Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

[No title]

News
Cite
Share

H. G. Wells yn un o'i lyfrau newydd- ion a ddywed y daw amser pan na fydd gauaf ar ein daear, eithr y bydd yn haf o hyd, hyd yn nod yn y pegynau! Ni fydd eisieu myned i gwffio a'r glowyr. Gobeithiwn ei fod yn gwybod, ac na siomir ni. Un o drafferthion y gwragedd yn Am- erica y dyddiau hyn yw y newyn siwgr. Y mae mwy o ofyn am siwgr nag am faddeuant. Gwneir cymaint o siwgr fel ei fod yn anhebgorol angenrheidiol i fywyd yr oes. Y mae halen wedi syrth- io i anfri-siwgr yw y cwbl; ond gall- wn sicrhau i'r oes hon, pe yr ymwnaent yn fwy a halen, y byddent yn gryfach pobl, ac yn burach. Y mae y gwaharddwyr Americanaidd wedi glanio yn Mhrydain i sobri a sychu Shon. Nid yw y fasnach feddwol yn fasnach i fyw mewn gwlad Gristion- ogol. Y mae hyny yn amlwg. Gresyn fod llu o Gristionogion yn gefnogol i'r "yfwch" yn Lloegr a Chymru; ond fe ddaw y "cave in," chwedl pobl Scran- ton, yn hwyr neu hwyrach, er fod yno glerigwyr, a phregethwyr, a diaconiaid, a phobl barchus yn credu na allant fyw heb y ddioden! Y mae craciau amlwg yn adeilad yr hen fileines eisoes! Un ddyledswydd a esgeulusodd llyw- odraethau ei chyflawni erioed fu edrych 1 fewn i eiillion cyfalaf, a'i orfodi i ranu y cynauaf a'r dosbarth a'i cynyrch- ai a'u llafur a'u lludded. Segurwyr fu- ont yn medi y cynauaf, ac yn casglu i ysguboriau, a chai y werin y briwsion. Ymddengys fod y cyfnod hwnw wedi myned heibio, wrth y cyffro a ffyna yn mhob parth o'r byd; a'r drwg yw fod pawb wedi eu cynyrfu fel pe i ranu y byd yn eu plith. Y mae lie i ofni y gwna hyny ein byd yn waeth nag oedd gynt. I ba gyfeiriad bynag yr edrychwn, ceir fod ein byd yn myned i ddyrys- wch ac annibendod. Angen mawr yr Hen Wlad y dyddiau hyn, ac er's oesau, yw tai cysurus i fyw ynddynt, ond dechreuir pryderu a ellir cyraedd yr amcan gyda llafur wedi esgyn mor uchel, ac yn parhau i esgyn. Y mae perygl i'r rhai feddant dai eu gollwng a'u hesgeuluso o herwydd y draul yik. nglyn a goruchwylion man. Y mae traul adeiladu wedi dyblu yn ddiwedd- ar; ac y mae yn ameus a fydd y wlad a'r ardaloedd yn alluog i gyfarfod a'r treuliau! Y mae lle i ofni y bydd yn rhaid i gymdeithas sefyll, edrych ac ys- tyried cyn yr a y byd i ddystryw! Y mae dirwest a gwaharddiaeth yn Lloegr fel pwnc cenedlaethol mewn cyf- Iwr difrifol. Yn nglyn a'r fasnach feddwol, y mae y Seison (a'r Cymry hefyd) mewn cyflwr o baganiaeth. Profa eu hymddygiad at Johnson, y Gwaharddwr, eu bod ar ol yn mhell i America. Gwelsom hanesyn am John- son wedi myned i wledd lie y traddod- odd anerchiad ar waharddiaeth, ac yr oedd croesaw i bawb ofyn neu wrth- wynebu, a chododd un boneddwr ar ei draed, gan adrodd.am ddyn ieuanc cryf a ddarostyngwyd i gyflwr o nychdod ac eiddilwch