Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
CYNGOR YR UNDEB CYMREIG. YN EISIAU: Cynorthwywr i Oruchwyliwr JL y Llyfrfa. Cyfiog, £80y flwyddyn. Ceisiadau trwy lythyrau yn unig, ac i fod yn llaw yr isod erbyn Hydref i ieg, 1915 D. MORGAN DAVIES, Y Wyfrfs, 20, Alexandra-road, Swansea. EGLWYS BWIyCHYIyl/YN, ARFON. QYNtsELiR Ovfarfod Stfydlu y Parch li. W. Joues, Cilgwyii, yn weinidog ar yr eglwys uchod, dydu Lluu, Hydret Heg. Am 2 o'r gloch cynhelir y Oyfar- fod Sefydlu, o dan lywyddiaeth y Pasoh J. M Will- iams, Petygioes, pryd y siaredir gaii weicidoeiiou y OyfuLdeb ac cre-ill Am 7 o'r gloch p egtthir gan y P..rchu J. Rhydderch, Pwllheli, a Mo. gall Pi ice, Ohwilog. Rhoddir gwaboidind a ehroesaw gwrtsjg i bawb. D. LLOYD PARRY, Ysg. O. W. JONES, Ysg. Pwyllgor y (Jyfaudeb. YR UNDEB YN 1916. C^YNHELIR Cyfarfodydd yr Undeb yn 1916 J ym Mrynaman. ar y i2fed, 13eg, l4eg, a'r Isfed o Pehefin. JOHN WILLIAMS, Ysg. Hynaf.
AT EIN GOHEBWYR.
News
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. Mewn Llaw.—Ymweliad Dr Campbell Morgan 4 Merthyr—Craigcefnparc—Brynaman—Undeb Ysgolion Annibynwyr Edeyrnion-Eglwys Henrietta-street, Abertawe—Penygroes Arlon- Jerusalem, Resolven-Penybont, Trelech—Cyf- arfodydd
NODION.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
NODION. Y GOIyYGYDD. I Camwri'r Gyllideb. MAE Mr McKenna wedi anfarwoli ei hun trwy ei Gyllideb orchestol i gyfar- fod a'r sefyllfa eithriadol y mae Prydain ynddi trwy y rhyfel. Gwel ei ffordd i ddiogelu cyllid o yn agos i bed- war can miliwn, a hynny heb greu unrhyw gynnwrf nac anfoddlonrwydd mawr. Mae y wlad yn barod i aberthu, ac fe wnaiff hynny yn ddirwgnach os argyhoeddir hi fod y baich yn cael ei rannu yn deg rhwng yr ysgwyddau sydd i'w gario. Mentrodd y Canghellor agor llwybrau newydd, a da oedd gan bawb weled ei fod yn hawlio hanner y proffidion anferth sydd wedi eu gwneud trwy y rhyfel. Bydd raid i berch- enogion melinau blawd a llongau arllwys allan rai miliynau o'r aur a'r arian gasgl- wyd ganddynt ar drybini a thrallod y wlad. Pe buasai wedi hawlio mwy fyth, diau y buasai llawenydd y wlad yn fwy hefyd. Gwnaeth yn dda hefyd i dolli moethau fel myglys a modurion, ac i godi treth yr incwm gryn lawer yn ol graddau yr inewm. Ond mae diffygion sobr hefyd yn y Gyll- ideb-diffygion sy'n gannVri dybryd a'r tlawd ac a'r cymhedrol ei enillion. Er enghraifft (1) Tollir siwgr, te, coffi a coco yn drwm, a'r gweithwyr a'r tlodion ddioddefa fwyaf drwy hyn. (2) Ni thollir, o'r ochr arall, ddiodydd meddwol o fath yn y byd, yr hyn a brawf unwaith eto mai gwir ben Prydain heddyw yw'r Fasnach Feddwol. (3) Ni thollir gwerth y tir erys yn hollol yr un fan ag ydoedd pan wnaeth Mr Iyloyd George ei ymgyrch ar land values. Yn sicr, dylai tirlwyddi'r wlad gario mwy o faich y rhyfel nag a wnant, yn enwedig pan gofir am yr aberoedd o waed dywelltir gan ein milwyr i'w cadw hwy mewn medd- iant o'u tiroedd. 