Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Y MtLWYR YN LLANDUDNO. I

News
Cite
Share

Y MtLWYR YN LLANDUDNO. GAN Y PARCH LLEWELYN WILLUMS. I gannoedd o gartrefi ac eglwysi Cymru, De a Gogledd, o Dachwedd, 1914, hyd Fedi, 1915, diau nad oedd llecyn mwy atyniadol yn ein gwlad na thref Llandudno, a hynny am y rheswm mai yma y preswyliai y meibion annwyl a dewr ymunasant a'r Frigid Gymreig o dan awdurdod y Cymro llwyddiannus, y Brigadfridog Owen Thomas, Symudiad diddorol ar lawer cyfrif ydoedd hwn, yn arbennig felly oblegid ei newydd-deb I filoedd o'r bechgyn, golygai gamu i fyd hollol wahanol i ddim y buont ynddo yn flaenorol. Ac yn y ffaith hon y gorwedd llawer iawn o'i bwysigrwydd-ei bwysigrwydd i'r milwr ieuanc ei hun; oblegid mae popeth sydd yn oyfrif mewn bywyd yn newydd iddo-ei gar- tref, ei waith, ei gyfeillion, ei amgylchiadau, ei amgylchoedd, a'r awyrgylch foesol a anadla yn cynnwys elfennau na ddychmygodd erioed eu cyfarfod mor uuiongyrchol, fodd byntiag. Y mae y cyfnewidiad hwn yn brawf arno. Gesyd ei nerth moesol yn y glorian. Canol yr Atlantic yw test uchaf y iloag, nid yr hafan. Ba llawer o'r becbgyn hyn yu wrfchrychau edmygedd a barn uchaf eu cartrefi a'u heglwysi; ond yn yr hafan yr oeddynt Heddyw y maent ynghanol Atlantic eu bywyd. Ni wthiodd y mwyafrif mawr ohonynt mor bell i'r dwfn erioed o'r blaen, ac ni chyfarfyddasant a thonnau mor eirwon a gwyntoedd mor groesion. Y mae yn dymor o brawf ar y milwr. Mae y eartrefi a'r eglwysi a'u magasant ar eu prawf. Yn yr amgylchiadau hyn y pender- fynir eu gwerth a'u gwaith hwythau. Bu rhieni ac eglwysi yn eu magu yn dyner. Gwyl- ient eu tueddiadau pan yn blant. Trafferthent i'w gosod ar linellau cymeriad Cristionogol. Aberthasant lawer i gadw esiampl deilwng yn gyson ger eu bron. Fel y tyfent, bu yn strain fawr weithiau i droi y pwyntiau cywir, er eu cadw yn y cyfeiriad priodol. Gwarient bopeth er gwneud liyuny heb ddannod. I hyn y bodola eartrefi ac eglwysi Crist yn ein gwlad, a dyma uchelgais ei phulpudau a'i Hysgolion Sabothol. Yn y lliaws lythyrau a dderbyniais yn ystod y misoedd diweddaf oddiwrth rieni, gweinidog- ion, diaconiaid, ac athrawon ac arweinwyr Gobeithluoedd, er ei bod yn amhosibi osgoi arwyddion ptuddaidd o galonnau archolledig oblegid eu colli oddiar yr aeiwyd, a llygairt llawn dagrau gan ofn na welid eu hwynebau mwyach, teimlir rhywbeth yu ddylnach hyd yo nod na hyn, sef pryder rbag i ddvfodiad y milwr i'w bywyd beri fod y Cristion yn mynd all an. a rhag fod rhoi y bywyd presennol dros ei wlad yn ei amddifadu ef o'r bywyd goreu ar 01 hyn. Yr yrowybyddiaeth fod yindrochiou ac aberth a dylanwad cartref ae egiwys, a phopeth fu'a meithrin eu lies uchaf mewn perygl ac ar ei brawf—hyn oedd y pryder mwyaf. Rhydd brawf ilym hefyd ar yr eglwysi sydd yn derbyn y milwyr. Dyma mewn llawer