drwy yfed dwfr, ac awgrym- ai fod perygl i fechgyn Prydain fyned yn eiddilod dan reol gwaharddiaeth! Flynyddau yn ol, clywid llawer o son am ddyfrhau "stocks" (nid da corniog, feddylid), ond cyfranau mewn cwmniau. Caed yr ymadrodd o'r arfer o roi bwyd hallt i dda corniog fel yr yfent ddwfr hyd ychwanegu yn fawr at eu pwysi yn y farchnad. Y mae cryn lawer o hyny yn nglyn a phob trafodaeth, yn gyffelybiaethol felly. Ataliwyd ceir rheilffyrdd llawn o gywion yn ddiwedd- ar yn New York, o herwydd eu bod, set crombiliau y cywion, wedi eu llen- wi a thywod gymysgid a'u hymborth, er mwyn ychwanegu at eu pwysau! Y mae drwg ar gynydd enbydus yn ein gwlad, am y rheswm yn syml na chosb- ir drwg. Ni wyr pobl ei fod yn ddrwg hyd nes y'u cosbir yn galed. Gwelwn fod cryn wrthwynebiad i'r gwrthwynebydd cydwybodol yn nglyn a chael gorchwylion a breintiau. Rhoir y flaenoriaeth i'r rhai aethant i ymladd dros eu gwlad a'i hamddiffyn rhag y gelyn echrydus. (twelwn wrthwynebiad arbenig i athrawon fuont yn wrthwyneb- wyr cydwybodol. Os yr oeddynt yn wrthwynebwyr y pryd hwnw pan oedd y byd mewn cyfyngder enbydus, y maent yn berygl yn nghadeiriau athraw- on. Gwelwn wrthwynebiad yn Nghym- ru, jacsnid yw yn rhyfedd, oblegid o ran y cjidwybodwyr, buasai gwyr y cap a'r pigyn yn rhygyngu yn Mhrydain hedd- yw, a Hwn feallai yn brifathraw Aber- ystwyth! Y mae masnach drwy'r byd dan [ ddrwg-dybiaeth proffitiaeth neu orelwa. Pechod mileinig yw chwant am arian! Dyma dduw ein byd wedi'r oil, mewn byd ac eglwys..Y mae yn ymyrydd mawr a gwaith goreu gras. Y mae mor angenrheidiol i waith yr Arglwydd, gall- em feddwl! Ni all yr Arglwydd wneyd fawr heb gymorth llaw Mamon; a phan y ca gyfle, cymer le yr Arglwydd. Dyma. berygl drwg y byd heddyw; arian- garwch—chwant am arian, am fwy, am lawer, am fwy nag sydd eisieu, am gy- maint ag a ellir gael; ac y mae yn chwareu rhan fawr drwy ein gwareidd- iad! Y mae yn hen ddywediad, fod cariad yn cuddio lluaws o bechodau. Cuddir llawer o bethau heb law gan gariad. Cuddir peth anferth o bechodau gan broffes; a chuddir myrddiynau o ddryg- au gan wareiddiad. Ni feddyliai neb fod dynion mor felldigedig cyn i'r rhy- fel dori allan, pan y tynwyd y cauad, fel pe, oddiar y natur ddynol. Yn Rws- ia. suddodd y bobl yn ol i anwareidd- lwch Sodom a Gomorrah; a chawn fod y byd benbwygilydd a blys myned yn gythrwm at ei gilydd! I ba le yr aeth ein crefydd? Nid oedd ac nid yw ond rhagrith, ond i'r cyfle ddod iddi dori allan. Hyderwn fod digon o allu yn ein llywodraeth i gau i lawr ar y bwyst- fil yn y dyn. Gwelsom ymdriniaeth ddyddorol mewn cyhoeddiad Seisneg yn nglyn a gwerth llyfraii i'r gweinidog. "Na new- ynwch ymenydd y gweinidog," ebe un; yna a yn mlaen i ddweyd y dylai gael pob math o lyfrau i fod i fyny a'r oes. Os na cha y