11(4) Teflir ymaith lawer o egwyddorion masnach rydd, a hynny, fel y danghosodd Syr Alfred Mond, heb ennill ond swm di- sylw trwy y peth. (5) Gwneir i ffwrdd a'r post card a'r stamp dimai-pethau sydd yn hanfodol i fasnach a newyddiaduriaeth, heb son am fudd gweithwyr, y wlad. (6) Ond o bawb lethir gan y Gyllideb, y cymhedrol ei gyflog darewir drymaf. Sylwer ar y ffeithiau canlynol :— (a) Os bydd y cyfiog neu'r incwm yn £ 1,000, ni bydd fawr os dim gwahaniaeth yn y swm y telir toll arno rhagor yr hyn oedd o'r blaen. (b) Ond os bydd yn £ 450, bydd raid talu toll ar £ 350 ohono-codiad o 16 y cant ar y swm a dollid cyn hyn. (c) Gwaeth eto, os mai £ 200 yw'r cytlog neu'r incwm. O'r blaen ar £ 40 y byddai raid talu toll, ond yn awr ar £80-codiad o gant y cant. (d) Y gwaethaf o'r oil yw'r un dderbynia £ 170 yn flynyddol a daw llawer gwein- idog sy'n magu plant ac yn ceisio eu haddysgu yn briodol i mewn i'r dosbarth hwn. O'r blaen ar £ 10 yn unig y telid toll, ond yn awr bydd raid talu ar £ 50—codiad o 500 y cant Swm a sylwedd hyn yw mai y rhai fedr- ant dalu toll esmwythaf yw y rhai arbedir fwyaf, tra y gorthrymir yn gywilyddus boblinas gallant heb wasgu yn ddifrifol ar eu hymborth a'u cynhaliaeth dalu toll o gwbl. Ond dyna hanes Prydain Fawr erioed, yn enwedig ar adeg o ryfel—dir- wasgu y tlawd tra dihanga'r cyfoethog. Y Gorfodwyr. MAE'R gorfodwyr cegrwth wedi distewi am dymor— oddigerth bid siwr y Times a'r Daily Mail. Maent hwy yn ddeddf I iddynt eu hunain, ac ni feiddiodd hyd yn oed y Gweinidog aCadnwyddau ddwrdio dim arnynt hwy ar hyd y misoedd. Ond nid oes neb yn talu fawr sylw iddynt yn awr, am y gwyddys nad oes dim na neb yn ymladd brwydr gwirfoddoliaeth yn y pen draw yn well na hwy. Mae Arglwydd Northcliffe wedi dwyn y fath ddrygsawr ar orfodaeth fel na fyn y gweithiwr a'r gwerinwr edrych arni na'i hystyried hyd yn oed ar ei theilyngdod. Eithr mwy arwyddocaol fyth yw distawrwydd Gorfod- wyr y Ty a'r Weinyddiaeth nid oes yr un ohonynt wedi beiddio agor ei ben ar y mater er pan roddodd gweithwyr ac un- debwyr y wlad ar ddeall iddynt sut y safai pethau yn eu mysg hwy. Wrth gwrs, erys areithiau a llythyrau a rhagymad- roddion i lyfrau fel rhybuddion parhaus i garedigion gwirfoddoliaeth ond rhyfedd mor ddidaro yw'r werin wrth ddarllen y notices wedi'r cwbl. Gwrthododd gymryd ei dychrynnu hyd yn oed gan ei heilun a'i hanwylyn ei hun-Mr Lloyd George. Yn hytrach, gofidio a thristau yn ddistaw a dwfn a wnaeth wrth ei weled ef o bawb yng nghwmni Curzon a Milner a North- cliffe, ac ni fyn gredu yr aiff ef ymhell iawn gyda'r tylwyth yna. Ac mae llythyr Mr Llewelyn Williams, yn galw Mr George i gyfrif llym a manwl am ei anghysonderau a'i annhegwch, yn peri i lawer ohonom obeithio nad a y Gweinidog Cadnwyddau nemor pellach i gyfeiriad gorfodaeth na chyfluniaeth drwyadl o adgyfnerthoedd y wlad yng ngoleu'r Cofrestriad. Dylid dar- llen lhwng llinellau llythyr Mr Williams. Pwy a'i gwelodd