Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

<>-<>-<>-<>--:>0-<>-0-<>-<><><>-<>-<>-<>--<>…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

<>-<>-<>-<>- -:>0-<>-0-<>-<><><>-<>-<>-<>- -<> I Y WERS SABOTHOL. tt A A v I t Y WERS RYNQWLADWRIAETHOL. [ 9 Gan y Parch. D. OLIVER, D.D., t TREFFYNNON 0 Awst 22am.—Teyrnasiad Daionus Asa.—2 Cron* xv. 1-15. Y TEvSXyn Euraidd.—' Neshewch at Dduw, ac Efe a nesha atoch chwi. Glauhewch eich dwylaw, chwi bechaduriaid; a phurwcli eich calonnau, chwi a'r ineddwl dau-dclyblyg. [ago iv. 8. Rhagarweiniol. ASA ydoedcl tab ac olynydd Abiam, brenin Judah. Teyrnasodd am 41 mlynedd. lir ei ddwyn i fyny gan fain eilunaddolgar, eto daeth yn addolwr cywir o'r gwir Dduw. Treuliodd. fore ei deyrnasiad yn ganmoladwy a llewyrchus iawn, ond llai disglair ydoedd tua'i therfyuiad. Dywedir am dano-' Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, fel Dafydd ei dad.' Y mae yii debygol ei fod wedi esgyn i'r orsedd pan yn ieuanc, a'i fod wedi ei ddwyn dan ddylanwad addysg yr offeiriaid. Trwy hyn gwrthweithiwyd dylanwad addysg ei fam arno. Gorchmynnodd i Judah geisio Arglwydd Dduw eu tadau. Bwriodd ymaith o holl ddinasoedd Judah yr uchelfeydd a'r delwau. Adeiladodd ddinasoedd caerog ar y terfynau, a chasglodd fyddin liosog o Judah ac o Benjamin, a chafodd y wlad lonyddwch am flynyddoedd. Ond ymhen rhai blynyddoedd (nid oes sicrwydd pa nifer) daeth Zerah yr Etliiopiad a llu mawr o wyr a cherbydau yn ei erbyn, a lluniaethasant ryfel yn nyffryn Sephathah wrth Maresah. Cyn y frwydr trodd Asa at Dduw mewn gweddi, a gofynnodd am ei gynhorthwy- Canys,* meddai, pwyso yr ydym ni arnat Ti, ac yn Dy enw Di y daethom yn erbyn y dorf hon 0 Arglwydd, ein Duw ni ydwyt Ti, na orfydded dyn i'th erbyn.' Atebwyd ei weddi. Tarawodd yr Ar- glwydd yr Bthiopiaid o flaen Asa, ac erlidiwyd hwy hyd Gerar, a daethant i feddiant o anrhaith fawr. Dychwelasant i Jerusalem yn fuddugol- iaethus. Yr adeg yma daeth Azariah mab Oded a chenadwri oddiwrth yr Arglwydd at Asa a holl Judah a Benjamin. Esboniajjol. Adnod 1. Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Azar- iah mab Oded.' Vsbryd Duw. Yr oedd yr Ysbryd Glan yn dylanwadu ar feddyliau a chal- onnau dynion yn adeg yr Hen Destament (gwel 2 Cron. xx. 14, xxiv. 20 2 Pedr i. 21). Azariah. Ni wyddom ddim am y proffwyd yma ond yr hyn gofnodir yn y bennod hon. Amcan ei genad- wri ydoedd cefnogi a gwroli Asa. Adnod 2. Ac efe a aeth allan o flaen Asa, ac a ddywedodd wrtho, 0 Asa, a holl Judah, a Benjamin, gwrandewch fi; Yr Arglwydd sydd gyda chwi, tra fyddoch gydag Ef ac os ceis- iwch Ef, chwi a'i cewch Ef ond os gwrthodwch chwi Ef, yntau a'ch gwrthyd chwithau.' Ac efe a aeth allan 0 flaen Asa. Neu, i gyfarfod Asa. Yr oedd Asa a'i fyddin yn dychwelyd ar ol ennill buddugoliaeth ar lu yr Ethiopiaid. Yr Arglwydd sydi gyda chwi. Y mae y genadwri yn rhybudd yn gystal ag yn anogaeth. Gosodir i lawr yr amodau ar ba rai y gellir disgwyl amddiSyniad Duw. Nis gall neb ddisgwyl amddi- ffyniad Duw os nad ydyw yn ufudd iddo ac! yn ymddiried ynddo. Os ceisiwch Ef, chwi a'i I cewch Ef, Cymharer Matt. vii. 7. Gwirir y gwirionedd hwn yn fynych yn hanes y genedl etholedig. Y rhai yn eu calonnau a 'ti hym- ddygiadau a wrthodant yr Arglwydd, a wrthodir ganddo yntau. Y peth gwaethaf a all ddigwydd i ddyn neu genedl ydyw cael eu gwrthod gan yr Arglwydd. Adnod 3.