Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
851 Y DR YCI-I, 1919 Newydditdor Cenedlaethol Cyiiotddtdig Bob Dydd 1M A y Talaethan Unedig$2.00 ib T Canada c Chymru, to] yu ■ iwlnw Daw yn ddiekhriad_$2.50 <'mADES ??"  OUN?   fYSBYSIADAU am Brisiaa Rhe- wmol. Anfoner am ein TeleraH. vNFONER ARIAN mewn Poet Ofllea Order, Registered Letter mmm mewn Draft ar New York taladwy I*r parchenog- Thomas J. Griffiths & Sons, Drych Office, Utica, N. Y. AT EN GOHEBWYR Er arbed trafferth rr elere yn y iwyddfa cyfeirier pob gohebiaeth phob taliadau i*r "Drych" a'r 'Cambrian" a'r rhai hyny yn tnig, i Thomas J. Griffiths & Sons, Jtica, N. Y.
[No title]
Y mae amryw leoedd y mae athraw- In ac athrawesau yn son am streicio; c yr ydym yn siwr fod y plant yn lawenhau. Y mae y plant yn siwr o *oi pleidlais dros y mudiad; a'r perygl aesaf, wedi i'r athrawon a'r athrawesau fyned at eu gwaith, yw i'r plant fyned ar streic! Dywedir fod rhyw un tebyg iawn i Lloyd George yn Llundain, a chamgy- merir y naill am y llall, ac awgryma rhai y dylai D. Ll. G. wisgo barf; ond wedi'n ofnir pe y gwnai hyny y cymerid ef am ryw Bolshefic Rwsaidd. Y mae perygl i'r byd hwn fyned i ryw dryblith rhwng y naill beth a'r llall. Hyderir y down drwyddi gyda phwyll a gofal. Y mae ein llywodraeth wedi bod yn wan ac yn llac yn nglyn a gweinyddiad cyfiawnder a threfn gwladol. Bu Ellis Island, New York, dan ddwylaw brad- wyr tramorol, a gallai pob math o gyth- rymiaid ddod i fewn a dianc fel y myn- ent. Yr oedd y swyddogion (rhai o hon- ynt) yn Folsheflciaid, a hyny heb yn wybod i'r awdurdodau yn Washington; er y dylasent fod yn gwybod. Gwelwch mor araf y symuda Sam! Daw y son eto fod Deheudir Cymru am ddiwygiad. Gwlad go fyw am ddi- wygiadau yw hi, ond ni phar eu heffeith- iau yn hir, gallwn feddwl. Rhyw deim- lad yw; rhyw frwdfrydedd am dymor, fel ambell i adeg boeth o haf, ac yna oerni a gwlaw, ac annghof a difater- wch! Y mae eisieu diwygiad dirwest- ol yn Nghymru, yn y Gogledd a'r De. Clywodd' y darllenydd, yn ddiau, yr amser gynt am urddas llafur (the dig- nity of labor), ond y mae cynifer o streics, a'r prisiau wedi myned mor uchel (ac nid uriMas yw uchder bob amser), fel y dechreuir holi yn, mha le y mae urddas o gwbl y dyddiau uchel- geisiol presenol? Y mae cystadleuaeth yn boblogaidd yn mhlith y Cymry-cystadleuaeth mewn canu, llenydda, pregethu, a pheth. au eraill, ond a yr Americaniaid a'r Seison yn mhellach. Er engraifft, gwelsom am gystadleuaeth ryfedd yn Llundain, set am y fenyw hacraf, ac enillodd dwy, ac ymddangosodd eu gwynebau yn y wasg! Y mae perygl i'r uchel brisiau ar bob peth lygru mwy ar y wlad nag y gwnaeth unrhyw gyfnod arall. Y per- ygl yw i fasnachwyr fyned ati i roi nwyddau gwaelach er cadw eu henill- ion i fyny. Y mae cymellion elwa yn rymus iawn, oddigerth fod dyn yn gyd- wybodol; ac nid llawer o son am gyd- wybod sydd y dyddiau hyn; y bywyd tragwyddol heddyw yn "elwa." Y mae peiriant y llywodraeth Dde- mocrataidd yn un go drwstan ac anys- twyth. Y mae y byd yn mwynhau rhyw fath o heddwch (swyddogol) er's blwy- ddyn; ond y mae ein Senedd ni yn dal ati o hyd i ddadleu yn nghylch rhyw fanion a neillduolion aethant yn dram- gwyddiadau drwg. Yr oedd y Senedd am lawer o amodau, er gwneyd hedd- weh gwir Americanaidd. Un o gymwys- derau mwyaf gwerthfawr Seneddwr ddylai fod atal dweyd. Gresyn yw gweled cysur yn troi yn annghysur o herwydd ymyriad dyn. Dylid priodoli o'r braidd yr oil o an- nedwyddwch dyn ar y ddaear iddo ef ei hun. Anniben fu yn ei hanes drwy yr oesau o'i herwydd ei hun. Un drwg fu am dano'i hun; a niweidiai a pheryglai ei ddedwyddwch drwy ei drachwant a'i hunangariad. Pa bryd y daw i ddeall eysylltiad pethau a'u gilydd? Gallai pobl "hysbys" fod o wasanaeth i'r byd pe y gellid ymddiried yn eu I rhagwybodaeth; ond ychydig o goel sydd iddynt. Dywedasai rhywun o hon- ynt y byddai yn ddiwedd byd ar y 17fed, sef dydd Mercher diweddaf, ond ni wnaeth y byd sylw o hyny, eithr aeth yn ei flaen am ryw dymor eto. Y dyb yw mai myned ar dan wna'r byd i roi diwedd arno ei hun, ond ofnai rhai yn ystod yr wythnos, gan mor oed oedd, mai rhynu wnai. Ni fu mor gythgam o oer yn Utica er's talwm! Gwnaed ymdrech galed gan elorglud- wyr Shon Heiddyn i ohirio ei gladd- edigaeth hyd Ionawr 16, fel y gallent gael cyfle i lyncu y ddiod sydd yn nghadw yn y wlad. Dywedid y buasai yn $300,000,000 yn llogell Sam, ac y cai cyfeillion Shon ddathlu marwolaeth Shon o hyn i hyny; ond cau i lawr wnaed ar angladd wlyb i Shon. Ang- ladd sych a sobr fydd i Shon, ac ar y Wagen Ddwr y cludir y gweddillion. Dyma angladd benaf y byd, a hyderwn mai angladd Rhyfel fydd y nesaf, ar ol i'r "Undertakers," y Seneddwyr Ameri- canaidd, benderfynu! Ni fu erioed gymaint o ymgyngori, o ymgynadleddu, o ymgyflafareddu, o areithio, o ddarlithio, o bregethu, ac o ddeddfu ag sydd heddyw, ac eto myn- ed o ddrwg i waeth yn fasnachol, yn