Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

CYFARFODYDD CHWARTEROLI

News
Cite
Share

CYFARFODYDD CHWARTEROL CYFUNDEB GORLLEWINOL CAER- FYRDDIN. Cyjihaliwyd Cyfarfod Chwarterol diweddaf y Cyfundeb nchod ym Mryn I wan, y 7fed a'r 8fed cyfisol. Ivlywyddwyd, Y GYNHADI,EDD prydnawn y dydd cyntaf gan y Parch Cnrwen Davies, Pontargothi, yr is-gadeirydd am y flwyddyn. Arweiniwyd mewn gweddi gan y Parch E, B. Lloyd, Bwlchnewydd. Cadarnhawyd y cofnodion. Agorir ymddiddan yng Nghynhadledd y cyfar- fod nesaf gan y Parch D. E. Williams, Henllan, ar ( Ein Lleihad Presennol: Sut i'w Gyfarfod?' Pregethir ar y pyncian gan y brodyr Davies, Pontargothi, a Davies, Hermon-y cyntaf ar Y Prawfion a Esyd Troion Rhagluniaeth ar Ffydd y Credadyn,' a'r ail ar fater ymarferol. Dewiswyd y Parchn J. T. Gregory, Peniel, ac R. Jones, Trimsaran, yn gynrychiol wyr i Gy- manfa Ddirwestol y Deheudir a gynhelir yn Llanelli ym mis Hydref. Cyd 11 abyddwyd Mr George Thomas, Smyrna, Llangain, yn bregethwr rheolaidd. Y mae y brawd ieuanc ar hyn o bryd yn Ysgol yr Hen Goleg yn ymbaratoi gogyfer a'r weinidogaeth. Rhoddodd yr Ysgrifennydd rybudd y buasai yn cynnyg yn y cyfarfod nesaf ein bod yn newid y dull presennol o d'dewis pregethwyr y pynciau. Cawsom y rhagorfraint o groesawu Cadeirydd yr Undeb Cymreig i'n plith, a thraddododd anerch- iad di-ail o gryf a thyner o blaid y Drysorfa Gynorthwyol acmewn canlyniad i'r apel daer a wnawd atom, penderfynwyd galw ynghyd y pwyllgor sydd eisoes mewn bodolaeth er trefnu symud ymlaen, os yn bosibl. Yna llefarodd Dr Davies, Emlyn, ar Gyfrif- oldeb yr Enwad ynglyn a Chodi Pregethwyr i Waith y Weinidogaeth.' Trodd ei bapnr addaw- edig yn anerchiad byw. Edryched yr eglwysi ymlaen yn awyddus am weld crynhodeb o'i sylwadau yn Adroddiad nesaf ein Cyfundeb. Terfjaiwyd drwy weddi gan y Parch D. J. Thomas (S), Caerfyrddin. Y MODDION CYHOIjDDUS. Pregethwyd ym Mryn Iwan ac eglwysi'r cylch nos Fawrth a dydd Mercher gan y Parchn J. Charles, Dinbych D. E'. Williams, Henllan E. B. Lloyd, Bwlchnewydd J. T. Gregory, Peniel W. Thonlas, flanboidy (ar bwnc y Gynhadledd, Proffes a Bywyd ') R. W. Jones, Pontyrhyl, Dyffryn y Garw D. G. Williams, St. Clears, ac ysgrifennydd y cofnodion hyn. Heblaw a ennwyd yr oedd yn bresennol y Parchn J. Lewis, Blaenycoed H. Evans, Siloh, Llangeler a D. Peregrine, B.A., Trelech. Trefnwyd yr holl gyfarfodydd gan Mr Davies, gweinidog yr eglwys, a da oedd gennym oil ddeall fod y fath agwedd hynod o lewyrchus ar yr achos goreu yn y lie dan weinidogaeth ein brawd ieuanc. Cafwyd hin ragorol a chynull- iadau eithriadol o luosog. Trodd amaethwyr y cylch en cefnau am y dydd ar waith y cynhaeaf, a daethant i'r wyl. Nid anghofiwn y caredig- rwydd a'r lletygarwch a dclerbyniasol11 oddiwrth eglwys Bryn Iwan a'r ardalwyr yn adeg ein hy.m- weliad. Arhosed y Prcsenoldeb Dwyfol yn eu plith. T. W. MORGAN, Ysg.

Advertising

I GYDA'R MILWYR CYMREIG.I

[No title]

Advertising