Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

CABAN Y DYFFRYN 1 I

News
Cite
Share

CABAN Y DYFFRYN Gan loan Eryri Wrth edrych ar ddarlun capel y Fach- wen a'r ffordd fawr, yr allt a'r drofa j a gerddais lawer gwaith, ac hefyd ddar- Ilen ysgrif flasus y cyfaill T. Ll. Wil- liams yn y "-Drych" yn ddiweddar, daeth i fy meddwl mai nid anfuddiol hwyrach fuasai ysgrif fer ar y testyn) uchod, He y treuliais yn weithfaol y naw mlynedd olaf o fy mywyd yn ngwlad fy ngenedigaeth. Mae llawer o ad,gofion melus yn ym- godi i fy meddwl y mypyd hwn wrth geisio troi yn ol i'r dyddiau fu; yr addysg a gefais ynddo, y dyddordeb a deimlwn yn y cwmni, a'r mwynhad di- bryder a gawn yn mysg y frawdoliaeth. Mae y teulu doniol oedd yno y pryd hwnw wedi eu gwasgaru i'r pedwar gwynt erbyn heddyw, a llawer o hon- ynt wedi eu gosod mewn dyffryn arall, lie nad oes gobaith am eu cwmni dydd- orol, na chlywed eu llef byth mwy yr ochr hon i'r lien. Daw deigryn i fy llygaid y mynyd hwn wrth feddwl am danynt. Gallaf ddweyd fel Dafydd ar ol Absalom, ei fab, "Cu iawn fuoch genyf." Yr oedd Caban y Dyffryn, sef y bone oedd yn dwyn yr enw o ran ei safle, yn sefyll tua chanol chwarel fawr Dinor- wig. Wn i ddim sut y rhoddwyd yr enw yna ar y bone. Ymddengys i mi yn annghyson iawn, o herwydd rhaid dringo pedair o elltydd hirion a syth-I ion i gyraedd yno o ddyffryn Padarn; ond diau fod rhyw gyfiawnhad yn man- tellu dros yr enw; eto, nid yr enw sy'n ddyddorol i mi. Yr oedd y Caban yn adeilad cadarn a chynes; stof fawr yn ei ganol, a di- gon o dan ynddi yn y gauaf, a'r gwres yn codi mor uchel ambell dro nes creu digonedd o wrid yn wyneb y llwydaf o honom. Yr oedd y meinciau, neu yr eisteddleoedd, igyda'r parwydydd, a phawb yn agos yr un bellder oddiwrth y stof; a phob aelod yn eistedd yn ei le ei hun bob amser. Fel hyn, gwelir fod genym reolaeth a threfn ar y lie. Yr I oedd "awr ganol y dydd" yn ddyddorol dros ben weithiau, ac yn myned heibio fel gwynt, gan mor felus fyddai y peth- gtu dan sylw. Byddai ryw gast ar rai o'r 4elodau yn cael ei godi i'r bwrdd yn fynych, a throi a throsi ar yr helynt nes y byddai peirianau chwerthin pawb wedi codi i bwynt uchel, a thrueni fod yr hen gaban ei hun fel yn cymeryd rhan yn y llawenydd. Ond diniweid- rwydd difalais fyddai wrth wraidd yr hwyl i gyd. Yr oedd yno rai galluog yn y cyfeiriad hwn; igallent roi lliw cryf ar bethau bychain iawn, ac i mi mae eisieu hyn weithiau i ymlid poen a phryder, a chael y dyn yn ol ato ei hun i fwynhau yr hyn sydd yn fwy cyd- naws a'i natur. Deuai pregethwyr a phregethau, gwleidyddiaeth, Eisteddfod- au, beirdd a cherddorion, a phynciau y dydd oil dan sylw yn eu tro, a mawr y I dyddordeb a deimlem yn y dadleuon. Fel rheol, byddai yr ymdriniaeth ar y pethau hyn yn rhoi bias ar y ciniaw ei hun. Cyn symud. yn mlaen, hwyrach y dy- lwn achwyn arnaf fy hun am dro di- reidus a wnes er mwyn cael ymwared a job oedd yn dod i'm rhan yn fynych, sef gwneyd y te yn barod erbyn yr awr giniaw. Yr oedd wyth o honom yn bart- neriaid yn y tecell mawr, fel y igalwem ef, a byddem yn cadw y te a'r siwgr mewn tiniau yn nghwpwrdd y caban o dan glo. Un dydd, aethym ar yr adeg arferol i wneyd y te yn barod. Yr oedd tua haner pwys o de yn y tin; a rhodd- ais o i gyd yn y tecell, a llai o'r haner o siwgr na'r arfer. Yr oeddwn yn dys- gwyl yn galonog am y storm ar fy mhen, ac yn barod i wynebu y criw fel pe nad oedd dim o'i le wedi dygwydd. Yr awr giniaw a ddaeth a'r ystorm gyda hi. Dyma y tro caletaf yn fy oes i mi allu cosbi fy hun rhag chwerthin, ond llwyddais. Y cymeriad mwyaf gwaedwyllt o'r oll aeth am y cwpanaid cyntaf. Edrychai ar y te ac arnaf fl, bob yn ail, cyn dweyd dim; yna gofyn- odd, "Inc roist ti yn y teeyll yma hedd- yw, dywed?" "Yisun faint o de ag ar- fer," meddwn inau yn ddifrifol. "Taw v coblyn; 'dydi'r te yma ddim ffit, hogia, meddai. Wedi i'r boys examinio y te, croes- holwyd fi, a phasiwyd i mi roi te ddwy waith yn y tecell mewn annghof. Cod- wyd un arall