Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

-NEW YORK A VERMONT.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

NEW YORK A VERMONT. UTICA, N. Y., Rhagfyr 3, 1919. .Mrs. D. Morgan Richards, gynt o Mor- iah, oedd ar ymweliad a'i hen cyfeill- ion lluosog ac a'i chartref am ychydig i ddyddiau. Dychwelodd i New York1 ddydd Llun. —Hosea Pritchard, Remsen, N. Y., sydd yn ninas y "Drych" am ychydig ddyddiau ar ymweliad a'i blant. —Yn eisieu. Dwy neu dair ystafeli gysurus wedi eu doirefnu. "M," y "Drych." -Robert J. Jones, Lime Springs, la., sydd yn y ddinas am ychydig amser cyn cychwyn ar ei ymweliad a Chymru. —Richard D. Davies (neu fel y'i had- waenir, "Diacon Davies" o'r Nant), Remsen, sydd yn Utica, ac yn aros gyda'i ferch, Mrs. Frank Owen, 316 Square St., ac y mae yn debyg o aros dros, y gauaf. —Nos Fercher, o'r wythnos ddiwedd- af, syrthiodd Mrs. R. O. Williams, 1539 Howard Avenue, i lawr y grisiau, a ni- weidiwyd hi yn ddrwg, a phan y cafwyd hi yr oedd yn -anymwybod ol. Deall- wn ei bod yn gwella yn gyflym. —Mr. a Mrs. Griff Roberts, Hotel Nobles, Sylvan Beach, oedd yn treulio dydd Diolchgarwch gyda'u perthynasau, Mr. a Mrs. Wm. Richards, 1104 Lin- wood Place. Bwriada Mrs. Roberts aros am ychydig ddyddiau. —Yr oedd cyfarfodydd gweddi yn y ddwy eglwys Gymraeg ddydd Diolchgar- wch: Moriah a Bethesda, a chynulliad- au mawrion, foreu a hwyr. Pe cknal- iesid cyfarfodydd unol, fel gyda'r Am- ericaniaid, ni allasai un o'r ddau gapel eu cynal. Yr oedd yr oedfaon yn wedd- iau, oddigerth anerchiadau byrion gan y gweinidogion. -Evan T. Williams a Sam Ellis oedd yn Remsen y Sul yn nglyn a'gwaith yr Ysgol Sul. Penodwyd y ddau gan yr Henadurfa i ymweled a Remsen, a thraddododd y ddau aRerchiadau yn y Capel Ceryg er hyrwyddo achos yr Ys- gol Sul, gan anog yr eglwysi a gwasgu arnynt y pwysigrwydd o gynal yr Ysgol Sul. —Addewir gwyl gerddorol arbenig yn hghapel Coffa Thorn, eglwys y Ta- bernacl, nos Nadolig, pan y perfform- ir y cantata, "Santa Claus at Miss Prim's." Gwneir y cor i fyny o 80 o blant ac aelodau "Band of Hope" eg- lwys Moriah, o dan arweiniad Wm. R. Griffith a David Jones. Dysgwylir y daw cynulliad mawr yno i gefnogi y plant ac i fwynhau y cantata. —Cynaliodd Cymdeithas Meibion I Moriah eu cyfarfod nos Fawrth. Tes- tyn: "Hen Adgofion yr Amser Gynt"; David Jones yn Ilywyddu. Cafwyd an- erchiadau gan Sam Ellis, John M. Ed- wards, Wm. R. Thomas, George C. Jones, Charles Jones, D. Lloyd Davies, ac enaill. Cafwyd danteithion ar ddi- wedd y oedfa. —Miss Mary Jones, chwaer Owen H. Jones, 1203 Howard Avenue, sydd wedi dychwelyd o Gymru, lie y bu am dair ¡ mlynedd, wedi ei galw yno gan salwch ei mam, yr hon a fu