Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Advertising
1851 Y DRYCH, 1919 Newyddiadur Cenedlaefhoi Cyboeddeft Bob Dydd Iaa Prh j Talaethan Unedig$2.00 Frts j Gmadt r. Chymra, tal yn -mlaen Daw yn ddiekhriad_$2.50 Ri TR_ 'T riYSBYSIADAU am Brinaa Rhe- symol. Anfoner am ein Telerau. ANFONER ARIAN mewn Port Office Order, Registered Letter neu mewn Draft ar New York 'taladwy i'r perchenog— Thomas J. Griffiths & Sons, Drych Office, Utica, N. Y, AT EIN GOHEBWYR Er arbed trafferth i'r el ere yn y Swyddfa cyfeirier pob gotiebiaeth a phob taliadau i'r "Drych" a'r "Cambrian" a'r rhai hyny yn unig, i Thomas J. Griffiths & Sons, Utica, N. Y.
[No title]
Ceir llawer o drafferth gyda streic- iau ar yr heol-gerbydau. Gresyn na ellid cael traedffyrdd symudol fel y gallai pobl fyned at eu gwaith, a'r gwragedd fyned i shopa heb geir! Dyna'r nod, credwn; ac y mae yn siwr o ddod i hyny; a gallai y rhai fyddai am streicio gerdded yn erbyn y symud- iad! mk Tebyg fod g-an lawer le i ddiolch i Dduw am ei drugareddau er gwaethaf dynion o'ii hamgylch. Diolch iddo am drugareddau na allasai proffitiwyr na neb o'u dosbarth gadw oddiwrthym. Dylem wneyd ein goreu i symud ym- aith y canoliaid yma safant rhyngom a mwynhau o haelioni Duw! Y mae mudiad ar droed yn Paris, Ffrainc, i ddyrchafu y Prifweinidog Clemenceau i'r Arlywyddiaeth. Ni allal Ffrainc wneyd dim mwy haeddianol. Y mae yr hen ddyn yn ei haedQu lawer gwaith drosodd am ei wasanaeth i Ffrainc yn ei hymdrech echrydus am fywyd. Y mae Mexico fel pe wedi cymeryd dalen allan o lyfr oedgarwch yr Ar- lywydd Wilson. Y mae swyddog Am- ericanaidd ganddynt mewn dalfa er's tro maith yn awr, ac y mae Washing- ton wedi eu coegio, eu coglais, a'u cym- ell a'u bygwth i'w droi drosodd, ond nid ydynt wedi gwneyd. Ai tybed y cred- ant yr hyn a lefarodd Wilson ddwy flynedd yn ol, ein bod yn rhy falch i ymladd? Fealliai fod; ond wedi'n, y mae yn ddichon i Sam fyned yn ormod allan o'i go i beidio! Gwelsom y dydd o'r blaen am le lie y mae prinder tai, a lie y dyoddefa y bobl lawer o annghyfleusdra, heblaw uchelbris. Syn yr annibendod sydd yn y byd! Dywedai yr adroddiad fod yno ry fach o dai "i fyned o amgylch." Nid allan o le fyddai tai allent fyned o am- gylch, fel y gallai pobl symud, heb sy- mud y dodrefn (ar wahan i'r ty). Yn Utica yma y mae gormod o dai bonedd- igion, a rhy fach 9 dai y gall y gweith- wyr dalu yn hawdd am danynt! Clywsom weinidog y nos o'r blaen yn cyfeirio at gymellion crefyddol yr oes hon fel "stick of candy." Nid oes egwyddor ynddi, ac anhawsder ac ab- erth, ac argyhoeddiad ynddi o gwbl mwyach i lawer, eithr rhyw fwynhad, rhyw "entertainment," yn nhafodiaeth y Sais; rhyw "stick of candy" i ddenu pobl arwynebol a phlantos yr oes yno! Y mae hufeh rhew wedi dyfod i lawer yn un o atdyniadau cryfaf y bywyd cre- fyddol, a gall dynu mwy i gapel na phre- gethwr dyeithr o'r Hen Wlad! Y mae Wil Hohenzolern yn enwogi ei hun mewn ffordd annysgwyliadwy. Daeth yn enwog iawn y dyddiau gynt fel Kaiser, fel Tywysog Heddwch, ac wedi hyny fel ymgeisydd am deyrn yr holl fyd, ond aeth yr anturiaeth dros y I cledrau, ac aeth i Holland i edrych am job, ac y mae yno wedi hynodi ei pun fel cymynwr coed. Y dydd o'r blaen, yr oedd yn gweithio ar ei 12,000fed gyff, ac oddigerth i'r wlad gau i lawr arno, ni fydd pren yn yr holl deyrnas! Os y pery streic y glowyr yn America, purion peth fyddai ei gael yma. Daw pwnc tragwyddol Scranton i sylw yn awr ac eilwaith, set pwnc y ."cave in." Y mae hwn fel y caner a'r darfodedigaeth-nid oes meddyginiaeth ato. Pan yr oedd bachgenyn yn ddi- weddar yn chwareu wrth ei gartref, ym- ollyngodd y ddaear dano fel y'i lladd- wyd. Aeth yr achos i'r Ilys, ond daeth y cwmni yn rhydd. Y mae hawl gan y cwmni glo i gloddio danjldinas, waeth beth ddaw o'r arwyneb. Y mae y "cave in" yn ddiniwed o'i gydmaru a'r s. cerbyd gwyllt fel llofrudd. Lleddir mil- oedd gan hwn, ac ni wneir dim i'w rhwystro! A glywodd y darllenydd am r^wbeth? Y mae elfenau drwg, allnuwiol ac an- ffyddol yn nglyn a llafur y dyddiau hyn, ac ofnwn nad yw yn myned i gyn- orthwyo dim arno. Dylai llafur parch- us fyned ati yn ddioed