weithfaol a phrisiol y mae y byd. Y mae pawb ag eisieu eu ffordd eu hun- ain yn lie cysur pawb; ac yn sicr, daw pobl i amgyffred mai lies pawb yw lies pob un wedi'r cwbl; ac nid yw yr eg- wyddor o bob un drosto ei hun a neb arall yn myned i lwyddo. Y mae llygredd ac anonestrwydd wedi myned yn ddrwg mor gyffredin fel yr eir i ddrwg-dybio pawb o'r braidd. Yn ddiweddar, y mae y wasg yn Nghym- ru yn teimlo fel canmol bechgyn y campau fel dosbarth llawn natur dda a gonest, nad ydynt yn cenfigenu a digio wrth eu gilydd, ond daw gair fod hyd yn nod bechgyn y Bes Bol wedi syrthio i'r brofedigaeth o werthu eu genedig- aeth-fraint am arian. Aethant i afael- ion Mamon. Dechreuir credu mai drwy ddylanwad drwg budrelw y gorchfygodd Cincinnati Chicago yn yr ymdrech fawr Fes-Bolaidd eleni. Credwn pe y sylwai gwladweinwyr ar arwyddion yr amserau yn fwy, y gwnaent lawer gwell cyfreithiau i hyr- wyddo gwareiddiad. Y mae gormod o atal ar bethau, yn lie magu a meithrin bywyd. Ceir awgrymiadau gwerthfawr allan o'r Darluniau Byw yma; a'r penaf yw mai ychydig o eiriau wastreffir yn ystod y weledfa. Y peth penaf y syl- wir arno yw bywyd yn ei "weithred- iad." Y mae gormod o siarad wedi bod yn ein byd, a'r cwbl yn darfod yn hyny. Yn awr, am flwyddyn, y mae y Senedd yn Washington wedi gwastraffu geiriau wrth y cyfrolau, a dim wedi ei wneyd. Ai ni ellid cael y Senedd i wneyd mwy a siarad llai? Tebyg i'r darllenydd glywed am yr hyn a eilw y Sais yn "Pragmatism," sef agwedd ddiweddar ar athroniaeth a duwinyddiaeth. Yr hyn a olyga yw cael mwy o'r ymarferol i olygiadau y byd. Fe ddywed pob athroniaeth o werth yn yr oes hon mai amcan gwy- bod yw gwneyd; ac mai yr oferedd penaf yw gwybod i beidio gwneyd. Dy- lai Cristionogaeth gipio y syniad hwn i fyny a rhoi ei hegwyddorion yn fwy mewn gweithrediad. Y mae athron- iaeth a duwinyddiaeth wedi myned yn ddifyrwch meddyliol; a'u gwybod yn unig yw eu dyben. Y mae peth an- ferth o ddysgeidiaeth a phroffesu ofer a difudd. Edrycha rhai eisoes ar y prisiau uchel fel ymyriad Rhagluniaeth i ddwyn pobl i'w synwyrau. Pe buasai y prisiau lie yr oeddynt, a'r cyflogau yn codi, buasai pobl yn gwastraffu eu harian mewn bywyd bras, helaethach nes niweidio eu hunain yn mhob ffordd. Cedwir llaw- er o bobl ar yr iawn ffordd o gymedrol- deb drwy brinder. Y mae pobl ynrm yn ffolach mewn hawddfyd nag mewn adfyd. Gwell gan ddyn fyd sydd yn ei ddrygu nag un sydd yn ei wellhau. "Sweet are the uses of ad- versity," meddai y bardd; ac eto edrych- ir ar adfyd fel llyfant, er fod ynddo em gwerthfawr o brofiad a doethineb. Nid yw yn syn o gwbl fod ein gwlad yn y fath gyflwr ag y mae. Y mae gan wlad o un genedl neu waed fantais fawr ar wlad fel America. Y mae gwlad un genedl fel "teulu," tra y mae gwlad pob cenedl fel rhyw "fording hows" an- ferth; felly ni ellir cael cystal rheolaeth. yn y naill a'r llall. Dymuriol iawn fu- asai i bob cenedl aros ar wahan, fel gwahanol deuluoedd yn gwneyd i fyny bentref y byd; ond nid felly y bu am un rheswni yn benaf, set gorthrwm. Gorthrymid pobl Ewrop, ac yna yn clywed fod gwell rhyddid a gwell byw- iolaeth ar dyddyn Sam yn y Gorllewin, daethant dros y Llyn, a cha Sam lon'd ei ddwylaw o waith i gadw trefn ar y "bordars! Y mae pla y prisiau fel y diweddar "fflu," yn myned am dro o amgylch y byd, ac y mae wedi cyraedd Japan, lie yr arferai llafur weithio am ychydig geiniogau y dydd, ac wedi codi y cyflog- au yn anferth; ond y gwyn yw eu bod gyda'u codiadau yn y cyflogau yn methu cadw i fyny a'r chwyddiadau yn y pris- iau. Cwyno a thuchan glywir yno, fel yma. Awgryma y cyfan 1 ni y tro ddaeth ar yr Afradlon aeth i wlad bell er cael "good teim." Cafodd yr oil a fynai, llon'd ei logell o arian. Aeth prisiau mor uchel fel na allai dalu am lojin ac am bryd o fwyd gyda'r moch. Bywiai ar 'hand-outs," fel y dywed yr hoboaid yma; a dechreuodd wylo am yr amser gynt, pan y gallai gael pryd o fwyd blasus am ddim bron! Y mae Ilawer eisoes yn edrych yn ol i'r adeg y gellid cael pryd o fwyd am 25c. Tueddu i chwerwi at eu gilydd y mae duwinyddion y "Drych." Yr ydym am goffa iddynt nad yw eu hymddygiad at eu gilydd yn ddim i'w gydmaru a ffrae fawr y Calfiniaid a'r Arminiaid gan mlynedd yn ol. Cyn dyfodiad canlyn- wyr Wesla, i Gymru, yr oedd y wlad, yn grefyddol ac athrawiaethol, yn llwyr yn meddiant yr Uchel-Galfiniaid, y rhai a gyfrifent rhyddid yr ewyllys, a gallu dyn yn anffyddiaeth a rhyfyg, a ffrae ofnadwy fu rhwng y ddwy blaid yn nglyn a'r pwnc "A fu Crist farw dros, y byd a phawb yn gyffredinol?" Dywed- ir i ddyn a aeth i un o'r cynadleddau ei galw yn "ffau'r llewod." Y mae y ddadl hyd yma yn y "Drych" yn dang- nefedd o'i chydmaru a chyffroedigaeth- au y tadau gynt! Eto, cymellwn y ddwy ochr yn y "Drych" i osgoi diradd- io eu gilydd gymaint ag a wnant. Y mae lawer o arwyddion o ddiryw- iad yr hil ddynol i'w gweled y dyddiau hyn, a phar i ni ofni a phryderu oddi- gerth