farw mewn ych- ydig ddyddviu wedi cyraedd yno. Dy- wed i'r wlad ddyoddef llawer yn ystod y rhyfei, ond fod cyflyrau yn gwella yn raddol, a byddent yn well oni bae am y streiciau ami yno. Cartrefai Miss Jones yn Clinton, ac a yno ar ol ym- weliad byr a'i chydnabod yn y ddinas. Yr oedd yn dod gyda hi, Miss Megan Williams, o'r Groeslon, Arfon. —Ddydd Mawrth, ymadawodd y Parch. John Davies, D. D., am Phila- delphia, Pa., i gymeryd rhan yn y pwyll- gor a benodwyd i drefnu uniad y T.* C. a'r Presbyteriaid. Efe yw ysgrifenydd yr ochr Gymreig o'r pwyllgor. Yr ael: odau eraill ydynt: y Parch. J. C. Jones, D. D., Oiak Hill, Ohio; y Parch. John j Hammond, M. A., Scranton, Pa.; y Parch. Edward Roberts, Madison, Wis.; y Parch. David Edwards, Lime Springs, Iowa; H. C. Prytherch, Scranton, Pa.; a John Jordan Jones, Columbus, Ohio. Dychwela y Parchn. Edward Roberts a David Edwards gyda Dr. Davies i Utica, Ile cynelir y Cyfarfod Dosbarth, Rhagfyr 6 a 7, )1(1 Moriah, i gymeryd rhan yn y cyfarfodydd. I -1 Cartref y Cymrry I Ddechreu yr wythnos, yr oedd Cym- deithas y Cymreigyddion yn brin o tua $3,000 i gyfarfod a gofynion arianol y Cartref, fel yr hysbys-vyyd yn nghyfar- fod y Gymdeithas; ,ond y mae y min- teioedd sydd allan yn ymddiriedol yy*. cyraeddir y nod. Yn nghyfarfod y Gymdeithas pan y prynwyd yr adeilad, sifcrhawyd$1,850 at y pryniad, pan yr ychwanegwyd $500 gan Mr. John A. Roberts. Cyn ymosodiad y gwahanol finteioedd, yr oedd $886 wedi ei addaw. Gwna yr oil i fyny y cyfan&wm o $12,351. Yn y cyfarfod nos Sadwrn, caed ad- roddiad o'r symiau a gasglwyd dan gyf- arwyddyd y ddau gadfridog, R. W. Owen (Llywydd y Cymreigyddion), a John O. Thomas. Yr oedd cyfanswm R. W. Owen yn $5,220.25, ac eiddo Mr. Thomas yn $3,895.46, ond y mae ei fin- tai ef yn hyderus y cyraedda y cyfan- swm $4,000. Parheir yr ymosodiad am wythnos arall, fel y deallwn; ond ni chauir y ffordd i unrhyw Gymro neu nifer 0 Gymry haelionus ac yn caru eu cenedl, i roi am yr wythnosau i ddyfod, hyd y cwbl'heir y gwaith. I Priodas Ddyddorol Yn nghartref rhieni y priodfab, Mr. a Mrs. Griffith W. Davies, 1130 Lin- wood Place, unwyd Idris J. Davies a Miss Elizabeth Owen mewn priodas, I nos Fercher, Tachwedd 26. Yr oedd tua 75 yn bresenol. Gweinyddwyd gan I Dr. John Davies, Moriah, lie y mae y ddau yn aelodau. Cynorthwyid gan y Parch. J. Vincent Jones, D. D., Bethes- da. Defnyddid gwasanaeth y fodrwy. Gwasanaethai Mrs. Ruth Blenis Win- ney wrth y piano, a phan yr oedd y fintai briodasol yn agoshau, chwareuai yr ymdaith o "Lohengrin," ac yn ystod y gwasanaeth, chwareuai yr "Evening Star," o Tannhaeuser, ac ar eu hyma- dawiad ymdaith Mendelssohn. Ar ol y seremoni, canwyd yr