Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

- -_-Cyfarfod Anrhegu Gweinidog…

News
Cite
Share

Cyfarfod Anrhegu Gweinidog ym 3 Merea, Bynea, ger Llanelli. Nos Sadwrn, Medi neg, 1915. daeth tyrfa fawr ynghyd i'r eglwys uchod i ddangos eu gwerthfawrogiad o wasanaeth dyrchafol cyn- weinidog yr eglwys, sef y Parch J. Evans, yr hwn, ohenvydd gofynion y fam-eglwys, sef y Bryn, a welodd ei bod yn ddyledswydd arno i roddi i fyny Berea er mwyn cyfyngu ei wasanaeth yn llwyr i'r Bryn. A dymunol yw mynegi fod, eglwys barchus y Bryn yn lliosocach ei rhif ac yn ehangach ei dylanwad yn awr nag yr oedd adeg sefydliad Mr Evans i9eg mlynedd yn ol. Llywydd y cyfarfod buddiol a diddorol hwn oedd y Parch D. Lewis (Dewi Medi), Dock, Llan- elli, ac amhosibl penodi ar gynxhwysach gwr. Wedi i'r Parch J. R. Evans (B.), Soar, ddechreu drwy weddi, dywedodd y llywydd ei fod yn teimlo'r anrhydedd i lywyddu ar y cyfarfod, oherwydd yr oedd Mr Evans yn ddyn edmygai'n fawr, ac yr oedd wedi ei gael ar hyd y blynydd- oedd yn gyfaill cywir, yn gymydog pared, ac yn deyrngarol i'w argyhoeddiadau ac yn bennaf ell yn weinidog da i Iesu Grist. Am eglwys Berea, balch oedd efe ohoni, oherwydd, yn un peth, efe gyda'r diweddar Barch Dr. Thomas John, Capel Als, gafodd y fraint o'i chorffori, a da oedd gan ei galon weled yr eglwys wedi cynhyddu i'r fath raddan yn ystod y pum mlynedd o amser. Dilynwyd y llywydd gan Mr Daniel Davies, yr hwn ddywedodd ei fod yn cofio Mr Evans yn dod i'r Bryn, ac yn cofio ei bregethau cyntaf ond iddo ef, yn ei gyfeillgarwch y gwelodd efe fawredd Mr Evans, pan yr oedd fel petai ar yr un tir a hwy yn mynegi ei brofiad eang o ryfedd gariad Duw yn Ei Fab. Blin oedd ganddo ei weled yn torri ei gysylltiad a hwy fel gweinidog ar Ferea. Mr John Davies siaradodd nesaf, ac yr oedd yntau'n cofio Mr Evans yn dod i'r Bryn, ac wedi cael mwynhad wrth ei glywed yn pregethu. ac wedi cael llawer o fendith ysbrydol ac o oleuni i'r meddwl wrth gyfeillachu ag ef. Blin oedd yntau wrth ei weled yn gorlien a bod yn fugail arnynt yn Berea ond er hynny yn dymuno ei lwydd- iant yn fawr yn y dyfodol. Y nesaf a alwyd arno oedd Mr Morgan Griffiths, efe eto yn un o ffyddloniaid. Berea, a'r Bryn cyn hynny. Gofid i'w galon oedd. fod Mr Evans yn cefnu ar Ferea. Nid oedd yn foddlon o gwbl ei weld yn mynd ond ni wasgodd neb ar Mr Evans i fynd, oherwydd yn oedd yn fawr ei barch yn eu plith,a phawb yn cael bendith dan ei weinidog- aeth. Iddo ef, yr oedd yn credu y gallasai Mr Evans barhau ymlaen yn ei ofal o'r ddwy eglwys yn y biynyddoedd hyn fel cynt. Cyn eistedd, gobeithiodd y byddai'r ddwy eglwys yn llwyddo ar wahan megis y llwyddasant pan gj^da'u gilydd. 4 Y" sgr if enny dd yr eglwys, sef Mr William Hughes, oedd y nesaf i siarad. Dywedodd fod ei deimlad ef yn bersonol yn yr anerchiad, a darllenodd hi:— A nercMad cy flwynedig i'r Parch John Evans, oddiwrth Eglwys Annibynnol Berea, Bynea, ger Llanelli. ANNWYI, A PHARCHEDIG SYR,- -D-,IiiiiiiiiN,-ii fel eglwys, ar eich gwaith yn ymddiswyddo yn wirfoddol o'ch gofal gweinidogaethol yn ein plith, er cyfyngu eich gwasanaeth yn llwyr i'r fam-eglwys yn y Bryn, gyflwyno i chwi yr anerchiad hwn, fel arwydd fechan o'n gwerth- fawrogiad o'ch llafur diflino yn ein mysg yn y gorffennol, a'n dymuuiadau da i chwi am v dyfodol. Chwi fu yn gyfrwng i ffurfio yr eglwys hon