Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
L) SDtEcb. A WELSH WEEKLY » ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning Thomas J. Griffiths & Sons. UTICA, N. Y. IMPORTANT TO ADVERTISERS.—The wttwitloB of business men In general is called to Y DRYCH as a superior adver- '■iinff medium, being read by thoubandr who cannot be reached by any other pub deation. It has a large circulation, with subocrtbom tn every State and Territory of the Union, in Great Britain and the British Dependencies. It 18 the recognised riatifvnaJ Orsran of the Welsh Peovlp
BYD ADEILADAETH AR OL Y I…
BYD ADEILADAETH AR OL Y I RHYFEL Gan Medico I Ymddangosodd ysgrif yn y "Drych" ychydig yn ol dan y penawd uched gan v parch. R. Thomas, ac yr oeddwn yn teimlo fod ei ysgrif yn wir bob g-ir; ond daeth i fy meddwl fod pethau i'w cymeryd i ystyriaeth yn yr ail-adeilad- aeth (reconstruction) na sonia Mr. T. am danynt. Nid ail-adeiladu sydd i gy- meryd lie yn hollol, ond adeiladu o'r newydd gan mwyaf; cynllun newydd a defnyddiau newyddion. Ac ymddengys i mi fod perygl i'w ganfod yn y def- nyddiau newyddion ag sydd raid eu rhoddi yn yr adeilad. A yw y defnyddiau newyddion hyn yn ymddiriedol? Os na, a fydd gwareidd- iad, sef yr hyn sydd eto yn sefyll o'r hen adeilad, yn ddyogel? Mae gwar- eiddiad yn y gorphenol wedi bod yn agored i drai a llanw lawer gwaith. Yr oedd wedi codi i safle uchel yn yr In- dia ddwyreiniol cyn bod hanesyddiaeth; wedi'n yn yr Aifft, Groeg a Rhufain, a dylynwyd yr olaf gan fil o flynyddau o drai, yr oesoedd tywyll fel y'i gelwir, neu hyd ddiwygiad Martin Luther yn y 16fed ganrif, pryd y daeth rhyddid meddyliol a dysgeidiaeth drachefn i fri. Cadwodd yr hen eglwys Babaidd y byd nffewn tywyllwch am 1,000 o flyn- yddau, medd hanesyddiaeth; ond ni ddylid tadogi pechodau yr Eglwys i Gristionogaeth; ond dyfynaf a ganlyn o hanes llosgiad yr Alexandrian Li- brary: "It was said by Apollonius Rho- dius and others to contain from 400,000 to 700,000 volumes o'r rolls already mounted, which embraced the collected literature of Rome, Greece, Egypt and India, and kept in the temple of Jupiter Serapis till the time of Theodosius the Great. When this emperor permitted all the heathen temples of the Roman Empire to be destroyed, the magnificent temple of Jupiter Serapis was not spared. A mob of fanatic Christians, led by Archbishop Theophilus stormed and destroyed the temple, together with its literary treasures, 391 A. D." Felly llosgwyd adeilad gwareiddiad, a bu dros fil a flynyddau cyn dechreu ail- adeiladu. Beth pe byddai i'r 1. W. W. a'r Bolsheficiaid a'u math yn cael djgon o ddylynwyr i godi chwyldroad a llosgi ein llyfrau ni heddyw, cynwys pa rai yw ymdrech ymchwiliad ein dynion gallu- ocaf y canrifoedd diweddaf? A oes perygl i beth fel hyn gymeryd lie? Dy- wed hen ddiareb, "History repeats it- self," ac mae lie i gredu ei bod yn wir. Mae perygl yn sicr mewn nerthoedd direol (uncontrolled forces). Gellir cyffelybu bywyd i ddyffryn cul neu agendor rhwng dau fynydd uchel —genedigaeth a marwolaeth; a gwar- eiddiad fel pont fawr lydan yn cyraedd o gopa y naill