Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

GORFODAETH FILWROL. 1,

News
Cite
Share

GORFODAETH FILWROL. LLYTHYR AGORED AT MR. LLOYD GEORGE. [Ceisir gennym gyhoeddi cyfieithiad o Lythyr Agored grymus Mr A. G. Gardiner, golygydd galluog y London Daily News, at Mr Lloyd George ar yr argyfwng gwleidyddol a achos- wyd gan yr ymgais i wthio gorfodaeth filwrol ar y deyrnas hon. Mae'r Llythyr yn ddi- ameu yn un o'r pethau mwyaf grymus a min- iog a ymddanghosodd erioed.—GOL.] Fv ANXWYL LLOYD GEORGE,—Anturiaf eich annerch yn gyhoeddus heddyw am ddau reswm -y naill yn bwysig, a'r llall yn bersonol. Fy rheswm cyntaf yw mai ar yr hyn a wnewch chwi, yn fwy nag ar yr hyn a wna neb arall ar hyn o bryd, y dibynna ein cyfander fel gwlad yn wyneb y gelyn. Yr ail reswm yw fod ein cyfathrach a'n gilydd yn y gorffennol y cyfryw a'm sicrha y bydd i chwi ddeall yr ysbryd yn yr hwn yr ysgrif- ennaf, a'r amcanion sydd yn fy nghymell i wneud. Ni bu yr un cyfeillgarwch politicaidd mor werth- fawr gennyf a'r eiddof a chwi; nid oes gyfeill- garwch y buasai ei dorri yn achosi cymaint poen i mi. Eithr ceir cwestiynau ydynt yn codi yn llawer uwch nag unrhyw ystyriaethau personol—ac un o'r cyfryw yw yr argyfwng sydd yn bygwth rhwygo ein gwlad. Ffolineb, a gwaeth na ffol- ineb, fyddai cau ein llygaid ein hunain neu eiddo y cyhoedd mwyach i'r ffaith mai oddiwrthych chwi y daw y perygl i'n heddwch cartrefol. Er's cryn amser bellach buom ni, y rhai a fu yn gyf- eillion i chwi, y rhai a ymladdasom eich brwydrau ac a enillasom i chwi eich buddugoliaethau, yn ddistaw yn wyneb yr hyn a wnaethoch, gan obeithio ohonom y canfyddech chwithau y dibyn at yr hwn yr oeddech yn cyfeirio, ac y ciliech yn ol rhagddo ac ni fynnem ddweyd yr un gair a'i gwnai yn anawdd i chwi dynnu yn ol. Eithr -nid yw yn bosibl aros yn ddistaw mwyach, os ydym i osgoi y dibyn tua'r hwn y ceisir rhuthro y wlad. Rhaid yw wynebu'r gwir. Heboch chwi o'i blaid, gallesid anwybyddu yr ymgais i wthio gorfodaeth filwrol arnom; ond a chwi o'i blaid, mae yr ymgais hwnnw yn berygl i'w ofni yn fwy na'r perygl a ddaw i ni oddiwrth Prwsia. Canys nis gallwn ymladd ar ddau ffrynt. Nis gallwn wynebu'r gelyn ar y maes tra ninnau fel cenedl wedi ymrwygo. Gallwn naill ai ymladd Prwsia, neu ynte ymladd a'n gilydd eithr nis gallwn wneud y ddau. Yr Argyfwng.-Na chamddealler fi. Pe nas gellid ennill yn y rhyfel hwn ond yn unig drwy arosod gorfodaeth filwrol, nid oes neb yn ein plitli a wrthwynebai hyd yn oed y rheidrwydd atgas hwnnw. Pa fodd y gallem wneud ? Nid oes dim yn ormod i'w dalu pan fo anrhydedd a rhyddid mewn perygl a phe y gofynnid arnom fel than o'r pris roi i fyny y traddodiadau a anwylir fwyaf gennym, rhoddasem hynny hefyd pe y profid tuhwnt i amheuaeth fod angen gwneud. Eithr pa beth yw y gwir am yr ymgais pres- ennol sydd mor ddifrifol yn unig am fod eich enw chwi yn cael ei gysylltu ag ef ? Oddiwrth bwy y daw, a beth ydynt y cymhellion y tucefn iddo ? Nid yw yn dod o'r unig le sydd yn meddu hawl i ddweyd wrthym pa beth a ddylem ei wneuthur. 