Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

0 FRYN I FRYN.I - j

News
Cite
Share

0 FRYN I FRYN. 'Billy Sunday' a Phwy ? YR ydym newydd gerdded yn frysiog dros fywdraeth o'r dyn rhyfedd hwn. Y mae iddo ei enw priodol, ac mae ganddo ei D.D. ond mae r wenn, wrth ei alw yn Billy Sunday,' wedi rhoi iddo enw mwy priodol na'i enw bedydd ac ach. Troer ef i Sunday Billy,' a rhoddir arbenigrwydd ar y crefyddwr neu dar- llener ef, fel y gwneir gan yr American- iaid, yn Billy Sunday,' a rhoddir arbenig- rwydd ar y dyn. Er ei fod yn Billy mawr, eto Billy Sunday ydyw i gyd. Y mae ei ysbryd a'i gymeriad yn llawn o Sunday.' Ac mae yn Billy yn a thrwy y cwbl. Y mae bron yn ddireol o bd fel dyn, ond er hynny mae'r Sunday' ynddo mor amlwg a'r Billy.' Aflonyddid ni ar hyd ein taith dros ei fywgraffiad gan yr ym- chwil am ei gyffelyb o blith yr hen Gymry. Ië, bid sicr, o blith yr hen Gymry oblegid, yn yr oes oleu hon, nid cuwch cwd a ffetan ydyw, ond yr un faint cwd a ffetan; a mynych, mynych, mwy yw'r cydau na'r ffetanau. Y cyntaf a ddaeth dros ein llwybr i'w gyferbynnu a Billy Sunday oedd Dafydd Ifans, Ffynnonhenri ond pan welodd Dafydd Billy, gwladeiddiodd ar ei union, ac aeth i'w ffordd yn ddistaw bacli. Yn dilyn Dafydd wele Jenkyn Thomas (Sien- cyn Benhydd) o'n blaen. Daliai Siencyn ei dir am dro, a diddorol y cymharai ger- winder y naill a gerwinder y llall-ac aeth Y Cymro a'r flaenoriaeth ar yr Yanci ond cyn hir, yn ei yswilder, aeth o'r golwg. Yr unig un a arhosodd gydg ni ar hyd yr yrfa ydoedd Ifan Dafydd Ifan, sef Ifan Tyclai o Lanfynydd, sir Gaerfyrddin. Sir yn iawn yw sir Gaerfyrddin am ei dynion smart. Un rhyfedd oedd yr Ifan hwn. Yr oedd Billy yn sefyll yn syn wrth edrych ar Ifan. Hawdd yw credu fod Billy yn fwy trwsiadus nag oedd Ifan. Gwisga Billy yn ffasiynol, ac mae 61 gofal dros ei wedd o'i goryn i'w garn. Y mae yn ei ddiwyg lanwedd a da yn hollol addas eistedd yng nghadair parlwr y Ty Gwyn. Elthaf gwr bonheddig ydyw Billy Sunday. Cystal yw ei olwg a Roosevelt a Wilson, a gwell na hwy ydywjiefvd. Ond am Ifan Dafydd Ifan o Lanfynydd, yr oedd ef a Jenkyn Thomas (Siencyn Benhydd) am y lrlwyaf gwreiddiol yn eu het a'u cot a'u trowsus, a bid sicr yn eu cadach gwddf. Nid yw yn syndod, felly, mai Ifan druan fu n foddion i droi Siencyn ac mor debyg y bu'r mab i'r tad! A welwch chwi Ifan yn inynd at ei gyhoeddiad ar fore o haf ? Dacw fe ar gefn ebol melyn, a hwnnw mor arw ei flewyn a phe buasai newydd ei gymeryd oddiar goryn uchaf y Mynydd u. Ni welodd y Cothi a'r Tywi a'r Graig lea olygfa ryfeddach na gweld Ifan Dafydd ar ei anifail yn mynd i'w gyhoedd- iad. Brawychai y plant, ae aethau lloi bach y caeau yn benwan neidient ar draws a thros eu gilydd, ac i'r ffos a'r berth a thueddid pobun anghyfarwydd ag ef i ddweyd wrtho yr hyn ddywedodd un wrth Thomas John o Gilgeran. Y mae yn rywfath o ddillad i gyd o'i drwyn i'w draed, a deuai ei het i lawr dros ei glustiau, wrth gwrs mwfflai ei wddf a chadach coch a glas, neu goch a du. Wrth ei weld yn mynd, anodd gwybod pa un ai efe ynte'r ceffyl sydd yn mynd. Ar un olwg y mae efe yn mynd mwy na'i geffyl, er ei fod ar ei gefn, oherwydd mae ei goesau ar led a'i freichiau ar led a chan ei fod yn meddwl ei bregeth, aiff ei freichiau yn gyflymach a throedia y ceffyl yn amlach a rhwng popeth fel hyn, buasai yr ebol melyn un adeg ar y dde ym mon clawdd, wedyn ar y chwith, ac ar ol hynny yn croesi'r ffordd neu yn ceisio am ryw gae. Dyna oedd Ifan Dafydd yn ei droad allan, ond nid dyna yw Billy Sunday. 