i gopa y Hall, dros y ga- gendor. Rhydd y bont hon, sef gwar- eiddiad, gyfleusdra i'r teithwyr, sef holl aelodau cymdeithas, i fyned dros y ga- gendor ar le gwastad, fel y gellir gwneyd y daith yn gydmarol esmwyth, ond cadw ar y bont, a'i chadw mewn iawn gyweiriad (repair). Cymerwn yn ganiataol fod cynllun y bont o'r fath ag y gellid newid lie y defnyddiau heb ei dinystrio na lleihau eu defnyddiol- deb, na'i chau i fyny dros amser; y teithwyr oil yn edrych yn wyliadwrus am unrhyw le diffygiol, ac yn adrodd treport) fod trawst fan yma a'i benau yn pydru, darn o haiarn fan arall yn rhydu, &c., ac wedi tori y darnau pyd- redig a rhydlyd i ffwrdd, mae y def- nyddiau yn dod mor wasanaethgar ag erioed, a'r bont bob amser yn cael ei chadw yn agored, ac, yn awr, gobeith- iaf, er mwyn yn beiiach sicrhau dyogel- wcll y bont hon rhag cael ei golchi ym- aitli a'i dinystrio gan lifogydd enbyd rhyfel, &c., y rhoir colofn fawr gref y League of Nations o dan ei chanol i'w chynal a lleihau peryglon y daith dros- ii, i'r haner, beth bynag. Ond pa un bynag a geir pont ai peid- io, rKaid i bawb groesi y gagendor. Os heb bont, rhaid myned i lawr y myn- ydd yn gyntaf, ac mae y teithiwr yn ieuane a'i fynediad yn weddol hwylus, er bod ami i glogwyn peryglus ar ei ffordd; ond ar ol cyraedd y gwaelod (canol oed), a dechreu dringo i fyny yr ochr arall, mae y daith yn myned yn fwy llafurus bob mynyd, a neb i'w helpu. Mae un peth yn ymddangos i mi yn. llawn peryglon, a hyny yw y lie y mae y merched yn gwneyd ymdrech am dano yn y drefn newydd. Mae y gwiagedd wedi llenwi lie amlwg a chy- frifol iawn yn ngwareiddiad y gorphen- ol, a hyny yn anrhydeddus. Ond beth fydd eu hanes yn y dyfodol? Anhawdd gwybod. Mae y cyfnewidiad wedi cychwyn 50 mlynedd yn ol. Nid oedd y merched cyn hyny yn cael eu derbyn i'r athro- feydd a'r ysgolion uwchraddol yn gyff- redin; ond yn awr, mae y merched, yn cael yr un manteision addysgol a'r bechgyn yn mhob peth, a'r fenyw yn myned i bob galwedigaeth; rhai o'r l'hai hyny yr oeddis ychydig o flynydd- au yn ol yn eu hystyried yn addas i'r gwryw yn unig, megys twrneiaeth, riieddyginiaeth, weinidogaeth, &c. Ai aid yw hyn yn myned a'r fenyw allan o'i lie priodol yn nhrefn natur cym- deithas a gwareiddiad, ac yn ychwan- egol at hyn, maent yn myned i gael yr etbolfraint yn Lloegr, Fi'rainc ac Am- erica. Gwna hyn eu maes yn eangach fyth. Gallant gael eu hethol i bob swydd yn y Ilywodraeth. Nid wyf yn ameu gallu y merched i lanw y swyddi hyn (yn well hwyrach na dynion), ond a yw hyn eu lie priodol yn nhrefn natur? Rhaid cadw deddfau natur i gael y math goreu ar wareidd- iad. A yw etifeddiaeth o ryw bwys? Os yw, y rhieni mwyaf deallus yw y rhai mwyaf tebyg i fagu y plant mwyaf defnyddiol i gymdeithas a gwareidd- iad. Ond mae gwragedd y to uchaf, fel y'u gelwir-y rhai mwyaf dysgedig a deallus yr oes hon, yn gwrthod epilio. Un rheswm paham yw, mae yn debyg, na allent/ (pe y gwnaent) ddylyn eu galwedigaeth fel pregethwr, neu dwrne, &c., a'u hamddifadu o fyned i'r clyb- iau a'r cyfarfodydd lluosog y mae y merched yn eu cynal yn ein dyddiau ni; neb i ofalu am y