Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

CERDDORIAETH A CHERDDORION.

News
Cite
Share

CERDDORIAETH A CHERDD- ORION. I. GAN Y PARCH D. C. JONES. DBCHREUODD canu a cherddoriaeth eg- lwysig neu lwythol yn fore yn hanes dat- blygiad dynoliaeth. Sown aflafar oedd can- iadaeth foreol wneid gan y llwythau yn eu dawnsiau ogylch eu cylchfeini neu eu Gilgalau hen. Haul-addolwyr oedd y bobl- oedd yn oesoedd bore bywyd. Addolent haul Duw—olwyn o dan.' Galwent ef ar yr enwau Hit, Yah, Yahweh, Diu, Dia, Dhia, Dhe, Grian, Be'al, Baal, Be'ulah, a llu o enwau eraill. Ystyr yr enw Bea'uil yw bywyd pob peth neu achos pob bod.' Tebyg mai enw ar y gallu ereadigol, eynhyrcliiol, cynhaliol a ffurf-roddol yn natur oedd Baal ac Ashtarte y Phoenic- iaid, yr hwn allu a addolid ganddynt wrth lynnoedd mewn coedwigoedd byw. Cenid clodydd a molid y duwiau gan y bobloedd am eu daioni atynt, eu hamddiffyn dros- tynt, eu gwaredigaethau iddynt o law eu gelynion, gwneuthur daioni, rhoddi gwlaw o'r nefoedd a thymhorau ffrwythlawn, a llenwi eu calon a lluniaeth ac a llaw- enydd. Teimlid yn ymwvbyddiaeth dyn- ion o'r dechreuad fod gallu tuallan i ddyn- ion, gallu mwy na dynion, yn gweithio i iawnder ac amcan yn y byd. Teimlent fod y gallu hwnnw yn achosi pob peth-yn eu creu ac fod pob peth creedig, yn ol eu dulliau a'u galluoedd, yn ateb y rhoddiad iddynt mewn mawl a chan. Clywent lais yn ateb llais, dyfnder yn galw ar dclyfn- der, pren ar bren, nant ar nant, seren ar seren, nen ar nen, duwiau ar y greadig- aeth, a'r greadigaeth ar y duwiau. Ceis- iodd dynion yn gynnar yn eu hanes osod yr ymdeimlad o'r antiphonal mewn cerddi a chaneuon. Hyn sydd yn cyfrif am fardd- oniaeth Semitaidd, barddoniaeth yr Arab- iaid a'r Hebreaid hen, mewn ffurf o gyf- ochraeth (parallelism). Ceir hwn yn dweyd yr un peth hardd drosodd a throsodd mewn mydr, swn a synnwyr deniadol. Parheir y dull antiphonal hwn i ryw fesur yng nghangell yr Eglwys Wladol ym Mhryd- ain hyd heddyw. Canai un res o gerddor- ion frawddeg gerddorol neu ddwy, yna atebid' hwy yn ol gan res gyferbyniol o ganwyr. Hon oedd ffurf caniadaeth foreol. Cariodd barddoniaeth a chaniadaeth ddylanwad dirfawr yn natblygiad bywyd moesol a chymdeithasol yn oesoedd boreol bywyd dynol. lylwythau bugeiliol yn arwain eu praidd hyd fynyddoedd, glyn- Hoedd a gwastadeddau gwledydd oedd dynion yn y cyfnodau hynny. Ni feddai y llwythau ddeddfau ysgrifenedig. Medd- ent ddeddfau anysgrifenedig ddisgynasai i lawr iddynt yn nhraddodiad ac arferion y bobl o'r oesoedd pell. Nid oedd ganddynt garchar, heddgeidwaid, na milwyr arfog- edig i fynnu ufudd-dod y deiliaid i'w deddfau, na chwaith i gario allan eu cosbau ar droseddwyr. Nid oedd y llyw- ydd, y sheikh neu yr henuriad, ond primus intef pares, sef y cyntaf ymysg ei gydradd. Gwir y rhwymid troseddwyr wrth hoelion lluest y sheikhmegis y gosodid troseddwyr yn ein gwlad ni yn y stocks ond nid oedd ganddynt a I I ti a-nwrthwynebol yn y llwythau, megis y ceir yn y teyrnasoedd gorllewinol yn awr, i fynnu ufudd-dod y deiliaid i orchmynion y sheikh, neu farn- wyr y llwythau, neu y kahim a gynrych- iolai y dwyfoFyn y llwythau, a'r hwn oedd yr awdurdod uchaf yn eu mysg. Yr unig awdurdod yn eu mysg oedd dylanwad per- sonol y sheikh, y barnwr, y kahim, a'r farn gyhoedd. Mewn cymdeithas felly cywil- ydd yw y gallu moesol cryfaf, cywilydd i wynebu rhieni a'r llwyth. Hwn yw un o'r galluoedd bwysleisir gan Nathaniel Haw- thorn yn The Scarlet Leiter. Dywed Well- hausen mai yr unig enw moesol ar Dduw ymysg yr Arabiaid cyn cyfodiad Islam oedd El-wasi-yr Ataliwr. Mewn cym- deithas felly gwelir ar unwaith wasanaeth a gwerth barddoniaeth a chaniadaeth eg- lwysig neu gynulleidfaol. Defnyddiwn y gair eglwysig yma yn ei ystyr wreiddiol o gynulleidfa lywodraethol dinas neu dal- aith. Beirniadaeth ar fywyd, i fesur mawr, oedd barddoniaeth