Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

PONTYPRIDD A'R CYLCH. [

News
Cite
Share

PONTYPRIDD A'R CYLCH. [ Galwada,u.-Beth amser yn ol cafodd y Parch D. Emrys James, gweinidog poblogaidd yr Anni- byrnvyr Seisnig ym Mhontypridd, alwad oddi- wrth eglwys Finsbury Park, Llundain. Deallwn ei fod yntau' wedi penderfynu ei derbyn, a bwr- iada ddechreu yno ym mis Hydref. Siom i'r dref a'r cylch ydyw ei ymadawiad. 'Roedd yn frawd unplyg ei natur, coeth yn ei bregeth, ac yn angherddol ei gariad at ei iaith a'i genedl. Bydd yn gaffaeliad i bulpud Llundain, Pob llwydd. Trefforest.-—-Tra yn colli un brawd, cawn yr hyfrydwch o groesawu un arall. Mae'r eglwys Seitnig yn Nhrefforest wedi rhoddi galwad i Mr K. Lloyd-Williams, o New College, Llnndain, a mab i'r Parch J. Lloyd-Williams, B.A., Tenby. Mae wedi cydsynio a'r alwad, a bydd yntau yn dechreu ym mis Hydref. Llongyfarchwn yr eglwys a'r gweinidog. Clywsom air da i Mr Williams, ac nid rhyfedd hynny gan ei fod mewn llinach mor bregethwrol. Caiff eglwys ieuanc a gweithgar, a nifer o bobl hawdd cydweithio q, hwynt. Cilfynydd.—Y mae ein cyfaill, y Parch R. Williams, B.A., Moriah, wedi bod am rai wyth- nosau yng ngwersyll y Y.M.C.A. yn Sully. Gwyddom iddo fyned yno, nid am fod eraill yn mynd, ond oherwydd ei awydd i fod o wasan- aeth i'w wlad a'r deyrnas yn yr adeg enbyd hon. Credwn ei fod wedi dorri allan i'r gwaith da hwn. Edrychwn ymlaen am orig ddifyr yn ei gwmni wedi y dychwelo, yn traethu ei brofiad am y pethau a welodd ac a glywodd. Ebenezer, Glania.i.Cyilhaliodd yr eglwys hon ei chyrddau biynyddol nos Sadwrn, dydd Sul a'r Llun olaf yn Awst. Y gwahoddedigion eleni oedd y Parchn H. El vet Lewis, M.A., Llundain, ac O. Lloyd Owen, Pontypridd. Cafwyd cyrddau a hir gofir. Ni welwyd y capel mor llawn oddiar adeg y Diwygiad. Gadawodd y cyrddau arogl peraidd yn yr eglwys a'r ardal. Mae lie i ddis- gwyl ffrwyth ar ol odfeuon mor wlithog. GOHEBYDD. I

Rhaid ei Fod yn Wir. I

,Abertawe. I

Hen Deulu'r Winlian.I

[No title]

CYPARFODYDD BLYNYDDOL CYMANFA…

j DIOLCH.

Y CLWYPEDIGION YNG NGHAERDYDD

I CAIS MRS. LLOYD GEORGE.