babi. Mae y merched fyddai, ychydig flyn- yddau yn ol, yn gweithio yn y gegin, yn awr yn stenographers, telephone operators, factory neu store workers, ac yn teimlo fod gwaith ty yn rhy isel i un wedi cael addysg a medru chwareu y piano. Mae bron yn anmhosibl cael morwyn fel un yr hen amser am un- rhyw bris; gormod o ddysg wedi eu gyru yn ynfyd. A phan y prioda y rhai hyn fel ag y mae rhai yn gwneyd, ni wyddant sut i gadw ty. Rhentu ysta- fell i gysgu ynddi wneir, a byrddio mewn restaurant; y gwr yn gweithio yma, a'r wraig mewn lie arall, er mwyn cael digon o arian i'w cadw a'u dill- adu. Os yw pethau i fyned yn mlaen fel hyn, beth ddaw o'r cartref; a ddi- ddymir yr "hen le bendigedig"? Pa ffurf sydd ar wareiddiad heb gartref? Ond os yw y to uchaf y soniais am danynt yn gwrthod epilio, mae y to isaf o gymdeithas y rhai mwyaf anwy- bodus, yn epilio ac yn ychwanegu yn hynod gyflym, sef yr Italiaid, yr Iuddew- on, y Negro, &c. Beth all ddygwydd pan ddaw y rhai hyn yn fwyafrif? Mae yn sicr eu bod yn awr yn lluosogi yn gyflym, a'r rhai deallus yh lleihau mewn nifer! Yn ddiweddar, ymddangosodd a gan- lyn yn y newyddiaduron: "London— That the western races will be sub- merged within two centuries beneath an influx from those of the east, un- less, something is done to check 'race suicide,' was the statement by Sir H. Rider Haggard in a* report before the national birthrate commission. Sir Haggard urged that the state directly or indirectly bring up all children and subsidize motherhood." Chwedl Plas Gwyn, pwy sydd yn rheoli epiliad, ai dyn ai Duw? Mae llawer math o war- eiddiad wedi bod yn y gorphenol; a fydd yr hwn sydd yn awr ar gychwyn yn wellhad ar yr hyn a fu, ai ynte—?
PWNC Y SYMUD
PWNC Y SYMUD Symud Cyfundeb Crefydcioi Drosodd i Gyfundeb Crefyddol Arall Gan y Parch. John W. Morris I. r I < 'r *■ '• Pwysig i-awn yw deall beth yw y cam cyntaf, a'r ail, a'r trydydd, &c., sydd i'w cymeryd mewn mudiad o'r fath. Yn mlaenaf oil, mae synwyr a threfn yn hawlio iddo fod yn symudlad gwirfodd- ol ac esmwyth ar feddwl yr holl Gyf- undeb. Gclyga hyny mai y cwestiwn cyntaf mewn trefn ydyw cael prawfion boddhaol fod y Cyfundeb yn dymuno syrnud, ac fod rhyw wewyr mewnol a chyffredinol yn y gwersyll am hyny. Heb hyny, byddai y symudiad, yn rhwym o fod yn drais a thramgwydd i ryw gyfran o'r aelodau; y rhai feddant hawl freiniol fel eu gilydd i ddadgan eu barn. Addefwn fod cael pawb o'r aelodau yn unfryd unfarn. ar gwestiwn o'r natur yma yn fwy nag a ellir yn rhesymol ddysgwyl. Fcdd bynag, y mae yn gwestiwn mor gyfartal bwysig i bawb o honynt,- fel y dylid rhoddi pob mantais ddichonadwy iddynt lanio yn y cyfryw unfrydedd. Gan mai Cyfundeb y T. C. yn y wlad hon sydd mewn golwg genym, un fan- tais arbenig ddylid- ei harlwy i'r holl Gyfundeb ar hyn o bryd ydyw daall- dwriaeth ddigamsyniol odelerau yr ym- uniad a'r Presbyteriaid, ac yn y Gym- anfa Gyffredinol yn Racine, penodwyd pv/yllgor i sicrhau hyny ar ddu a gwyn. fel y dywedir, oddiwrth bwyllgor aw- durol yr Henadur;a:thwyr. Mewn ei3-' teddiad a neillduwyd i'r perwyl, gofyn- wyd nifer o gwestiynau gan y cynrych- iolwyr