gweinidog gyflog da. ni all fforddio cael llyfrau, fel y gellid tybio mai pa fwyaf o lyfrau ddarllena, cryf- af y bydd fel gwas i Grist. OInWD fod cyfeiliornad mawr yn yr oil o hynyna. Credwn fod gormod o ddarllen rhyw fath a phob math o lyfrau. Cyhoeddir canoedd o honynt annghysylltiedig a chrefydd; a'r ysbrydol sydd yn werth- fawr yn y maes crefyddol. Credwn fod Ilenyddiaeth wedi drygu Cristionogaeth yn ddirfawr, am nad dysgeidiaeth yw, eithr gwybodaeth syml o les yr enaid. Y mae llawer o anialwch ar faes cre- fydd y dyddiau hyn; peth anferth o waith, ond ychydig o ffrwyth. Y mae llawer o bobj dda yn synu i'r dafarn gael y fath ergyd, ac mor ddi- gymwth yn y wlad hon. Ond nid yw yn syn pan yr edrychwn ar symudiad- au natur. Cymer amser i bethau dyfu, ond yn America, gwelir coed yn blod- euo mewn un noson. Heddyw, nid oes ond dail ar bren; yfory bydd yn wyn! Dyna fel y bu ar bren dirwest. Y ddoe nid oedd ond dail; heddyw y mae pren mawr gwaharddiaeth dan ei flodau. Dyna sydd yn gysur i wareiddfad, sef y daw diwygiadau fel pren yn blodeuo. Gwelwn ar yr ochr draw, yn Llundain, y werin yn caru y ddiod a chyfeddach, a'r dydd o'r blaen, gwnaed ymosodiad ar was da gwaharddiaeth hyd nes peri iddo golli ei lygad. 0 Shoni feddw! Ond hyn yw y gobaith a'r cysur y bydd i waharddiaeth flodeuo ar frys yno. Bydd o fendith anrhaethol i'r Prydein- iaid. Bwriada Johnson ymweled a Chymru, a hyderwn y'i hanrhydeddir yno fel un o gymwynaswyr penaf yr oes. Pan yn rhoddi egwyddor Crist ar walth, ni ddylid anwybyddu fod y diafol wrth ei waith ar yr ochr arall. Hyn yw y rhwystr a ebargofir gan y pasi- ffistiaid a'r Cristion eithafol. Y mae yn ddichon drwy ddiofalwch i Grist gael ei droi yn was i'r diafol! Siaradir yn barhaus y dyddiau hyn am garu gelyn, a dileu yr hen gas at dramoriaid, a dywedai Dr. Jowett y dydd o'r blaen, yn ei bregeth fod Crist wedi alltudio y gair "gelyn," a'r gair "tramoryn," ac y mae hyny yn wir, ontj.'a yw y "gelyn" a'r "tramoryn," y Bolshefic a'r "Coch- yn" o Rwsia a Germani, er engraifft, fel ag i fod yn ddigon diniwed i Gristion ymddiried ynddynt? Y mae yn iawn i Gristion ymgadw rhag niweidio y gelyn a'r tramoryn, ond y pwnc mawr a anwy- byddir yw hyn, A yw y gelyn a'r tra- moryn a'i fryd ar niweidio yr hwn a gymellir i'w gan? Fel hyn: Nid yw yn iawn i ddyn gamdrin ci ar yr heol, ond eto dylai ofalu na fydd i'r ci neidio ato a'i gnoi! Os y goddefa y Cristion bob- peth, y mae perygl i'r diafol gymeryd mantais arno, a throi y cyfan yn llwydd- Yr Awstraliaid yn Curo Rhydychain yn yr Ymdrechfa yn Henley. —C opyright Western Newspaper Union iant i'w deyrnas ef ei hun. Ai nid yw hynyna yn iawn? Dylai yr .hen Gymro (Myrddin Fardd o Chwilog, onide?) gael math o gofadail am ddod o hyd i'r ffaith hollfyd-ddydd- orol, mai "hogyn