a'i diarddel. Gwelwyd hyn yn Utica y dydd. o'r blaen. Gwnaeth y Maer etholedig ymgais i ddwyn y streic sydd yma i ben, ac yn mhlith cynrychiolwyr llafur i ymweled a Mr. O'Connor yr oedd gwr o'r enw SI sea, ond o herwydd rhyw achos, ni wnaeth ei ymddangosiad. Yn fuan ar ol hyny, daliwyd y cythrwm yn ceisio rltoi eglwys y Polaciaid ar dan, am i'r offeiriad y Sul blaenorol gyngori y streicwyr i ddychwelyd at eu gwaith. Pa fodd i gael pobl i gerdded mwy? Y mae y cyfleusderau i farchogaeth cerbydau mor hawdd, fel na ddefnyddia neb ei aelodau isaf mwy, ond cyn an- amled ag y gall. Ni roesant sylw o gwbl erioed i'r fraint o rodio a'i effeith- iau ar iechyd. Rhaid rhoi tipyn o gyff- ro yn y gwaed er ei gadw i gylchredeg drwy y gwythienau. Pan y mae dyn neu ddynes yn eistedd gormod, a y gwaed hefyd yn segurllyd. Y mae cymydogion yn dueddol o efelychu y naill y Hall. Gyda diffyg ymarferiad ac ymysgwyd, sefylla y gwaed, gyntaf yn eithaf barthau y corff, a theimlir hyny drwy anystwythder, anhwylusdod, neu fath o wynegon yno. Yn Utica yma gwelir pobl yn esgyn cerbydau am un bloc a dau! Y mae rhagluniaeth yn rhoi cnydau da o lawer o bethau er bendithio plant y byd, ond y mae y cyfan yn syrthio i afaelion masnachaeth. Saif haid fawr o fodau canol rhwng yr Arglwydd a'i fwriadau daionus; cythrymiaid mas- nachol a chribddeiliol, y rhai a wnant eu goreu i ddianrhydeddu a diogoneddu Duw drwy osod i fyny argae uchel o brisiau, sydd yn waeth nag argae wif- rau bigog yr Hwniaid fan draw! Y maent wedi cau o amgylch yr Arglwydd fel na all fendithio y byd mwyach! Pe v gwelem streic a elai ati i dori yr argae uchel brisiau hyn i lawr fel ag i roddi i ni agoriad a chyfle i fwyn- hau 0 drugareddau yr Arglwydd, bloedd- iem rwydd hynt iddynt! Nid yw ein llywodraeth yn llwydd- ianus iawn gyda'i hymdrechion hedd- ychu a chymodi. Yr ydym yn falch o ddyn fel D. Lloyd George. Yr ydym wedi bod flwyddyn yn dod i heddwch a Germani: ac eto heb gwblhau y gor- chwyl. Y mae yn awr eto yn rhyfel rhyngom a'r glowyr; ac oddigerth i ni dori drwy y llinell hon ar fyr, bydd y Cadfridog Zero ar waethau y wlad, a bydd yn fwy echrydus nag yn nyddiau Hindenburg. Gymaint o amser gwerth- fawr wastraffwyd gan y Senedd i ddad- leu yn nglyn a mintys, anis a chwmin politics, gan adael heibio bethau trym- ach prisiau a newyn a rhyniad y tri- golion! Y mae arnom eisieu cenedl- aeth well, a mwy gofalus o reidiau y wlad na'r rhai sydd genym: Yn yr etholiad diweddaf, dewisodd y mwyafrif gael Darluniau Byw ar y Sab- both. Ymdrech wael a diegni wnaeth yr eglwysi a'r capeli i ymladd Yb er- byn y drwg, ac nid yw yn rhyfedd yn y byd i'r Un Drwg drechu. Rhy basiffist- aidd yw Cristionogaeth; ni chred mewn gwrthwynebu drwg; ac felly ni ellir dysgwyl ond y bydd i bob math o chwyn dyfu yn wyllt, a gorchuddio y wlad. Dywedir mai y tramoriaid aeth a hi, y rhai na wyddent ac na wyddant eto fod y fath ddydd a Sabbotih; a dywedir hefyd m-ai Iuddewon yw llawer o'r per- chenogion. Yr hyn yr edrychir yn mlaen ato yn awr gyda dyddordeb yw, pa fath wasanaeth crefyddol fydd y Darluniau hyn. Amser a ddengys. A yw yn debyg y byddwn yn alluog i gadw rhai o'n credoau a'n hen arfer- ion a'n hen bethau o gwbl erbyn diwedd yr oes hon? Y mae y meddwl dynol fel pe yn myned dan chwyldroad, fel meddwl y merched. Y mae llawer o le i bryderu ac i obeithio hefyd. Y mae yma waith i .ffydd. Y mae pob peth yn crynu ac yn siglo, fel ar adeg daeargryn! Y mae llafur fel llawr yn codi ac yn argoelio dymchwelyd cryn lawer o'r hen drefn. Ni fuasai hyn o gwbl pe y gwnaethai y llywodraethau gydnabod arwyddion yr amserau, a ne- wid amgylchiadau 'yn gyfatebol. Na; rhaid oedd cadw pethau fel yr oeddynt gynt, gan ddysgwyl y buasai rhywbeth yn troi i fyny i gadw a dal pethau i lawr! Y gwir am dani, y mae yr hyn a elwir arno yn ddadblygiad, yr hyn o'i ddiystyru a'i anwybyddu a dry yn anocheladwy yn chwyldroad. Hyd yn nod yn ein dyddiau cythryblus yr awrhon, ni chydnebydd ein llywodraeth ni y ffaith; eithr dysgwylia mai rhyw fath o dwymyn neu "fflu" yw. Ymadawodd Tywysog Cymru a'n glanaij ar ei ddychweliad adref. Dylem fod yn falch o hono, fod gan Gymru dywysog mor boblogaidd. Ymddengys fod pawb yn ei edmygu a'i hoffi. Ed- rycha yn hogynaidd iawn, ac y mae ganddo wensydd yn maglu pawb. Y mae yn llawn natur dda, ac y mae yn anrhydedd i'r hen daid, Edward VII. Nid oes dim annymunol a thramgwydd- us ynddo, ac y mae yn engraifft o war-