i'w cyflwyno i sylw y pwyllgor- au dirprwyol yn nglyn a'r mudiad, ac y mae rhyddid i unrhyw eglwys, Cyfarfod Dosbarth a Chymanfa i ychwanegu at- ynt, ond eu cael yn brydlon. Bydd i'r pwyllgor a nodwyd eu dwyn i sylw y ddirprwyaeth Bresbyteraidd. Dengys hyn ymgais deg o du y Gym- anfa Gyffredinol i gael y mater yn glir a dealledig i'r holl Gyfundeb. Rhesym- ol belIadh wedi i'r pwyllgor a nodwyd wneyd ei waith, a chael y telerau ar ddu a gwyn, yw eu bod yn cael eu hys- bysu i'r holl eglwysi, a'u bod yn cael cyfleusdra, wedi ystyriaeth ddwys a gweddigar, i bleidleisio ar y priodoldeb o ymuno. Ond pan wnaed cynygiad i'r perwyl yna yn y Gymanfa Gyffredinol, er ein mawr syndod a gofid, hefyd, f2'i gwrthodwyd. Y rheswm ddaeth i'r wy- neb dros ymddwyn felly ydoedd fod yr uniad, o ran yr egwyddor o hono, wedi ei gymeradwyo eisoes gan y mwyafrif o'r eglwysi. Ond os oedd y bleidlais hono i'w hystyried yn derfynol, oni chy- merwyd hi yn anamserol iawn? Yn bendifaddeu yn unol a synwyr a threfn, a chaniatau fod mesur digonol o wewyr yn y gwersyll am yr uniad, dylesid cael ei delerau yn hysbys cyn ac nid gwedi galw am bleidlais yr eglwysi. Awdurdododd y cynrychioiwyr gyfar- fu yn Racine eu hunain i gyfarfod eto yn Columbus, Ohio, yn Mai nesaf, pryd y cymeradwyir y telerau, neu beidio ganddynt hwy yno. Ond gan na fwr- iedir apelio at yr eglwysi mwyach yn y mater, beth enillir yno amgen na llais y cynrychiolwyr eu hunain? Ac a chaniatau iddynt hwy oil fod yn ffafriol, ni fyddai hyny yn brawf fod yr holl Gyfundeb yn addfed i symud. Ond symud y Cyfundeb drosodd i gy- fundeb arall, a hyny mor deg a didram- gwydd i bawb ag y byddo modd yw y broblem. Wel, a dweyd y lleiaf, mae yn ameus iawn a feistrolir hi yn y modd yr ydys yn ymlwybro hyd yma; a bydd- ai symud drosodd heb hyny yn ddrych- ineb ofnadwy; yn ddim llai na'dinystr i Gyfundeb crefyddol sydd wedi profi yn ddiameuol yn elfen ddyrchafol ar hyd a lied y wlad yn y gorphenol. Ha, wyr frodyr, na fyddwn ar ormod brys, beth bynag. Yn wir, mae hanes ein Cyfundeb anwyl yn rhy ddysglaer i neb fod ar frys i beri darfod am dano wrth ei enw o'r tir. Mae yn wir y per- thyna i ni ryw bethau nei'lduol fel an- fanteision ac achosion llwfrdra; ond at- olw.g, pa blaid grefyddol sydd heb- ddynt? A ysgoir hwynt wrth fyned drosodd at y Presbyteriaid? Ar y llaw arall, oni feddwn, fel yr ydym heddyw, fanteision neillduol, a chymelliadau penodol i ymgalonogi ac i ymroi i ddi- wydrwydd? Wrth edrych ar y cynull- iad o frodyr da a defnyddiol. oedd yn Racine, dyna yr argraff gaed ar ein meddwl, y gall y T. C. fyw yr hawg eto yn ein tir, ond iddynt feddwl byw. Rhaid addef ein bod wedi byw i bwr- pas da, tra yr oeddym yn llai o rif nag ydym heddyw, ac yn gorfod ymdaro a :Ia\vc*r mwy o anfanteisionw Beth os ydym wedi ymoliwng i gy- wair rhy ofnus a chwynfanus gyda'r Achos mawr? Gall swyddogion eglwys- ig ladd yr eglwysi a'u cwynfanau, a dyciryn yr aelodau wrth son am fwg- anod, a meithrin digalondüyffredin J1 rrvvy eu digalondid eu hun. Gydag Achos Duw, edrychwn fwy atDduw nag ir y rhwystrau, a chofi\^n mai gyda Duw pob peth sydd bosibl.
