Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
..YR ANUNDIv B W YR.
News
Cite
Share
YR ANUNDIv B W YR. At Olygydd, y Tyst. I S'VR,-Pery'r aniindebwyr i beryglu heddwch glofeydd y Deheudir. Dydd Iau diweddaf aeth dwy fil o lowyr allan o waith am fod rhyw drigain o anundebwyr yn gweithio yn en mysg. Cyn- haliwyd cyfarfod cyffredillol gan yr undebwyr, a phenderfynwyd aros allan oni ddeuai'r afrad- oniaid i weled cyfeiliorni eu ffyrdd a dychwelyd i'r gorlan. Yn yr un modd, ychydig ddyddiau cyn hynny, bn pum cant o lowyr Killay, ger Abertawe, allan o waith ar yr un cwestiwn, er ailgychwyn ohonynt erbyn hyn. Gellid cyfeirio, pe bai angen am hynny, at gymdogaethau eraill yn gweithredu ar'yr un egwyddor. Yn ei adrodd- iad i gwrdd misol adran y Rhondda taflodd Mr W. John y cyfrifoldeb ar swyddogion a pherch- enogion y glofeydd, gan lwyr ddieuogi'r gweith- wyr eu hunain. Dywedodd fod y meistri wedi gwrthod awgrymiadau Undeb y Glowyr, ac wedi peidio rhoi cyfleusterau neilltuol i swyddogion yr Undeb. Y ffaith yw, fe ymddengys, "i'r perchen- ogion addaw rhoi cyfleusterau i'r undebwyr ar yr amod eu bod hwythau Y11 eu tro yn rhoi addewid y byddai'r glowyr yn gweithio'n gyson ac yn rhoi heibio'r streic, cyn belled o leiaf ag y mae a fynno anundebiaeth a'r streic, dros gyf- nod y rhyfel. Gwrthodwyd yr amod hwn yn bendant gan gynrychiolwyr y gweithwyr oher- wydd eu hanallu, meddent hwy, i lywodraethu gweithrediadau'r praidd. Wele enghraifit eglur arall o weudid sefyllfa arweinwyr llafur yn ci i mysg. Credwn am y mwyafrif ohonynt eu bod yn wir awyddus i sicrhau heddwch diwvdiannol yn nydd ein trybini. Ysywaeth, egwyddor lyw- odraethol y Syndicalists yw mai nid cyngor a barn yr arweinydd sydd i'w ddilyn, ond yn hytrach benderfyniad y mwyafrif ar bob cwest- iwn, bach a mawr a dyledswydd yr arweinydd yw amddiffyn y penderfyniad hwnnw, beth bynnag fo'i farn addfed ef ei hun. Yn ystod yr banner can mlynedd diweddaf mae Cymru wedi llwyddo i dynnu sylw'r Cyfan- dir ati mewn llawer modd. Pan ryddhawyd hi oddiwrth rwymau caethiwed yr arglwyddi tir ynghanol y ganrif ddiweddaf, edrychodd y wlad arni mewn syndod. Mewn byr amser wedi hynny yr oedd wedi adeiladu cyfundrefn addysg a efel- ychid ar Gyfandir Ewrop, ac a fawrygid ymhob man. Mae datblygiad rhyfedd ei chenedlaethol- deb wedi bod yn ysbrydiaeth i lawer cenedl fechan arall. Mae bri ei meibion yn y byd gwleidyddol ac mewn diwydiant wedi pentyru clod lawer ar ei phen. Heddyw mae'n enwogi ei hun mewn cyfeiriad arall. Am ryw reswm neu gilydd, mae Germani yn ymddwyn yn fwy boneddigaidd tuag at y carcharorion Cymreig sydd yn ei meddiant, tra y mae un o feirdd Ffrainc, Paul Liseron, wrth ei enw, wedi ysgrif- ennu am danom un o'r pethau llymaf a ddar- llenais er's llawer dydd. Mae'r darn o fy mlaeu pan yn ysgrifennu'r llinellau hyn. Hyderaf y caf hamdden ryw ddydd i'w gyfieithu i'r Gym- raeg, fel y gwelom beth yw barn cenedl arall am danom, a hithau ar hyn o bryd yn arllwys ei gwaed ochr yn ochr q'tl gwroniaid ar y Cyfan- dir. Mae'n dda i iii wybod ambell dro beth yw barn pobl eraill am danom. Yr eiddoch, &c., BURLAIS,
UNO.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
