Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
m SDrscb. A WELSH WEEKLY ESTABLISHED 1851. issued Every Thursday Morning Thomas J. Griffiths & SODS. UTICA, N. Y. IMPORTANT TO ADVERTISERS.-The Attention of business men In general Ie eailed to T DRYCH as a superior adver- tising medium, being read by thousands who cannot be reached by any other pub- lication. It has a large circulation, with oubooribwo in every State and Territory << the Union, in Great Britain and the British Dependencies. It is the recognised National Organ of the Welsh People.
CREDU YN NUW—PAHAM?!
CREDU YN NUW—PAHAM? Gan R-G f Y mae pob "paham" yn perthyn i fyd athroniaeth. Ond mae perthynas mor agos rhwng eneideg ag athroniaeth sydd yn ein gorfodi i gerdded llanerch- au pwysig y naill a'r llall er gwynebu y mater hwn. Cyfaddef a wnawn mai beiddgar yw'r teitl; ond, er hyny, yn hynod bwysig i bob crefyddwr; ac mae pawb yn grefyddol yn ei ffordd ei hun, hyd yn nod o'r plentyn lleiaf at yr hwn sydd yn cyraedd oedran henaint. Dyddorol ydyw gofyn, serch hyny, Pa- ham mae'r plentyn ieuanc yn credu mewn Duw? Ateb eneideg ddiweddar ydyw, "o herwydd ei ddysgu wnawd gan ei rieni, neu rywrai hynach i gredu." Mater felly a roddwyd iddo o'r tu allan, ac nid profiad o'r tu fewn yw dechreuad a tharddiad y grediniaeth yn Nuw yn myd y plentyn. Sicr, ni all y plentyn lai na chredu yr hyn a ddysgir iddo. Y mae gwrando ar eraill yn sail crediniaeth i'r plentyn. Dyna'r paham mae llawer o bregeth- wyr yn pwysleisio mor bwysig yw'r nyn a lefarwn yn' nghlyw y bachgen ieuanc yna; y mae yn gwrando yn astud, a thry i gredu yr hyn a lefarir. Dyma hefyd ebra nhw sydd wrth wraidd ei grediniaeth yn Nuw. Clywed gan er- aill a wnaeth. Wrth gwrs, nodwedd y plentyn ar ol clywed ydyw troi yr hyn a glywir i'w fyd ei hunan. Nid oes neb mor naturiol a'r plentyn fu yn dy hanes di. Peidier ei feio am syniadau plen- tynaidd sydd ganddo am Dduw. Troi syniadau rhywun hynach a mwy addfed a wnaeth i'w gylch bychan ei hun. Ceir yn y "Child Study Monthly," y syniad canlynol gan blentyn am Dduw: "Ei fod yn byw yn y nef, ac yn gofalu am danom i gyd, yn enwedig yn y nos." Ebai un arall: "Bodola uchod, a thy- wallta'r gwlaw i lawr fel dwr o fwcedi iiawrion; tery'r cymyl nes gwneyd tar- anau; rhydd yr haul a'r lleuad yn eu gwely; a chymer y bobl ar ol marw ato'i hun, yn enwedig "broken dolls" plant bach; ac y mae Efe yn berthynas agos iawn i Santa Claus." Nid yw hyn, yn ddiau; ond dawn naturiol y plentyn i droi dysg y pwlpud a'r Ysgol Sul i gylch defnyddiol ei fyd ei hunan. Dyma hefyd wna llawer o blant mewn oedran, ydyw troi priodoleddau Duw i'w hamcanion eu hunain. Mor debyg i'r plentyn yw'r "dyneiddio" yma sydd ar Dduw mewn llawer athrawiaeth heddyw! Wedi'r cyfnod o fyd y plen- tyn, yn ami iawn tua'r oedran o bym- theg oed i'r deunaw, caiff adegau a thipyn o ameuon yn codi i'w feddwl. Dyma'r adeg y bydd, "Ai fel hyn y mae?" yn troi o throsi yn ei feddwl. Os yn methu dadrys yr ameuon, y tebygolrwydd yw y gadawa'r mater hyd ryw gyfnod diweddarach; ac aiff i ddal yr ben gred gyda thipyn o nodau mwy addfed; o herwydd nad oes ganddo ddim amser bellach i wneyd "platform newydd" o fater coed. Nodwedd llawer un heddyw ydyw ei fod yn credu "by proxy." Yn sicr ddi- gon, daw y rhan fwyaf i dawelu eu hof- nau trwy dderbyn cyfundrefn o athraw- iaeth wedi ei ffurfio gan rywun arall. Pa beth yw y "Nicene Creed" ond "ready made" o gyfundrefn i bob un, sydd yn rhy ddiog i ddal i feddwl? Tybed nad oes digon o feddylgarwch g'3.n yr ugeinfed ganrif i osod myneg- iant o'i hargyhoeddiad mewn ffurf na. turiol i'n hoes orphwys yn gyfangwbl ar iaith a theithi y bedwaredd ganrif? Dyma awdurdod cryfaf lawer