[No title]
Y Maeslywydd Haig yn Anerch Swyddogicn Americanaidd yn Llundain ar ran el Krwrhvdi, y Brenin George, cyn roi arnynt Fathodau Anrhydedd Prydain -C jpyrlght Western Newspaper Union
I 0 WLAD Y GYFLAFAN I
0 WLAD Y GYFLAFAN Gan David Jones I Wedi fy arosiad yn Nghymru, Lloegr a Ffrainc am dros dair blynedd, m'ae arnaf awydd anfon gair i'r "Drych" am yr hyn a welais yn y gwledydd uchod tra fum yno. Gadewais New York, Medi 9, 1916, gan wynebu ar daith hir ac ystormus iawn o ddeuddeg niwrnod a chwe awr. Cawsom ein herlid gryn lawer gan y "submarines," ond trwy drugaredd, cyraeddwyd Lerpwl yn ddy- ogel, er yn flinedig a liesg iawn. Foreu tranoeth, trois fy ngwyneb tua Sir Ceredigion. ac erbyn nos yr oeddwn yn Aberystwyth. Yn y boreu, cychwyn eto tua Llanbedr-Pont-Stephan, ac er- byn un-ar-ddeg y boreu, glaniais yno ar ol bod yn absenoLam yn agos i ddeu- gain mlynedd. Yn y dref hon saif Coleg Sant Dewi, perthynol i'r Eglwys Sefydledig. Mae yn adeilad hardd iawn o'r tu allan. Mae llawer o efrydwyr yma yn parotoi am yr offeiriadaeth. Mae ar lafar gwlad yn Sir Ceredigion fod pob am- aethwr cyfoethog yn codi dau fochyn ac offeiriad bob blwyddyn yn Sir Cered- igion. Nis gwn ai gwir ai peidio. Wedi cael IIluniaeth, aethym o gwmpas y dref er ceisio dod o hyd i ryw un ag oeddwn yn adnabod gynt. Er holi a chwilio. ni welais yr un. Yr oedd yr heolydd a'r tai yn eithaf adnabyddus i mi, ond llawer o'r hen drigolion gynt wedi eu gwasgaru dros bedwar cwr y byd, a'r mwyafrif wedi eu gosbd yn nhawelwch llwch y llawr, mi dybiwn. Dan yr amgylchiadau, nis gallwn lai na theimlo fel y dyn hwnw, Rip Van Winkle, er's talwm iawn, fy mod wedi goroesi fy nhref enedigol, ac wedi syrthio tu allan i gylch fy adnabydd- iaeth. Cyn ymadael a'r dref, telais ym- weliad a chladdfa Brondeifi. Dyma y gorchwyl caletaf i mi o'r oil i'w gyf- lawni. Mae dau o'm hanwyliaid yn gor- phwys yno, sef tad a chwaer, yn fud ddysgwyl am adgyfodiad gwell y dydd a ddaw. Mae claddfa Brondeifi yn un o'r mynwentoedd harddaf yn Nghymru. Saif ar lecyn uchel o fewn ychydig i'r fan yr arllwysa y Dulas i afon Teifi. Mae ei rhodfeydd yn brydferth iawn gyda llwyni bythwyrddion o gwr i gil- ydd, yn ymgrymu yn wylaidd tua'r llawr, fel yn dweyd, yn fuan daw dy dro dithau. Nid yw trafnidiaeth a thwrw y byd byth yn dod o fewn i borth y fynwent. 'Mae tawelwch y fyn- went yn orlethol bob amser. Ar fy ymadawiad i'r Amerig, daeth fy nhad a'm chwaer i fy hebrwng i'r orsaf yma. Yr oeddem ein tri a'n peir- ianau llafar yn fud, ond gallwn ddar- llen y frawddeg hono ar wyneb fy nhad, "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon." Ychydig feddyliais y cawn hwynt yn eu beddau ar fy-nychweliad o fewn i led cae i'r orsaf. Pe cawswn eu gweled drachefn, ac wylo deigryn uwch eu gwely diboen gwaelod bedd, ni fuasai'r hiraeth mor ddwfn. Llogais gerbyd ac aeth-ym tua thy fy chwaer, yn Nhellan. Cyraeddais ben y daith, a churais wrth y drws. Daeth fy chwaer allan, cyfarchais hi wrth ei henw; edrychodd arnaf am eiliad neu ddwy, a dywedodd, "Ai Dafydd wyt ti?" a dyna bobpeth drosodd ar unwaith. Yr wyf wedi cael ar ddeall fod llaw- er o deuluoedd yn Nghymru wedi colli cyfeiriad eu perthynasau yn y wlad hon, ac yn awyddus iawn am air oddi- wrthynt. Mae genyf res o honynt, os oes rhyw rai yn y Talaethau.yn dewis ysgrifenu ataf, efallai y gallant ddyfod o hyd i'w perthynasau yn yr Hen Wlad. Cyfeiriad: D. J. Jones (Dewi Gwinog), Albia, Monroe Co., Iowa. »
[No title]
—Y mae Lieut. Emrys Davies, mab i'r Parch. D. Qunllo Davies, wedi ga- dael Birmingham am y brif ddinas, jyrio i astudio meddygaeth. Bydd coll- ed Suffolk Street ar ei ol yn ddiau yn enill i'r cyfeillion yn Charing Cross. Rhoddwyd cyngorion pwrpasol iawn iddo cyn cychwyn gan Dr. Rowlands. Hyderai ei weled yn troi yn ol am Bir- mingham ar ol myned trwy ei gwrs.