emyn Cymreig, "0, santeiddia f'enaid, Arglwydd," dan arweiniad John M. Jones. Rhoddid y briodferch ymaith gan ei brawd, Hugh Owens, Rome. Y gwas oedd Ellis Roberts, a'r forwyn oedd Miss Margaret Edwards. Cafodd y briodferch nifer o anrhegion, llestri ar- ian, tor-lestri, llieiniau, darluniau, lamp- au, ac amryw roddion mewn symiau o arian; un oddiwrth John G. Roberts, ewythr y priodfab, o $100. Y mae gan y ddeuddyn ieuanc gylch mawr o gyfeillion. Y mae y briodferch yn Utica e1"s 10 mlynedd. Y mae yn ac-lod o'r Willing Workers yn Moriah, ac o Gyfrinfa "Gwenfron" o'r Gwir lioriaid. Y mae y priodfab yn adna- byddus iawn ac yn raddedig o'r Utica Free Academy. Y mae yn aelod o'r Cymreigyddion, ac yn amlwg yn nghylchoedd y bobl ieuainc. Pan dor- odd y rhyfel allan, aeth i Ffrainc, lie y bu am ddeg mis. Pan y'i rhyddha- wyd, aeth i Detroit, lie y mae yn dal swydd pwysig. Gwnont eu cartref yn Detroit. Yn inhlith y gwahoddedigion oddiallan, yr oedd Mr. a Mrs. R. R. Da- vies, Syracuse, N. Y.; Miss Fanny Jones, Barneveld; Mr. a Mrs. Hugh Owen, Rome; a Mrs. D. Morgan Rich- ards, New York.. I Helyntion Holland Patent-, N. Y. Rhagfyr 1, 1919.Ddydd Mercher, Tachwedd 26ain, yn nghartref ei mod- ryb, Mrs. John R. Roberts, Steuben St., oedd diwrnod priodas ein hanwyl ferch ieuanc, Miss Kitty May Gittins, a Mr. Hugh Parry, Utica; Dr. Richard Hughes yn gweinyddu. Nid oedd ond y Iteulu yn bresenol. Yr oedd ciniaw ys- blenydd wedi cael ei barotoi iddynt oil, a derbyniodd y par ieuanc anrhegion gwerthfawr. Cymerasant eu taith briodasol i Plymouth, Pa., i ymweled a pherthynasau, a phan ddeuant yn ol, y mae eu cartref yn barod i fyned iddo yn Utica. Bu Miss Gittins yn gweithio am flynyddoedd yn y Seminole Con- densary, a diwrnod ei phriodas, derbyn- iodd Mrs. Parry check am $25 oddiwrth benaeth y Condensary o New York, yr hyn ddengys ei bod yn ferch ieuanc barchus a ffyddlon. Y dyfodol yn unig a ddengys faint fydd ein colled fel eg- I lwys ar ol ein cantores ieuanc anwyl. Yr ydym oil yn dymuno iddynt bob llwyddiant, a bendith Duw i fod gyda hwynt ar eu taith trwy y byd; ac y bydd yn daith ddedwydd iawn. Yr oedd y Sabboth yn ystormus iawn, ond daeth ein teulu newydd i'r gwasan- aeth yn y prydnawn; a'r ferch a'i phriod, Mr. a Mrs. Evans, a'u geneth bach. Y mae yn dda iawn genym eu bod yn gantorion, ac y byddant yn gyn- orthwy mawr gyda yr achos. Hyderwn fod yn gynorthwy gyda'n gilydd i ganu mawl i Dduw yn ei deml. Cawsom bregethau da iawn gan ein hanwyl weinidog y Sabboth. Pregethau a hyderwn y byddwn yn eu cofio a'u byw bob dydd. Er fod y tywydd yn hynod anffafriol, cawsom gyfarfodydd da ddydd Diolchgarwch; cyfarfod gweddi y prydnawn, a phregeth