mai myned drwy ryw anialwch y mae hi i ryw Ganaan o wareidd- iad. Cwynir er's talwm rod gwyr y wlad, y parthau amaethol yn symud i'r dinasoedd a'r trefi, a daw yn awr eto y newydd fod y merched yn ymfudo o gylch y teulu i fyw fel hen lanciau ac yn agosach i "wareiddiad." Pan y daw y merched i'r dinasoedd a'r trefij ant i lety, a bywiant fel y bechgyn, mewn. ystafelloedd cysgu, gan fyned allan am eu prydiau, yr hyn sydd yn newidiad niweidiol. Nid cartref mwyach! Y ffurf deuluol yw yr uchaf ar wareidd- iad. Dinystr ar ddynoliaeth yw y by- wyd newydd hwn. Yn y man, yr a y bachgen a'r ferch allan o swn tad, a mam, a brawd, a chwaer, ac o awyr- gylch y pentan yno, a'r stof yma, y mae dirywiad yn siwr o ddylyn. Y mae'r pentan a'r stof ynddynt eu hunain yn allorau gwerthfawr. Y mae yr undeb teuluol yn wareiddiad; a phan yr a y ferch yn annibynol, cyll bethau ysbryd- ol a chymdeithasol gwerthfawr. Ar- wydd ddirywiol arall yw fod yr eglwysi yn symud o ganol pechadurusrwydd i ganol parchusrwydd ardal er dianc o gylch cyfrifoldeb. Arwydd ddifrifol ar- all yw fod pawb am ryddid personol- i wneyd fel y mynant! CAN Y SEREN I Fe welwyd seren ddysglaer un noson yn y ne; a'i dylyn wnaeth y Doethion draw hyd gyraedd at- y lie; yn syn i bawb, mewn beudy y caed y T'wysog claer, a ddaeth o'r nef i waelod byd i achub Teulu'r ddae'r! Nis ganwyd Ef mewn palas o. gelfi heirdd a gwych; Ei gwmni ar yr aelwyd oedd y fuwch, yr oen, a'r ych; a'i wely oedd, nid gwely pluf, ond isel gryd o wair; a'i hoff deganau drwy y dydd, oedd gwallt a bysedd Mair! Y ci ysgydwai'i gynffon, a'r fuwch edrychai'n syn; a'r ceffyl mwyn a ddeu- ai'n mlaen-erioed ni welwyd hyn! A't asyn ddeuai'n agos i wel'd y Duw-Ddyn bach; a'r adar gylch y preseb gwael a'u trydar difyr iach! Mor dlawd y megir mawredd erioed ar lawr y byd; o fewn y bwth a'r caban bach y megir goreu'r byd. 0, caner clod y bwthyn, chwi blant trueni'r llawr; a'r beudy lie y ganwyd hoff, a'r fath Waredwr mawr! O'r fendith fu y Baban a lechai'n mynwes Mair, a'i gael yn Gar syrthied- ig hil, ac arno arogl gwair; y Crist a hoffai'r mynydd, a deithiai fryn a dol; y Car a dynai'r werin mor angenus ar Ei ol! Chwi, werin, glynwch wrtho, a ddaeth i wella'n hil; a anwyd yn y beudy draw, yn Gyfaill goreu'r mil; yr Hauwr mawr a'r Bugail, a'r Hwn a roes ei Hun yn anchwiliadwy Olud nef i gyfoethogi dyn! Rhowch fri mawr ar y bythod; o hwy y daw pob gras; pa fraint a ddaeth i'r werin dlawd o'r castell mawr a'r plas? A chofiwch am y Beudy, a'r gwely syml o wair, lie gynt y caed y Ceidwad cu a'i fam, fendigaid Fair. PERYGL RHYDDID I Crybwyllir diwygiadau anturus yn ngwisg y merched, a ffyna pryder yn meddyliau pobi geidwadol yn nglyn a chanlyniadau y rhyfel yn y cyfeiriad o ryddid personol a gwastraff bywyd; A y merched yn hyfach o hyd, yn ol yr hanes a ddaw o Paris, dinas y ffasiyn- au; a sfbrydir y dylid ymosQd ar Paris a'i chymeryd o feddiant y dosbarth hwnw o deilwriaid a gwisgyddesau lyg- rant yr hen ddulliau gweddus o wisgo. Hysbysir fod y wisg yn dringo i fyny i'r benlin; a gwelsom fod y defnyddiau yn myned yn fwy hywelus o ddydd i ddydd. A corff y wisg yn is ar y cefn, ac ofnir y daw toriad isel y cefn i'r ffrynt yn dramgwydd i'r gweddus a'r moes- gar. A y godreuon yn gulach o hyd fel y rhaid fydd iddynt, fel yr awgrymodd y "Drych," droi yn llodrau ungoes. Y mae rhai benywod yn y Dwyrain yn gwisgo llodrau dynion yn barod, ac o'r Dwyrain y daw doethineb a ffolineb. Y mae balchder a'i wastraff yn ym- hyfhau yn gywilyddus, a daw hanesion tramgwyddus o Gymru. Gwneir y fath gyflogau gan y glowyr yno ag a'u sudda yn ol i anwariaeth, oddigerth i ras Duw afael ynddynt ar frys. Dywedir fod gwragedd glowyr yn y De yn gwisgo hetiau deunaw gini yr un, tra y mae clerigwyr tlawd yn yr un cymydogaeth- au yn derbyn anrhegion o hen ddillad a hen esgidiau ar ol y rhai esmwyth- ach arnynt! Cydmarir yr oes ag oes gyffelyb yn hanes ymerodraeth Rhufain, pan yr oedd cymysgiad y bobl wedi myned yn gyfryw, a'r hen rinwedd Rhufeinig wedi myned i golli i'r fath raddau fel nad oedd dim yn aros ond awydd pechadur- us, chwant y llygad, chwant y genau, chwant y cnawd; a gynted ag y coll- wyd yr hen rinwedd Rhufeinig,) aeth yr ymerodraeth gymysglyd i'w thwll. Gelynion pob rhinwedd yw chwant a blys a'u gwastraff anocheladwy, ac y mae perygl i'r rhialtwch a'r loddest bresenol droi yn ysbonc i ddystryw! Cyffelybai un o ddysgawdwyr dinas New York yr afiaeth bresenol i "joy ride" y byd moduraidd, ond, ebe efe, y mae y ffol-daith i derfnu yn nym- chweliad y cerbyd! Dyna fel y mae, ac y bydd o flaen pob cwymp. Yn ein dyddiau hyn, y mae anystyriaeth yn fwy amlwg na dim, a phethau gwael yw balchder a gwas- traff ac anystyriaeth, oddigerth i ar- wain i brofedigaethau gresynus. Pa fodd i ragod cymdeithas, a'i chael i aros ac ystyried? Pa fodd i atal cer- byd gwareiddiad ar ei "dobogan" beryg- lus bresenol?