MARWOLAETH MRS. THOMAS LL.…
MARWOLAETH MRS. THOMAS LL. WILLIAMS, UTICA, N. Y. Ychydig wedi haner nos, nos Sul, pan oedd Rhagfyr yn agor ei ddorau, bu farw y chwaer dawel, garedig a duwiol hon, yn 52 mlwydd a naw mis oed, wedi dyoddef cystudd blin am yn agos i 18 mlynedd. Ganwyd yr ymadawedig yn Ebenezer, Arfon, a merch ydoedd i Mr. a Mrs. Richard Jones, New Street, blaenor gynt gyda'r Wesleaid yn y Tabernacl, Ebenezer. Pan oedd Mrs. Williams yn ieuanc, arferai weinyddu gyda'r Parch. William Rowlands, Cefn- y-waen, a chyda ei blant wedi hyny. Ymbriododd gyda Mr. Thomas Ll. Wil- liams oddeutu 28 mlynedd yn ol yn Caernarfon, G. C. Yn fuan ar ol hyn, ymfudasant i'r wlad hon, gan ymsefydlu yn Arvonia, Virginia. Wedi aros yno oddeutu tair blynedd, daeth i'w bryd symud i Granville, N. Y., lie y treul- iasant dros 16 o flynyddau. Yn yr argyfwng llechfaol 1916, sy- mudasant i Hastings-on-Hudson, N. Y., Mrs. Thomas LI. Williams ac ar anogaeth gref y meddyg yno, symudasant i Utica tua blwyddyn yn ol. Ond er pob gofal a symud ar ei rhan gan ei phriod caredig a gofalus, angeu a orfu, a chredwn yn ddibetrus oddiar yr adnabyddiaeth o honi tra yma yn dyoddef, ei bod wedi cael newid er gwell. Pethau a berthynant i deyrnas Dduw oedd ei holl oglud, yn enwedig emynau ac adnodau. Ni frysia'r neb a gredo Yn nydd y storom gref, Mae'r angor yn ddyogel Ar graig addewid nef; I'r glyn heb frys na phryder, Nac ofnau o un rhyw, Wynebodd hon yn dawel- Bu farw fel bu fyw.. Gadawodd i alaru ar ei hoi, ei phriod, Thomas Ll. Williams; ei merch, Mrs. Evan Lewis; a Myfyr, y mab; tri o "frodyr, John yn Lee Park, Pa.; a dau yn Ebenezer, Arfon; a phedair o chwi- orydd, ddwy yn y wlad hon, un yn Rome, N. Y., a'r Hall yn Granville; a dwy yn Hen Golwyn, G. C. Tad yr amddifaid a Barnwr y gwedd- won fyddb yn arweinydd ac yn ddydd- anydd i'r teulu trallodus. Cymer yr angladd (preifat) le boreu dydd Iau am 11 o'r gloch.—Moelrydd. Bawb sy'n llwythog a blinderog, Deuwch ataf ft, medd Ef; Gorphwys. gant ar ol cystuddiau Yn nhawelwch clyd y nef; Hyfryd oedd i'n chwaer gystuddiwyd Flwyddi lawer yn y byd Gael ymfudo draw o'r diwedd Lie mae pawb yn iach o hyd! Pererines fu'n dyoddef Ar ei hir flinderus daith; Caled fu yr anial iddi- Ar ddiffygio lawer gwaith; Ond ei ffydd a'i daliai 'fyny; Mwyn a siriol oedd bob dydd; Dysgwyl oedd am wawr y boreu Pan y'i rhoid o'i rhwymau'n rhydd. Er mai llesg oedd drwy'r blynyddau, 'Eto'r oedd yn gydmar cu; Fe wel Tom hi'n unig hebddi Pan yn troedio'r anial du; Tywyll fydd yr aelwyd hebddi; Gwag y cartref clyd di nam; Bydd rhyw adgof a rhyw hiraeth Mud yn aros heb y Fam! I- -c I ———
CYNLLUN CYNILO Y LLYWOD- …
CYNLLUN CYNILO Y LLYWOD-  RAETH  Yn Utica a Sir Oneida, y mae y lly- wodraeth wedi trefnu yr hyn a elwir yn Oneida Peace Offensive Committee, yr hwn sydd a'i waith i alw sylw ar- weinwyr y bobl yn mhob man beryglon presenol y wlad. Y mae cyflwr tref- nidol y wlad y blynyddau hyn yn apelio at feddwl ac ystyriaeth pob dyn o ddy- lanwad. Y mae yr uchel brisiau, yr an- esmwythyd cyffredinol, gwerth dibris- iedig y ddoler, yr angen am fwy o gyn- yrchu a llai o wastraffu yn arddangos cyflwr afreolaidd pethau. Gofyna hyn am gydystyriaeth a chyd- weithrediad dynion a benywod meddyl- gar, arweinyddion y bywyd cymdeith- asol a gweithfaol, ac ni fu yr alwad er- ioed yn fwy pwysig o difrifol.. Y mae yn gyflwr fydd yn rhaid ei gyfarfod, a'i gyfarfod yn ddioed. Cydnabyddir mai y feddyginiaeth genedlaethol yw cyniledd; felly y mae Pwyllgor y Sir ar ran y Drysorfa Gen- edlaethol wedi cychwyn Mudiad Cynilo er cael' cydweithrediad arweinyddion y bob! a'r dinasyddion er hyrwyddo cyn- iledd a amlygir drwy bryniad Tystys- grifau Cynilo y Drysorfa o $100 i $1000. Addfeda y Tystysgrifau hyn yn y flwvddyn 1924; a chyst v Dystvsgrif $100,$84.40, a'r un$1000,$844. Rhwymebau y llywodraeth ydynt. Gell- ir eu cael drwy dalu am danynt mewn arian, "checks," neu eu newid am nod- au cynilo y rhyfel (War Savings Stamps). Gellir eu cael yn y bencydd, cwmniau ymddiriedol wedi eu penodi gan y Dryoorfa Genedlaethol, ac mewn Postswyddfeydd o'r Dosbarth Cyntaf a'r Ail. Ni all yr un dyn brynu mwy nag un $1000.