un hedd- yw yw ei fod yn credu mewn- ambell athrawiaeth am fod John Wesley neu John Calfin wedi ei dysgu hi. Cym- aint o drafferth gafodd ambell i ath- raw mewn coleg i ddysgu y stiwdent duwinyddol oedd yn myned i'r pwlpud i feithrin a dysgu prawfion dros fodol- aeth Duw. Gosodir hwynt yn wahanol. linellau a'u henwau mawrion arnynt, fel cosmological, ontological a teleologi- cal, &c. Dyna'r meddwl bellach ar ol ei "stereotypio" yn barod i'w ollwng i'r oes. Pa beth mewn difrif fyddai yn dyg- wydd i Dduw llawer un heddyw pe bai y prawfion hyn yn cael eu tori ymaith gan uwchanianeg neu rywbeth arall? Dygwyddodd pethau lawn mor annys- gwyliadwy a hyn yn myd meddwl. Y mae llawer heddyw yn credu am na chymerasant amser i beidio credu. Ebai un yn onest iawn dro yn ol: "Os byddaf yn wael fy iechyd af at y medd- yg; dyna'i fusnes. Os eisieu dysgu Lladin, yna af at athraw mewn Lladin; dyna'i waith. Os eisieu Duw yna af at yr eglwys; dyna'i gwaith hithau." I ba beth y dylem golli amser i wneyd rywbeth i ni ein hunain, a chymaint o "specialists" at yr angen sydd ynom yn mhob cylch? Felly deuwn i'r pender- fyniad naturiol, os nad oes Duw, y dylai Un fod, a chymerwn ddyfarniad rhai eraill am dano, a derbyniwn y mwyaf cydweddol a'n haddysgiaeth foreuol. Canlyniad hyn, yn ddios, yw gwneyd "camouflage" o gyneddfau naturiol. Ac yn wir, hanfod yr enill lwcus yma ydyw ein bod, fel dywed un: "We use God rather than understand Him." Mor hawdd y gwnawn Ef yn Dad i'r amddifaid ac yn Gynalydd i'r weddw." Yr hyn a wna Duw yn hytrach na'r hyn ydyw sydd yn apelio gryfaf atom. Feallai fod Longfellow yn iawn pan ddywed: "Behind the great unknown standeth God." Ond pa faint o honom sydd wedi ei weled felly? Mentraf ddweyd y dylem fod wedi ei weled, Efe ei Hun, cyn llunio prawfion am dano yn y byd tu allan. Y mae gweled Duw yn hanfodol cyn credu ei fod yn ei weith- rediadau yn y cyfanfyd. Mewn profiad y gwelir Dduw oreu, nid mewn rhesymeg ac athrawiaeth. Aeth llawer o dduwiau rhesymeg yn hen ac o fodolaeth. A ddaw tynged felly i'n Duw ni, os Duw rhesymeg yn unig ydyw? Gan fod y "Drych" clod- wiw yn fath o dwr cadarn, ac yn gysgod teilwng i feddyliau crefyddol y dydd yn ein gwlad heddyw, y mae ambell gwes- tiwn sydd yn codi i'n meddwl, heb'efall- ai berthyn i ni yn wreiddiol, ond y byddai eu hateb gan y cyfarwydd yn gynorthwy mawr i feddwl ieuanc yr oes. Wrth gwrs, dylai 'gethwyr yma eu hateb, os ydynt yn caru goleuo yr oes. Ac nid oes well cyfrwng iddynt gyda ni heddyw na'r "Drych." Dyma ddau neu dri y tro hwn: Pe tai chwi yn clod i gredu nad oes Duw, a wna hyny wahapiaeth hanfodol yn eich bywyd; yn enwedig yn ei foes- oldeb, ei lawenydd, a'i gyraeddiadau? Paham y credweh yn Nuw? Seiliau eich cred drosto: ai ar brawfion (ar- guments), ai eich bod wedi, profi ei bresenoldeb. Rhoddwch grynodeb sut y daethoch i'w brofi yn ddiameuol. Ai ar awdurdod fel y \Beibl y gorphwys eich cred? A ydych yn credu mewn gweddi? A oes genych sicrwydd personol fod Duw yn ateb gweddi? Paham fod mwy o wragedd yn mynychu'r cyfarfodydd gweddio heddyw? A fedrweh chwi fod yn grefyddol heb fynychu'r eglwys? Wrth gadw o'r eg- lwys, a yw dynion yn gwadu crefydd? Dyma rai pethau o bwysigrwydd mawr yn myd eneideg. Ac nid ydynt i'w lluchio ymaith am eu bod yn feidd- gar. Y mae hawl eu gofyn am eu bod yn dal perthynas a'r mater mawr: "Credu yn Nuw—Paham?"
[No title]
—Mentrodd bachgen bychan, wyth oed, o'r enw Neville Renshaw, wyr i Mr. Thomas Renshaw, Bagillt ar lyn oedd wedi rhewi. Torodd y rhew, a suddodd yntau i'r dwfr. Gwnaed ym- g-ais galed i'w achub gan fachgen o'r enw Keen, a chap ei daid, ond yn ofer. Yn mhen dwy awr ar ol hyny, llwydd- wyd i gael y corff i'r lan.