HYN AC ARALL 0 CHICAGO, ILL.…
HYN AC ARALL 0 CHICAGO, ILL. I Gan E. A. W. I Nos Lun, Tachwedd 17eg, yn ystafell y Gyfrinfa (Masonic Temple), cynal- iodd y Gyfrinfa Iforaidd gyfarfod agor- ed, o dan lywyddiaeth Mr. Hugh R. Jones, Van Buren St., gan yr hwn y caf- wyd anerchiad rhagorol, yn adolygu gwaith y Gyfrinfa yn y gorphenol, ac anogaeth gref i'r rhai nad oeddent yn aelodau i wneyd brys i ymaelodi. Yn dylyn cafwyd anerchiad gan Mr. Rich- ard Williams (charter member), a chyf- archiad barddonol i'r Gyfrinfa ar ddath- liad ei 27mlwydd o'i oedran y noson hono. Ychwanegwyd at ddyddordeb y cyfarfod trwy ganeuon gan Miss Rob- erts, South Side; Mrs. Ed. Roberts, Humboldt Park; unawd offerynol, Mr. Robert Lewis, South Side (Uwch-ly- wydd y Gyfrinfa), ac adroddiad gan Mr. Tom Jones, West Side. Enillwyd y gwobrwyon 'mewn cystadleuaeth darllen dernyn Seisneg, Mr. Richard Owen, Oak Park; y cystadleuaethau canu, y budd- ugwyr oeddent: Miss Roberts, South Side (unawd i ferched); Mr. Edw. Rob- erts, Humboldt Park (unawd i ddyn- ion); Mr. Wm. Davies, Humboldt Park (canu ar yr olwg gyntaf). Beirniaid y darlleniadau oeddynt: Mr. Wm. John Williams, West Side, a Mr. Robert Lewis, South Side; a Mr. Abner C. Jones yn clorianu y cantorion; a gwnaeth yr oil eu gwaith yn ganmol- adwy iawn. Treuliwyd noson wir ddyddorol ac ad- eiladol. Y mae Cyfrinfau "Madoc" ac "Eluned" yn cael eu hystyried yn mhlith y rhai mwyaf byw, gweithgar ac ymroddgar yn perthyn i'r Urdd Iforaidd, ac wedi cipio y llawryf yn y cyfeiriad- au yna lawer gwaith. Y nos o'r blaen, yr oedd un-ar-ddeg o chwiorydd yn cael eu derbyn yn aelodau o Gyfrinfa "Elun- ed." Y mae hyn yn gwneyd cyfanrif yr aelodau newyddion o ddechreu y flwyddyn yn 31. Yr ydym o galon yn dymuno iddi hi, a Chyfrinfa "Madoc," Iwyddiant lawer eto yn y dyfodol. Gydag anhawsder y medrodd y Parch. Morris S. Jones orphen traddodi pre- geth fer y Sabboth o'r blaen, o herwydd ei fod yn dyoddef oddiwrth anwyd trwm, yr hyn a'i caethiwodd i'w dy am ddwy wythnos. Yn ei absenoldeb yn nghyfarfod yr hwyr, treuliwyd y gwas- anaeth i ymarfer tonau newyddion, o dan arweiniad Mr. Wm. R. Jones. Y Sabboth dylynol, cymerwyd ei le yn mhwlpud Hebron gan y Parch. Elias Jones, gynt o Veneocia, sydd yn awr yn myned am gwrs o addysg yn y McCormick Seminary; gwr ieuanc iawn, ni a gredwn, yn nghylch y wein- idogaeth. Drwg genym ddeall am y ddanjwain a oddiweddodd Mr. Evan J. Roberts, Oakley Blvd. (blaenor), yn ddiweddar, tra yn dylyn ei alwedigaeth o werthu glo. Hefyd, fod ei briod, sydd yn dy- oddef oddiwrth anhwyldeb yn ei hael- odau er's llawer o amser, wedi ei symud i Washington Hospital i fyned o dan driniaeth arbenig. Y mae Mrs. Hugh R. Hughes, Knos- ter Ave., yn gorwedd yn beryglus wael yn y West Suburban Hospital. Cafodd Mrs. John Pugh, Jackson Blvd., a Mrs. Owen J. Jones, Keeler Ave., eu caethiwo i'w hystafelloedd yn ddiweddar gan afiechyd. Bu Mr. Jacob W. Davies, Oak Park, o dan'driniaeth lawfeddygol yn ddiweddar yn y West Side Hospital, yn nglyn a'r appendicitis. Da genym ddeall i'r oruchwyliaeth brofi yn llwyddianus, a'i fod yn gwella yn foddhaol o dan ofal y meddyg gallu- og, Dr. J. H. Evans. Nos Sadwrn, Tachwedd 22ain, cafwyd dadl yn Nghymdeithas Lenyddol Heb- ron ar y testyn dyddorol, "Pa un ai mab ynte merch ddylanwada fwyaf ar gym- deithas?" Cymerwyd ochr y "mab" gan Mr. Wm. Edwards, Keeler Ave., yn cael ei ategu gan Miss Gladys Hughes, Park Ave.; ac ochr y "ferch" gan Miss, Phoebe Rogers, Park Ave., yn cael ei hategu gan Mr. Thomas Hughes, Park Ave. Yr oedd y bleidlais yn gryf yn ffafr y "ferch." Y llywydd ydoedd Mr. Llewelyn Jones, Warren Ave. Llongyfarchwn Ceinwen Thomas, merch ieueng-af Mr. Wm. R. Thomas, Wilcox Ave., ar ei gwaith yn trysori "Y Cyfamod Disigl" (o waith Hugh Derfel) ar ei chof, ac yn rhoddi adrodd- iad mor rhagorol o hono foreu Sabboth diweddaf, fel cyfanwaith, ar ol bod wrthi am amryw Sabbothou yn ei ad- rodd o benill i benill gyda'r plant oedd yn dweyd adnodau. Brydnawn Sadwrn, yn nghartref y briodferch yn Venedocia, Ohio, unwyd