Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

I 'GLOYWI' Y GEIRIADUR. i

News
Cite
Share

I 'GLOYWI' Y GEIRIADUR. i Sef seithfed argraffiad o Eiriadur Cymraeg- Saesneg Spurrel, tan olygiaeth y. Bodvan Anwyl, 3/6 net (Spiirrel a't* F(ib). Dim ond dwy ilynedd sydd er pan gy- lioeddwyd yr argraffiad o'r blaen tan olyg- iaeth Bodfan. Yn hwnnw yr ydoedd 245 o dudalennau. Yn yr argraffiad hwn y mae 340 ac y mae iddo ragor o dudal- ennau am fod tuag wyth mil yn rhagor o eiriau o bob math ynddo, yn ogystal a chywiriadau. Y mae'r Golygydd wedi gofyn i mi ei adolygu yn y TYST. Wel, i ddechreu, mi allaf ddywedyd yn hy ei fod yn Eiriadur rhagorol iawn. Nid ydyw Bodfan wedi arbed na thraul na thrafferth. wrth chwilio a darllen. Nid ydvw ychwaith wedi ymddiried yn gwbl i'w ddeall ei hun, eithr fe fynnodd farn a gwybodaeth dysgedigion goren'r dydd, fel y gwelir oddiwrth ei Ragymadrodd, y pennaf o'r rhai ydoedd ei frawd, y gwr mawr annwyl, Syr Bdward, a nlJswyliodd yn rhy gynnar. Y mae'r Geiriadur yn anhepgor i bob Cymro o ysgolhaig a lienor, a gwae fi na'm ganesid ddeg neu bymtheg mlynedd yn ddiweddarach (neu Bodfan yn gynharach), fel y caffwn y llyfr hwn wrth fy mhenelin yn y coleg gynt. Be fydd y farn uchod am y llyfr yn aros beth bynnag a ddigwydd wrth frigbori oddiyma ymlaen Bodfan ei hun, 'rwy'n sicr, fyddai'r olaf i gredu fod y gwaith yn berffaith ac mi sylwais i ar rai pethau, yn ol fy marn i, y gellid gwella arnynt. Ni ddechreuwn gyda'r gair awdwr. Os awdwr o gwbl, awdwyr ydyw'r lluosog ohono, ac nid awduron, sef y lluosog o awdur. Beth am bore, boreuau ? I ba le'r aeth boreau sydd yn ddigon hysbys mewn lien ? Fe roddir bae-byddai onid yw bai, na sonnir am dano, hyd yn oed yn well ? Eto, nid yw i bant' yn golygu lo go down,' eithr to go away yn unig, yn y De. Nid enw ydyw llusg yn yr ymadrodd car llusg, eithr gwreiddair syml heb der- fyniad, yn sefyll am ansoddair fel cwsg a Plan 3-11 Y bardd cwsg a helyg plan eto ni roddir cwsg na plan yn yr vstyron hyn. Paham y cedwir dejfinio am diffinio yn unig o gamgymeriadau W. Salesbiiry ? Eto ni gawn odja-euon eithr oedfa-on- euon a oes warant dros y gwahaniaeth ? Paham y rhoddir tebig a tebyg ? Ni roddir beptthia a diffig a meddig, &c. Os cael un, caffer y cwbl. Fe geir gen yma heb ei luosog, genau ac oni ddylid dywedyd, wrth gyfeirio at Matt. xvii. 11, y cam- ddefnyddir yr enw berfol edfryd am y trydydd person unigol ? Onid (he) owns, who owns ? fyddai gywir am piau ? Ai ofn awdurdodau'r Orsedd oedd ar Bodfan iddo beidio a son am ofevfardd (o'r hwn y cafwyd ofyddfardd Gorsedd y Beirdd), un o raddau'r beirdd gynt ? Yn ymson y bardd a'i gariad yng ngwaith hen fardd, fe ymliwia hi ag ef am adfyd yr hon fai ordderch i oferddyn.' Yr wyf yn sylwi na ddanghosir amheuaeth am vstvr unrhyw air yn y Geiriadur. Fe roddir eddyl, er erighraifft, ddwywaith, a dau ystyr gwa- hanol iddo. Y gwir ydyw aneicr iawn ydyw ei ystyr. Peth braidd yn newydd 3rnglyn a'r Geir- iadur hwn ydyw gwahaniaethu rhwng geir- iau sydd ar arfer a geiriau nas arferir. Y rheswm a ddyry Bodfan ydyw y dylai'r efrydydd nad yw Gymro gael gwybod pa eiriau i'w hysgrifennu a pha eiriau i'w gochel. Onid Geiriadur Saesneg-C3Tmraeg a ddefnyddiai efrydydd felly ? Y defnydd cyffredin a wneir o Biriadur ydyw chwilio ystyr gair angh-ynefin i ddyn ynghwrs ei ddarllen ac yr wyf yn beiddio dywedyd y deuwn ar draws y dagr (nod y geiriau anghyffredin) yn ami iawn wrth chwilio geiriau a ddefnyddir beunydd h\rd yn oed vng Nghymraeg ein cylchgronau. Dyma ychydig eiriau a fu'n gyson ar fy ngwefus i er pan oeddwn fachgen, eto sydd dan nod y dagr yma hodi,' to ear (of corn) arnodd (' arnod '), plough beam; cam- bren,' swingle tree chwarthol,' stirrup haeddel,' plough handle; golym,' to sharpen colfen,' a branch. Geiriau'r tir ydynt y mae'n wir, ond y maent mor fyw ag erioed er y dagrau i gyd. Pa eiriatl Cymraeg a gynhygid yn eu lie ? Eto, ouid ydyw'n tynnu'r llinell braidd yn gynnil wrth ddagru—er enghraifft, trabluddio, rhyging, llamsach, didol, heb ddagru tra bludd, rhygyngu, llamsachus, didoli ? A vd \'w llamhidydd, mail, gwull, bygylu. beidr yn fwy cynefin na cawiau, mindlws, gwrdd, lladmerydd, dichlyn ? Ni wn i yn y byd chwaith pa wedd yr haerir bod Y terfyniad ansoddeiriol in ar arfer gyffredin megis priddin,' earthen; 'lledrin,' of leather haeernin,' of iron, nas defnyddir oddieithr gan yr lienfeirdd a'u hefelyell- wyr diweddar. Y mae Bodfan ei hun yn cyfaddef bod lie i wahanol farnau ar hyn- Mi ddywedaf innau felly mai'r ffordd orett fyddai atal y dagrau. Yn un peth, nid- oes neb ond bwngler yn defnyddio gaif am ei fod yn y Geiriadur. Yn yr ail le, arn y Geiriadurwr mi ddywedwn fel y dywed Bodfan ei hun am y Geiriadur It is less the business of a dictionary to censor words than to define them.' Y mae ymgais yn y Geiriadur hwn hefyd i gael geiriau newydd i mewn-hen eiriau Cymraeg a geiriau Saesneg yn niwyg llafar gwlad. Yn y gwaith hwn efallai y mae terfynau Bodfan i'w canfod amlycaf. mae'n naturiol iddo wyhocl mwy am } Gogledd nag am y De ac y mae gany De gwyn gyfiawn yn erbyn llawer sydd yma.

I POB OCHR rR HEOL POB OCH…