I YMREOLAETH GYFUNOLI
I YMREOLAETH GYFUNOL I Mae y Ddirprwyaeth a benodwyd g.1ll Mr. Lloyd George i holi i mewn i gwes- tiwn Ymreolaeth Gyfunol (Federal De- volution), wedi dechreu ar ei waith, gyda Llefarydd Ty'r Cyffredin yn y gadair. Yn tngwyneb y pw;.sigrwydd i hawliau Cymru gael ystyriaeth briodol, danfonodd Mr. E. T. John, Llywydd Undeb y Cymdeithasau Cymreig, a Llywydd y Cyngmir Celtaidd, lythyr at y Llefarydd fel Cadeirydd y Comisiwn. Yn y llythyr hwn, ar ol adgoffa'r Cadeirydd fod Mesur Ymreolaeth i Gymru'wedi cael ei dd wyn i Dy'r Cyff- redin gan Mr. John ac Aelodau Cym- reig eraill yin 1914, dywed fod ba,rn gy- hoeddus Cymru heddyw yn hawlio mwy nag a gynwysid yn y Mesur hwnw.. Ni foddlona Cymru ar Fesur llai nag a ganiateir i'r Alban a'r Iwerddon. Ceisia gan y Comisiwn ofyn i'r llyw- cdro,eth: fel cam rhagbarotoawl, i gadw holl gyfrifom cyhoeddus Cymru, gan gynwys Sir Fynwy, yn hollol ar wahan i eiddo Lioegr-fel ag y gwneir yn awr a chyfrifon yr Alban a'r Iwerddon. Dengys fod hyn yn cael ei wneyd eis- oes ym nglyn ag addysg, yswiriant, de.d- biygiad amaethydctol, a bwrdd iechyd. Yn nglyn a materion ynierodrol, dy- wed y myn Cymru gefnogi i'r eithaf Gyngrair y Cenedloedd, gan hawlio cael cynrychiolaeth a llais ar hwnw cyf-artal i'r hyn a ganiateir i Canada a New Zealand. Mae barn Cymru, ebe efe, erioed wedi bod yn wrtli-filitaraidd; fellyv bydd iddi ymwrthod ag unrhyw dreuliau pellach ar arfogaeth. "Ni bydd Cymru," ebe efe, "yn barod eto i adael bywyd ei bechgyn at drugaredd arnghyfamodol gwloadweiniaeth ymerod- rol. Traul y Rhyfel. Dywed mai trwy gael ei chydnabod fel cenedl ar wahain i genedloedd eraill Prydain yn unig y medr Cymru sicrhau na, ,1 osodir ar ei hysgwyddau fwy na'i ohyfran deg o'r baich trwm o ddyled gwladol a achos- wyd gan y rhyfel. Hawlia Cymru gael ei threthu yn ol ei chyfceth, He nid yn ol ei phoblogaeth. Y Glofeydd. Ym nglyn a threfniant y glofeydd, hawlia Cymru ystyriaeth ar- benig. Os mabwysiada'r llywodraeth gynllun Duckman, hawlia Cymru fod glofeydd y Gogledd yn cael eu cysylltu a glofeydd mwy y De, yn lie cael eu cyfrif, fel y maent yn awr, yn rhan o lofeydd Lancashire. Os penderfynir cenedlaetholi'r glofeydd, yna mae yn hanfodol fod Senedd dyfodol Cymru, ac nid Lloegr, yn cael meddianu glofeydd Oymru. Dyna yr unig foddion drwy yr ,hyn y medr Cymru obeithio medru dwyn baich mawr dyled y rhyfel. Os amgen, bydd Cymru, o'i phrinder, yn cyframu at gynorthwyo Lloegr gyfoeth- og. Y Rheilffyrdd alr 'Ffyrdd. Er y gall ymddangos yn fwy anhawdd i gael aw- durdod gwali-anol ar y rheilffyrdd i Gymru, eto angen mawr presenol a dy- fodol Cymru yw gwella a helaethu cyf- leusderau teithio