mewn glan broidas, Mr. Abner C. Jones, Warren Ave., Chicago, a Miss Cora Lee Evans, Venedocia, Ohio. Y gwas briod- as ydoedd Mr. Warren P. Jones, War- ren Ave., Chicago, brawd y priodfab, a'r forwyn ydoedd Miss Myra Evans, Venedocia, chwaer y briodferch. Chwa- reuwyd- yr ymdeithgan briodasol gan Miss Olwen Jones, chwaer y priodfab, a chanwyd "I Love You Truly," gan Mr. Dan O. Evans, tad y briodferch, yn ystod y gwasanaeth. Rhwymwyd y cwlwm gan y Parch. R. J. Williams, Venedocia, Ohio. Bydd y cwpl ieuanc yn gwneyd eu cartref yn 2859 Warren Ave., Chicago. Nos Sadwrn, Tachwedd 29ain, yn nghartref Mr. a Mrs. John Williams, Llwyn Onn, Chicago, gan y Parch. Mor- ris S. Jones, unwyd mewn rhwymyn, Mr. John E. Jones, 1343 Adams St., a Miss Fannie Morris, South Side (gen- edigol o Llanbrynmair). Gwasanaeth- wyd fel gwas a morwyn briodasol gan Mr. a Mrs. John Williams. Y nos Fawrth flaenorol i'r amgylch- lad dyddorol hwn, rhoddwyd "cawod amrywiol" ar y chwaer ieuanc gan nifer o'i chyfeillion, yn nghartref y teulu car- edig o Llwyn Onn. Cafwyd noson ddi- fyr iawn, yn cynwys gwahanol fathau o chwareuon. Enillwyd y gwobrwyon gan Mrs. Elmer C. Roberts, Oak Park, a Mrs. W. O. Edwards, Monroe St. Ych- wanegwyd at ddyddordeb y cyfarfod trwy ganeuon gan Mrs. Wells. Miss Mamie Owen, Mrs. John E. Jones a Mr. John Williams. Eiddunwn bob llwyddiant i'r Parch. J. M. Griffiths, yr hwn sydd yn ymadael o'r ddinas hon i fyned am ragor o addysg i un o golegau Cincinnati, er cymwyso ei hun ar gyfer y weinidog- aeth. Da genym ddeall fod Edw. Middle- ton, Oak Park, brawd Mr. John Middle- ton, Park Avenue, yn gwella yn fodd- haol o'r ymoosdiad gafodd yn ddiwedd- ar o'r pneumonia. Hefyd, Mr. John Williams, Ridgeway Ave., yn graddol wella o'i gystudd. Dymunwn iddynt ad- feriad Ilwyr a buan. Cafwyd cyfarfodydd lluosog a gwlith- og fel arfer yn Hebron, ddydd Diolch- garweh. Da oedd gan bawb weled y gweinidog wedi gwella yn ddigon da i roddi ei bresenoldeb yn y ddau gyf- arfod, ac yn yr hwyr cafwyd anerchiad buddiol ac amserol ganddo, a gwnaeth goffad dwys am y /rhai a hunasant yn ystod y flwyddyn, 31 mewn nifer, yn amrywio mewn oedran o'r henafgwr i'r plentyn. Yn y cyfarfod hwn, cafwyd ychydig sylwadau priodol hefyd gan Dr. J. Alexander Jenkins. Yr oedd y canu o dan ofal Mr. Wm. R. Jones yn effeith- iol. Dyeithriaid ar ymweliad a Hebron y Sabboth o'r blaen oeddynt: Mr. Robert Thomas, Cambria, yn edrych yn dirf ac iraidd yn yr oedran teg Õ 82; Mr. Ar- thur Vaughan Jones, Minneapolis, a Mr. D. R. Jones, Columbus. Bu y brawQ ieuanc, Mr. John E. Jones, Van Wert, Ohio, yn treulio ychydig ddyddiau gyda'i berthynasau yn y ddinas hon yn ddiweddar, set Mrs. David Edwards a Mrs. John Pritchard, Polk St. Y mae yn awr wedi symud i'r ysbyty milwrol yn Fort Sheridan, i orphen gwella oddi- wrth effeithiau damwain a gafodd tra yn ngwasanaeth y fyddin yn Camp Kan- sas. Dymunem wneyd yn hysbys i ddar- llenwyr y "Drych" sydd yn hoff o gerdd- oriaeth fod gwledd gerddorol o'r radd oreu yn eu haros yn Hebron, n'oson o flaen Nadolig, pan y bydd y plant yn rhoddi perfformiad o'r cantata, "Around the World with Santa Claus." Hefyd, nos Sabboth, Rhagfyr 28ain, pan y bydd cor yr eglwys yn rhoddi dadganiad o gantata ragorol R. S. Hughes, "Bugeil- iaid Bethlehem." Mynediad i mewn yn rhad. Croesaw i bawb. Dowch yn gy- nar. Cyflwynwn ein dymuniadau goreu am Nadolig Lawen a Blwyddyn Newydd Dda i holl staff a darllenWyr y "Drych." Y mae y newydd trist newydd ein cyraead am farwolaeth Mr. Thomas Thomas, Caerau, Maesteg, D. C., yr hyn gymerodd le yn ei gartref, Tachwedd 23ain, a dodwyd ei weddillion i orwedd yn nhy ei hir gartref, Tachwedd 26ain. Mab iddo ef ydyw Mr. D. J. Thomas, cyfeilydd galluog a medrus cor meibion Gwent, yr hwn a alwyd gartref yn sydyn ychydig fisoedd yn ol ar gyfrif gwaeledd ei dad. Deallwn ei fod am ddychwelyd yn ol i'r ddinas hon yn y dyfodol buan, ac yn dod a'i unig frawd gydag ef. Yr Arglwydd fyddo yn nerth ac yn gynal- iaeth iddynt yn awr y brofedigaeth sydd wedi eu goddiweddyd.
