Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
UNDEB YSGOLION SABOTHOL YR…
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
UNDEB YSGOLION SABOTHOL YR ANNIBYNWYR CYMREIG. ARHOLIAD MA WRTH, 1915. DOSBARTH IV.—Maes y Llafur, Matthew (Rhail I.). Arholwr-—Parch T. Llynfi Davies, M.A., Aber- tawe. DOSBARTH ANRHYDEDDUS (100-85). '2262 Mary Harries, Nebo, Felindre (medal aur) 94 24x5 James Edwards, Bethlehem, Rhos (medal gold centre) 89 2259 Hugh Hughes, Smyrna, Llangefni (y drydedd wobr, 10/-) 88 DOSBARTH I. (84-60). Ni chyhoeddir enw yr un dan 65 o farciau. 2483 Olwen Davies, Saron, Ynyshir. 80 2764 Hugh Hughes, Moriah, ULanllyfni. 80 (Rhannwyd y 4edd a'r 5ed wobr rhwng y ddau uchod-6/3 yr un.) 2257 Catherine Thomas, Rhosymeirch, Mon 78 2608 Evan J. Jones, Bethlehem, Dihewid 77 2438 Ellen Blodwen Roberts, Penrhyndeu- draeth 75 2809 William Morgan, Godrerhos 73 2439 Griffith J. Jones, Penrhyndeudraeth.. 72 2308 T. R. Davies, Tabernale, Ynysybwl.. 71 2209 Maggie Pugh, Llanrhaeadr 70 2563 Tom C. Evans, Glyncollen, Hermon.. 70 2737 Miriam Owen, Soar, Nefyn 70 2671 Chrissie Jones, Seion, Conwy 70 2287 William Owen, Tabernacl, Mon. 69 2800 Mary J. Morgan, Jerusalem, Gwynfe 69 2309 William Williams, Tabernacl, Ynysybwl 69 2216 Annie Roberts, Pisgah, Penypyllau 69 2506 Robert O. Jones, Tabernacl, Lerpwl.68 2632 Sarah Jane Hughes, Saron, Llanwnda 68 485a Roderick Jones, Clifton-road, Birken- head 67 2658 May Williams, Llandudno Junction.. 66 2242 W. Alun Davies, Albion Park, Caer 66 2509 Owen Herbert Roberts, Tabernacl, Ler- pwl 65 2532 Edward Henry Denman, Grove-street, Lerpwl 65 2442 Annie Williams, Bwlchtocyn 65 Braidd yn siomedig yw gweled cynifer yn Nosbarth III. Priodolwn hyn i ddau beth (1) Esgeuluso'r Llawlyfr. Ychydig o werth mewii arholiad a llawlyfr i'r pwrpas yw atebiad tebyg i'r hyn geir ar y pryd yn yr Ysgol Sul, a cheir llawer atebiad felly ymhlith y rhai hyn. (2) Diffyg ymarfer ag ysgrifennu. Gallasai'r mwyafrif yn Nosbarth III. gyrraedd yr Ail Ddosbarth yn rhwydd pe bai eu hathrawon wedi trefnu arhol- iad neu ddau ar bapur iddynt ymlaen llaw. Awgrymwn hyn i athrawon yn y dyfodol. Papurau gwir dda yw y rhai anrhydeddus—y cyntaf yn eithriadol felly. Papur ardderchog hefyd yw Rhif 2438: trueni iddo fethu mynd dros bob cwestiwn. Addawol iawn oedd Rhif 2238, ond, diftygiod(I wedi ateb tin cwestiwu yn unig. Mae ymddygiad ambell ymgeisydd yn ddyryswch i arholwr yn ei -dro. Ar y cyfan dengys y papurau 61 llafur diwyd, ac hawdd casglu i'r mwyafrif elwa nid ychydig. Diddorol oedd sylwi ar farn bersonol yr ymgeiswyr ar Demtiad Crist nid oes nemor un yn ei dderbyu yn llythrennol. DOSBARTH III.