a, chludo. Addysg. Cydnebydd Dirprwyaeth Freninol Prifysgol Cymru gymaint man- tais i'r colegau fu ac ydyw y teimlad cenedlaethol yn Nghymru. Diameu y profir yr un peth yn yr ymchwiliad pre- senol i Addysg Ganolraddol. Trwyddedau. Mae barn gyhoeddus Cymru yn mhell ar y blaen i eiddo Lloegr ar gwestiwn y Trwydded. Cynrychiolaeth Llafur. Hyd yn nod yn yr etholiad Semeddol diweddaf, dy- chwelwyd cyfartaledd mwy o Aelodau Llafur o Gymru nag o unrhyw ran* arall o'r deyrnas. Ar y tir hwn drachefn, a chwestiwn Diwygiadau Cymdeithasol, mae Cymru ar y blaen, ac yn hawlio Ymreolaeth Gyflawn.
[No title]
-Ac efe tua gwlad Lleyn, ac yn weddol ei iechyd, ar y ffordd rhwng Bryncir a'r Garn, Dolbenmaen, cafwyd y Parch. Edward Joseph mewn cyflwr an- ymwybodol gan Miss Owen, merch Tyddyn Du, Bryncir. Aethpwyd ag ef ar unwaith i Dyddyn Du, a galwyd am feddyg, ond i ddim diben. "Curiad y galon," meddir ydoedd achos ei ddi- wedd sydyn a gofidus. A/gosed oedd i'w aelwyd ei hun, o ran lie, ac mor dda fuasai gan ei anwyliaid geisio gwneyd rhywbeth iddo yn y "bwlch cyfyng."
IEOS DAR A WYAU ! II
EOS DAR A WYAU I Gan loan Anna II. Cymerodd fy uchelgais a'm gobeith- ion eu hadenydd yn y fan. Codais yn Icmedig, gan fyned allan yn ddigon tebyg efallai fel y cododd Eben Fardd yn brudd a siomedig ar esgynlawr yr Eisteddfod Genedlaethol, agos i dri- igain mlynedd yn ol, gan fyned allan n gyflym pan y cyhceddodd Caledfryn a Gwalchmai, Hwfa Mon yn fuddugcl ~r destyn y gadair, sef "Y Flwyddyn"; ond nid aethym ond ychydig gamrau oddiwrth y neuadd. Fe syrthiodd fy nghalon i'm hesgidiau. Ond wedi galw fy hun yn hen goward a phethau eraill ')11 ychydig fynydau, aethym i fewn eto. P.hcddwyd y derbyniad mwyaf llawen i'r dadganwr swynol. Yn fuan, dyma Jesse Humphreys (yr ysgrifenydd) yn galw ffugenwau y cystadleuwyr am y goron. Yr oedd chwech wedi anfon eu •Tugenwau, ond ni atebodd yr un ei enw. Ciliodd y cystadleuwyr fel y cilia llyg- od pan y daw cath i'r lie. Galwodd yr ysgrifenydd fy ffugenw am amryw droi- on, gan edrych yn llym ac erfyngar ataf, am y gwyddai mai y fi fuasai'r buddugwr, canys gwyddai efe nad oedd yr Eos yn y gystadleuaeth. Wedi ei wahodd yno i ganu can oedd efe, ac nid gystadlu. Camddeallwyd ei bresenol- deb. Canodd yr Eos, "Gweno Fwyn, gan roddi i ni ddadganiad ag ysbrydol- aeth newydd. Er nad oedd telyn yno, nrddull canu penillion gyda'r 'delyn oedd ei arddull, sef y byrseiniol. "Wedi teithio ychydig ar y ffordd gar- tref i Aberaman y noson hono, tarawyd '1 yn sydyn gyda digrifweh y sefyllfa. Chwerthinais ac ymddigrifais yn fawr am gryn "dipyn o amser. Yn agos i .p pel Soar, wrth feddwl am yr wyau a'r breuddwydion am fyned yn enwog