—' Dyddiau lawer y bu Israel heb y gwir Dduw, a heb offeiriad yn ddysgawdwr, a heb gyfraith.' Dyddiau lawer y bit Israel heb y gwir Dduw. Wrth gymeryd yr adnod hon mewn cysylltiad a'r bedwaredd adnod, gellir tybied mai yr ystyr ydyw eu bod lawer gwaith wedi bod heb y gwir Dduw ond pa bryd bynnag y troisant afo yn edifeiriol, y cawsant Ef. Heb offeiriaid. Yr oedd ganddynt offeiriaid vu was- tad, ond yn ami yr oeddynt yn anffyddlon, ac oherwydd hynny nid oedd y bobl yn cael eu dysgu yn y gyfraith. Adnod 4.—' Ond pan ddychwelent yn eu cyf- yngdra at Arglwydd Dduw Israel, a'i geisio Ef, Efe a geid ganddynt.' Ond pan ddychwelent yn eu cyfyngdra. Y mae teyrnasoedd a phobl yn dneddol i anghoiio Duw ond pan ddaw cyfyng- dra a chaledi, troant yn aiiil at Dduw i ofyn am ymwared. Adnod 5. Ac yn yr amseroedd hynny nid oedd heddwch i'r hwn oedd yn myned allan nac i'r hwn oedd yn dyfod i mewn ond blinder lawer oedd ar holl breswylwyr y gwledydd.' Ac yn yr amseroedd hynny. Yr adeg pan oedd cyfraith Duw yn cael ei hangliofio a'i diystyrru. Nid oedd heddwch. Nid oes heddwch i'r annuw- iol. Er llwyddo yn allanol, oddimewn blinder. Hyn yn wir am genhedloedd yn gystal a pher- sonau. Adnod 6.—' A chenedl a ddinistriwyd gan genedl, a dinas gan ddinas oblegid Duw oedd yn eu poeni hwy a phob aflwydd.' A chenedl a ddinistriwyd. Neu a ddrylliwyd. Yr oedd Judah ac Israel yn barhaus mewn rhyfel a'u gilydd. Dinas gan ddinas. Y11 amser y Barn- wyr cawn fod dinasoedd yn ymosod ar eu gilydd. Oblegid Duw oedd yn eu poeni hwy. Hynny yw, caniatai Duw hyn fel barnedigaeth am eu pecli- odau. Adnod Ymgryfhewch gan hynny, ac na laesed eich dwylaw canys y mae gwobr i'cli gwaith chwi.' Ymgryfhewch gan hynny. Yn wyneb ymwneud Duw a'i bobl yn yr amser a aeth heibio yr oedd ganddynt achos i ymgalonogi a gweithredu ffydd yn Nuw. Sicrheir hwy fod gwobr i'w gwaith. Adnod 8. A phan glybu Asa y geiriau hyn, a phroffwydoliaeth Oded y proffwyd, efe a gryf- haodd, ac a fwriodd ymaith y fiiaidd eilunod o holl wlad. Judah a Benjamin, ac o'r holl ddinas- oedd a enillasai efe o fynydd Ephraini, ac a aclnewyddodd allor yr Arglwydd, yr hon oedd a flaen porth yr Arglwydd.' A phan glybu Asa y geiriau hyn, a phroffwydoliaeth Oded. Diau mai yr un proffwyd a olygir a'r hwn y cyfeirir ato yn adnod i. Y mae'n amlwg fod yr ymadrodd. 'Azariah mab wedi ei adael allan. Ete a gryt- haodd. Cryfhaodd geiriau y proffwyd ei ben- derfyniad. Yr oedd eisoes wedi cael buddugol- iaeth ar yr Bthiopiaid trwy gynhorthwy yr Arglwydd. Y mae yn ymroddi yn fwy llwyr i fwrw ymaith y fiiaidd eilunod o holl wlad Judah a Benjamin. Ac o',y holl ddinasoedd a enillasai efe. Teimlai Asa fod. ei gyfrifoldeb yn vmestvn i'r dinasoedd a enillasai. Yr oedd ei dad wedi ennill oddiar Israel y dinasoedd Bethel a Jesanah (2 Cron. xiii. 19). 