[No title]
—Dygwyddodd peth eithriadol yn hanes yr Eglwys Sefydledig yn Llan- gynwyd yr wythnos o'r blaen. Nid oes neb o'r ardalwyr yn cofio clywed neb erioed ond offeiriaid y Llan yn darllen Ilithiau. Ond daeth i ran y Parch. T. H. Morgan, y Garth, y fraint fawr hon yn ddiweddar, er syndod i bawb. Hyderir nad yw'r brawd anwyl hwn yn golygu gwisigo y crys gwyn ond pan yn gwasanaethu mewn angladdau.
ICYNGRAIR Y CENEDLOEDDt
I CYNGRAIR Y CENEDLOEDDt I Gan W. W. Williams Mae y testyn uchod wedi bod yn un o brif bynciau y dydd er's amryw fis- oedd bellach, ond fel gyda bron bob cwestiwn pwysig arall, mae llawer o wahaniaeth barn gyda golwg arno. Addefir yn gyffredin fod y syniad hwn yn un ardderchog, ond y mae rhai yn gwneyd gwawd o hono, gan ei fod, meddant hwy, yn hollol anymarferol. Dadleuant mai "delfryd" ydyw, ac nad ellir byth ei gario allan. Mae eraill yn credu, nid yn unig fod, y syniad yn un ardderchog, ond hefyd fod yn bosibl ei ymgorffori, ac yn raddol ei gatio allan i weithrediad. Gellir dweyd nad oes dim yn neill- duol o newydd yn y syniad ar ba. un y gorphwys "Cyngrair y Cenedloedd." Yr oil amcenir wneyd drwy y Cyngrair hwn yw gwneyd cymwysiad eangach o egwyddor ag y mae cenedloedd gwar- eiddiedig y byd wedi gwneyd defnydd o honi er's oesoedd. Yr hyn amcenir wneyd yw ceisio ffurfio cynllun trwy yr hwn y gellir setlo cwerylon a allant godi rhwng cenedloedd y byd, yn yr un modd ag y mae cwerylon sydd yn codi rhwng personau unigol yn cael eu setlo er's amser maith yh ngwledydd gwaraidd y byd. Yn y gwledydd anwaraidd, pan y mae annghydfod yn codi rhwng rhai o'r trI- golion, maent yn dyfod yn erbyn eu gilydd ac yn ymladd. Ond mae trigol- ion y gwledydd gwaraidd wedi dad- blygu digon, ac y mae rheswm a phrof- iad wedi eu dys,gu mai gwaith ffol iawn yw hyn. 0 ganlyniad, mae trigolion y gwledydd hyn wedi hen arfer setlo eu cwerylon mewn dull gwaraidd a rhe- symol. Maent wedi hen arfer sefydlu llysoedd yn mha rai y mae eu cweryl- on i gael eu setlo. Ond nid yw hyd yn nod trigolion y rhan waraidd o'r byd eto wedi ymrydd- hau ond mewn rhan oddiwrth ddefnydd- io y dull anwaraidd i setlo y cwerylon rhwngwladol sydd yn codi yn eu mysg. Nid ydynt eto wedi cyraedd safle digon uchel mewn gwareiddiad fel ag i sef- ydlu llys rhwngwladol a myned a'u cwerylon rhwngwladol i'r llys yma i gael eu setlo; ond y maent yn ami yn parhau i ddefnyddio yr hen ddull, y dull anwaraidd i setlo y cwerylon pwysig hyn. Maent yn dyfod yn erbyn eu gil- ydd i ymladd, i ryfela. Yn awr, mae y rhyfel dychrynllyd diweddar wedi dyfod a phobl fwyaf goleuedig y gwahanol wledydd i ystyr- ied. yn fwy difrifol nag erioed o'r blaen y cwestiwn pwysig; cwestiwn sydd wedi cael llawer o ystyriaeth eisoes yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, Ai onid yw yn bosibl i ni gael rhyw gynllun trwy yr hwn y gallwn setlo ein cwerylon rhwngwladol heb fyned i ryfel, heb fyned ati i ladd ein gilydd? Ai oni allwn bellach gael rhyw gyn- llun trwy yr hwn y gallwn setlo ein cwerylon pwysig mewn modd gwaraidd, rhesymol, anrhydeddus, a thrwy yr hwn y bydd gobaith da y sicrheir cyfiawn- der i'r pleidiau fydd mewn ymrafael, yn lie y dull anwaraidd, afresymol, creulon, ac yn yr hwn nid yw dyfiawn- der yn cael ystyriaeth o gwbl, ydym wedi.bod yn ei ddefnyddio yn ami yn y gorphenol? Dyma y cwestiwn mawr ag y mae rhyfel y byd wedi deffro trigol- ion y byd i'w ystyried o newydd. Yn awr, beth y mae y byd yn ei enill -trwy ryfel? Mae y gost arianol yn en- fawr, y galanasdra a'r difrod yn ofn- adwy, a'r golled mewn bywyd dynol yn ddychrynllyd. Addefir hefyd fod rhyfel yn achosi