garw" oedd D. Lloyd George, ac y dylsid ei alw at ei waith o barotoi ei hun at y gorchwyl oedd Duw wedi ei gynysgaeddu a'i ddonio i'w gyf- lawni; a'r un pryd dylid codi math o wallgof-golofn i'w elynion ar hyd a lied Cymru! Gwelsom un papyr Cymraeg yn ei gollfarnu y dydd o'r blaen am ei fod wedi parotoi am bedwar mis ar gyfer y sefyll allan ar y rheilffyrdd. Gallesid tybio fod hyny yn gam ag ar- weinwyr y streic! Mae yn syn genym na fyddai rhai o'i elynion yn pasio pen- derfyniad o gondemniad ar Raglun- iaeth! Gwelsom ystori y dydd o'r blaen am Lloyd George sydd yn glod anferth iddo, ac yn brawf ei fod yn hogyn garw iawn. Ceisid droion argraffu ar ei feddwl (a gwnaed hyny gan y Liynges- ydd Sims o America) fod pethau yn eithafol o beryglus, o herwydd y tan- forolion gychod. Yr oeddynt yn gwelwi yn eu gwynebau, a'u calonau yn curo fel padelli dan fargoed; ac ebai yr hog- yn garw: "Ydynt, y mae pethau yn o ddrwg"; "ond," meddai efe gyda gwen, a chwyfiad ei law, "mi gawn ni'r gora arnyn' nhw. Peidiwch ofni." I CRIST A BELIAL Y gwyn glywyd yn ystod y rhyfel oedd fod Cristionogaeth yn fethiant, a diau y credid hyny gan luaws mawr, ac y mae y gred yn debyg o fyned ar gyn- ydd oddigerth i Gristionogaeth, neu yr Eglwys, fyned ati i roi egwyddorion Cristionogaeth ar waith. Nid yw Cristionogaeth mewn dam- caniaeth yn werth dim mwy na rhyw- beth arall na roir mewn gweithrediad. Nid yw bwyd yn werth dim oddigerth i ni ei fwyta; ac ofer fyddai cwyno yn erbyn bwyd, a neb yn ei fwyta! Dyna yw drwg mawr ac amlwg ein Cristionogaeth-addurn yw, nid bywyd. Ceir o fewn eglwysi ein gwlad bobl gy- foethog, pobl. mewn masnach, pobl yn cyflogi llafur, pobl yn byw bywyd hel- aethtfych beunydd, pobl yn meddu cyf- ran fawr o olud cymdeithas, pobl yn cael byd esmwyth, ac yn proffesu can- lyn Crist; ac eto cadwant afael yn yr enillion mwyaf allant, ac edrychant ar lafur a'i drafferthion yn ddigon didos- tur. Gwelir rhai fel Frick, newydd groesi i ryw ochr o'r byd tragwyddol, yn werth tua $200,000,000; golud a ym- ddengys fel tren ar reilffordd; a dywed- ai un cyhoeddiad na wyddai pa gymelint oedd ei olud, a bu farw o fwydwenwyn- iad. Ni ymddtengys fod neb yn galaru ar ei ol; ac ni welsom sylw caredig am dano, ond yr hen sylw edmygol o'i fod unwaith yn fachgen tlawd; fel pe bae dechreu yn dlawd, ac ymgyfoethogi ar dlodi eraill yn ogoniant i ddyn! Bu amser pan edrychid gydag ed- mygedd ar ddyn wedi codi o dlodi i olud, ond ni ystyrid y pryd hwnw beth olygai hyny. Golygai y gwrthgyferbyn- iol i ogoniant yn ol Paul, yr hwn a son- ia am Un oedd yn gyfoethog ac a ddaeth yn dlawd fel y cyfoethogid eraill drwy ei dlodi! Dyna yr unig ogoniant gweithfaol gwerth son am dano, sef pobl yn ym- gyfoethogi a chyfoethogi eraill gyda Haw; nid adeiladu eu goludoedd ar