Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

RICHWOOD, OHIO

News
Cite
Share

RICHWOOD, OHIO Gan Evan T. Jones Rhyw ddau fis yn ol, neillduwyd di- wrnod gan bobl y dref hon a'r cymydog- aethau cylchynol i roesawu y bechgyn ag oedd wedi eu rhyddhau o'r fyddin a'r llynges yn ol i'w cartrefi, ac i blith eu cyfoedion. Yr oedd y tywydd yn bobpeth a allesid ddymuno, a chafwyd gorymdeithiau gan y bechgyn yn eu dillad milwrol—rhyw ddau gant o hon- ynt; trigolion y dref a'r cylchoedd, a phlant yr ysgolion, yn nghyd a cherdd- oriaeth offerynol a lleisiol, ac areithiau gan rai o swyddogion y Rainbow Divi- sion, i ba adran o'r fyddin yr oedd y milwyr o'r parthau hyn yn perthyn. Siaradodd Major Mclvor (Medical Corps), Major Henderson (Field Ar- tillery), a Captain Beightler (Engineer- ing Corps), a gellir dweyd i'r bechgyn hyn weled golygfeydd a myned trwy gal- edi fel nad ydynt am son am dano. "We want t(/forget it," meddent i gyd. Yr oedd y bobl yma wedi cyfranu di- gonedd o/fwvd o bob math, a'r merch- ed a'r gwragedd wedi ei barotoi, fel y cafwyd ciniaw ardderchog o wala a gweddill i bob un, a rhyw ddeg-ar-hug- ain o'r hen filwyr (1861-65) yn honored guests yn eu canol. Ar ol hyn, cafwyd athletic sports o wahanol fathau, ac yna Ford oto race, nid am v cyflymaf, ond yr arafaf-can Hath ar brif heol y dref; amryw yn eu gorawydd i gau lawr ar y "speed," fel y dyn yn rhoi pwt i'r falwoden, yn sef- yll yn y fan hono; buasai hyny yn ei gau allan, gan nad oedd ail gychwyn i fod; fel o tuag wyth neu ddeg yn cych- wyn, buasai un neu-ddau yn lkisgo fewn dros y marc ac yn derbyn ei wobr—tin whistle, neu rhywbeth fel hyny. Yn sicr, parodd hyn ddifyrwch neillduol. Terfynwyd gyda dawnsfa ar y paved streets, y rhai oeddynt wedi eu cau i fewn at hyny, hyd tuag un-ar-ddeg o'r gloch, pan y cauwyd y goleu allan, ac aeth pawb i'w cartrefi wedi dydd o bleser a mwynhad. Un peth arall yn nglyn a hyn, yr oedd yn bregeth ddirwestol ddylanwadol ag y gallesid edrych arni; dim saloons; neb o dan effaith y ddiod; dim gan yr heddgeidwaid i wneyd ond cadw'r plant, a phobl mewn oed hefyd o ran hyny, allan o berygl; pawb yn ymddwyn yn foneddigaidd, ac yn mwynhau eu hunain fel y trodd y cwbl allan yn llwyddiant I mawr.

BANGOR, SASK., CANADA I

Advertising

COTTER, IOWA I

Advertising

I NEWPORT NEWS, VA.

Advertising

AMRYWION 0 SHAMOKIN, PA.I

[No title]

Advertising

MANION 0 MINNESOTA____

Advertising