dirywiad moesol, ac y mae hyn yn canlyn bron yn anochel- adwy pan yr ystyriom fel y mae y ddeddf foesol yn cael ei hanwybyddu yn ystod rhyfel. Yn lie y chweched gorchymyn, "Na ladd," y gorchymyn yn amser rhyfel yw, "Lladd." Nid oes fawr o sylw yn cael ei dalu i'r pedwer- ydd gorchymyn yn adeg rhyfel. Mae nwydau anifeilaidd a dialgar dynion hefyd yn cael eu cynyrfu fel ag y mae y gweddill o'r gorchymynion yn cael eu hanwybyddu i raddau mwy o lawer nag arfer. .Ond beth a enillir trwy ryfel? Beth a geir yn atdaliad am y gost a'r di- frod dychrynllyd? Pan y bydd cenedl yn myned i ryfel, yr amcan honedig yn gyffredin ydyw er mwyn unioni cam, er mwyn sicrhau cyfiawnder. Dyma, yn ddiau, ddylai fod yr amcan mawr, dyna ddylai fod y nod i gyrchu ato bob am- ser, pa un bynag ai rhwng personau unigol ai rhwng cenedloedd y bydd yr annghydfod. Nid oes amcan arall gyf- relthlona ddyn I ymladd a rhyfela. Ond pan y mae dynion anwaraidd yn myned ati i setlo cweryl trwy ymladd a'u gil- ydd, nid oes a wnelocyfia wnder ddim a'r mater o gwbl. Nid yw rhesymol- deb y gofynion, na maint y cam y mae un dyn neu un blaid wedi ei ddyoddef yn dyfod i mewn o gwbl i benderfynu pwy fydd y gorchfygwr. Maint y dwrn a nerth y fraich, a ffyrnigrwydd y dy- mer sydd yn penderfynu pa fodd y try yr ymladdfa. "Trechaf treisied, gwapaf gwaedded" yw hi. Yr un modd pan y mae cenedloedd gwareiddiedig yn myn- ed ati i setlo cwerylon trwy fyntd i ryfel, nid yw cyfiawnder yn cael llais o gwbl yma ychwaith. "Trechaf treis- ied, gwanaf gwaedded" yw hi yma hefyd. Dywedir fod Napoleon Bonaparte wedi dweyd fel hyn, "In war, God is always on the side of the heaviest ar- tillery." Mae yn sicr na feddyliai yr hen Napoleon i ni gymeryd y frawddeg hon n llythyrenol, ond yi hyn a fedd- yliai oedd, os y byddai pethau eraill yn gyfartal, mai yr ochr byddai gan- ddi y cyflegrau trymaf fyldai bob am- ser yn fuddugoliaethus; a< yr ydym yn credu fod syniad yr hen gadfrldog ar y mater hwn yn bur gywir. Pwy all ddweyd pa un ti cyfiawnder ai annghyfiawnder sydd wedi buddugol- iaethu amlaf yn rhyfeloedd y byd? Pwy a ddywed fod cyfiawnder ar yr or- sedd ond mewn nifer bychan, os o gwbl, yn mrwydrau lluosog a buddugoliaethus yr hen Napoleon? Pwy a ddywed fod cyfiawnder ar yr orsedd yn rhyfel llwyddianus y wlad hon yt erbyn Mexi- co yn 1846-48A neu yn rhyfel llwyddian- us Prydain Fawr yn erbyr y Boeriaid, ugain mlynedd yn ol? Pe buasai sicr- wydd neu debygolrwydd mawr y gwnai myned i ryfel sicrhau cyfiavnder rhwng gwlad a gwlad, buasai yn llawer o help i ni foddloni i'r dinystr a'i dyoddef a'r marw sydd yn anocheladwy yn nglyn ag ef. Ond nid oes sicrwydd o gwbl am hyn. Mae y gost yn (^chrynllyd a'r canlyniadau yn hollol ansicr. O'r tu arall, pan y mae cwerylon yn cael eu setlo mewn! llys barn, y rheol fawr yw, er nad yn ddieithriad, fod cyfiawnder yn cael ei sicrhau i'r pleidiau, a'r gbst, o'i chydmaru a chost rhyfel, ddim yn werth son am dani. Yr ydym yn hollol ymwybodol nad y cwestiwn sydd wedi bod o flaen y wlad yn awr yw gwerth cydmarol y ddwy ffordd yma o s'etlo cwerylon, sef trwy ryfel neu trwy lys barn, ond ymddeng- ys i ni fod y byd wedi hen arfer cy- maint gyda rhyfel fel nad ydym yn dechreu sylweddoli o gwbl beth mor ffol, mor ddireswm, mor ddinystriol, mor gostus, ac er hyn oil mor ansicr o sicrhau cyfiawnder. yw rhyfel, nes y buasem yn fwy awyddus i ystyried yn ddifrifol ac i roi prawf teg ar ryw gyn- llun i'w ddifodi. Yn awr, a ydyw yn rhesymol i ni gredu y gellif gwneyd "Cyngrair y Cenedloedd" yn llwyddiant? Dyna, ar y wyneb beth bynag, yw y cwestiwn ar ba un yd ydym yn