yn y flwyddyn igio (Mai 2gain). Rbagwelasoch gynnydd cyflym poblogaeth yr ardal, ynghyda'r priodoldeb a'r angenrheidrwydd o "ffurfio y gynulleidfa a arferai addoli er's blynyddoedd yn y lie yn eglwys Annibynnol. Dan eich arweiniad doeth aeth tua 143 o aelodau allan o'r Bryn i gychwyn yr achos newydd ac er ein bod eisoes ymhlith eich haelodau, rhoddwyd i chwi alwad newydd un- frydol i barhau eich gweinidogaeth yn ein plith, a gweini arnom mewn pethau sanctaidd, a'r hon y cvdsyniasoch. Parhaodd yr undeb hwn am bum mlynedd. Yn ystod y tymor yma prynodd yr eglwys ddau ddarn o dir yn eiddo rhydd-ddaliadol iddi, sef y darn ar ba un y saif yr ysgoldy presennol arno, a darn arall gyferbyn, Ile y bwriedir adeiladu capel newydd. Yn yr un tymor, cafwyd cynnydd mawr yn rhif yr aelodau a chyda bendith Duw, gobeithivvn weled yma yn fnan eglwys gref, hunangynhaliol, fydd o ddylanwac1 moesol a chrefyddol dyrchafol yn yr ardal. Credwn y bydd i'r had da a hauwyd gennycli ddwyn ffrwyth toreithiog eto yn y dyfodol, ac y cawn fedi cynhaeafau cyfoethog fel ffrwyth eich llafur. Gallwn dystio fod y pum mlynedd hyn wedi bod yn gyfnod dedwydd a llwyddiannus iawn yn ein hanes, ac edrychwn yn ol arno gyda diolchgarwch. Fel dyn, cawsom chwi bob amser yn unplyg, gonest, a ffyddlawn i'ch hargyhoeddiadau ac ar yr un pryd yn dyner, caredig, cymwynasgar, ac yn llawn gweithredoedd da. Bu eich ymar- weddiad beunyddiol yn ein mysg yn deilwng o wir gennad o'r Efengyl. Fel pregethwr, traethasoch i ni bethau newydd a hen. Profasoch yn ein clyw eich bod yn fyfyr- iwr dyfal o'r Ysgrythyrau, ac o bob cynorthwyon diweddar a ddeuent i'w hagor a'u hegluro. Yn achlysurol, cyffyrddech a chwestiynau dyddiol bywyd ond baich eich gweinidogaeth fu dysg- eidiaeth, cymeriad, a gwaith yr Arglwydd lesu. Cyhoeddasoch eich cenadwri gyda gryin a gwres, gan apelio at ddeall, calon, a phob cyd- wybod dynion. Bu eich gweinidogaeth yn faeth a diddanwch i'r eglwys ac y mae llawer o'ch traethiadau wedi suddo yn ddwfn yn ein calonnau fel nas gallwn yn hawdd eu hanghofio. Fel gweinidog a bugail, buoch yn nodedig o ffyddlon yn yr holl gylch. Ymwelsochj, yn ol rhaid, a'n haelwydydd dangoshasoch ofal neilltuol am yr oedrannus, y claf, a'r meth- iedig porthasoch yr wyn; cymerasoch boen i chwilio allan ambell ddafad grwydredig a bydd gennym ad.gofion hyfryd am eich cyd- ymdeinilad a'ch geiriau caredig yn amrywiol amgylchiadau bywyd. Llawenhawn yn eich safle anrhydeddus yn ein Henwad. Yr ydych er's blynyddoedd yn Ysgrifennydd Cyfundeb Dwyreiniol Sir Gaer- fyrddin ac 3-11 aelod gweithgar ar bwyllgorau llu o'n cj-mdeitliasau crefyddol. Galwyd arnoch i gymeryd rhan yng ngwyliau cvhoeddus yr En wad, a chyflawnwyd gennych bob gwasan- aeth a ymddiriedwyd i'ch gofal gyda medr ac urddas. Nid ydym yn ffarwelio a chwi. Byddwn eto yn gymdogion agos, a hyderwn gael mantais o'ch cyngor, a mwynhau o'ch gweinidogaeth werth- fawr yn achlysurol am lawer o flynyddoedd. Gyda'r anerchiad hwn dymunwn gyflwyno i chwi nifer o lyfrau, gwlawlen, a fountain pen. Gras fyddo i chwi a thangnefedd, ac i'r eiddoch oil, o'r pryd hwn hyd byth. Arwyddwyd dros yr eglwys gan y diaconiaid, THOMAS WILLIAMS, WILLIAM HUGHES, MORGAN GRIFFITHS, JOHN DAVIES, DAVID THOMAS, SAMUEL DAVIES, DANIEL DAVIES a DAVID ROGERS. Dyddiedig Mehefill 13eg, 1915. Darllenodd Mr Hughes lythyrau