CENADAETH YN SOUTH WILKES-…
CENADAETH YN SOUTH WILKES- BARRE Yn ystod yr wythnos a ddechreuodh Rhagfyr 7fed, cawsom ein breintio à phresenoldeb a gwasanaeth y Parch, a Mrs. D. Lewis Jones, Caerdydd. Unodd yr Annibynwyr a'r Methodistiaid a'u gilydd, a chafwyd cyfarfodydd lluosog ar hyd yr wythnos. Gweinidog gyda'r Wesleaid yn Ne Cymru yw Mr. Jones, ac mae yn y rhestr flaenaf fel gweinidog ieuanc effro a phoblogaidd. Adnabydd- ir ei briod drwy Gymru benbaladr fel "Sister Elsie," o Gaerdydd. Yn y ddi- nas hono gwnaeth waith gorchestol am nifer o flynyddau er ceisio difa llyg- redd, ac adfer y syrthiedig rai. 0 her- wydd ei phrofiad helaeth yno, llelfara gydag awdurdod am yr Iesu fel "unig Geidwad pechaduriaid." Hyfryd oedd gwrando arni yn darlithio ar "Adlais o'r Slums" yn ystod yr wythnos. Yr oedd capel y Methodistiaid yn llawn o wrandawyr astud. Nos Fercher, darlithiodd Mr. Jones yn Seisneg ar "Y Mudiad i Gyfeiriad Undeb Crefyddol." Mewn iaith gyf- oethog, arweiniodd ni ar hyd llwybrau prydferth ac atdyniadol gwaith cym- deithasol a gwaith cenadol, a dangosodd i ni yr eglwys unol mewn dillad gwaith trwsiadus a destlus. At hyny rhoddodd ei feddwl byw gyffyrddiad o ddigrifwch chwaethus, yr hwn a wnaeth y ddarlith yn ddyddorol, yn fuddiol, ac ym adeil- adol. Wedi clywed y naill a'r llall yn pre- gethu saith gwaith, ac yn darlithio, yr ydym yn llawenhau o herwydd iddynt fedru dod yma, ac yn dymuno iddynt wenau'r nefoedd ar eu taith yn mlaen drwy y Talaethau. Argymellwn yr eg- lwysi drwy y Talaethau fanteisio ar eu hymdaith yn mlaen drwy Pennsylvania, Ohio, Wisconsin a Minnesota. Eu cyf- eiriad presenol yw: cia Mr. J. D. Steph- ens, 273 Hbrton St., Wilkes-Barre, Pa. —M. J.
[No title]
—Anfona Mr. W. R. Roberts, ysgrif- enydd y Thado-Kookie Pioneer Mission, fod diwygiad grymus iawn yn Lushai, a chanoedd o'r brodorion yn dod at Grist.
NODION PERSONOL1I
NODION PERSONOL 1I Dymunwn Nadolig Llawen a Blwydd- yn Newydd Dda i'n holl ddarllenwyr dros yr Jioll fyd. Cyfeiriad arosol R. J. Williams (Glan- ogwen), yw P. O. Box 442, Vancouver, B. C. Cyfeiriad y Parch. Gwynfe Jones, di- weddar Chicago, Ill., yw Atwater, Sask., Canada. Carem i'n gohebwyr ddod yn fyrach ac yn amlach. Y mae rhai o honynt yn hir iawn er eu tori i lawr. Gwneler yr hanes yn fyr a dyddorol. Fel hyn y dywed Rhosfa: "Wel, yr oedd profiad 'Shoni yr Halier' yn Ffrainc, yn nhafodiaith Cwm y Rhon- dda yn ddoniol dros ben." Hyderwn y cawn glywed mwy oddiwrth Shoni. Mae digon o ysgrifenu wedi bod am yr afiechyd sydd wedi bygwth lladd y "Drych," ond nid yw, hyny yn myned i'w gadw'n fyw; rhaid wrth feddygin- iaeth. Yn amgauedig cewch dair pelen ddiguro at ei anhwyldeb. Hir- oes i'r "Drych" yw gwir ddymuniad-Owen M. Griffith, Poultney, Vt. Oddiwrth Brython: "Nadolig da a hapus Fyddo hwn; A phob un yn gysurus, Y Nadolig hwn; Dim gofid a thrafferthion, Ond pawb yn teimlo'n foddlon, A Duw yn rhoddi digon Y Nadolig hwn; A heddwch i'r holl ddynion Y Nadolig hwn." Heddwch neu beidio, rhaid cadw y "Drych" yn fyw! Fel hyn y can Hwsmon i'r "DrycE- ac* Index: Teilwng yw codi'r taliad,-i dalu Tair doler heb oediad; A'r "Drych" heb wrthwynebiad A hulia wledd hael i'w wlad. Testyn amserol f'ai tysteb—i ddawn Haeddianol mewn taleb; LIenor o fri mewn callineb; Hawliwn Index yn ail i neb. Dyma dair doler, ac y mae yn llawn werth y tal ddylasai fod wedi ei gaei er's cryn amser. Cymered Index galon, y mae yn gwneyd ei waith yn ardderchog. Yr wyf yn darllen y "Drych" er's haner can mlynedd, ac mae gystal newydd- iadur yn awr ag y bu erioed, a givell hefyd.—R. E. Rees, Columbus, Ohio. Taith Cor Glyndwr am Ionawr: Ionawr 1, Geneva, N. Y.; 2, Rochester, N. Y.; 3-4-5-6, Buffalo; 7, Tonawanda; 8. Niagara Falls; 9, Lockport; 10, Dun- kirk; 11, Jamestown; 12. Olean; 13, Hornell,-S. Charles, Cynrychiolydd. Dywed rhai iddynt anfon ysgrifau y pryd a'r pryd, fisoedd yn ol, ac i'r Gol. esgeuluso eu cyhoeddi, ond daw yr eg- lurhad; yr oeddynt wedi annghofio ryw ffordd neu gilydd. Y mae y Gol. yn gy- wir gyda'i waith a chydwybodol. Drwg genym hysbysu fod y chwaer, Mrs. Dr. Stewart, Dinas y Llyn Halen, Utah, wedi bod o dan gyllell y meddyg yn un o ysbytai y ddinas, ond wedi dod trwyddi yn rhagorol. Gwelsom hi ar yr heol yn edrych yn dda.—Goh. Bu Mr. a Mrs. Tom E. Jones, Plana, South Dakota, ar ymweliad a Dinas y Llyn Halen, Utah,am ddau ddiwrnod, ar eu ffordd i Long Beach, Calif. Caw- som adeg hapus yn nghwmni ein gil- ydd, gan fod Mrs. Jones yn chwaer i Mrs. Hugh Pugh, Randolph, Wis,; a mi- nau yn un o'r Pughiaid o ochr fy mam. Pwy nad oedd yn adwaen y gwreiddiol a'r ffraeth John Pugh (Cedris) ?