0 fewn corff y flwyddyn a aeth heibio bu gennym mewn awdurdod Lywodraeth Ryddfrydol, ac y mae gennym Lywodraeth Gyf- unedig o'r ddwy blaid. Cawsant o'u blaen holl ffeithiau y broblem fawr hon. Ilwynt-hwy yn unig a wyddamt y gofynion milwrol, y gofyn- iadau trafnidol, y gofynion gweithfaol ac arian- nol. Os, tra yn meddu yr holl wybodaeth hon, ac ar gymhelliad taer eu cynghorwyr swyddogol, y dywedasent wrth y wlad mai gorfodaeth mil- Wlol oedd yr unig arf a'n galluogai i ennill y rhyfel, a phe y medrent brofi i foddlonrwydd nad oedd dewis arall yn bosibl, yna buasai y genedl yn derbyn y dyfarniad, gyda gofid mae'n wir, ond yn deyrngar er hynny. Awdwyr y Cythrwfi.—Eithr pa beth a fu hanes yr ymdrech hon ? Deilliodd o'r ymgyrch mwyaf fliaidd yn y wasg Seisnig a sarhaodd erioed syn- wyr a rheswm y wlad hon. Nid oedd yr un athrod yn rhy faleisus i'w daflu arnom fel gwlad. Dar- lunid ni i olwg ein Cynghreiriaid fel cenedl o yslacwyr '—ie. ni, y rhai heb ein cymorth y buasai y rhyfel wedi terfynu er's talm ie, ni, y rhai a ysgubasom foroedd y byd, gan garcharu Germani o fewn ei glannau ei hun ie, ni, y rhai a godasom fyddin wirfoddol na welodd y byd erioed ei chyffelyb-byddin mor enfawr fel nas medrai ein gwlad ei chyflenwi ag arfau a chyf- arpar digonol ie, ni, y rhai a gariasom ymlaen ryfel mawr yn y Dardanelles, a ysgubasom Ger- mani allan o'i threfedigaethau, a ddygasom ran oedd beunydd yn cynhyddu yn y rhyfel yn Ffrainc a Ffianders, a gyfienwasom Rwsia a Ffrainc ag angenrheidiau rhyfel ie, ni, y rhai o'n cyfoeth a fenthyciasom eisoes i'n Cynghreir- iaid £ 250,000,000, ac ar fasnach y rhai y dibynna yn hollol y cyflenwadau hynny o'r America y mae eu cael yn gyson yn golygu buddugoliaeth, ac y byddai metha eu cael yn golygu colli'r dydd yn y rhyfel. Ac os athrodwyd ni' fel cenedl, athrodwyd hefyd yr un modd y swyddogion uchel yn y rhai y mae gan y wlad ymddiried. Methodd yr ymosodiad ar Arglwydd Kitchener drwy y ffyrn- igrwydd amryfus a'r hwn y'i gwnaed eithr mwy cyfrwys a mwy peryglus a fu y bradwriaethau gwenwynnig yn erbyn Mr Asquith, Syr Edward Grey, ac eraill. I chwi, yr hwn y mae arnoch gymaint dyled i fawrfrydigrwydd a theyrngarwch y Prifweinidog, a chwithau wedi bod mor hael yn eich amlygiad o'ch dyled iddo, gwn y rhaid fod yr ymosodiadau hyn arno yn boen ac yn atgas- rwydd. Eto nis gallwch fod heb wybod fod defnydd wedi cael ei wneud o'ch enw chwi i osod min a phwyslais ar yr ymosodiadau hyn fod eich rhinweddau wedi cael eu tra dyrchafu er mwyn taflu eich blaenor a'ch cydswyddogion i anfri dyfnach. j. A mean y Cythrwfi.A phaham y gwnaed hyn ? Dywedir wrthym yn ddiameu, mai am fod gwir- foddolrwydd—yr egwyddor o wasanaeth rhydd mewn gwladwriaeth rydd,—wedi profi'n feth- iant. Pwy sy'n dweyd mai methiant a fu ? Nid Arglwydd Kitchener, yr hwn a wyr, canys dy- wedodd ef yn Nhy'r Arglwyddi yr wythnos hon mai ardderchog a fu. A bore trannoeth cy- hoeddodd Arglwydd Northcliffe (perchen y Times a'r Daily Mail) bostlen o dan y teitl Kitchener ar Fethiant Ymrestriad Gwirfoddol.' Trosedd oedd y cyfryw bostlen. Mewn unrhyw wlad arall lie mae rhyfel, ymddygasid tuag ati fel yr ym- ddygir at drosedd cyhoeddus. Pan gofir yr ymdrechion mawr i'w wneud yn fethiant, nid rhyfedd a fuasai gweled ymrestru gwirfoddol yn troi yn fethiant. Eithr ni bu yn fethiant. Budd- ugoliaethodd ysbryd y wlad ar bob brad-gynllun i'w gadwyno a'r fuddugoliaeth honno yw pechod mawr ein pobl yn llygaid eu gelynion. Canys nid oes a fynno yr amcan sydd wrth gefn yr ymgais hwn ddim o gwbl