ffordd eu cyfle euraidd. Beth aUant wneud er cynorthwyo, diogelu a chadarnhau bywyd ysbrydol y dynioa ieuainc hyn sydd wedi eu taflu i amgylchiadau mor eithriadol, ac yn wynebu ar gyfwng mwyaf eu bywyd, fydd yu datguddio eu grym; ac yn mesur eu gwir gyflwr a'u gwerth. Teg yw dweyd i'r apel fod i raddau belaeth, fodd bynnag, yn effeithiol a llwyddiannus at eglwysi Llandudno. Rhodd- wyd cyfle i'w dylanwad dreiglo i lawr i fywyd y milwyr mewo. amrywiol ffyrdd. Trwy Ysbyty y Groes Goch y gorfodwyd, vsywaeth, Jlawer dyn ieuanc addawol iawn i adael y rhengoedd, a mynd trwy brofiad chwerw ynddi. Cerddodd cydymdeimlad a chynhorthwy sylweddol yr eglwysi yn fendith i'r cylch hwn. Trefnodd y Cyngor Trefol chwech o ystafell- oedd er adloniant i'r milwyr, He y casglai cannoedd bob nos i ysgrifennu, canu, chware, ac ymddifyrru mewn amrywiol ffyrdd. Gwel- odd ugeiniau lawer o bobl oreu yr eglwysi eu cyfle treuliasant oriau bob wythnos i gym- deithasu, cyfarwyddo a chynorthwyo ymha ffordd bynnag a allent y rhai a gyfarfyddent. Fel hyn cymysgudd bywyd goreu yr eglwysi & bvwyd y milwyr er ou budd a'u mantais arhosol, oblegid gwu i lawer un oedd wedi gwrthgitio a difateru gael ysbrydiaeth i ail- gychwyo, oblegid y d iddordeb cynnes a ben dithiol ddanghosid tuag atynt. Gwnaeth eraill y Hety yn foddion i ddylanwadu er daioni; ac er fod rheswm mewn rhai achosion dros y gvvyn fod rhai yn gweled elw personol o fiaen pob dim, bu i lawer milwr weled llwybr rhin- wedd yn gliriach ac yn hawddach i'w gerdded, trwy ofal a phryder y rhai a'i lletyai am ei f nddiatinan, ysbrydol. Trwy odfeuon y Saboth a'r wythnos yn yr eglwysi a'r Ysgolion Sabothol, ymdrechwyd dal ar bob mantais Gwnaed y gwasanaeth mor siriol ac atyniadol ag oedd modd, a cheis iwyd troi wyneb y weinidogaetfi yn yr holl bulpudau, yn enwedig ar fore Saboth, fel ag i ddwyu cysnron, nerth a bywyd yr Efengyl i ddiwallu angbenion newyddion a phwysig y milwyr. Gwahoddwyd hwygan yr aelodau i'w tai, a chynhyrchwyd cartrefolrwydd aobyfeiH- garweh y gwn yn dda sydd erbyn heddyw wedi troi yn anwyldeb mawr atynt, yn hiraeth dwys am danynt, ac yn weddiau taerion drostynt. Brbyn hyn y mae y milwyr wedi ymadael o'n tref Be yn eu hymadawiad y cwestiwn sydd wedi mynnu lie amlwg yn fy meddwl yw hwn-- Beth yw tystioiaetlx arbosiad y milwyr yn Llandudno i werth cartrefi ic eglwysi Cristion- ogol ein gwlad? Pa fodd y saif crefydd yng ngoleuni en hymddygiad ? Beirniadu ac erlid yr Eglwys yw trefn y dydd, ond barnaf mai cymeradwyaetb sydd yn dod oidiwrthynt hwy. Wrth gwrs, pan y cofiwn fod 10,000 o ddynioJ. ieuainc ID r amrywiul eu tymherau, a'u chwaeth a'u harferion wedi ynigynnull at eu gilydd, gellir disgwyl cryn lawer o dotri tros y terfynau ond wedi gwrando ar bob un yr oedd ei dystiolaeth yn h^-wiio gwrandawiad, gellir dweyd yn ddibetrus fod on