ymranu. Ymddengys i ni ei fod yn berffaith resymol i ni gredu fod hyn yn eithaf posibl. Yn gyntaf, y mae y llwyddiant sydd wedi ei gyraedd yn barod yn ngwled- ydd gwaraidd y byd i setlo cwerylon rhwng personau unigol a rhwng dos- barthiadau o ddynion heb arfer y dwrn a'r pastwn, yn peri i ni gredu hyn. Yr ydym ambell dro yn clywed am ddau ddyn yn y gwledydd hyn yn ceisio setlo eu cwerylon Jirwy ddefnyddio eu dyrn- au, ond anaml iawn mewn cydmariaeth y cymer hyn le. Mewn llysoedd y mae cwerylon yn cael eu setlo gan bobl war- aidd. Hen ddull cyntefig yr oesau ty- wyll yw defnyddio y dwrn. Mae cym- deithas waraidd yn gwgu ar y dull yma, ac y mae dynion yn iselhau eu hunain yn ngolwg pawb wrth ei ddefnyddio. Mae pawb yn gwybod nad yw y pleidiau fydd mewn ymrafael yn gymwys i setlo yr annghydfod rhyngddynt, gan fod rhagfarn a hunangariad yn eu hanallu- ogi i farnu yn gywir, ac y mae y llyw- odraeth yn trefnu na chant hwy na'u perthynasau, na'u cyfeillion agos, eis- tedd mewn barn ar y mater, ond fod yn rhaid cael personau anmhleidiol o'r tu allan i'w benderfynu. Dyma un o anhebgorion llys barn, ac y mae pobl waraidd yn mhob man yn cydnabod mai dyma y ffordd i setlo cwerylon, ac y maent yn gadael peth, or ddireswm ag ymladd i'r creaduriaid direswm, y cwn a'r moch. Hefyd, mae y ffaith fod cynifer o gwerylon rhwng cenedloedd wedi cael eu setlo yn ystod y blynyddoedd di- weddaf heb fyned i ryfel, yn cryfhau ein ffydd y gellir gwneyd y Cyngrair yn llwyddiant. Mae llawer o engreifft- iau yn ystod yr haner caa mlynedd di- weddaf o ddwy wlad wedi myned i gweryla, a phob un, wrth gwrs, yn meddwl ei bod hi yn cael llawer o gam, eto eu harweinwyr wedi meddianu eu hysbrydoedd, ac wedi cymeryd pwyll ac a.rfer rheswm, a phob un wedi "boddloni i roi i fyny fwy o lawer nag oedd hi yn gredu yn gydwybodol oedd cyfiawnder yn ei ofyn," ac fel hyn wedi setlo yr annghydfod heb fyned i ryfel.
I ABRAHAM LINCOLN A'I ARAETH…
I ABRAHAM LINCOLN A'I ARAETH GLASUROL I Gan Joseph Aubrey, Youngstown, Ohio I II. I Hanes y Cyfansoddiad "Fe fydd yr araeth hon fyw yn mhen haner can mlynedd; fe'i dysgir hi gan fechgyn ein hysgolion Americanaidd fel rhan o'u haddysgiaeth. Nid fy nhyb i yn unig yw hyn; dywedodd War- rington ei bod yn diaspedain trwy'r holl wlad. Ac nid ydych wedi ei darllen? A'ch enw yw Lincoln! Warry, fach- gen, pa le mae'r papyr adawodd Nellie? Darllenaf yr araeth fy hunan i Mr. Lin- coln." Neidiodd y llanc, ac yn groes i'r ystafell, a dygodd y papyr oddiar y bwrdd. "Carter, gadewch i mi ei ddar- llen; fe'ch blina chwi yn ormodol." Dechreuodd ddarllen, ac fel yr oedd y geiriau a'r brawddegau yn llithro o enau y Hanc, dygwyddodd gwyrth, canys gwelodd ac ymwybu y dyn a'i hysgrifenodd ei fod yn fawr. Ar ol cwblhau y darlleniad, yr oedd dystaw- rwydd dwfn yn yr ystafell, fel y dys- tawrwydd a nodweddai faes Gettysburg y dydd blaenorol. Torwyd y dystawrwydd gan y milwr: "Araeth rhyfeddol yw. Nid oes dim yn geinach. Y mae dynion eraill wedi siarad geiriau cynyrfus dros y Gogledd, a thros y Dehau, ond nid erioed o'r blaen, feddyliwyf, gyda chariad at y ddwy yn anadlu trwyddynt. Y dynion mwyaf yn unig all fod yn bleidiol heb chwerwder, a dyma'r unig rai y gelHr eu dynodi; nid Gogleddwyr na Deheu- wyr, ond Americaniaid. I deimlo y gall eich gelyn ymladd a chwi hyd angeu heb falais, ond gydag haelfrydedd, y mae yn dyrchafu gwlad, yn dyrchafu dynoliaeth i rywbeth gwerth farw er ei fwyn. Geiriau tlws ac eang ydynt, a thynid colyn rhyfel pe gellid anadlu enaid Lincoln i mewn i'r byddfhoedd. Nid oes dim all gyfnewid fy edmygedd o'r dyn, ac o'i eiriau. Carwn roddi