0 nage. Os mai Billy ydyw, y mae yn Sunday i gyd hefyd. Gwisga eithaf dillad parch, ac mae ei geffyl teithio yn llawer mwy graenus ac ysgafndroed nag eiddo Ifan Tyclai.' Y mae Billy yn eithaf bonheddwr Americanaidd ar orsaf ar ac lwyfan. Mewn rhai pethau mae'r ddau gymeriad hyn yn ddifyr o gyffelyb i'w gilydd. Creadur aflonydd iawn oedd IFAN DAFYDD IFAN. Pregethai lawer mewn tai ar lawr y gegin fawr. Nis gallesid ei fentro i ben ystol. Pe gwnaethid hynny, cawsai efe neu'rystol neu'r ddau lawr cyn pen hanner munud. Cerddai lawer wrth bregethu, Buasai ger- llaw'r tan un eiliad, a'r nesaf buasai wrth y ffenestr, a'r nesaf buasai wrth y seld, a chrynai gwraig y ty rhag iddo daro ei llestri dangos a'r eiliad nesaf buasai ger- llaw'r drws, fel pe am eu gadael gyda'u gilydd. Siaradai a cherddai am y cyf- lymaf. Braidd y cymerasaiamseri anadlu yiilbriodol. Unwaith y dechreuai siarad a cherdded, y nefoedd ei hun a wyddai pa bryd y terfynai a pha le y safai. Awr o fynd diorffwys fuasai ei wasanaeth- droed a thafod, law a llun. Dacw fe mewn odfa. Saif yn syn a gwyllt ei olwg. Edryeha oddiamgylch ar ryw ddarluniau ffansi oedd ar y muriau. Ni ddywed air. Saif a'i wyneb ar ddrws agored y ty. Y mae'r llawr yn orlawn. O'r tuallan gorffwysa haid o wyddau, ac yn sydyn wele lais o ddistawrwydd poenus yr odfa—' Yshw, yshw, yshw.' Distaw- rwydd dwfn eto. Ar hynny gwaeddai rhywun o'r bobl: Beth s' arnoch ch'i, gwedwch ? Caewch y drws 'na, He bo'r gwydde'n stopo'r prygethwr.' Aeth y gwas allan i yrru'r gwyddau ymhell. Dechreu- odd Ifan lefaru, a symud, ac:.edrych_ar y darluniau oedd o gylch ac yn ddisymwth I gwaeddai eilwaith—'Yshw, yshw, yshw." Mae'n debyg fod gwyddau yn y dar- luniau fel ar y buarth, a rheiny o'r de- chreu flinai Ifan. Pregethai yn gynhyrfus ac ofnadwy. Safai o flaen ei wrandawyr, un ar ol y Hall. Dadleuai bob un ohonynt i gol.' Llygadrythai yn eu hwynebau, a chaeai ei ddyrnau arnynt fel pe, yn mynd i ddryllio eu penglogau. Symudai yn ol ac aethai ymlaen. Plygai, sythai, ysgyrnygai ddannedd, ysgrechai a gwaeddai ac, fel rheol, cawsid diwedd ei odfeuon yn hindda a haf wedijfgwlaw mawr a chenllysg. A dyma yw Billy Sunday ar ei hyd. Unwaith y saif ar ei draed geill ganu yn eithaf priodol, Nid oes aros, nid oes orffwys mwyach.' Dywedir ei fod yn traf- aelu tua milltir ymhob pregeth. Ar y teithiau rhyfedd hyn gwna bob ystum a golwg arno ei hun-yn rhedegwr, yn ym- godymwr, yn ymladdwr, yn bel-chwareu- wr, yn streglyn, yn bopeth ac yn bawb, i fyny o'r clown i'r sanct sobraf. Gyda hyn tery ei ddwylaw yn eu gilydd, teifl ei ddwylaw i'r awyr fel pe yn hela ieir bach yr haf, saif o flaen ei wrandawyr i groesddadleu a hwy ac i'w dwrdio, a deil ei ddwrn trwm o'u blaen, gan ddifrio a bocsachu a herfeiddio a thery ei ddwrn ar y bwrdd nes bo'r bwrdd yn crynu ac yn symud o'i le. Ni cheid Ifan Tyclai i fynd i ben cadair ar un cyfrif ond mae Billy o hyd naill ai ar ben cadair, neu mae'r gadair ar ei ben ef. A sieryd ar bob eiliad fel cornant y mynydd ar wlaw mawr—'And I say to you, girls, don't go with that Godless, sneering young man that walks the streets smoking cigarettes. But you say, you will marry him and reform him. He would not marry you to reform you. Don't you go with that young man. Don't you go to that dance. That's why we have so many whip-poor- wills widows. They married some of these mutts to reform them. Girls, when some young fellow comes up and asks you the greatest question next to your salvation, what will you say ? 0, it is soisudden." That's all bluff. You have been waiting for it all the time.' I don't care a rap whether you like this or not. You take it or go to hell.' God likes a little humour, as evidenced by the monkey and the par- rot, and some of you people.' Dyna i ti, ddarllenydd, drem ar Billy Sunday a pha ryfedd i rywun ddweyd ar ol ei wrando How muchllike a preacher, and how little like a man ? Ac efe yw y siaradwr MWYAF POBLOGAIDD a fedd y byd ar hyn o bryd. Y mae ei ddawn yn gryfach na swn y rhyfel yn America. LlYllca iddo ei hun, fel rhyw drobwll anferth, swyn holl chwareudai a darlundai a phleserdai ac addoldai America