UNO. At Olygydd y Tyst. SYR,—-Llawei^dd digymysg yn ddiau i bawb o ddarllenwyr y TYST oedd gweled cyfeiriad ynddo y tro diweddaf at y Gynliadledd a'r sy- mudiadau posibl sydel yn lyloegr mewn perthynas ag iiiio yr enwadau, yn enwedig yn y rhannau gwledig. Yn sicr, dyma'r adeg i symudiad cy- ffelyb gael ei wneuthur yng Nghymru. Beth am Uiideb yr Eglwysi Efengylaidd ? Onid ellir ffurfio pwyllgor cryf mewn cysylltiad ag ef ? Neu onid oes modd ffurfio pwyllgor cryf o wyr blaenllaw a chymhedrol dau o'r enwadau sydcT. erbyn hyn yn agosaf at eu gilydd, sef y Method- istiaid a'r Annibynwyr ? Dyweder fod iddynt gyflwyno ffrwyth eu llafur a'u barn i Gymdeith- asfa y Methodistiaid ac i Undeb yr Annibynwyr, ac fod amser ymhob un o'r ddau yn cael ei roddi tuagat ystyried y casgliadau y byddai y pwyllgor unedig wedi dyfod iddynt. Nid oes angen mewu llytliyr byr fel hwn i ddangos y priodoldeb o geisio cyfuno'r ddau enwad hyn yng Ngliymru heddyw. Y mae lie i ofni fod adegau helbulus a thrallodus iawn yn y dyfodol o flaen y mwyafrif o eglwysi bychain y ddau enwad uchod yng Nghymru ac yn y trefi Seisnig, ac y mae yn achos o bryder iiianvr i orengwyr yr eglwysi wrth geisio edrych ymlaen. Yn un rheswm, nid oes amheuaetli nad oes tlodi cyffredinol yii aros y wlad yn ei cliyfanswni, ac y mae lie i ofni y bydd dwyn achos yr Arglwydd ymlaen mewn llawer eglwys wan yn gwestiwn difrifol yn y dyfodol agos. Tybed ai un o fen- dithion cuddiedig y rhyfel fydd dwyn undeb oddi- amgylch, ac fod yn rhaid dwyn yr eglwysi i lawr i gorsydd tlodi a gwasgfa dioddefaint mewn trefn i hynny gymeryd lie ? Mae digon wedi ei drafod ar y mater o ran hynny, ond credaf fod angen codi hwn yn bwnc y dydd yn yr eglwysi a dylai pob Cristioii gonest a gwrolfrydig deimlo nad oes amser i'w golli tuag at ei ddwyn oddiamgylch. Yn fyr, dyma ychydig resymau dros hyullY (a) AgÖsrwydd dull a threfn y ddau enwad yn barod mewn llawer o gyfeiriadau. (b) Y baich aruthrol a'r gwastraff o gario ymlaen achosion gweiniaid yn yr un ardal yn perthyil i'r ddau enwad, y rhai, oncl eu huno, a wnaentuil eglwys rydd fyddai yn foddliaol o ran maint a chyfrifoldeb. (c) Y rhagolygon tywyll sydd ar ein gwlad yn gymdeithasol ac arianuol. (d) Bvddai y weithred Gristionogol fwyaf wnaed yng Nghj-niru er's llawer dydd, ac o'r weithred tyfai y diwygiad mwyaf wel#dd Cylnru erioed mewn ystyr grefyddol ac hefyd mewn ystyr genedlaethol. Gallesid enwi ragor o resyiuau, yn ddiameu ond ai nid oes modd cychw3ai y cerbyd ? Hyn yw gwir ddyniuniad llawer heddyw heblaw Yr eiddoch, UN O'R WI,AD.
CYFUNDEB DWYREINIOI, CAERPYRDDIN…
News
Cite
Share
CYFUNDEB DWYREINIOI, CAERPYRDDIN At Olygydd y Tyst. SYR,—Camatewch i mi wneuthur y cyfnewid iad canlynol yng nghofnQdion Cwrdd Chwarter diweddaf y Cyfundeb uchod. Cynhelir y cyfar- fod nesaf yn Tabernacl, Crosshands, yn lIe M niah, Tycroes. Dechreuodd y Parch T. M. Price, Llanon, odfa noson gyntaf Cwrdd Chwarter Llanwrda, a phregethodd y Parchn Griffith Jones, Capel Newydd, Hendy, a D. Harford Evans, Tabernad, Crosshands. Yr eiddoch, J. EVANS, Ysg.
[No title]
News
Cite
Share
OARMBL, CRW YS.-Pregethwyd yng ngbyrddau pregethu y oapel uchod y Sul a'p Liao, Medi 12fed a'r 13eg, gan y Parch Bryn Thomas, Ferndale. Cawsom gyrddau rbagorol.