fy Haw yn ei law ef cyn fy marw, a char- wn ddweyd wrtho fy mod yn gwybod mai yr hyn yr ydym yn ymladd drosto, y goreu o honom, ydyw iawnder, neu hawliau ein gwlad fel yr ydym yn eu canfod. "Y mae chwerwder yr ymladdfa wedi diflanu i mi. Nid wyf yn teimlo ond yn unig gariad at wlad, a'r boddhad o roddi fy mywyd drosti. Y' mae yr, araeth hon wedi ei wneyd yn fwy syml, ac yn fwy aruchel,, eich hochr chwi, yn ogystal a'n hochr ninau. Carwn roddi fy Haw yn eiddo Abraham Lincoln"—yn ei ing marwol aeth ei law yn syth allan, a chydiodd yn y bysedd hirion oedd yn gorwedd yn agos ato, a thynodd yr Ar- lywydd ar ei liniau wrth ochr ei wely. Yr oedd drws marwolaeth wedi ei agor yn llydan; yn sydyn, peidiodd yr ym- drechfa; gorweddodd y pen anymwy- bod.ol yn mreichiau ei frawd bach, a gorweddodd Haw y milwr-fachgen De- heuol yn y fan y dymunas-ai ei osod- yn Haw Abraham Lincoln. Talfyrwyd yr hanes uchod o lyfryn tlws a dyddorol Miss Andrews, "Y Deyrnged Berffaith." Hwyrach nad an- nerbyniol fyddai rhoddi yr araeth fyd- glodus hon mewn gwisg Gymreig. Ond odid, na fydd y gwisgiad mor esmwyth a thaclus a'r un a gafodd gan ei awdwr anfarwol; ond credwn fod ei meddwl genym yn y cyfieithiad o honi. Ym- geisiwn ei rhoddi mewn Cymraeg der- byniol a diledriw; goreu medrwn, gan gadw mor agos ag y gallwn i eirwedd- iad y Seisneg, mor bell ag y goddefa teithi ac ansawdd y Gymraeg. Testyn neu safon y cyfieithiad yw yr araeth fel ag y mae yn "Hanes Bywyd A. Lin- coln," gan Miss Ida Tarbell: Y Cyfieithiad I Pedwar ugain a saith o flynvddau yn ol, ein tadau a ddygasant allan ar y cyfandir hwn, genedl newydd a genedl- wyd mewn rhyddid, ac yn gyflwynedig i'r gosodiad fod pawb dynion wedi eu creu yn gydradd. Weithian, yr ydym yn ymfrwydro mewn rhyfel cartrefol mawr, er profi a fedr y genedl hono, neu unrhyw genedl a genedlwyd ac a gyfiwynwyd felly, barhau yn hir. Yr ydym wedi cwrdd ar gadfaes mawr i'r rhyfel hwnw. Yr ydym wedi dyfod i gyfiwyno cyfran o'r maes hwnw fel gorphwysle olaf i'r rhai a roMasant yma eu bywydau, fel y gallai ?penedl hono fyw. Addas ac hollol br ??ol yw i ni wneyd hyn; ond, mewn ystyr fwy, nis gallwn ni gyflwyno-nis gallwn ni gysegru—nis gallwn ni santeiddio—y tir hwn. Mae y dynion dewr, byw a meirw, a ymdrechasant yma, wedi ei gysegru yn mhell uwchlaw ein gallu tlawd ni i ychwanegu ato neu dynu oddiwrtho. Ni thai y byd nemawr sylw, ac an- nghofia ar fyrder yr hyn a ddywedwn ni yma, ond ni all byth annghofio yr hyn a wnaethant hwy yma. Perthyn i ni, y byw, yn hytrach, i gyfiwyno ein hunain yma i'r gwaith anorphenedig a ddygwyd yn mlaen mor ardderchog, can belled, gan y rhai a ymladdasant yma. Perthyn i ni, yn hytrach, i ymgyfiwyno yma i'r gorchwyl pwysfawr sydd o'n blaen-y bydd i ni oddiwrth y meirw urddasol hyn, wneyd ymgysegriad cy- nyddol i'r achos hwnw, dros yr hwn y rhoddasant hwy y diweddaf fesur cyf- lawn o hunanaberth,—ein bod ni yma yn penderfynu yn ddiysgog na cha y meirw hyn farw yn ofer; fod y genedl hon dan Dduw i gael genedigaeth new- ydd o ryddid, ac na cha llywodraeth o'r bobl, gan y bobl, er y bobl, ddarfod oddiar y ddaear. (I'w Barhau) ———— <————
WEL, WEL, MAE CALFINIAETHI…