i'r job, ac aeth yr ystorm heibio yn llawer ysgafnach na'm dys- gwyliad, a chefais fy amcan yn 0. K. Yr oedd yno gymeriadau doniol dros ben yn y caban, a byddai ambell i dric fel a nodwyd yn eu tynu allan, ac wrth feddwl am gyfeiriad eu syniadau, daw dwy linell Tudno i'm cof: Nid arabedd ond rhywbeth I gyraedd pawb, y gwraidd peth. Ni ddysgwylir i mi mewn ysgrif fel hon wneyd sylw o honynt oil, a phe gwnawn, awn a gormod o ofod y "Drych." Daw y rhai doniolaf o honynt i'r golwg dan y penawd, "Diwrnod gwlawog yn y Caban." Diwrnod difyr hynod fyddai hwnw fel rheol. Byddai cyfarfodydd yn cael teu cynal bron bob amser ar y dydd hwn. Yr oedd rhyddid i bawb gael eu ffordd eu hunain i gymeryd rhan, ac yr oedd fel deddf y Mediaid a'r Perliaid, nad oedd neb i anufuddhau, ond byddem yn cael cryn helynt gydag ambellun gwyl- aidd, ac yn rhoi y ddeddf orfodol ar- nynt. Byddem yn cael cyfarfodydd hedegog weithiau, pan fyddai yr hen frodyr yn eu hwyliau goreu, megys Dafydd T. Morgan, tad y bardd. Glan Padarn; Robert Owen, y Fachwen; John Wil- liams (yr Hen Waen); John Williams (v Llongwr); Griffith Eben Griffiths; illiam Hughes, y Rhiwen; William Par- ry (y Barber), ac eraill nas gallaf eu dwyn i gof yn awr. Cymeriadau hynod ar lawer cyfrif oedd yr -hen frodyr anwyl hyn i gyd. Yr oeddynt yn gwahanlaethu oddiwrth eu gilydd mewn amryw bethau, megys eu gallu, eu harddull, a rhediad eu syn- iadau; ond yr oeddynt fel un mewn tri pheth: yn ddiniwed, yn siriol bob amser fel boreu hyfryd, ac mor wreiddiol a'r hen Elidir yr oeddynt yn cloddio i'w chalon bob dydd am foddion cynaliaeth. Yr oedd yno do o rai ieuengach, galluococh a mwy diwylliedig; rhai oeddynt yn anrhydedd i'r ardaloedd fu yn eu dwyn i fyny; neb Ilai na'r awen- ber Thomas D. Thomas (Glan Padarn), bardd y byddaf yn synu fod can lleied o son am dano, a'i ganeuon mor boblog- aidd hyd heddyw. Yr oedd mor llwydd- ianus y blynyddau hyny, fel mai efe fyddai yn cipio y gwibrwyon am farw- nadau bron i gyd. Gwr tawel a'gwyl- aidd ydoedd, ac un o'r rhai gwyleiddiaf yn y caban. Byddai fel Dewi Arfon yn ysgrifenu llawer o'i farddoniaeth ar ei lechi yn y chwarel; ond y mae, er colled i'w genedl, yn huno yn dewel er's llaw- er blwyddyn, ac eira llawer gauaf wedi bod yn oedi ar ei fedd yn mynwent Macpelah, Clwtybont, Arfon. Un arall oedd ac sydd heddyw, mi a gredaf, oedd Owen 0. Jones (Owain Peris), cerddor a bardd igwych. Dech- reu dod i sylw yr oedd efe yr adeg hono, ond y mae erbyn heddyw wedi cyraedd safle dda yn y byd llenyddol. W. Elias Williams oedd gerddor gwych, a siarad- wr llithrig, ac un ddaeth wedi hyny yn llywydd yr undeb yn y chwarel. Bech- gyn talentog oedd hogiau Caecorniog •?c eraill y caraswn eu henwi, ond mae yr ysgrif yn myned yn faith. Yr oedd cor meibion rhagorol yn yr hen Gaban. W. E. Williams oedd yr arweinydd. Bu y cor yn cystadlu droion, a safai yn uchel yn y gystadleuaeth bob amser. Dylwn roi gair i fewn am y Caban fel barbershop. Byddai yno le doniol weithiau, a'r barber, yr "Hen Bar," yn ei afiaeth. Byddem yn canu iddo yn fynych. Byrdwn y gan oedd, "Mae Will Parri'n sefiwr da, pwy sydd eisieu sef?" Credaf mai Owain Peris oedd yr awdwr. Yr oedd y gan yn wir, beth bynag, gan fod y barber yn sefiwr dan gamp, ac, fel y deallaf, yn fyw eto, a'r un mor wreiddiol, mi a gredaf. Wel, ddarllenydd hoff, dyna fi wedi rhoi braslun i ti o Gaban y Dyffryn flynyddau lawer yn ol. Os yw y Caban ar ei sylfeini heddyw, mae yn ddiameu genyf mai gwaed newydd sydd yn ei tynychu. ond hyderaf fod y gwaed hwnw mor adeiladol a chynes a'r un oedd yn ei nodweddu yr adeg yr wyf wedi ysgrifenu am dani. Credaf mai nid b'r palasau, ond o gabanod fel hwn y mae y byd wedi cael ei ddynion goreu, ac ar y tir hwn yr wyf yn cymell y cyfeillion, O. W. Rowlands a T: Ll. Williams, i ysgrifenu ar hen gabanod cbwarel Dinorwig i ddyddori darllenwyr y "Drych."

GWYLIWCH ESGfEULUSO Y BRE-…

Advertising

EISTEDDFOD SHENANDOAH, PA.1

Advertising

MINERAL RIDGE, OHIO I

Advertising