yr hwyr, a'n hanwyl frawd Robert Hughes yn arwain y cyfarfod gweddi, yn absen- oldeb ein diacon, John E. Jones, yr hwn sydd yn parhau yn bur wael. Yr ydym yn ddiolchgar i Mr. Hughes am ar- wain y cyfarfod mor fywiog. Ychydig oedd yn bresenol trwy fod y gwlaw mor drwm; ond yr oeddem yn teimlo fod yr lesu ei Hun yn agos iawn atom. Nos Wener nesaf, bydd parti yn cael ei gynal yn nghartref Dr. Hughes, er mwyn i ni oil ymgydnabyddu mwy a'n gilydd. Hyderwn y bydd y tywydd yn ffafriol, ac y cawn am&er dedwydd. Tachwedd 22, priodwyd Mr. Everett E. Evans a Miss Margaret Roberts, merch Mr. a Mrs. Griffith Roberts, So. ,Trenton; y Parch. Dr..Carrington, gweinidog yr eglwys Bresbyteraidd, yn gweinyddu. Yr ydym oil yn dymuno iddynt bob llwyddiant. Y mae Mrs. Evansi yn ferch barchus mewn swydd yn y bane yma, a Mr. Evans yn fab i Mr. a Mrs. Samuel Evans, ac ynl y stor gyda John E. Jones.—R. Ilion, N. Y. I Da iawn genym ddeall fod y cleifion yn gwella, sef Iorwerth Jones, yn gwella er heb ddod o'r ysbyty eto; hefyd, Miss Elizabeth Thomas, merch Mrs. Dorothy Thomas, sydd wedi bod yn reit wael, ond yn gwella. H>fyd y dyddan a'r doniol John Owen Jone«. W. North St., gvnt Poultney. Vt., sydd wedi bod yn wael, ond yn llawer iawn gwell; ac i'w loni dros y tymor Diolch- garwch, daeth ei ferch, Miss Catherine Jones. o Poultney, Vt., yma i edrych am dano ef a'r teulu. Y mae y teulu yma yn gwneyd eu hunain yn reit gar- trefol yn Ilion. ar yn hofR vn ddi ymp Da ifiwn genvm ddeall fod Owen J. Roberts, Leah St., Utica, vn prof flrii ar wella, a dysgwyl y bydd iddo gnel Ilwyr wellhad yn fuan yw ein dymnn- iad. Bu Mrs. Frank Edmunds a'r ferch, Elizabeth, yma yn edrvch am daT>om. ac yn edrych am amryw o'u cyfeillion o West Pawlet gynt, ond sydd yn car- trefu yma yn awr. sef Mr. a Mrs. David Pritchard a John C. Jones, Empire Block: ar- yr oedd yn teimlo yn ddrwg na fuasai wedi gweled Morris Roberts cyn iddo droi yn ol am Granville. Drwg iawn genym golli M. R., am ei fod mor ffyddion yn y capel yma, fel yn mhob man. Yr oedd yn dda iawn genym weled Mr. a Mrs. John J. Parry, Whitesboro, a'r ddwy ferch, Margaret a Sarah, a Miss Campbell, yma brydnawn Sul, yn eu hoto. Dyma deulu hoffus iawn, ac yn llawn bywyd o'r hynaf i'r ieuengaf; ond yr oeddynt yn dweyd fod y mab- yn-nghyfraith yn wael, sef Clifford Hen- sel. Dysgwylir yn fawr y caiff yntau wellhad buan. Dysgwyliad am Gor Glyndwr Rich- ards sydd yma, a dyma yw y sgwrs yn mhob man.