iawn dros ein camweddau ni oil. Mae'n dda gweled ambell un yn dod gartref a'r addolwr yn fyw ynddo, ac yn barod i gymeryd eu rhan mewn gwaith—prawf amlwg nad yw cyngor tad nac esiampl mam wedi colli o'u cof er yn bell o gartref. Gweddied maniau ein gwlad drostynt, a cliynghored y tadau fel o'r blaen, ac offrynied gwragedd ieuainc yr eglwys oclienaid clros y wraig a'r aelod ffyddlawn aberth- odd gysuron cartref er mwyn estyn cymorth i'r clwyfedig, a gweithied yr Eglwys yn ei chyfle i hyrwyddo yr achos yn ei flaen. Da gennym bod arwyddion o hynny yn Ebenezer, Arfon, pan yn gweled llu yn cerdded ymlaen i ymuno a byddin Duw yn yr un eglwys. Dyma arwydd- ion nad yw Teyrnas Dduw i aros, ac nad yw swn y fagnel na thine y cledd i ddistewi yr awycld am ymuno a byddin Duw. Cerddodd 23 ymlaen i gael eu derbyn yn gyflawn aelodau, wedi eu disgyblu a'u hyfforddi gan y gweinidog, y Parch J. A. Morgan, gyda'r llawlyfr, Hyfforddwv vr A nnibynwyr Ieuanc, o waith y Parch J. J. Jones, B.A., lylanelli. Dyma lyir sydd o werth i Anni- bynnwyr ieuainc ei ddarllen a'i efrydu er cael gweled ein cysylltiad a gwerth ein hcgwvddorion fel Annibynwyr. Cafodd y dosbarth hwn banner blwyddyn i ymbaratoi ac j-mgydnabyddu a'r llyfr a'r egwyddorion cyn eu derbyn yn aelodau, a'n dymuniad yw fod yna blanhigion wedi eu plannu fyddant rhyw ddydd yn brennau mawr cryf i lanw lleoedd y rhai symudwyd. Cafwyd dosbarthiadau grj-mus eraill gyda'r gweinidog i loywi meddwl y rhai oeddynt yn aelodau yn barod er eu cymhwyso ar gyfer brwydr bywyd, ac edrychir ymlaen at hirnos gaeaf eleni eto, gan fod y cynllun wedi ei dynnu allan. Gobeithiwn y cailf ieuenctyd yr eglwys iechyc1 i gyfarfod eu hathraw, er adeiladaeth iddynt eu hunain a lies cymdeithas, fel y deuant rhyw ddydd yn golofnau cadarn yn y lie ac i ddilyn ffydd eu blaenoriaid, y rhai sydd wedi gadael Ebenezer am y wlad sydd well i fyw. Ein dymuniad yw y caiff y gweinidog a'i deidu fwynhau iechyd a nerth i barhau mewn gwaith er adeiladu Seion Duw yn y lie, ac y caifl yr eglwys weled o lafur llawer o weision Duw.
IColeg Caerfyrddin.
News
Cite
Share
I Coleg Caerfyrddin. Y mae un tymor newydd wedi ei ddechreu yn hanes y Coleg uchod. Dymunir ar y cychwyn ddiolch yn gynnes iawn i eglwysi'r wlad a holl garedigion yr Athrofa am eu cynhorthwy a'u caredigrwydd yn y gorffennol, yn enwedig y flwyddyn ddiweddaf, pan y galwai cymaint o bethau eraill teilwng am sylw a chynhorthwy yr eglwysi. Gobeithir yn fawr y bydd iddynt ddangos cyffelyb garedigrwydd y ftwyddyn yma eto trwy gyfrannu tuag at y drysorfa a danfon cyhoeddiadau i'r Coleg. Derbyniwyd wyth o fyfyrwyr newydd ym Medi, sef Mri Herbert Lewis, Ffaldy brenin; E T. Da vies, Maenygroes D Arthur Williams, Llanboidy R. Honddu Williams, Aberhonddu 0. R. Owen, Ebenezer, Arfon; D. P. Bennet, Rhaeadr; C. J. Jones, Pembre; ac Idwal Rees, Cwmafon. Y mae y myfyrwyr canlynol wedi dechreu eu blwyddyn olaf, ac y maent yn awr mewn ffordd i dderbyn galwadau: -Mri Arthur Lewis, B A., Fachendre, Boncath; Mr Etendy Davies, B A., Treorci, Rhondda; Edward Vaughan, Abertawe; Gwilym Thomas, Maestog; W. T. Hopkins, Abercynon; George Davies, Llan- dysul; Stephen Phillips, Llanelli; T. Hefin Thomas, Llanybyfcher; Edgar Williams, Ystrad- gynlais; G. T. Evans, Llangennech; Dan Lewis, Pontardawe; J. P. Martin, Neyland; ac Ishmael Lewis, Llanelli. Mae Mr T. Hefin Thomas wedi bod dan gystudd trwm yn ddiweddar, a bydd yn dda gan ei liaws cyfeillion a'r amryw eglwysi ymba rai y mae wedi gwneud enw iddo ei hun, ddeall ei fod lawer iawn yn well. Y mae ef yn adnabyddus i lawer fel bardd a thraethodwr yn ogystal ag fel pregethwr. Y mae ganddo amryw gadeiriau a gwobrwyon wedi eu cipio o eistsddfodau o fri. Y mae un o fechgyn y flwyddyn olaf, sef Mr W. D. Roberts, Towyn, yn Flanders yn ym- goleddu'r olwyfedigion. Yr oedd yntau wedi syrthio'n ddwfn i serch amryw o eglwysi. Gobeithio y bydd iddo ddychwelyd yn ddianaf ar ol i'r frwydr fynd heibio. Y mae Mr D. Ernest Richards, un o fechgyn y flwyddyn olaf, wedi derbyn galwad daer o'r eglwys Seisnig yn Nhreorci. Y mae yn 'gompliment' i Mr Richards ei fod wedi derbyn galwad o'i wlad ei hun, oherwydd brodor o Dreorci ydyw ef. ^Bwriada'r myfyrwyr gymeryd gofal un o leiaf o babelli'r Y.M.C.A. yn Ne Penfro. Y mae y Proffeswr T. O. Stephens, B.A., B.D., wedi bod am rai wythnosau yn ystod y gwyliau yn un o babelli'r Y.M.C.A. Y mae pob rhwyddineb wedi ei roi ar ffordd y myfyrwyr i ymgymeryd i'r gwaith hwn yn eu tro, a bwriedir dal ar y cyfleustra. EBENEZER DAVIES, Ysg.