Advertising
WANTED To buy a store (grocery preferred). City or country store. Strictly con- fidential. Address- "X. Y. clo "DRYCH" OFFICE
NODION -PERSONOL1
NODION PERSONOL 1 Y Parch. H. W. Owen, diweddar Man- torville, Minn., sydd wedi symud i Le- banon, S. Dakota. Y mae y cerddor, John R. Jones, Sul- livan, Mo., wedi cyraedd Arizona. Ei gyfeiriad o hyn allan yw 153 Ninth Avenue, Phoenix, Arizona. Mae cwmni y Cunard a'r Anchor Lines, cwmni'r agerlongau, wedi penodi y Cymro, Wm. Ward Davies, Phoenix, Arizona, yn brif oruchWyliwr drostynt yn Nhalaethau Califfornia ac Arizona. Y "Faner" sydd yn cyhoeddi adgofion dyddorol Glapcarnant, Nanticoke, Pa., am y doniol Watcyn Wyn yn y "Drych." W. C. J. a ddywedodd wrth Mrs., pan y clywodd am godiad pris y "Drych," ond ni chafodd o'r braidd derfynu nag y dywedodd hithau fod yn rhaid iddi ei gael; na allai fyw hebddo! E. Powell, o Cleveland, Ohio, ddywed eibrofiad yn nglyn a'r "Drych" er's 30 mlynedd, ac y mae y "Drych" iddo ynlau yn fwyd, a diod, a ebifsur mawr, a rhybuddia i ddal yn mlaen gyda'i ddwyn allan. David J. Jones, Albia, Iowa, gynt, sydd wedi glanio yn Philadelphia, Pa., ar ol bod yn yr Hen Wlad am dair blynedd tua Pencader, D. C. Y mae wedi cael profiad mawr yn ystod ei arosiad yn ei hen gartref, a chewch yr hhnf0 yn fuan.. Gwnaeth Wm. J. Thomas, S. Minnea- polis, Minn,, ymdrech i fod y cyntaf i dalu y $3. am y "Drych"; ond gwelir iddo lethu o ychydig. Y mae Mr. 'Tho- mas yn derbyn y "Drych" er's 40 mlyn- edd; a'i anogaeth i'r Swyddfa yw "Dal- iweLl ati!" Cawn bob math o ddarluniau i'w rhoi yn y "Drych," a dymunwn nysbysu ein gohebwyr na ellir eu deinyddio oddi- eithr eu bod yn glir a glan. Cawn rhai rhy fychain i wneyd dim a hwy. Photos yw y rhai goreu, heb liw arnynt. Ein Index, mae o'n un da-dyn o'i fewn Dyna fo'n Utica; Rhoddi'n wir yn rhwydd a wna O'i eiddo, y "Ddau Adda." Orchfygwr ar erch fagad—o ddynion, A'i ddoniau yn wastad; Gwron glew, un gara ein gwlaû- Gem aur yw ei gymeriad. —Ymwelydd. Cyfarfod Chwarterol Cynulleidfaol- wyr Talaeth New York. Cynelir yr uchod yn eglwys Court Street, Rome, N. Y., Rhagfyr 13-14; y gynadledd am dri brydnawn Sadwrn, a. phregethir y Sabboth gan weinidogion y cylch, a dys- gwylir cynrychiolaeth dda o'r gwa- hanol eglwysi.—Richard Hughes, Ysg. Thomas R. Williams, Williamsburg, Iowa, sydd yn myned am y gauaf i Cali- ffornia, a'i gyfeiriad fydd: clo Ivan Jones, 740 Gardena Avenue, Long Beach, Califfornia. Gan fod y "Drych" yn ymweled a'r teulu er's haner can mlynedd, bydd yn llawen ganddo dalu $3. am dano. Yn mysg y teithwyr ar yr "Haver- ford," dan lywyddiaeth Cadben Jones, yr oedd Mrs. Enoch Smith a'r ferch, Megan, Camden, N. J., yn cyfeirio tuag at Rhosllanerchrugog; Miss Lydia Lloyd i Ffestiniog; a Gwyneth Hum- phreys Griffith am Gaernarfon. Yr oedd nifer o'u cyfeillion ar y lan yn ffarwelio a hwy., Anrhegwyd Gwyneth gan ei weinidog, y Parch. R. E. Wil- liams, yn yr Ysgol Sabbothol, a Beibl. Y omae yn dda iawn genym weled parodrwydd ein darllenwyr i barhau eu cefnogaeth i'r "Drych," gan foddloni talu y $3. am dano. Nid yw yn ddrud o'i gydmaru a phrisiau eraill. Y teim- lad yn gyffredinol yw y byddem yn y tywyllwch yma yn y Talaethau heb oleuni y "Drych." Y cyntaf i anfon ei $3. am dano oedd y Proff. W. W. Da- vies, Delaware, Ohio. Profiad yr olaf ddaeth i law yw, "Heb y 'Drych,' ni fyddwn yn gwybod dim am ein gilydd!" Y mae a ganlyn o "Cymru" am Tach- wedd: "Y Ddau Adda" yw enw llyfr newydd Index. Rhyddiaith yw'r rhag- draeth, barddoniaeth yw'r llyfr. Difyr yw dylyn y meddwl chwim, clir a choeth drwy'r pedwar ugain tudalen; dylyn y meddwl "sydd yn ameu a chwil- io a chrwydro fel Abraham gynt, heb wybod i ba Ie yr oedd yn myned, ond a'i fryd ar ddinas ag iddi sylfeini, saer ac adeiladydd yr hon yw Duw." Difyr yw'r daith, tarawiadol yw'r ymgom wrth grwydro, a daw esmwythyd hyf- ryd i'r meddwl gyda gorphwys pen y daith. Ni fynwn er dim i ti farw, Perthynas rhy agos wyt ti; A chyfaill caredig a ffyddlawn A fuost am flwyddi i mi; John "Drych" Jones ddylesid dy alw, Gan mai Cymro i'r earn wyt ti; Bob wythnos y deui heb fethu A'th lon'd o newyddion di ri. "Blwch o bleser," lachar seren-a rhad Yw yr hen "Ddrych" addien; Dair dolar am beder dalen 0 Gymraeg clws, hen Gymro clen! (Ap Ceiriog), Ponoka, Canada. Priodas Ddyddorol yn. Randolph, Wis. Tachwedd, 26, 1919.