-Maes y Llafur, Hanes Israel.' Arltolwr-Parch James Abel, B.A., Tyddewi. DOSBARTH ANRHYDEDDUS (100-85). 1391 Laura Jane Thomas, Gwersyllt (medal aur). 96 1287 Hannah Lloyd, Tabernacl, Ynysybwl (medal gold centre) 95 1692 Enid Catherine Owen, Soar, Nefyn (y drydedd wobr, 10/-) 92 1615 Maggie Jones, Carmel, Llanllechid (y bedwaredd wobr, 7/6). 88 1467 Kitty Lloyd Williams, Clifton-road, Birkenhead (y burned wobr, 5/-). 87 1563 Ebenezer Thomas, Bwlchygroes 85 DOSBARTH I. 1688 Jennie Griffiths, Pisgah 82 1462 Margaret Thomas, Marsh Lane, Lerpwl 80 1561 Elizabeth Ann Richards, Bwlchyrgoes 80 1614 Cassie Edwards, Carmel, Llanllechid.. 78 1403 John Smith, Bethlehem, Rhos 73 1543 Mary Davies, Seion, Llandysul. 72 1227 Edward A. Jones, Seion, Fflint. 72 1558 Ellen Jones, Brynrhiwgaled 71 1746 Margaret Anne Davies, Godrerhos 71 1542 John Daniel Lewis, Seion, Llandysul 70 1617 Jenny Williams, Bethesda. 70 1205 Lizzie Ellis, Pendref, Llanfyllin. 70 DOSBARTH II.Niaes y Llafur, HauesJ Ies'u Grist. Arholwr-.Pti,rch T. Well Jones, Croesoswallt. DOSBARTH ANRHYDEDDUS (100-85). 6II Hannah Davies, Seion, Llandysul (medal aur) 88 3 Owen Parry, Bethel, Arfon (medal gold centre) 85 DOSBARTH I. 613 Elizabeth Jones, Seion, Uandysul (y drydedd wobr, 10/-) 83 578 David Robert Emlyn Evans, Glyncollen, j Hermon 82 126 John Idris Lewis,! Berea, Mon s 79 132 Madge Jones, Carmel, Amlwch 77 774 Keturah Hughes, Salem, Bethesda 76 133 Nellie Griffiths, Carmel, Amlwch 76 I Maggie Williams, Bethel, Arfon. 75 131 Lizzie Owen, Carmel, Amlwch 74 187 Nellie Edwards, Bethania, Dowlais. 74 925 Edwin Pierce Rowlands, Llanbedrog.. 74 493 May Roberts, Martin's Lane, Lerpwl.. 73 130 Maggie Jones, Carmel, Amlwch 73 107 Bessie Edwards, Hebron, Mon. 71 885 Jennie Williams, Pisgah 71 367 David Bowen Davies, Tylorstown 70 391 Frank Rees, Bethesda, Ton. 68 772 Gwyneth Davies, Carmel, Bethesda 68 634 Rachel Thomas, Bwlchygroes. 67 336 Alice Ellis, Bethlehem, Rhos 66 777 Jennie Griffiths, Salem, Bethesda. 66 765 David Evans Davies, Bethel, Dolwydd- elen 65 j;* 2 Ettie May Hughes, Bethel, Arfon. 65 B. D. DAVIES, Ysg. Carmel, Gwauncaegurwen.