hymddygiad yn beth y gailwn tongyfarch eizi gilydd o bertiiynas iddo. Dywed y I ffarwal' gawsant ar eu hyma,dawiad o'n tref am y parch a'r teimladau da fodolai rhyngddynt a'u lletywyr. Nis gal iai Cadeirydd y Cyngor Trefol, fel un yn cynrychiolj y Cyngor a'r dref, roi teyrnged uwch iddynt nag a wnaeth a gwn oddiar awd urdod mllwrol iichel fod adroddiadau swydd ogion y Frigad, hyd yn nod ar a.dè,;a.u eithriadol fel gwyUau Arbennig, yn foddbaol awchlaw disgwyiiad. Ac yn sicr, mewn cyfnod o ddifaterwch crefyddo!, os nad o ddirywiad dwfn, fel yr ydym ni yn byw ynddo, ac mewn oes y mae beirniadu crefydd yn beth mor gyilredinol nid peth dibwys yw hyn i'r cartrefi a'r eglwysi sydd wedi eu magn; oblegid ya y rhai garien t arwyddion diamheuol o absenoldeb dylanwad eartrefi da a meithriniad crefyddol y codai ymddygiadau a digwyddiadau ladratai y Frigid o'i hurddas a'i chymeriad da Ar y Haw arall, a siarad am y rhai fynychai yr eglwys yn Deganwy Avenue, cefais resymau lawer gwaith dros ymfalcbio, os nad i ym- ffrostio, wrth weled buchedd mor lan milwyr ieuainc oedd a phob cyfle ganddynt i ymlygru wrth weled gwroldeb lie y gallesid yn hawdd bod yn llwfr; wrth weled grrm di ildio argyhoeddiad yr Efengyl a ffyddiondeb urdd- asol i rieni, a gwerthfawrogiad o ddvlanwad crefyddol iach yr ae!wyd, a'r pareii digymysg i'r rhai fu'n cymeryd rhan ym meithriniad eu bywyd ysbrydol, iiawenhawn wrth feddwl fod aelwydydd ac eglwysi ein gwlad, mawrion a byehaiii, De a Gogledd, oedd yn egoiot a ffyddlon i ysbryd Crist, yn allu grymus eto i gynyrchu type o ddyn ieuanc heddyw sydd yn llawn o'r boneddigeiddrwydd uchaf, ac yn werth i'r byd ei gael, Ac ar ddechreu gwaith y gaeaf, mewn adeg mor lawn o ddefnyddiau digalondid, nis galiaf feddwl am ysbrydiaeth uwch a chryfacb i rieni sydd yu ymdrechu ar yr aelwyd, i'r rhai sydd yn ymboeni llawer yn y Gair,' i athrawon ac athrawesau, ac i weith- wyr yn y Gobeithlu, na'r sicrwydd a rydd cannoedd o gymeriadau rhinweddol ymysg ein milwyr ieuaino sydd yn ymladd dros eu gwlad 'na fydd eu llafar yn ofer yn yr Arglwydd.' Wrth derfynu, dymunaf ddiolch i chwi, Mr Golygydd, am yr erthygl ragorol ymddanghos- odd yn y TYST ar y Brigadfridog Owen Thomas. Bu ef yn gefnogydd cyson i bopeth da tra yn ein plith, a diau i'w esiampl a'i ddylauwad cyson fod yn un o'r pethau mwyaf cyn irthwyol i gadw liawer o'r milwyr sydd tano ar y llwybr iawn Ymadawodd oddiyma wedi ennill ei ffordd i serch y dref yn gyffrediaol, a chyda'i dymuniadau goreu Cofir ef ganddi yn hir, Did yn unig fel Brigadfridog llwyddiannus iawD, ond hefyd fol bonheddwr Cristionogol; a gosododd rieni Cymru mewn modd arbennig dan deyroged drom iddo am ei gydymdeimlad eang A'u meibion a'u cefnogwr ym mbopeth rhesymol a rhinweddol Boed bendith arno.

i PONTLOTYN.< I

Advertising

ICYFUNDEB DWYREINIOL CAER-FYRDDIN.