-Heddyw ganol dydd, a hyny yn nghartref mam y briod- ferch, unwyd mewn glan briodas, Mr. J. Grant Jones, Columbus, Wis., a Miss Elizabeth A. Williams o'r dref hon. Mab i'r Anrh. a Mrs. O. R. Jones, Col- umbus, yw'r priodfab, tra Miss, Wil- liams yn ferch i Mrs. John Williams, Frondeg gynt. Gweinyddwyd ar yr ach- lysur gan y Parch. F. Tegfryn Roberts. Chwareuwyd ar y beedoneg gan Miss Agnes Jones, Columbus. Y gwas oedd Mr. Willie Jones, a'r, forwyn, Miss Mary Williams; y naill yn frawd y priodfab, a'r llall yn chwaer y briod- ferch. Yr oedd nifer fawr o wahodd- edigion yn bresenol; derbyniodd y deuddyn lawer o anrhegion tra gwerth- fawr. Ymadawsant i dreulio eu mis mel yn Indianapolis, a manau eraill. Wedi eu dychweliad, byddant yn car- trefu ar fferm y teulu yn ymyl Colum- bus. Dymunir eu llwyddiant a'u ded- wyddwch gan lu mawr. Cofiant 0. Emlyn Evans. Cefais lythyr oddiwrth y Parch. E. Keri Evans, Caerfyrddin, yr wythnos hon, yri hys- bysu fod y Cofiant ar ddyfod o'r wasg, ac y gall y tanysgrifwyr ei ddysgwyl o hyn i'r Nadolig. Torodd peiriant yr argraffwasg yn nghanol y gwaith, a bu hyny yn atalfa ar ei ddwyn i ben yn ol y c'ytundeb. Argreffir tair mil. Mae dros tldwy fil o enw-au wedi dod i law oddiwrth edmygwyr yr hen gerddo^ talentog yn Nghymru, ac y mae rhai ar- daloedd heb anfon y cwbl i fewn eto- Dros gant o enwau o Aberdar! Fferm- wyr Aberteifi a Chaerfyrddin a glowyr Morganwg sydd ar y blaen yn yr ar- chebion am y Cofiant. Anfonais enw a chyfeiriad pob un a d'daeth i fy llaw i Gaerfyrddin, a daw y llyfr yn union o Gymru i'r tanysgrifwyr. Pan ddel i law gall y rhai sydd heb dalu anfon y tal i mi. Yr wyf fl. wedi talu yn mlaen am yr oil.—Rev. T. C. Edwards (Cyn- onfardd), Kingston, Pa. Llith o Gymru. Gair neu ddau atoch -• i'ch hysbysu fy mod ar dir y rhai byw. Yr wyf wedi teithio llawer er pan wyf yn y wlad hon. Mae yma gyfnewidiad mawr ar ol y rhyfel; miloedd o filwyr clwyfedig ar yr beolydd, ac mae yma filoedd allan o waith; y wlad yn ansef- ydlog; pethau yn uchel iawn; y glo yn brin iawn, ac yn costio yn agos tair punt y dunell, a haner pwys yr wythnos sydd i'w gael o siwgr, ac owns o ymen- yn y pen, ac mae'r cig yn uchel iawn; yr esgidiau a'r dilladau ihefyd. Credaf fod pethau lawer uwch yma nag ydynt yn y Talaethau. Da genyf ddweytl wrthych fod y "Ddau Adda" yn gwerthu fel "hot cakes." Yr wyf wedi gwerthu y dwsin a gefais, ac mae yma ganmol- iaeth mawr i'r llyfr yn mysg chwarel- wyr yr ardal hon. Gallaswn werthu ugeiniau o honynt y ffordd yma. Da genyf ddweyd wrthych fy mod wedi cael derbyniad cynes gan y Prifwein- idog yn 10 Dgwning Street. Bwriadaf hwylio adref ar y 26fed o'r mis hwn (Tachwedd) ar y "Lapland," o South- ampton. Dysgwyliaf gyraedd yn-a tua Rhagfyr 12,-Humphrey Griffiths. Cor Glyndwr. Gair da ddaw o bob cyfeiriad am gampau cerddorol y Glyn- dwr Concert Male Choir. Rhoddasant foddh-ad neillduol yn eu cyngerdd yn y Boston Press Club. "Codasant y cyn- uijiad yn glir oddiar eu traed. Ni ellid dychymygu gwell casgliad o leisiau ac yn cynganeddu mor berffaith," ebe gwasg y ddinas. Cant y canmoliaeth uchaf yn mhob lie yr ymwelant ag ef. 0 Beverly, Mass., hefyd, y daw canmol- iaeth nodedig i'r cyngerdd a gynaliwyd yn y Larcom Theatre, dan nawdd Cyf- rinfa yr "Elks." Yma eto y tystia y wasg y byddai yn anhawdd