—O. J.O. Yr ydym yn cydsynio a Huw X. yn y "Drych" hwn, na ddaw trefn ar y byd hyd nes y gwneir y merched yn aelodau Seneddol, ac yn Arlywyddion a Brenin- oedd. Yr ydym yn anniben o'r cych- wyn, o herwydd i Efa gael ei throi i lawr. Cafodd yr Awdwr air da iawn i'r "Ddau Adda" oddiwrth wraig yn Chi- cago, a charai weled mwy o wragedd yn anfon am dano. Ni fydd i'w gael ar fyr. Cawsom gwyn a chyhuddiad difrifol y dydd o'r blaen oddiwrth weinidog yn nglyn a sylw yn ysgrif "Un yn Sefyll" ar "Ddyn fel Rheolwr"; ac y mae y cy- huddiad yn seiliedig ar gamddealldwr- iaeth y gweinidog. Yr hyn a ddywed "Un yn Sefyll" yw, "Os mai Duw"sydd yn rheoli eisoes, ffolineb fyddai gwedd- io 'Deled dy deyrnas' Cyhudda y gweinidog "Un yn Sefyll" o gyngori pobl i beidio gweddio! Gwel y darllen- ydd na wna hyny o gwbl. Dylai pobl fod yn ofalus i beidio gwneyd anffydd- iaeth o bobpeth, o ragfarn a chynen. Kinder, La., Rhagfyr 15, 1919.—Yr wyf yn anfon tair doler i dalu am y "Drych." Nis gallaf wneyd hebddo, ac nisi gallaf gael ei fenthyg, am nad oes neb arall yn ei gymeryd; ond byddaf yn cael ei fenthyg bob wythnos: Mae y wraig yn dweyd mai hi sydd yn ei gael. Mae y tywydd yn wlyb yma ar hyd y flwyddyn, ac y mae canoedd o erwau o reis ar y caeau heb ei ddyrnu. Mae y ffermwyr yn cael pris uchel am dano pan y gallant ei gael ar y farch- nad. Cofion goreu atoch oil yn y Swyddfa ac at holl dderbynwyr y "Drych."—Hugh D. Griffiths. Os na wel ein gohebwyr eu goheb- iaethau yn y "Drych" nesaf, dysgwylied pob un am y "Drych" nesaf i hwnw. Yn achlysurol daw cawod o ysgrifau i law y byddai yn annichon eu rhoi mewn un "Drych." Enfyn ambell i un ysgrif, ac os na fydd yn y "Drych" nesaf, enfyn air drwg i'r Swyddfa, neu i'r Gol., gan, ddanod iddo ei fod yn unochrog, &c. Yn y nesaf, bydd yr ysgrif ynddo yn fwy taclus nag y daeth, drwy ofal y Gol., nad oes ganddo gas hyd at ei elyn- ion; ac yn fynych syna beth feddylia pobl o'u hunain! Ni fu gwell ffryndiau gan gyhoeddiad nag sydd gan y "Drych"; ond y mae eithriadau drwg, y rhai a gonachant beunydd o herwydd rhywbeth neu gil- ydd, ac o genfigen. Y mae Wm. J. Mor- ris, Alliance, Ohio, yn foddlon talu mwy i gadw y "Drych" yn fyw. Y mae cyf- eillion goreu y Gymraeg a braw i feddwl am farw y "Drych" yn y wlad hon; a 'dyna deimlad Thomas Jarman, hefyd. Dylid symud benthycwyr y "Drych" i leoedd nad oes "Drych," gael gweled a ddiwygiont. Chwi, fenthyewyr, dewch yn dderbynwyr! Y mae yn ddichon gwneyd cam a dyn o herwydd anwybodaeth. Ysgrifena am- ryw atom gan anfoddloni i ysgrif R-G. yr hon a elwir yn "anffyddiaeth"! Y mae R-G yn weinidog parchus gyda'r Americaniaid, ac y mae yn siwr genym nad amcan yr ysgrif yw addysgu an ffyddiaeth o gwbl;- eithr cael pobl i feddwl yn fwy dros bynciau mawrion bywyd. Ychydig o feddwl sydd, eithr cymerir gwirioneddau yn ganiataol. Y mae dau neu dri eisoes wedi ymofyn yn nghylch beth yw anffyddiaeth, ond ni ddaeth neb eto allan gydag ysgrif syl- weddol ar y pwnc pwysfawr. Y mae perygl mewn ymorphwys yn ddidaro ar olygiadau cyffredin, a'u meddianu fel perchenogaeth yn lie yn brofiad medd- yliol, deallol a moesol. Wrth dalu am y "Drych," dywedaf fel hyn: Hen "Ddrych," 'rwyf yn dy ddarllen Er y flwyddyn '73; Ces ynot fywiog awen A doniau meib o fri; Er cymaint sydd o bwnio Ar Eben a Plas Gwyn, Dal ati heb ddiffygio I'n dysgu mae rhai hyn. Mae'r Dr. am roi y "blotcher" Neu glo ar enau'r "Drych," Anffyddiaeth yw pobpeth amser Ond "uniongredaeth" sych; Gwell it' barhau'n rhydfrydig, Gwirionedd nid a'n sarn; Cyfnewid meddwl 'chydig, Cadarnach fydd ein barn. -John H. Taylor, New Straitsville, Ohio. Yn y rhifyn hwn, ymddengysgoheb- ydd newydd dan yr enw "Cobyn," ac yn ei ysgrif gyntaf hon, beirniada ysgrif Mr. Eben P. Davies ar "Moses, Paul, a'r le&u," dro yn ol; ac y mae wedi bwr- iadu er's talwm ysgrifenu i feirniadu rhai o'r gohebiaethau eithafol ac an- nghymedrol, ond oedai o hyd am ryw resymau o'i eiddo. Y mae yn cymeryd dyddordeb byw yn yr ysgarmesoedd yn nglyn a phwnc yr ewyllys, a phynciau eraill arweiniodd rhai o'n gohebwyr i fynegi syniadau gwirion, eto ymataliai o hyd; ond o'r diwedd y mae wedi ein hysbysu y bydd iddo wyJio y gohebwyr hyn a'u galw i gyfrif pan yr ant dros y llestri. Y mae yn ysgolor gwybodus, pwyllog, rhyddfrydig, ond yn cashau yr eithafrwydd wel yn rhai o ysgrifenwyr y "Drych." Ni olyga, ebe efe, ymyryd o gwbl, ond pan genfydd ohebydd yn annghofio ei hun. Syna na wna etai gweinidogion a'n hathrawon proffesedig fwy o'r cyfle i addysgu eu hoes drwy gyfrwng colofnau y "Drych"; "gwell cyfle iddynt na'u pwlpudau a'u moddion culion eu hunain," ebe efe. Hyderwn v cawn Cobyn i'n difyru a'n dysgyblu ar hyd y flwyddyn 1920.