ef o'r blaen yn galw Mr Lloyd George i gyfrif, ac yn ei feirniadu ? Onid ydynt yn gyfeillion mynwesol erioed? Mae Mr George yn shff-reit siwr. Mr Keir Hardie. O'R diwedd wele fywyd ystormus yr Aelod dros Ferthyr wedi dod i'r pen. Cystuddiwyd ef yn drwm tua blwyddyn yn ol, ond tybid wedi tymor o lwyr orffwys yr adferid ef i raddau dig- onol i barhau ei waith am rhyw gyfnod eto. Ond bu farw yn dra sydyn prynhawn Sadwrn diweddaf yn Glasgow dan ymos- odiad o'r pneumonia. Ysgotiad oedd Keir Hardie, a llawer o nerth a gwendid ei genedl yn amlwg iawn ynddo. Synasom weled nad oedd wedi cyrraedd ei drigain oed, canys edrychid arno fel grand old man y Blaid Lafur, ac yr oedd ei olwg yn hyn na hynny. A gwnaeth gymaint gwaith yn ei ddydd fel mai hawdd oedd ei ystyr- ied yn hynafgwr parchus penwyn, yn bat- riarch ymhlith ei frodyr. Daeth grit yr Ysgotyn yn amlwg ynddo yn bur fore, canys er gorfod myned ohono i weithio i'r pwll glo pan yn 7 oed pender- fynodd ddiwyllio ei hunan yn ei oriau hamddenol, a phan yn gymharol ieuanc daeth yn olygydd y Cumnock Times. Ym- daflodd i'r gwaith o wella a chodi eyflwr y gweithiwr, a gellir dywedyd mai dyma unig nod ei fywyd llafurus o'i ddechreu i'w ddiwedd. Yr oedd wedi ei lwyr fedd- iannu gan yr amean hwn, a gwnelai bopeth arall yn is-wasanaethgar iddo. Dyn yr un syniad ydoedd, ac ymdaflai i'r gwaith o i sylweddoli gyda'r fath ynni ac unplyg- rwydd a brwdfrydedd goddeithiol nes gwneud ei hunan yn agored i bob math o gyhuddiad a chamesboniad. Ystyrrid ef oblegid ei set a'i ddiffuantrwydd a'i benderfyniad di-ildio yn eilun annwyl gan ei gyfeillion, ac am yr un rhesymau yn benboethyn anymarferol a pheryglus gan bobl y pen arall i gymdeithas, a phleidwyr pethau fel y maent. Credwn ei fod wedi gwneud llawer camgymeriad dybryd, ond pe heb eu gwneuthur ni buasai ychwaith wedi dwyn i fodolaeth un o brif fudiadau a galluoedd bywyd diweddar Prydain, yn llafurol, gwleidiadol a chymdeithasol. Cyrhaeddodd y Senedd dros West Ham yn 1892, pryd y darniodd holl draddod- i adau teilwraidd y Senedd trwy ymddangos yn y Ty mewn brethyn llwyd cartref, gyda chrafat coch am ei wddf, a chap ar ei ben. Tipyn o'r herfeiddiad cynhenid yn dangos ei hun oedd hwn, ond codai hefyd oddiar awydd diffuant am iddo beidio cael ei gamgymeryd o'r foment gyntaf y sangodd lawr y Ty. Dod yno i falurio hen draddod- iadau a gormesau penllwyd oedd ei neges, ac yr oedd am i bawb wybod hynny yn ddiymdrai. Collodd ei sedd yn 1895, ond daeth yn ol dros Ferthyr yn 1900, ac aelod dros y fwrdeisdref Gymreig honno fu byth wedyn. Er hynny, ychydig gafodd Cymru o'i gymorth gyda'i chwestiynau arbennig ei hun cyfyngodd ei hun bron yn hollol i gwestiynau'r gwei thwyr a llafur. Mae'n amheus gennym a gymerodd funud o wir ddiddordeb mewn Datgysylltiad na chwest- iwn mawr Addysg Cymru. Ond efe gychwynnodd y Labour Leader, ac efe greodd y Blaid Lafur Annibynnol. Ni fynnai gydweithio ag unrhyw blaid