YSTADEGAETH, &c. -I
News
Cite
Share
YSTADEGAETH, &c. I At Olygydd Y Tyst. I SYR,—Diolch i chwi am eich adolygiad teg, cywir a gonest ar gyfarfodydd yr Undeb ym Merthyr. Yr oedd popeth ynglyn a'r Undeb yn llonder calon i bob Annibynnwr—y croesaw siriol a chynnes a gafwyd gan bobl garedig y dref, y cyfarfodydd lliosog, a'r pregethau a'r areithiau athrylithgar ac efengylaidd, a'r gras mawr oedd ar y cyfan. Ond fel y nodwch, er mor rhagorol ydoedd yr Undeb ym Merthyr, yr oedd iddo ei ddiffygioii. Ni ddywedwyd fawr ddim am y rhyfel codai hynny, nid o ddiffyg teimlad, ond o ddifiyg meddylgarwch y Cyngor. Rhwydd y gallasai y Cyngor drefnu, ar ol ariath y Cadeirydd, i wneud datganiad cryf o'n hedmygedd o'r miloedd dynion ieuainc ein Henwad sydd wedi gwneud aberth mor fawr er mwyn eu gwlad a'u cenedl, ac hefyd rhoddi mynegiant ffurfiol o'n cydymdeimlad dwfn ag ugeiniau a channoedd o'n haeloldau trallodus a hiraethus oblegid difrod y rhyfel ar eu hanwyl- iaid.' Buasai datganiad felly yn cyffwrdd 'a'r realities sydd yn gwasgu arnom o bob cyfeiriad y dyddiau hyn. Ond, fel y dywedwch, y peth mwyaf digalon yn yr holl Undeb oedd yr ystadegaeth.' Eithaf gwir a'r hyn sydd yn gwneud y ffaith yn dor- calonnus ydyw mai dyna'r peth mwyaf digalon yn Undeb pob enwad efengylaidd eleni. Yng Nghynhadledd y Wesleaid yn Birmingham yr wythnos o flaen yr Undeb ym Merthyr, cwynid yn fawr yno yn herwydd lleihad o filoedd yn rhif aelodau Ysgol Sul y Cyfundeb yn ystod y flwyddyn a chyfrifid fod y lleihad yn rhif aelodau Ysgol Sul y Cyfundeb yn ystod y deng mlynedd diweddaf yn 90,618. Yn sicr dylai y ffeithiau hyn, fel y uodwch, gynhyrfu a chyffroi pawb ohonom,' canys mai y disgyniad parhaus a geir yn ein hystadegau flwyddyn ar ol blwyddyn yn fynegiad o rhyw gancr sydd yn bwyta ein nerth o'r golwg, ac i raddau heb yn wybod i ni.' Eithaf gwir mae y cancr yma. Ac os nad wyf yn camsynied yn fawr, un o achosion y clefyd ydyw y sain anhynod a rydd y pulpud heddyw—sain nad yw yn dychrynnu y gelyn nac yn paratoi y saint i ryfel. Mae'r hen sain efengylaidd oedd yn argyhoeddi'r byd ac yn cynhesu calonnau pobl Dduw i ddiolch am rad ras wedi distewi i raddau helaeth iawn. Sonnir mwy yn y pulpud heddyw am y ddaear nag am y nefoedd-am evolution nag am drefn gras-am Sosialaeth nag am gymdeithas y saint, a dyfynnir y beirdd Seisnig yn fynychach nag adnodau'r Beibl, a rhoddir mwy o bwys ar ddamcaniaethau dynion nag ar wirioneddau mawr Gair Duw. Traethu yr higher critical views yw nod blaenaf lliaws o bregethwyr, a chanmolir hwy i'r cymylau gan y wasg grefyddol a eilw ei hun yn rhydd- frydig. Dywedai y Christian Worlh yr wythnos o'r blaen Things move. Dr R. Waddy Moss stated from the Presidential Chair of the Wes- leyan Conference that the theological difficulties of forty years have been either partially solved or wholly disentangled by two main factors- the application of the formula of evolution to Scripture, and the application