dychymygu rhagorach casgliad o leisiau yn cyngan- eddu mor swynol. Nodid Sydney Charles, John Williams, M. J. Edwards a Harry Evans fel unawdau a ansawdd godidog; eu lleisiau yn annghyffredin o bur a swynol. Nodid allan hefyd y deuawd, R. Thomas a P. Williams, fel un o ragoroldeb arbenig. Cofier mai boys o lowyr ydynt, wedi diwyllio eu lleisiau yn y llwch glo. Dywedai y "Drych" er's falwm mai tonic da i'r llais yw llwch glo. .Cor Glyndwr yn Poultney, Vt. Yn un o fc-nodiadau y golofn "Bersonol" y "Drych" diweddaraf, yn cynwys cy- hoeddiadau y cor uchod am fis Rhagfyr, mae dyddiad ei ymddangosiad yn y dref hon yn gyfeiliornus. Ar nos Lun, y 15ted, ac nid ar y 14eg, y maent i fod gyda ni, a dymunir ar i ddarllenwyr y "Drych" trwy yr ardal gofio y dyddiad a throi allan yn dorf aiddgar i'w croes- awu. Gyda Haw, Mr. Golygydd, nodais eich bod wedi cywiro brawddeg yn fy nodyn blaenorol trwy wneyd i'r geiriau, "Chwaeth yr ardal wedi ei gwyrdroi at bethau o lai gwerth," ddarllen "wedi ei wyrdroi." Pa mor pendant ydych mai y rhyw wrywaidd sydd gywir yn y cys- ylltiad uchod? Credaf fod llenyddiaeth buraf ac uchelaf ein hiaith wedi lleoli "celf," "dawn" ac athrylith" yn y rhyw fenywaidd, a phaham nad "chwaeW yn ogystal? Er mwyn addysg ac adeiladaeth, rhoddwch air o eglurhad.—H. H. P. (Tebyg mai gwall oedd.-Gol.) Glaniad y Parch. D. Lewis Jones. Fel y canlyn yr ysgrifena y Parch. David Lewis Jones atom o Wilkes-Barre, Pa.: "Yr ydym wedi cyraedd i New York o'r diwedd, ar ol aros yn hir am gyfle i deithio o Gymru; a byddwch gared- iced a rhoddi hysbysiad yn y "Drych" ein bod yn bwriadu teithio drwy Penn- sylvania ac Ohio yn mlaen i Winnipeg? Byddwn yn foddlon i bregethu neu ddar- lithio ar ein taith yn mlaen-yn Gym- raeg neu yn Seisneg; a gwahoddwn ohebiaeth oddiwrth swyddogion eglwys- ig mewn unrhyw ardal." (COPY) Aberystwyth, Wales, November 6, 1919. I have great pleasure in recommend- ing the Reverend and Mrs. David Lewis, Jones to Ministers and Christian friends in the United States. Mr. Jones is an ordained minister of the Wesleyan Methodist Church.. He has travelled for many years, in the South Wales District, and the authorities of the Church have granted him permis- sion to visit the United States. Mrs. Jones, also, is an experienced evangel- ist and lecturer. I hope our American friends -will extend to them their usual welcome. (Signed) EVAN ISAAC, Chairman of the South Wales District. Eisteddfod Gadeiriol Utica, N. Y. Dymunir cydnabod derbyn cyfansodd- iadau ar gyfer yr Eisteddfod uchod yn dwyn y ffugenwau, canlynol: Pryddest: Telyn Cymru, Hermit, Llais o'r Mynyddoedd, Eco'r Drin, Y Cywair Lleddf, Eryr Craig y Pocono, Gwyndaf Hir, loan ap Llwyd, Gwerin- wr Tangnefeddus, Peos, Hugo, Y Galon Friw, Heddfab, Awenydd, Eto'n Fyw, (15). I Telyneg: Glan Wnion, Glowr o'r Gwaith Glo, Y Machlud, Y Bardd Unig, Ap Celyn, Cymro, Un yn Hoffi Cysgod- ion yr Hwyr, Telynfab, Gwyliedydd, Cowper, Bychan, Ar y Mynydd, Dienw, Pererin, Alban Hefin, Amaethwr, Telyn- og, Murmur Susquehanna, (18). Englyn: Rhys o'r Glyn, Gone West, Europyddes, Un Fu Yno, Milwr, Waeth Pwy, Evan Rees, Lucy, Efanas, Gwlad- gar, Braw, Hen Filwr, Milwr (2), Bry- thon, Twm Ffowc, Welsh Guard, Baden Powell, Corn y Nant, Snipper, Pelain, Pantygarnedd, Dan yr Helyg, Mab y Mynyddoedd, Peirianydd, Ffoch ar y Ffin, Peredyr, A., Sandi, B., British Boy, C., Gildas, Ysibryd Arswyd, Scran- tonian, Heddgarwr, Tommy Lad, Droq y Brig, Nancy, Private, Magnelwr, Trebor, Cilgwyn, (42). Penillion: Arthur, Asgre Lan, Ifor, Hen Gymro Cymdeithasol, Edmygwr, Cymro, Cymrawd, Edmygedd, Glan Twrch, Sadrach, Amos, Cymrodor, Glyn- dwr, (13). Traethawd: Religious Optimus, Gwil- ym, A Whole-hearted Unionist, Gwel- edydd Gwerinol, Gostyngedig, loan, Un Heb Ffugenw, (7). Chwedl: Meirionydd, (1). W. Gaerwenydd Thomas, Ysg.