WEL, WEL, MAE CALFINIAETHI YN FYW! Gan Rhjss Rheswm j Darllenais yn un o bapyrau Cymru am seiat a gynaliwyd yn Nghyfarfod Misol Dwyrain Morganwg. Y lie: Maerdy; yr amser: Hydref 16, 1919; y mater: "Etholedigaeth Gras." "Caf- odd ei agor," ebe yr ysgrifenydd, "gydag anerchiad meistrolgar gan Dr. Cynddylan Jones. Yr oedd dysgwyliad- au am bethau mawrion, ar bwnc mawr, gan dduwinydd mawr, ac ni chafodd neb ei siomi." Haws i chwi ddychymygu nag i mi ddesgrifio y dyryswch enbyd y'm bwr- iwyd iddo. Pwy fuasai yn meddwl y ceid nifer o feddylwyr, pregethwyr a lleygwyr i ymdrin a mater o'r fath mewn oes fel hon, a arganmolir fel oes oleu iawn? Ai tybed fod trefnwyr y rhaglen ar gyfer Cyrddau Misol Dwy- rain Morganwg yn deall fod "Etholedig- aeth Gras" yn bwnc ag mae ysgrifen- wyr "blaenfynedol" a "delfrydol" y "Drych" wedi ei fwrw i ebargofiant bythol, a hyny trwy ysgrifenu yn ei er- byn bron bob wythnos? Pa sawl cant o weithiau y sicrhawyd ni gan y gwyr talentog hyn fod Calfiniaeth wedi marw; ac yna wedi marw, a marw wed'yn a thrachefn! Ac er fod Calfin- iaeth yn hen, hen ysgerbwd, mae wedi bod yn werth ganddynt ei hitio a'i bwn- io, ei geryddu a'i guro, ei gnocio a'i gystwyo, ei labyddio a'i lambastio, yn ddidraredd a diarbed! Ond 0 resyn! dyma yr hen bwnc wedi ei godi i fywyd gan Gyfarfod Mis- ol mor luosog a dylanwadol a Dwyrain Morganwg, ac mae yr ysgrifenydd yn .ddigon o hen ffosil i'w alw yn "bwnc mawr," a'r gwr oedd yn ei agor yn cael ei alw yn "dduwinydd mawr"; ac ni chafodd y "dysgwyliadau mawr" ddim mo'u "siomi," o herwydd yr oed yn "anerchiad gorchestol." Wel, ai tybed fod aelodau y Cyfarfod Misol hwnw mor bell ar ol eu hoes fel na wyddent am y frwydr waedlyd sydd wedi bod ar faes y "Drych," a bod Calfiniaeth wedi ei thaflu a'i heglau i fyny a'i thagu er's llawer dydd gan fagad o wyr amrydd- awn yn dwyn ffugenwau; rhai o honynt yn hen bobl-heb ddim byd arall i wneyd ond "ysgwenu" Ilithiau hirion? Ac onid yw yn biti iddynt wasiraffu ymenydd a dawn, ac yn enwedig bapyr, a hyny'n gwbl ofer, oblegid wele "Ethol- edigaeth Gras" yn cael ei alw yn "bwnc mawr," a'r drafodaeth arno yn "anerch- iad gorchestol"? Perthyn i'r Cy £ ?rfod Misol uchod raddedigion o Gaerdydd, Bangor ac Aberystwyth, a rhai wedi yfed dysg ar y Cyfandir. Ac, onid yw'n drueni idd- ynt oddef i "dduwinydd mawr" fel Cyn- ddylan i dynu mwgwd dros eu llygaid yn nglyn a hen ddogma fel "Etholedig- aeth Gras"? A oedd yno yr un meddyl- t iwr "blaenfynedol" i wneuthur protest? A oedd yno neb "delfrydol" yn gwybod fod Calfiniaeth yn gorwedd yn gelain yn "ffrynt room" y "Drych" er's blyn- yddau? 0, biti! Y mae canoedd o ddarllenwyr y "Drych" wedi hen ddiflasu ar y pwnio dibaid sydd yn myned yn mlaen yn nglyn a'r mater hwn, yn enwedig y sawl sy'n ffyddlon i'r "Drych" er's llawer o flynyddoedd, ac yn dal perthyn- as a'r enwad Calfinaidd. Ac yr ydym yn barod i ddweyd yr un geiriau ag a gyfeiriwyd at feibion Scefa: "Yr Iesu yr wyf yn ei adnabod, a Phaul a ad- waen; ond pwy ydych chwi?" Felly y gofynwn ninau: David Charles Davies a Thomas Charles Edwards yr wyf yn adnabod, a John Cynddylan Jones a adwaen; ond pwy ydych chwi? Pe cyhoeddid y llithiau wythnosol yma yn llyfr, i'w ledaenu yn rhad yn mysg aelodau Cyfarfod Misol Dwyrain Morganwg, ac yn mysg myrddiwn er- aill, ni phrofai efe i ddim un enaid fod Calfiniaeth wedi marw, na'i argyhoeddi mai dogma wedi tarddu o'r oesau ty- wyll yw "Etholedigaeth Gras." A'r rheswm am hyny yw, nad yw'r erthygl- au hyny yn profi dim byd. Y mae byd o wahaniaeth rhwng profi peth a'i haeru, serch i'r haeriadau ddwyn yr enw chwyddedig, "blaenfynedol a delfrydol" Ac mae byd o wahaniaeth rhwng preffi pwnc i foddlonrwydd awduron y Ilithiau a'i brofi fel ag i argyhoeddi y darllen- wyr. Felly yr wyf fi, a llu mawr eraill, yn credu ac yn dal mai nid wedi marw y mae Calfiniaeth, ond ei bod yn fyw, ac yn fyw iawn, ac y bydd hi yn fyw tra y byddo pregethu iachawdwriaeth trwy ras. Rhad ras Yw'r newydd gan bereiddia'i bias Fu 'rioed ar wyneb daear las! ———— 8'e
rPAUL YN OL E. P. D.