yr amserau hynny. Cyfaddesid hefyd y gerddoriaeth mewn grym, eyflymder y symudiadau, a nod- wedd y seiniau i ystyron y farddoniaeth genid. Pan-gondemnient ryw berson neu bersonau ar gyfrif creulondeb, lladrad, a chamymddygiadau annynol, llefent a'u cegau yn groch a diarbed, gan ddefnyddio llawer o gydseiniaid gyddfol megis ch yn eu barddoniaeth. Ceid benywod yn barddoni a chanu yn Arabia cyn cyfodiad Islam. Canent am fuddugoliaethau ar y gelynion, am ddewr- der eu harwyr ar eu dychweliad adref o'r brwydrau, am gwymp eu cedyrn yn y cadau gwaedlyd canent wawd-ganeuon yn dirmygu yr iselwael a'r brwnt; canent am harddwch y nef a'r ddaear, am y storm a'r ddaeargryn, ac am ddigwyddiadau cyff- rous yn eu hanes. Dywedir fod rhai o fesurau clasurol Arabia wedi deilliaw oddi- wrth swn cerddediad y camel a'r ceffyl yn eu teithiau pell yn yr anialwch. Dy- wedir fod swn curiad earn ceffyl i'w glywed yn un o gwpledau can Deborah. Gwelir oddiwrth y nodiadau uchod fod | barddoniaeth a chanu wedi codi o anghen- ion cynhennid dynion, ac fod nodweddau ac amgylchiadau bywyd cymdeithasol wedi dylanwadu yn ddirfawr ar natur, cyfan- sawdd a ffurf y farddoniaeth a'r ganiad- aeth yn nhreigliad yr oesau. Mewn gwlad daw el, lonydd, ddiberygl, drwy yr hon ni chyniweiriai gelynion cryfion, gan ladd, lladrata a difwyno, codai y beirdd yn eu delfrydau oddiwrth y gweledig i ystad freuddwydiol, ddychmygol a damcan- iaethol. Daeth hyn yn amlwg yng ngherddi doethion y Dwyrain bell. Nodwedd arall geid gan feirdd a cherddorion anialwch Arabia a'i chyffiniau yn eu barddoniaeth hwy. Gwylwyr megis ar y tyrau oeddent hwy yn eu bywyd bugeiliol yn yr anialwch. Oherwydd hynny ceid yn eu cerddi syl- wadaeth fanwl ar bob digwyddiad pwysig yn eu gwlad, ynghydag ymresymiad clir o'u buddiant bersollo] o'r digwvddiadai-i hynny. Ni chodent fyth at Achosydd mawr dechreuol pob peth. Buddiant eu hunain a'u llwyth oedd eu gofal hwy. Ond pobl wedi sefydlu i lawr i fywyd amaethyddol, ae wedi cartrefu mewn ardaloedd breision hollol rydd o berygl gelynion goresgynnol ysbeilgar i ddod arnynt i'w blino fyfyriant yn angherddol ar ddamcaniaethau pell-estynnol, gan ddilyn ymresymiadaeth feddyliol i ororau cyfriniaeth freuddwydiol ddelfrydol bell. Cariodd y nodweddau hyn ddylanwad mawr ar farddoniaeth a cherddoriaeth gwahanol genhedloedd byd. Diau fod gwaed a bywyd yr Hethiaid gweithgar wedi eu cymysgu lawer iawn yn yr Arab- iaid a'r Hebreaid elwir gennym yn Semitiaid. Dywedir fod barddoniaeth y Semitiaid hyn yn subjective. Diau fod hynny yn gywir os cymerir y gair subjective i olygu barddoniaeth yn ym- wneud a hunan neu fuddiant personol. Ond rhaid dweyd na ddaeth bardd- oniaeth na cherddoriaeth y Semitiaid yn subjective-yn ymwneud a'r teimladau, yr awyddfrydau, y dyheadau, yr ymwybr yddiaethau, a sylweddau mewnol dan- ddrychol byd y meddwl, yr ymwybydd- iaeth a'r ysbryd—nes i'r seiniaid ddpd i gyffyrddiad a than ddylanwad y Persiaid. Tra nad ydym yn awgrymu o gwbl mai creadigaethau cylchfyd ydynt farddon- iaeth a chaniadaeth cenhedloedd byd, eto maentumiwn fod gan gylchfyd cenhedl- oedd a'u harferion ddylanwad dirfawr yn ffurfiad nodweddion, arddulliau a hanfod- ion meddyliol cerddi a chanu holl genhedl- oedd daear o'r oesoedd boreaf hyd yr awron. Ceir odlau, salmau, caniadau, hymnau, dyriau, cywyddau, pryddestau, telyneg- ion—ie, pob ffurf o farddoniaeth a chan- iadaeth pobloedd yn amrywio yn ol daear- yddiaeth a hinsoddau eu preswylfeydd. Natur tiroedd, awyr niwliog neu glir, yn gystal a'r rheidrwydd i sylwi ar bob sy- mudydd yn gywir, yn fanwl a llawn, gan ei alw ar ei enw priodol yn gyfaill neu elyn, neu y tawelwch diberygl ynghanol digonolrwydd dibryder natur, a effeithia yn ddirfawr ar farddoniaeth a chaniad- aeth y bobloedd. Daw hyn yn amlwg iawn ym marddoniaeth a cherddoriaeth gwahanol wledydd daear drwy oesau hanes,