NODION 0 NANTICOKE, PA.
NODION 0 NANTICOKE, PA. Gan y Parch. A. L. Rowe Mae Dydd Diolchgarwch am y flwydd. yn hon eto yn mhlith y pethau a fu, a theneu iawn oedd y cynulliadau a ym. gynulliasant i'r, gwahanol gapeli i'r hyn ag y dylasent fod, pan feddyliwn am y trugareddau ami a gwerthfawr ydym wedi eu derbyn oddiar law yr Hwn sydd yn peri i'r haul wenu, ac yn gwlawio ar y cyfiawn a'r annghyfiawn yn ddiwahan. iaeth. Ond da genyf gael ar ddeall i'r Cymry gael cyfarfodydd gwlithog a ben. JAt hiol. Mae Mr. a Mrs. William Jones, 160 East Church St., yn alluog eto i fyned o gwmpas, ar ol bod am hir amser yn mhair cystudd. Bu Mr. Jones am ral wythnosau yn yr ysbyty, ac yn y cyf. amser, syrthiodd Mrs. Jones gan dort ei braich ddehau, yr hon sydd yn gwella yn gampus. Mae Mrs. Jones yn ferch i Mr. a Mrs. D. R. Davies (Perorydd), ac y mae hi a'i phriod yn aelodau ffydd. Ion a gweithgar yn eglwys Moriah. Mr, Jones yw arolygydd yr Ysgol Sul, a deallwn ei fod yn rhoddi boddlonrwydd cyffredinol yn nghyflawniad ei swydd. Croesaw i Mr. Rees Jones, East Noble St., yr hwn sydd wedi dychwelyd adref yn iach a llawen wedi bod am rai mis. oedd yn ymweled a'i berthynasau yn yr Hen Wlad, tua chymydogaeth Aber- tawe. Mae i Mr. Jones lawer lawn o gyfeillion yn nhref y Nant. Ami a blin gystuddiau sydd wedi bod yn goddiweddyd teulu parchus. y brawd William Davies, Buttonwood; Mrs. Da- vies sydd wedi bod yn gyfyngedig i'w gwely am rai misoedd gan gystudd trwm, ond deallwn ei bod ychydig yn well ar hyn o bryd. Hefyd, eu mab, William Davies (ieuanc), sydd yn ys. byty Nanticoke er's gryn amser, gan iddo gyfarfod a damwain drwy yr hon y torodd ei goes, a niweidiau eraill tra wrth ei waith yn y lofa, a deallwn fod yntau yn graddol wella. Yn ddiweddaf oil, deallwn fod Dafydd, mab arall 1 Mr. a Mrs. Wm. Davies, wedi claddu bachgen bychan prydferth iawn, ac efe yn wyth mlwydd oed. Bu farw o'r diphtheria. Mae y Cymry uchod yn bobl garedig iawn; yn fawr eu parch a'u dylanwad yn y gymydogaeth, ac yn brif golofnau yr achos goreu yn y lie, ac hyderwn y daw yn hindda arnynt eto yn fuan. Yn ddiweddar, ymwelwyd a'n sanct. um yn ddisymwth gan ddwy fqneddigea sydd yn anrhydedd i'n cenedl ac i gre. fydd, sef neb llai na Mrs. Pritchard, anwyl briod y bardd-bregethwr poblog. aidd, y Parch. John M. Pritchard, o Wilkes-Barre, Pa., yn nghyd a'i chwaer talentog a dysgedig, Miss Margaret Richards, Nelson, N. Y. Ni bu eu hart osiad ond byr; er hyny, cafwyd amser difyr iawn, a dywedwn o galon, "CaU again, ladies"! Pan yn gosod i lawr hyn o nodion, clywais fod y chwaer barchus, Mrs. John D. Williams, set anwyl briod ein cyn-Health Officer, yn wael iawn, ac yn ddiargoel byw, ond mawr obeithiwn y try pethau allan yn well na'r dysgwyl. iad, oblegid y mae Mrs. Williams yn un o'r gwragedd mwyaf parchus 'yn ein tref. Deallaf 'fod yn mwriad eglwys barch. us Nebo i geisio cael adfywiad crefydd* ol yn eu mysg, ac nis gall neb eu beio am hyny, ond yn hytrach eu llongyf- arch am fod y fath deimlad ysbrydol yn eu plith, oblegid mae y bobl sydd wedi cael eu hachub yn teimlo yn bry- derus am iachawdwriaeth eraill. Yr addewid yw, "A phan glafycho Seion, yna hi a esgqr ar ei meibion ac ar ei merched." Y cynllun yw cael cyfarfod- ydd gweddio bob nos yn y tai, gan gy. mell pawb tra y mae yn ddydd gras a thymor iachawdwriaeth i "ffoi rhag y [lid a fydd." Yn hytrach na chymell y bobl i ddyfod i'r moddion, mae yr eg. lwys am fyned a'r moddion at y bobl, a hyderaf fod y cynllun o Dduw, ac yna gellir dysgwyl llwyddiant, oblegid "hebof fi nis gellwch chwi, wneuthur dim."