oddiwrth y Parchn Dr Gwylfa Roberts, W. Trefor Davies (Soar), a T. Davies (Llangenech), yn mynegi eu hanallu i fod yn bresennol. Ar ol hyn galwodd y llywydd ar y Parch J. R. Williams (B), Dafen, a dywedodd yntau fod ganddo barch mawr j Mr Evans a'r teulu. Caf. odd bob caredigrwydd oddiar ei law, ac ni allasai lai na bod yn edmygydd mawr ohono. Cafodd | y croesaw goreu ganddo bob tro yr elai i'w dy, a phan yn ceisio unrhyw beth yr oedd yn ei gael gyda'r parodrwydd mwyaf. Yr oedd wedi aberthu i ddod i'r cwrdd, ond nid-oedd un aberth yn rhy fawr i ddangos ei barch a'i edmygedd o weinidog Iesu Grist. Siaradwyd yn nesaf gan y Parch T. Orchwy Bowen, yr hwn a fynegodcl ei fod yu falch fod eglwys ieuanc Berea yn dangos ei bod yn parchu gwr Duw ac yn gwerthfawrogi ei lafur. Tuedd yr oes hon yw bod yn ddall i weithgarwch proff- wydi Duw ond yr eglwysi sy'n parchu gweision Duw yw'r eglwysi sy'n llwyddo mewn rhif ac mewn ysbrydolrwydd. Yr oedd yn dda ganddo fod eglwys ieuanc Berea ar ddechreu ei bywyd yn dangos mewn modd sylweddol ei gwerthfawr- ogiad o was yr Arglwydd, a gobeithiodd y ca hi fugail teilwng i ofalu am dani yn y dyfodol agos. Yn nesaf siaradodd y Parch Thomas Jones, Libanus, Pwll. Dywedodd ei fod yn gwybod am lafur Mr Evans mewn llawer cylch, ond, iddo ef, yr oedd gogoniant Mr Evans yn dod i'r golwg mewn yingom bersonol. Cafodd efe lawer o oleuni ganddo ar wahanol bethau wrth siarad ag ef ar ddyfnion bethau Duw yn y study, a diolch- odd lawer i Mr Evans am y cyfryw. Cyn eis- tedd dymunodd lwyddiant y ddau, ac hefyd y teulu. Dilynwyd Mr Jones gan y Parch J. R. Davies, offeiriad Llwynhendy. Adwaenodd Mr Evans er's blynyddoedd. Clywodd eiriau canmoladwy iddo pan yn yr ysgol yn Llansawel, ac fel preg- ethwr da yn yr eglwys ond yr oedd yn ei adnabod fel cymydog, ac wedi treulio oriau lawer yn ei gwmni, ac yr oedd yn dda ganddo ef ac eraill o enwadau gwahanol gael cyfle i ddweyd gair. Fel hyn dylasai fod, bawb o'r brodyr yn gytun, heb neb yn tynnu'n groes.' Ar ei ol ef siaradodd y Parch J. R. Evans, Soar, IJwynhendy. Iddo ef yr oedd Mr Evans yn wr Duw ac yn frawd ag oedd yn adnabod lesu Grist. Yr oeddynt wedi gweddio lawer o weithiau gyda'u gilydd. Yr oedd yn ddiolch i'r Arglwydd am dano, ac yn gweddio am nawdd- ogaeth y Nef drosto ef a'i briod, yr hon oedd mewn llawn cydymdeimlad a gwaith yr Arglwydd Yr olaf i siarad oedd Mr Evans ei hun, a da oedd ganddo weled cymaint o'i frodyr yn y weinidogaeth yn bresennol. Yr oedd nos Sadwrn yn amser anodd gan bregethwr fynd o'i fyfyr- gell. Yr oedd yn caru gweision yr Arglwydd, ac yn mwynhau'r fraint o godi allor ganddynt bob amser. Am ei ymddiswyddiad c'i fugeil- iaeth ar Ferea, gwelodd a chredodd mai eiddyled- swydd oedd rhoddi fyny ei ofal am fod ei gylch yn ehangu fwy-fwy bob dydd. Eglwys y Bryn yn parhau i gynhyddu, a phosibilrwydd am gynnydd aruthrol yng nghyindogaetli eglwys ieuanc ac annwvl Berea. Yr oedd ym Merea le i weinidog llawn o'r ysbryd Cenhadol, oher- wydd gwyddai am deuluoedd lawer tu; 11 an ac eisiau eu cael i mewn, ond nid oedd yuo neb i'w cymell. Diolchodd yn gynnes am y rhoddon gwyddai fod y dysteb wedi costio yn fawr iddynt. Dymunodd am heddwch ym Merea, ac am Iwydd- iant rhwng ei muriau. Terfynwyd y cyfarfod gan y Parch T. Orchwy Bowen, Ebenezer, Llanelli. I T. ORCHWY BOWEN.

Rhydymain.

Advertising