Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Advertising

————0*0 RHESWM .A FFYDDI

I DYCHWELYD YN OL I GYMRU

[No title]

CAPEL CU RIG A'R WYDDFA, G.…

Y RHEILFFORD; I BEN Y WYDDFA…

News
Cite
Share

Y RHEILFFORD; I BEN Y WYDDFA FAWR Gan T. Ll. Williams Chwarter canrif i'r mis nesaf y tor- wyd y dywarchen gyntaf er gwneyd y llinell hon i Ben y Wyddfa fawr yn Ar- fon, sef Rhagfyr 15, 1894, ac yn mhen ychydig mwy na blwyddyn, sef Ionawr 8, 1896, aeth y tren i'w phen gyda theithwyr am y tro cyntaf; ond nid oedd pethau yn gweithio yn hwylus, I felly ataliwyd y teithwyr rhag myned gyda'r tren am tua pymtheg mis, pryd yr agorwyd hi wedi ei chwblhau, Eth rill, 1897, a hyny ar ddydd Llun y Pasg, ac y mae hi yn dal i redeg byth er hyny • gyda llwyddiant mawr. Mae hon wedi bod yn gelfyddyd gywrain iawn, er mai hon oedd y gyntaf i gael ei gwneyd yn Mhrydain Fawr. Dywedir, ya ol yr hanes, fod lied y ffordd yn ddwy droedfedd a saith mod- fedd a haner, ac yn bedair milldir a thri chwarter o hyd. Mae hon yn chwarter milldir yn hwy na'r Rigi Rail- way. Yr amser a gymerir i'r tren fyn- ed i fyny i ben y Wyddfa ydyw tuag awr, pryd y cymerir tuag awr ac ugain mynyd i'r tren fyned i ben y Rigi Rail- way; felly chwi welwch fod y tren Cymreig yn. gwneyd gwell amser o gryn dipyn "'la'r Rigi. Y mae yn yr in- gen neu 7" tren double steel cogs, ac mae y rhai hyny yn gweithio ar y cogs sydd rhwng y ddau haiarn y trac, a dyna sydd yn ei galluogi i ddringo 1 ben y Wyddfa. Gwnaed y tren yn y Swiss Locomotive Manufactory yn Win- terthur, a'r cerbydau yn Lloegr. Y mae pob un o'r rhai hyn wedi eu gwneyd i eistedd tua triugain o deithwyr. Y mae pedair gorsaf ar y llinell hon, sef un yn ymyl y CeunantOMawr; yr ail yn ymyl capel Hebron, tua 900 o droed- feddi uwch arwynebedd y mor; y dry- dedd yn ymyl yr hen dy haner ffordd (half-way house), tua 1800 o droed- feddi; a'r bedwaredd ar y clogwyn yn ymyl Cyrn Las, tua 2600 a droedfeddi. Ceir golygfeydd rhamantus o'r cerbyd- au ar hyd y daith hon. Wedi pasio'r Ceunant Mawr, aiff y rheilffordd i fyny at Clogwyn Coch a llethrau Llechog a Chrib y Ddysgl. Mae y rhai hyn yn gwneyd pant o'r Wyddfa. Y prif ddyn- ion fel engineers oeddynt Syr Douglas a Francis Fox, o Westminster, a Mr. F. Oswell oedd yn edrych ar ol y gwaith; y contractors oeddynt, Mri. Holme a King, o Lerpwl. Y pris j'r teithwyr cyn y rhyfel oedd 3s. 6d. i fyny, a 2s. 6d. i lawr, fieu 5s. yn ol a blaen. Mae yn ddiameu fod yr anturiaeth hon wedi talu yn dda, gan fod cymaint yn myned i ben y Wyddfa bob blwydd- I' yn, fel y dywed Coedglas yn ei Iythyr dyddorol yr wythnos hon, ei fod ef wedi clywed eu bod wedi derbyn o £ 120 i £ 160 yn y dydd. Mae hyny yn gwneyd o $600 i $800 yn y dydd. Dywedir nad yw gwestai Llanberis ddim yn gwneyd yn agos cystal ar ol i'r tren ddechreu rhedeg i ben y Wyddfa ag a oeddynt yn yr hen amser, o herwydd fod y dy- eithriaid yn dod i Llanberis gyda'r tren gyntaf yn y boreu, ac yn cymeryd y tren i Ben y Wyddfa, ac yn gallu dod yn ol mewn pryd i gael tren i'w cludo yn ol yn y prydnawn, ac yna yn cefnu ar y pentref a'r gwestai. Nid wyf yn gwybod i'r un ddamwain ddygwydd ar y llinell hon, er mor ra- mantus ydyw, ond un, sef diwrnod yr agorwyd hi, pryd yr anafwyd Mr. Ellis Roberts, Padarn Villa Hotel, mor ddrwg fel y bu farw yn mhen ychydig wythnosau ar ol hyny. Darfu rhyw an- ffawd ddygwydd i'r peiriant pan yn dod i lawr gyda'r teithwyr, a rhedodd i ffwrdd, gan adael y cerbyd ar ol, a hyny yn y lie mwyaf peryglus ar y ffordd, a hyny mewn cytyn cul, a dych- rynodd y brawd Roberts a neidiodd allan, ac aeth ei goes o dan olwynion y cerbyd a thorodd hi, a gwaedodd yn arw cyn cael cynorthwy. Pe buasai efe wedi aros yn y cerbyd, fel y darfu y teithwyr eraill, buasai yn saff; diang- odd pawb arall o'r teithwyr yn ddianaf. Mae cerbydau y tren hwn yn brakio eu hunain os dygwydd rhywbeth i'r peiriant, a chafwyd digon o brawf o hyn ddiwrnod yr agorwyd hi, drwy i'r tren ade.e1 y cerbyd, ac yna stopiodd wedi myned ychydig latheni, ond aeth y tren yn wyllt a thros y dibyn rhai ugeiniau o latheni nes yr oedd yn chwilfriw man, a diangfa gyfyng gafodd y ddau ddyn oedd arni. Cawsant eu bywyd drwy i'r ddau neidio allan o honi a gadael i'r peiriant fyned yn wyllt. Diameu fod llawer i un sydd yn y wlad hon yn cofio yr hen amser ded- wydd y byddem yn cerdded i ben y Wyddfa; cychwyn tua 11 o'r gloch y nos o Lanberis a dringo'r llethrau yn y tywyllwch, yn neillduol felly tua mis Awst, er mwyn bod ar y top erbyn byddai'r haul yn codi yn y boreu. Go- lygfa ydyw hon nad annghofir mo honi yn fuan gan neb a'i gwelodd.

I NODION 0 BETHESDA, ARFONI

PAHAM Y CEDWIR O'R CYFARFOD…

LAKE CRYSTAL, MINN.

IAM.RYWION ANMRWD