[No title]
eiddiad yn Mhrydain fod ganddynt Dy- wysog mor boblogaidd. Wedi enill Canada a'i wen ddifyr, ofnid y cawsai roasawiad oerach o fewn ein Gwerin- iaeth, ond yma eto y profodd ei hun yn Dywysog y Rhadloniaid. Cafodd gawod o lythyrau o bob p-arth o'r wlad heb yr un gair anngharedig yn un o honynt, a dywedai yr hoffai eu hateb bob un, ond yr oedd allan o'i allu. Cynaliodd ddwy oedfa i blant ysgolion New York, (lc i fechgyn yr Ysgowtiaid, y rhai a foddiodd yn ddirfawr. Hoffa y Talaeth- au yn fawr, ac y mae yn addaw dod eto am dro yn fuan. Y mae y "Drych" yn dymuno lwc dda i'r Tywysog a'i enw yn "Wales." NWYAU CYMDEITHASOL Clywyd cryn son am rai blynyddaa am yr hyn a alwyd yn "poison gas," y nwy gwenwynig a ddyfeisiodcW yr Hwniaid i ddallu a lladd y gelyn; ond dysgodd y gelyn wneyd nwy hefyd; a thalwyd yr Hwn yn ei arian ei hun. Ond y mae hyny wedi myned heibio; a gobeithiwn na cheir dim o hwnw mwy; ond bydd rhaid cadw llygad ar yr Hwn anedifeiriol. Eto y mas cymdeithas yn llawn o nwyau gwenwynig na sylwir arnynt gan na Byd nac Eglwys y dyddiau hyn. Y mae y nwyau hyn gyda ni bob amser, a'r awelon yn eu chwythu drwy bob sefydliad, a chant le sefydledig yn ein heglwysi, a gall dyn o ffroen deneu eu harogli yn mhob cwr o gymdeithas. Defnyddir llawer o fathau o berarogl- au (ac nid y "peraroglau" y sonia yr hen emynydd am danynt) i guddio ar- oglau drwg bydolrwydd. Y mae rhai o honynt na roddant sawyr annymunol o gwbl, hyd y ceir sefydliad wedi ei wenwyno cyn gwybod <frnai gwenwynig ydynt. Nid ydynt yn lladd dyn yn anianol, fel y gwnai y nwy Germanaidd; ond marweiddiant y rneddyliol a'r ysbryd- iot yn y bobl ieuainc, a rhai mewn oed, gan gryfhau eu hymlyniad wrth bethau y byd hwn. Y dydd o'r blaen, yr oeddym yn ym- gomio a gwr profiadol yn nglyn a nwy- au, a dywedai mai y rhai mwyaf perygl- us ac angeuol yw y rhai na aroglir. Y maent yn rhy gyfrin i'r ffroen ddynol, ac felly, gwnant eu gwaith yn ddiar- wybod i ddyn. Gofyna ofal i ymgadw rhagddynt; gofyna wybodaeth i fod yn ofalus. Dyma ddylai fod swyddogaeth addysg, sef addysgu pobl i fod yn ofal- us ac yn rhagofalus.. Y mae canoedd o nwyau drwy awyr- gylohoedd y bywyd Americanaidd, ac y mae rhai o honynt i'w canfod drwy eu heffeithiau yn y byd crefyddol. Gwen- wynir y bywyd yn gyflym ond yn gyf- rin ganddynt. Yr ieuenctyd sydd yn y perygl mwyaf drwyddynt; ond effeith- iant ar yr hen arferent a hwy yn eu maboed. GRAS DYSGWYLIAD I Y dyn a'r ddynes mwyaf truenus yw y rhai sydd a'u dysgwyliadau yn bre- senol, yn flysiau, yn chwantau, ac yn byw ar eu boddhad buan. Llenwant eu hunain a boddlonrwydd y presenol, yr hwn nid yw yn parhau. A boddhad chwantau heibio yn fuan, ond peri ded- wyddwch dysgwyliad yn hir iawn; a'r djrgelwch yw y deil dysgwyl i lanw y meddwl a boddhad parhaus.. Boddhad chwantau cnawdol yw y bryntaf a'r llygrolaf, a niweidia gorfE ac enaid y pechadur yn feunyddiol; tra y mae "dysgwyl pethau gwyoh i ddod," er na ddeuant, yn fendithiol iawn. Y mae y dyn a'r ddynes seiliant eu dedwyddwch ar foddhad o'u chwantau a'u gofynion bydol presenol yn fynych yn siomedig ac annedwydd, am na chant yr amrywiol bethau y maent am danynt yn ddi-oed; tra no. siomir y rhai ddysgwyliant bethau pell. Yr oedd yr hen Gristionogion er's talwm yn dys. gwyl a gobeithio am bethau pell, ac o'r herwydd ymfoddlonent ar ychydig, ac yr oeddynt yn ddedwydd ar ychydig, am y rheswm fod eu dysgwyliadau mor addawol. Pan yn blentyn, deuai llawer o ddys- gwyl (Nadolig, er engraifft), a pharai y dedwyddwch o ddysgwyl lawer' yn hwy na mwyniant y Nadolig ei hun. Dyna un o gampau ffydd, set dysgwyl. Y mae y dyn edrycha yn mhell yn mlaen yn fwy dyoddefgar na'r truan presenol. Camgymeriad yw byw yn y presenol byw, fel y dywedodd rhyw fardd. Dyna wna y pechaduriaid yn mhob oes —boddio eu chwantau a'u blysiau oll, yn awr, ac ni allant oedi nac aros hyd y t'ory. Xid felly y gwna y dyn da, duwiol, hunanymwadol, aithr oeda, go- hiria foddhad ei chwantau hyd y dyfod- ol, a cheidw yr hyn a wiastraffa eraill hyd y dyfodol, pan y bydd mwy o eis- ieu; erbyn y dydd gwlawog, fel y dy- wedir. Hyn a feddylir wrth gynilo. Y m-ae i gynilo ystyr foesol a materol;. nid cy- nilo ei arian yn unig wna y dyn call, ond cynila ei adnoddau eneidiol ac ys- brydol, yr hyn a wastraffa yr annuwiol ac annghynil fel yr Afradlon gynt. Nid ei arian wariodd hwnw yn unig, eithr gwastraffodd ei etifeddiaeth ysbrydol; a hwnw oedd y gwastraff gwaethaf. Nid yn unig daeth yn ol heb grys am ei gefn, ac heb esgidiau am ei draed, ond wedi gwastraffu ei rinweddau, wedi niweidio ei amgylohiadau eneidiol yn waeth na'i rhai tymorol. Y mae gwaeth dryclr ar yr afradlon yn foesol nag yn fydol.