PAUL YN OL E. P. D. Gan Sam Ellis Teimlwn wrth ddarllen sylwadau E. P. D. ar Paul, ei fod yn dra llaw- drwm ar Apostol mawr y cenedloedd. Tybed ai nid tuedd E. P. D. ydyw dal Paul yn gyfrifol am gamesboniad a roddir ar ei ddysgeidiaeth gan rai duw- inyddion o oes i oes? Mae genyf gof byw am y cynwrf achlysurol yn Nghym- ru pan ymddangosodd "Paul yn Ngoleu- ni'r Iesu" (Hawen) allan o'r wasg. Y brif gwyn yn ei erbyn ef oedd ei fod yn tadogi i Paul lawer o gasgliadau a ddir- dynwyd o'i ddysgeidiaeth gan ei ddys- gyblion honedig. Dywed E. P. D. "mai pwrpas dys- geidiaeth yr lesu oedd cynyrchu dynion da drwy eu cael i fyw cariad, tra y rhoddai Paul y pwyslais ar i ddynion gredu a chyffesu rhyw athrawiaethau arbenig." Credwn na roddodd neb fwy o bwyslais ar gariad nag a roddodd Paul yn y benod anfarwol sydd yn di- weddu gyda'r geiriau, "Yn awr, y mae yn aros ffydd, gobaith, cariad, a'r mwy- af o'r rhai hyn yw cariad." Ni ddywed- odd loan, y dysgybl anwyl, ddim mwy cynwysfawr na hynyna. Dysga Paul yn bendant nad oes rhith- yn o werth moesol yn holl gyflawniad- au a chyffesiadau dynion, os nad ydynt yn ffrwythau cariad. Ni welaf ych- waith, er darllen yn ddiragfarn, fod sail i'r cyhuddiad fod Paul yn hunanol, ac yn ystyried ei hun yn brif arwr Crist- ionogaeth. Cyfrifai "bobpeth yn dom ac yn golled fel yr enillai Grist"; a chaethwas Crist y cyfenwai ei hun. Gwir ei fod yn synio fod g-anddo gen- adaeth bwysig yn y byd, sef lledaenu yr Efengyl yn mysg y cenedloe(V. Credwn mai efe ydoedd y mwyaf rhydd oddiwrth luddewiaeth o'r holl Apostol- ion. Yr oedd wedi amgyffred cyffredin- olrwydd Cristionogaeth hyd yn nod o flaen Pedr. Ni chredwn ychwaith mai mewn teim- lald o ymffrost y dadganai Paul mai efe ydoedd y penaf o bechaduriaid; ond yn hollol i'r gwrthwyneb, mai wrth ed- rych arno ei hun yn ngoleuni llachar cymeriad ei Waredwr y torodd allan i wneyd y dadganiad hwnw. Gweddiai am ei gael yn Nghrist heb ei gyfiawn- der Bi hun. Fel y cynyddai mewn dirnadaeth foesol a chanfyddiaeth ysbrydol, gwel- ai yn eglurach y ddelfryd yr ymegniai i'w sylweddoli. Teimlai hefyd ei wen- did a'i lygrdd, nes tori allan i waeddi, "Y truan o ddyn ydwyf fi; pwy a'm gwared oddiwrth y farwolaeth hon?" Hyd yn nod pan ar uchelfanau'r maes, ni chlywir adsain hupanoldeb. Mae yn fwy na choncwerwrT ydyw, ond trwy yr hwn a'i carodd, ac a'i dodes ei hun drosto. Nid oes dim yn annatur- iol i sant deimlo ei annheilyngdod. Gwr halogedig yr ymgyfenwai Isaiah wedi iddo ganfod gogoniant yr Ar- glwydd yn llenwi y deml. Canfyddir yr un egwyddor mewn cylchoedd eraill. Pwy ydyw y dyn syl- weddola ei anwybodaeth ddyfnaf? Nid yr anwybodus; mae hwnw yn gyffredin yn anymwybodol o'i ddygn anwybod- aeth. Y gwr sylweddola ei anwybod- aeth lwyraf ydyw y sawl sydd wedi