brin- der eraill. Dyma fydd yn rhaid i'r Eglwys, ac i Gristionogaeth wneyd, set addysgu yr athrawiaeth wrthgyferbyniol i'r hon fu mewn bri hyd yma. Rhaid fydd i Grist- ionogaeth ddechreu cyhoeddi yr eg- wyddor, a rhoi rhybudd i'r goludogion o'i mewn, ac o fewn cylch ei chlywed- igaeth, mai yr egwyddor yw gwasan- aethu eraill. Ni ddylai yr Eglwys ddyoddef yr un egwyddor arall! ATHRONIAETH BYWYD I Y mae rhywbeth go naturiol yn y cyffroadau a'r streiciau presenol drwy y byd, pan y'u cydmarwn a thyfiant neu ddadblygiad pren. Y syniad a golsdd- wyd gan yr Eglwys a'r Byd gynt oedd mai cyff oedd crefydd a gwareiddiad, ac y dylasai aros yn gyff-dim cangau yn tori allan o'r cyfr, ond yn unig y* hen fonyn yn aros yn fonyn! Dyna fel oedd yn gywir! Ond yn fuan aeth y cyff i droi allan gangau, a'r rhai hyny eto fan gangau, a buas- ai dyn call, callach na'r Pab o Rufain, a challach na'r erlidwyr enwog drwy yr oesau, yn dal mai felly y dylai bywyd ymddwyn. Yn fuan, aeth y cyff i ym- ladd a'r cangau, a'r cangau a'r cyff, ac a'u gilydd dan gynyrfiad yr hyn a ehvid yn "iawngredaeth." Credai y naill gangen mai hi oedd a'r bywyd oil, ac y dylasai Cristionogaeth dyfu yn ei chyfeiriad hi yn unig; ond dacw gangen gref arall yn myned i gyf- eiriad arall, gan darddu o'r un cyff, ac ynddo yr un fath fywyd. Yr unig beth nad oedd yn Gristaidd ynddynt oedd eu hysbryd drwg, gwrthwynebus, erlidgar a hunangyfiawn. Erbyn heddyw, sonir am gael hedd wch rhyngddynt, a ffurfio rhyw fath o Gyngrair, gan y teimlir erbyn hyn nad oes gwir a sylweddol achos ffrae rhyng- ddynt! Y mae athroniaeth bywyd-y bywyd llysieuol—wedi amlygu a dad- guddio y gwirionedd iddynt. Dyma ddull Pren y Bywyd o dyfu hefyd; fel pob pren. Y mae hon yn gydmariaeth dda, seil- iedig ar fywyd; a gellid ei dylyn yn mlaen yn mhellach. Nid oedd gobaith am ffrwyth o gwbl gyhyd ag yr arosai y pren yn gyff; nid oedd gobaith am ddail hyd yn nod hyd nes y torai y man gangau allan ar y rhai y tyf y dail; ac ni fyddai gobaith am y blagur, a'r blodau a'r "blawdd gwydd," yn yr hwn y mae dirgelwch cyfrin yr adgynyrch, yr hyn a gymer le cyn y daw y ffrwyth. Drwy y canol oesau (a'r cynoesau hefyd), ymdrech fawr y byd fu rhwya. tro tyflant pren gwareiddiad; ond er pob gwrthwynebiad ac erledigaeth ac ynfydrwydd iawngredaeth a chamgred- aeth, a phob credaeth, ymddadblygu wnai pren crefydd a gwareiddiad am y rheswm syml fod Bywyd ynddo a thrwy- ddo, sef y Ddeddf a rhoed ynddo gan Dduw. Ni all athronwyr a duwinyddion y "Drych," hyd yn nod atal gweithred- iad y Ddeddf hon. Gyda dadblygiad y Bywyd hwn, daw adeg y blaguro, a'r blodeuo a'r dwyn ffrwyth yn nghyflawn- der yr amser, a buasai genym yn awr oni bae!

BARN IANCI AM LLOYD GEORGE_I

NODION 0 NEW YORK, N. Y. I

[No title]

[No title]

NOBION PERSONOL I :