a'r rhyfel. Bum yn siarad y dydd o'r blaen a chadfridog enwog yn y fyddin, a gofynnais iddo beth a fedd- yliai am y fyddin sydd ar hyn o bryd yn y ffrynt. Y fyddin oreu yn y byd yw,' ebe fe. Ai y fyddin newydd a olygwch ? gofynais drachefn. Ie,' atebai, canys nid oes ond ychydig yng ngweddill o'r hen fyddin.' Yna aeth ymlaen i siarad am orfodaeth filwrol. Yr oedd ei feddwl yn hollol agored ar y cwestiwn, a nododd yn deg iawn y rhesymau dros ac yn erbyn gorfodaeth. Eithr tarawyd fi yn gryf gan ei air olaf. Dyma ydoedd Wrth gwrs, mae gennym yn y fyddin, fel y sydd gartref, rai sydd yn ffyrnig o blaid gorfodaeth. Credaf y byddai yn well gan rai ohonynt ennill gorfodaeth filwrol yn y wlad hon nag ennill y rhyfel.' Y Tri Cydswyddog.A'r fraw-ddeg yna at galon yr holl ymgyrch. Ni ddaeth y cri am orfodaeth oddiwrth y Llywodraeth, canys gwydd- ant hwy fod gweithrediad rhydd i ynni'r bobl yng ngwahanol ddyledswyddau r wlad ynglyn a'r rhyfel vn hanfodol i'n llwyddiant. 0 ba le, ynte, y daeth y cri am orfodaeth ? Mae gennych un o'ch hen gyd-swyddogion yn y Cabinet yn unig i'ch cefnogi—Mr Winston Churchill. Ni ddywedaf ddim am dano ef. Mr Churchill yw— Mr Churchill. Am y gweddill, pwy yw arweinwyr y groesgad? Arglwydd Milner, Arglwydd Curzon ac Arglwydd Northcliffe ydynt. Yn awr, nid wyf am gyd- gymvsgu eich amcanion chwi a'r eiddynt hwy. Gan nad pa beth a all eich cymhellion chwi fod, nid gwrth-werinol mohonynt. Dichon y gallant godi o gyffro meddyliol, neu eu bod yn gym- hellion personol, neu yn unrhyw beth ond nis gellir dirnad am danynt eu bod yn wrth-werinol. Eithr pan gymerir y tri Arglwydd a enwais fel arweinwyr y mudiad hwn, mae gennym hawl i ofyn pa beth yw eu hanes, ac am ba bethau y safant ym mywyd y genedl ? Nid oes raid eich adgoffa chwi, nid oes raid adgoffa'r wlad, o hanes v tri wyr hyn. Gwyr pawb ohonom pa beth a olyga Prwsianyddiaeth Arglwydd Milner. Ysgrif- ennwyd ef mewn llythrennau bras yn hanes yr ugain mlynedd diweddaf symiwyd ef i fyny yn y frawddeg a hyrddwyd ganddo at eich Cyllideb chwi eich hun chwe mlynedd yn ol. Gwyr pawb ohonom pa beth a wnaeth Ymerodroliaeth Ar- glwydd Curzon yn yr India, yr hon o dan el reol- aeth ef a ddygwyd i fin gwrthryfel. A gwyr pawb ohonom am Arglwydd Northcliffe. Prwsianyddiaeth ynte Gweriniaeth ?—Pa gym- helliad politicaidd sydd yn feddiant cyffredin gan y tri wyr hyn ? Ai gweriniaeth ? Na, canys gwrthodiad yw o bob rhyddid o eiddo'r bobl, ac o bob traddodiad annwyl gan galon y genedl rydd hon, ac oherwydd yr hwn draddodiad y mae ein gwlad wedi bod yn cario baner Rhyddid i'r Bobl drwy'r holl fyd. Militariaeth yw'r nod mewn golwg gan y tri wyr hyn nid militariaeth fel anghenrhaid milwrol dros amser, eithr mili- tariaeth fel sefydliad gwleidyddol dros byth. Geill fod mai methiant yw gweriniaeth, ac mai cyfundrefn Prwsia sydd. yn iawn. Eithr os mab- wysiedir gennym gynllun Prwsia o lywodraethu, gwnawn hynny ar ol ystyriaeth bwyllog ac ar seiliau digonol eithr ni fydd i ni gymeryd ein gwthio na'n twyllo i'w dderbyn drwy ddychryn disymwth a achoswyd i'r amcan hwnnw, nac ychwaith drwy gydfradwriaeth gyfrwys a drefn- wyd gan y bobl hynny a feddyliant fwy am ennill y wlad drosodd i orfodaeth filwrol nag a feddyliant am ennill y rhyfel.' Petai'r arf o wirfoddolrwydd wedi torri