of the doctrine of the immanence of God.' Yna dywed yn wawdlyd am yr hen bobl dda—' who thought it sinful to advance beyond where John Wesley stood as the modern way of spelling Satan.' Yr oedd John Wesley yn sefyll wrth ochr Pau a Iesu Grist, ac fe gasglodd y defaid cyfrgoll- edig wrth y miloedd i'r gorlan. Yr oedd ei bregeth yn sillebu Duw a bywyd tragwyddol i'w wrandawyr a phob amser yn hanes yr Eglwys pan y mae y pregethwr yn symud oddiwrth Iesu Grist a'i ddehonglydd Paul, sillebu Satan y mae. Dywed Canon Wilson am ei athraw- iaeth It is Christianity gone to seed in formal- ism and dogmatism ar canlyniad yw seti gwe-gioil, Yn y pulpud He traddodir y gwir- ionedd fel y mae yn yr Iesu gyda'r difrifwch sydd yn gweddu i'r Efengyl, nid oes seti gweigion yn yr addoldy hwnnw, os bydd poblogaeth yn yr ardal. Mae y Parch William Sunday, trwy bregethiad gonest a di-dderbyn-wyneb o'r Efengyl, wedi ennill dros 400,000 o eneidiau at Grist mewn ychydig flynyddoedd. Nid yw'n rhyfedd fod y bobl yn ei alw Elias yr Ugeinfed Ganrif.' Mae dysg a dawn a thalent y pulpud heddyw yn ddisglair iawn, ond mae'r werin a'r miloedd sydd yn newynnu am fara'r bywyd yn troi ymaith yn siomedig pan gynygir iddynt gerryg yn lie bara, a seirff yn lie pysgod. Pan y daw pulpud ein gwlad unwaith eto i bregethu Crist a'i Groes, fe dynnir y myrddiynau at Iesu ddyrchafwyd rhwng daear a lien, a bydd yr amhlantadwy yn lawen fam plant. ANTHROPOS.
GALWADAU.
News
Cite
Share
GALWADAU. CLIFTON-ROAD, BIRKENHEAD— Da gennym ddeall tod, y Parch J. J, Roberts, B.A. gwein- idog eglwys Seisnig Tynewydd, Cwmogwy, wedi derbyn gwahoddiad untrydol oddiwrth yr eglwys uchod i'w gwasanaethu yn yr Ar- glwydd, a bwriada ateb yn gadarnhaol. Mae Mr Roberts yn adnabyddus trwy Dde a Gogledd Cymru am ei fedr pregethwrol yn y ddwy iaitb, a gyndod yw na fyddai wedi ei gipio cyn hyn. Yn ddiweddar eymerodd ym- geledd gymwys iddo ei hun ym mberson boneddiges lednais o fang'e ei febyd- Porthmadog. Llwyddiant. Bydd Mr Roberts yn decbreu ar ei weinidogaeth yn Birkenhead y Saboth cyntaf yn Hydref.
Advertising
Advertising
Cite
Share
DAVIES'S COUGH MIXTURE PESWCH I PESWCH i'i 1 r"I(i i neb otni canlyniadau Anwyd a Ptleswc b ond gofalu fod potelaid o Davies's Cough Mixture yn y ty. Bydd pob dyn yn feddyg i'w denlu at holl anhwy!- derau y Gwddf a'r Frest, os bydd Davies's Oougb Mixture wrth law. ? mae miloedd lawer wedi cael iacfaad ac yn gwneud au goreu i'w gymell ar eraill sydd yn dioddef. Ni raid oymeryd ond UN Dos's er profiei ddylauwad utjion- iongyrohol er rhyddhau y Phlegm, yn clirio y Llais, yn cynhesu Be yn cryfhau y Frest, gan weithio pob luwyd a Chrygni ymaith. DAVIES'S COUGH MIXTURE at BESWCH. DAVIES'S COUGH MIXTURE AT ANWYD,; DAVIES'S COUGH MIXTURE !jot ASTHMA. Os gwyddoch am rywun YI1 dioddef oddiwrth >?o a Bronchitis, anrhegwoh ef a photelaid o OOUGH MIIL T* RB HUGH DAVIBS, ao fe'ch bendithio ryw ddydd. Is lie a 2s 9c y botel. HUQH DAVIES, OMMOD,