0 fynydd Ephraim. Sef yr ucheldiroedd oedd yn perthyn i lwyth Ephraim. Ac a adnewyddodd allor yr Arglwydd. Golygir yr allor bres (gwel 2 Cron. iv. ii). Adnod 9. Ac efe a gynhullodd holl Judah' a Benjamin, a'r dieithriaid gyda hwynt, o Eph- raim a Manasseh, ac o Simeon canys hwy a syrthiasant ato ef yn ami o Israel, pan welsant fod yr Arglwydd ei Dduw gydag ef.' Ac ele a gynhullodd holl Judah a Benjamin. Dyma'r llwythau oedd yn gwneud i fyny deyrnas Judah. Galwodd Asa y llwythau hyn er mwyn cael eu cefnogaeth i'r diwygiadau yr oedd wedi pen- derfynu arnynt. A V dieithriaid. Y rhai yn Israel a gefnogent ddiwygiadau Asa yn Judah. Daethent drosodd o Israel i Judah am y gwelent fod yr Arglwydd ei Dduw gydag ef. Yr oedd yr. Arglwydd gydag ef am ei fod ar ochr gwir- ionedd a chyfiawnder, ac yn gwrthwynebu eilun- addoliaeth. Adnod 10.—' Felly hwy a ymgynullasant i Jerusalem, yn y trydydd mis, yn y bymthegfed flwyddyn o deyrnasiad Asa.' Felly hwy tt yrn- gynullasant i y??MA-a/g?. Ymgasglasant ar wyl y Pentecost, ddeng niwrnod a deugain ar ol y Pasg, yn y bymthegfed flwyddyn o deyruasiad Asa. Adnod 1 i .—' A hwy a aberthasant i'r Ar- glwydd y dwthwn hwnnw, o'r anrhaith a ddyg- asent, saith gantoeidionau, a saith mil o ddefaid.' A hwy a aberthasant i'r Arglwydd. Aberthasant aberth diolehgarwch </r anrhaith a ddygasent. Adnod 12.—' A hwy a aethant dan gyfamod i gaisio Arglwydd Dduw eu tadau, a'u holl galon, ac a'u holl ena d.' A hwy a aethant dan gyfamod i geisio. Yr oedd y bobl wedi sylweddoli eu hangen. Ofirymasant offrymau, a gwnaethant gyfamod i geisio yr Arglwydd. A'u holl galon ac a u holl enaid. Hyn yn golygu en bod o ddifrif yii ceisio, ac felly eu bod ynllwyddiannusj Adnod 13. A phwy bynnag ni cheisia. Arglwydd Dduw Israel, fod ei roddi ef i farw- olaeth, yn fychan ac yn fawr, yn wr ac yn wraig.' A phwy bynnag ni cheisiai Arglwydd Dduw Israel. Yr oedd eu penderfyniad mor ddwfn fel na fynnent oddef eilunaddoliaeth. Adnod 14.—' A hwy a dyngasant i'r Arglwydd a lief uchel, ac a bloedd, ag utgyrn hefyd, ac a thrwmpedau.' A hwy a dyngasant i'r Arglwydd a lief uchel. Y maent yn cadarnhau y cvfamod gyda llw, a hynny inewn Ilef uchel, fel rhai oedd yn ymwybodol eu bod yn gwneud yr hyn oedd iawn. Otgyrn. Cyrn ceimion. Trwmpedau. Cyrn union. Adnod 15. —' A holl Judah a lawenychasant oherwydd y IIN), canys a'u holl calon y tyng- asent, ac a'u holl ewyllys y ceisiasant Ef, a hwy a'i cawsant Bf a'r Arglwydd a roddodd lon- yddwch iddynt o amgylch.' A holl Judah a 1 lawenychasant. Yr oedd y bobl wedi gwneud eu rhan, ac yr oedd Duw wedi cyflawni Ei addewid. Yr oedd yn naturiol i'r bobl fod yn llawell. Y mae llawenydd yn rhan fawr o wir grefydd. Gofyniadau AR Y WERS. I. Euwch y brenhinoedd a fu N" ti teyrnasu yn Judah o flaen Asa. 2. Pwv oedd Asa ? Beth ddywedir am ei gymeriad. ? 3. Pwy oedd y brenin yn Israel yr adeg yma ? Beth ddywedir am dano ? 4. Pwy oedd y proffwyd anfonwyd at Asa ? Beth oedd natur ei genadwri ? 5. Nodwch y ddau beth neilltuol a fu yu foddion i galonogi Asa ? 6. Pa waith mawr ac arbennig yr ymgynier- odd Asa ag ef ? 7. Beth oedd ei amcan wrth alw y cynkulliad i Jerusalem ? Pa aberthau a aberthwyd i'r Arglwydd y dwthwn hwnnw ? 8. Pa gyfamod a wnaeth y bobl ? Pa fodd y dangosasant eu gwirioneddolrwydd ? 9. Beth oedd teimladau y bobl ? Pa resyman oedd ganddynt dros fod yn llawen ?

Advertising

Y mae gan Ferthyr ei Hatebiad.