o dan law y Llywodraeth, rhaid fuasai i ni lunio arf newydd yn ei le. Eithr nid yw wedi torri. Mae wedi cyfarfod a phob gofyn yn y gweithdy ac ar faes y gad. Gwnaed camgymeriadau-Iawer ohonylit--fel y gallesid disgwyl o dan amgylch- iadau na bu eu cyffelyb. Eto i gyd, camgymer- iadau oeddent na .fedrai gorfodaeth fyth eu cywiro. A fuasai gennym heddyw un milwr yn rhagor ar y maes, nen un magnel neu un shell yn fwy nag y sydd gennym, pe baem wedi cael gorfodaeth filwrol y dydd cyntaf y torrodd y rhyfel allan ? Gwyddom yn dda na fuasai gen- nym canys gellir priodoli pob methiant a fu ar y dechreu ynglyn a gynnau a shells, a chyf- arpar arall o bob math, i anallu yr awdurdoclau aruchel i ragweled ystyr a gofynion anferth y rhyfel hwn. Nid diffyg parodrwydd y bechgyn i yinrestru, ac nid amharodrwydd dynion i weithio ydoedd. Pan ddeallodd y pen beth oedd yn eisiau, ni chafwyd prinder dwylaw i'w gyf- lawni. Ysbryd Llaftir.—Bu rhai pethau anffodus ynglyn a llafur—achosion lIe yr arafwyd y gwaith yn fwriadol, a lie y daeth allan ar streic ddynion oeddent yn gweithio wrth bethau han- fodol i'n llwyddiant. Trosedd yn erbyn y Wlad- wriaeth oedd y cyfryw bethau. Galwant am y cerydd mwyaf llym, ac am eu hatal iilwyacli yn y modd mwyaf penderfynol gan awdurdodau ymhlith y dynion eu hunain. Eto na foed inni droi achosion unigol yn achlysur dwyn cyhudd- iad cyffredinol. Gwna cyhuddiadau cyffredinol felly niwed annhraethol, canys cynhyrfant ysbryd digofaint lie y dylem geisio ennyn ysbryd 0 was- anaeth gwresog. Pwy heddyw a wad na ddarfu i Undebau Llafur, fel rheol, dafiu eu hunain a'u holl galon i'r ymdrech ? Gwir fod Undebau Llafur wedi ceisio ainddiffyn eu buddiannau eithr ai nid eu dyledswydd oedd gwneuthur hynny ? Onid yw cyfalaf yntau yn diogelu ei fuddiannau ef ? Siaradais ag amryw ydynt yn gyfarwydd a'r egnion mawr a welir heddyw yn y cylchoedd lie y troir allan gyfarpar rhyfel, ac yn ddieithriad llenwir pawb a syndod wrth gan- fod yr oriau meithion.y gweitliir, a'r ymgyflvvyn- iad dirwgnach a ddanghosir gan gorff mawr y gweithwyr i gyfarfod a phob galw am eu gwas- anaeth. Pan fo dynion yn gweithio saith niwr- nod yr wythnos a deuddeg awr y dydd, nid eu calonogi yw avvgrymxi y rhaid en chwipio at en gwaith, fel y dywedir y chwipir milwyr Prwsia i'r frwvdr. Chware a'r ri-iai pobl ffol lioedcnna a'r gair drygsawr hwnnw, Penrheolwr.' Gal- want am ryw Arglwydd Chatham, neu Gyugor o Bump,' gydag awdurdod diderfyn nid ydynt yn credu mewn sefydliadau Seneddol credant pe caem ryw Cesar i lywodraethu arnom, gyda byddin gref y tucefn iddo i wneuthur ei air ef, ac i ofalu ein bod ninnau yn gwneud, y byddai popeth yn dda. Ond y llwybr sy'n arwain i wallgofrwydd yw hynny. Golyga penreolaeth, gosod arnom un y bo ei air yn air ar bawb, ryw- beth amgen 11a hynyna. Plentyn gwrthryfel yw penreolaeth o'r fath ac nid trwy deithio llwybr gwrthryfel yr enillir y fuddugoliaeth ar Germani. Nid oes neb a wyr yn well na chwi ffolineb a drygioni y sawl sy'n chware a than o'r natur yna, canys yr ydych chwi yn hannu o bobl sy'n mynwesu rhyddid uwchlaw pob dim ar a fedd- ant-- -pobl na fynnant ormeswr i deyrnasu arnynt yng Nghymru mwy nag a fynnant weled y diafol ei hun ar yr orsedd yno. Plannwyd ysbryd gwer- iniaeth yn rhy ddwfn yn natur y bobl hyn i