Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Advertising

————0*0 RHESWM .A FFYDDI

I DYCHWELYD YN OL I GYMRU

[No title]

CAPEL CU RIG A'R WYDDFA, G.…

News
Cite
Share

CAPEL CU RIG A'R WYDDFA, G. C. I Nid anyddorol i'r Llanberisiaid, yn nghyd a phobl Capel Curig, Arfon, fydd cael darlun o'r Wyddfa o gyfeiriad Capel Curig. Mor dlws yw'r olygfa ar y pentref tawel yn llechu yn nghanol y mynyddoedd cribog! Mae Penygroes- ffordd i'w weled yn amlwg yn y darlun, lie mae ffordd o Gaergybi i Lundain yn cyfarfod a'r ffordd o Llanberis. Y fyn- went lie yr hunai y cyndrigolion, am- ryw o honynt, mae yn ddiameu, yn an- wyl gan rai yr ochr yma i'r Werydd. Yr afon Llugwy yn ymddoleni yn dawel ar waelod y dyff^yn, ac yn gwneyd ei ffordd i ymuno agafon Conwy, yn e I d i, hi 1'r m or. nghol pa un y i'r mor. Ar lan y Ilyn, gwelir y gwesty byd- enwog a elwir, Royal Hotel, lie mae mawrion pob gwlad wedi ac yn bod yn lietya tra yn mwynhau golygfeydd ac yn dringo llechweddau rhamantus Er- yri. Ar y dde yn y darlun, ac ar y chwith, mae godrau Moel Siabod yn ymlithro i'r llynoedd. Yn y pellder draw, gwelir llethrau a chopa y Wydd- fa, am yr hon y canodd rhyw fardd: Hawdd yw dywedyd, dacw'r Wyddfa, Nid ai drosti ond yn araf. Ac yn olaf, ac yn benaf, yn y pen- tref prydferth hwn, y bu fyw ac y bu farw y pregethwr efengylaidd a'r gweddiwr taer, y diweddar Barch. Wil- liam Williams, Capel Curig; un o ef- rydwyr Coleg y Grug, fel yr arferai ddweyd, gan olygu nad oedd wedi cael dim addysg ond yr hyn a gafodd yn ngholeg anian ar lechweddau Eryri. Yr oedd yn dad i'r Parch. John Wil- liams, Caergybi, Bangor gynt. Ar fferm o'r enw Cwm Uchaf, ar ochr M6el Siabod, y ganwyd y diweddar Barch. William Curig Williams, Rhos- gadfatn. Yr oeddwn yn adnabyddus iawn ag ef, ac wedi chwareu llawer gyda'n gilydd. Ofer yw helaethu rhag- or. Feallai y caf gyfle eto yn fuan i adgofio am yr hen drigolion Capel Curig a Dyffryn y Gwtyd. I'r cyfarwydd a'r ardal, fel David Hughes, Brynllys Ffarm, Plainfield, ac amryw eraill, ni bydd dim anhawsder i adnabod ac i wybod enwau pob bry-n a chlogwyn gan mor eglur y maent. Yr wyf yn deall fod D. Lloyd Davies, Utica, yn gyfarwydd iawn a'r ardal.—R. W. Thomas, New York Mills, N. Y.

Y RHEILFFORD; I BEN Y WYDDFA…

I NODION 0 BETHESDA, ARFONI

PAHAM Y CEDWIR O'R CYFARFOD…

LAKE CRYSTAL, MINN.

IAM.RYWION ANMRWD