Advertising
Advertising
Cite
Share
•A IIITIRIMOTNAIBIIFITTABAANBEIIIIIHIIAAIMIHIPI MUIUUUIWUA CROEN CNAWD ASGWRN. Rhaid Gofalu am y rhai hyn. Esgeulusdod neu unrhyw Niwed i'r rhai hyn drwy Ddamwain neu Glefyd a all achosi BLOOD POISONING A MARWOLAETH. Er mwyn ysgoi y perygl rhaid ymarfer Meddyginiaeth Effeith- iol mewn pryd. 'Does dim mor liwyddiannus a sicr a GOMERS BALM. Mae hwn yn awr yn cael ei gydnabod gan filoedd fel y Meddyglyn mwyaf sicr a diogel a ddar- ganfyddwyd erioed at iachaa Clwyfau, Arch- oifion, Tardd- iantau y Cnawd, —\m\\ 1-^ Eczema, Crach I NMM yn )] etir? W7 J M\ Mhenau Pbuk !Llos £ iadau. YS" —— t ?S?? t\i?t??? gaidanau,scurvy n .???? Uygriadau Ben- M? ?Mp?? YWA Plant, a Wt /7\ Bannod. ??E-.? =? ?? 7??7 PMM, Tarwdeng I ifAf Jo i\ GoUt, Cymatau==Wj?? J ?/??J7 a 'oeou.. ??t?i?i itheumatit% I jtaL ? iIvV^vj/AThli POM Mn. A Hynod Effeithiol at u fiu l W" Y11 FAIJ Yr wyf wedi dioddef n poetian dirfawr gan fy nglin 1 am flynyddau, ao yn parhau i n felly hyd nes i mi ;ddef- I ? t nyddio 'Gomer's Balm,' yr | hwn yn ebrwydd a esmwyth- I  A U aodd y ???' a gweHhaodd I GOESAU, y olwyfan yn bur fuan. | i MILOEDD YN TYSTIO I'W 3 EFFEITHIAU HYFEDDOL. I Rhoddwch Brawf arno. Gwellhad I sydd Sicr. I Ar werth gan bob Chemist a Stores am Is lie, j Gofynner am I GOMER'S BALM.' Mynnwch weled enw JAOOB HUGHES ar bob blwch. Heb byn twyll ydyw. Neu danfoner ei werth mewn Stamps neu P.O. at J ACO B HUGHES, M.P.S., L.O.S., Manufacturing Chemist, Fwiartk, Cardift- Gwrthodwch bob peth arall.
Christian Temple, Amanford.
News
Cite
Share
Glynnedd am y send-off anrhydeddus conai byth am Addoldy, Glynnedd. Diolchai i bobl Peniel, annwyl wlad ei faboed anawdd talu ei ddyled i Peniel. Yr oedcl yn wir drla. ganddo gael symud yn ol i sir Gaerfyrddin. Gwnai ei oreu i sylweddoli'r pethau da ddywedwyd am dano. Diolch i bawb. Terfynwyd trwy weddi gan y Cadeirydd. Gwelsom yn bresennol, yn ychwanegol at y rhai a ennwyd eisoes, y Parchn D. E. Harries (S), Amanford D. J. Moses, B.A., Moriah, Tycroes T. M. Price, Llanon J. Crwys Evans, lylandebie Ellis Jones (M.C), Betws W. Richards, Briton Ferry D. Gwili Jenkins (B) J. H. Rees, Burry Port; R. J, Hughes, Cwmaman J. Ellis, Groves- end W. Richards, Betws D. Davies, Baran Griffith Jones, Capel Newydd, Hendy D. H. Evans, Crosshands W. Harries, Penrlieol J. Davies, Capel Isaac Mr W. Llewelyn, Y.H., Fairwater, ynghyda diacoiliaid, o eglwysi Ileol o. bob enwad. Yr oedd y Parch 15. J. Rosser Evans, Gwyn- fryn, yn pregethu bore Saboth, Medi r2fed; y Parch D. Harries, (S) Amanford, yn y prydnawn a'r Parch lidryd Jones, Garnant, yn yr hwyr, yn y Christian Temple. Am 7 nos Lun preg- ethodd y Parch J. J. Williams, Treforris. Yr oedd yr eglwys yn y Christian Temple wedi gwneuthur darpariadau helaeth ar gyfer dieithr- iaid yn y festri eang sydd wrth y capel, a chwi- orydd medrus a siriol yn gweini. Cawsom gyfar- fodydd ardderchog a chynulliadau mawrion. Y mae Mr Davies yn dechreu ei weinidogaeth yn llewyrch rhagolygon addawol iawn. Fy nymun- iad yw am i'r Ysbryd Gliiii gadw yr nndeb yng nghwlwm tangnefedd. JOHN EVANS, Ysg. y Cyf. I