—Gymraes o Ilion. Rome, N. Y. Er's tro bellach, yr wyf wedi methu cael hamdden i anfon gair i'r "Drych," am fy mod wedi bod yn orbrysur; gweithio ddydd a nos yn ddidor, ac felly yn bur debyg y bydd hyd ddiwedd y flwyddyn, sut bynag ar ol hyny. Cef- ais ddydd Diolchgarwch i mi fy hun, ac yr wyf yn cymeryd mantais ar y cyfieusdra i ysgrifenu gair o'n hanes. Y mae amryw bethau wedi dygwydd er pan ysgrifenais o'r blaen; yn un peth ein swper blynyddol. Cafwyd swper rhagorol, fel y tystia pawb; cynulliad ardderchog, ac yn ol yr hyn ddeallaf, mwy o elw na'r un gafwyd er's llawer iawn o flynyddau. Ein Ilestri cymundeb newydd (in- dividual communion service). Yr oedd ein parchus weinidog, Dr.. Caradog Jones, wedi bod yn dweyd wrth yr eg- lwys er's tro fod angen llestri cymun- deb ar ol i ni dalu am. yr holl welliant- au oeddym wedi eu gwneyd ar yr addol- dy; a chan ei fod yn myned i dreulio nifer o Suliau yn Chicago, gofynodd am ganiatad i chwilio am rai addas i ni fel eglwys; ond er ein syndod, pan y daeth adref, daeth a set hardd iawn gydag ef, ac heb gostio dim i'r eglwys. Fe gyfarfyddodd Dr. Jones a hen gyfaill boreu oes iddo tra yn Chicago, ac fe ddarfu y cyfaill hwnw gyda chalon lawen roddi i'r eglwys drwy ei gwein- idog set hardd yn rhad. Bendith eg- lwys Rehoboth fyddo ar ben y gwein- idog a'i gyfaill. Y Sabboth nesaf, sef y Sabboth cyn- taf o Ragfyr, yr ydym wedi trefnu iddo fod yn Sabboth arbenig, pan y dys gwylir i bob aelod a phob gwrandawr fod yn y capel foreu a hwyr; Yn y boreu, pregethir gan y gweinidog, a gweinyddir yr Ordinhad o Swper yr Ar- glwydd. Yn yr hwyr, amrywiaethol fydd y cyfarfod. Ceir anerchiad Cym- raeg a Seisneg gan Dr. Jones; adrodd- iadau ac unawdau yn y ddwy iaith; bydd y cor, dan arweiniad W. W. Ross, a'u horganydd poblogaidd, Isaac H. Hughes, pan y cenir amryw ddarnau cysegredig. Fe ddysgwylir cael amser rhagorol iawn. Yr ail Sabboth p'r mis, cynelir cyf- arfod chwarterol' Annibynwyr Talaeth New York yma. Dysgwylir cynrychiol- aeth dda o frochr y cylch yma ddydd Sadwrn, RhagfyT 6, a phregethwyr y cylch i bregethu i ni y Sabboth. Y mae amryw deuluoedd wedi symud yma i fyw, a nifer dda o ddynlon ieu- ainc wedi dyfod i'n plith. Y mae golwg dda ar yr eglwys, Sabboth ar ol Sab- both; ffyddlondeb mawr i'r moddion, a'r cyfraniadau yn wir dda. Os gwna bar- hau i fyned yn ei blaen fel y mae yn awr, bydd yma eglwys fawr a chref ar fyr o dro. Bydd yn dda, yn ddiau, gan gyfeill- ion y brawd Owen Thomas, yr hwn fu yn bur wael am rai wythnosau, ddeall ei fod yn gwella yn gyflym, ac yn alluog i godi allan ychydig bob dydd. Hefyd, William John Jones. mab Mr. a Mrs. Evan J. Jones, diweddar o Granville, sydd wedi gwella yn dda ar ol y drin- iaeth lawfeddygol yn yr ysbyty yn-ia,— R. G. Morris. -:0:-

Advertising

ARDALOEDD Y CHWARELI I

Gochelwch Rhag y "Fflu" Eto…

|NODION 0 NEW YORK, N. Y.I

Advertising

ARDALOEDD Y CHWARELI I