fel dadganwr y noson horo, aeth tonau o ddigrifwch droswyf. Cerddais yn hamddenol ac araf i roddi amser i'r teu- tu fyned i'r gwely cyn cyraedd adref, am nad oeddwn am siomi fy mam. Wedi cyraedd y Blaengwawr Inn, gwelais fod gkeuni mwy nag arferol yn y ty isaf ond dau yn Currie St., ein cartref, er croesawu y cantwr coronog. Aethym i'r ty gyda gwen a digrifwch, yr hyn achosodd i'r teulu gredu mai gwen buddugoliaeth oedd. "Ti enillaist John, onide?" meddai mam yn awyddus iawn am ateb, ond chwerthiniad cynyr- fus a roddwyd yn atebiad, ac yna dy- wedais, "Fe ddaeth Eos Dar i'r cyfar- fod- "0, yr Eos Dar, yna eto," meddai fy mam; "oni bae hwna buasai Griff, dy frawd, wedi enill y cwpan ar- ian hyny. Dyn ofnadwy yw yr Eos yea." "Ie," atebais, "ofnodd y cystad- leuwyr ef heno fel nad atebodd yr un o honom ei ffugenw. Eto i gyd, nid dyfod yno i gystadlu wnaeth, ond dyfod yno i ganu can. Collais glod a choron allas- wn gael." "Wel, wel, dyna'r holl wyau wedi myn'd yn ofer," ychwanegai fy mam. "Peidiwch gofidio, mam, mae yn ddydd Sadwrn yfory, ac yr wyf wedi enill cyflog da. Mi dalaf yn llawn am yr wyau." Yn fuan, torodd fy rhieni, a'm brodyr, a'm chwiorydd-allan i chwerthin ac ym- ddigrifo, a barnwyd na chafodd yr wyau chwareu teg i brofi eu gwerthfawredd cerddorol y noson hono i wyr Aberdar. Aethym i'r gwaith y diwrnod canlynol yn llawen a digrif, er y difrifolid fi weithiau gan ofn y gallasai y gath ddod o'r cwdyn, ac y buasai rhai o feirdd pwll glo Blaengwawr yn cael testyn i ganu ac ysmalio. Yr oedd mwy o feirdd a phrydyddion yno nag un gwaith arall yn y De, efallai: Gwilym Nedd, Wm. Thomas (Gwawrfab), a Gutyn Hydref, ar ben y pwll; Thomas Thomas (Carw Cynon), T. Price (Idris Nedd), D. C. Jones, D. Thomas (Llew Dulais), D. Lewis (Dai Cwmtawe), J. Pierce (Clwydlanc), a'r ddau frawd enwog, Dyfed a Nathan Wyn. Pe deusent i wy- bod am helynt yr wyau, efallai y buasai yn destyn hyfryd i Gwilym Nedd, Carw, Cynan a Nathan Wyn i ganu arno; a gan fod yr enwog Tom Stephens, yr ar- weinydd corawl enwog, yn gweithio yno, efallai y gwnai ganu eu ddigrif gan, meddyliais. Erbyn hyn, mae yn debyg nad yw cerddorion Cymru yn meddwl fod llaw- er neu ddim rhinwedd cerddorol mewn wy, er y buasai yn ddoethach ei fwyta na bwyta cig, cyn myned i ganu llaw- er. Mae wedi bod yn fy meddwl fyned ar daith drwy Ohio a Pennsylvania i weled hen gyfeillion, ac i ganu unwaith eto: "Teyrnasoedd y Ddaear," "Y Blodeuyn Olaf," "Yr Haf," "We Never Will Bow Down," "Hallelujah Chorus," ,;Amea Chorus," a "Come with Tor- ches, sef y corawd mawr dwbl hwnw y torodd "pump cant Caradog" i lawr arno yn y Crystal Palace, 1873. Mae yn debyg fed yr haner can mlynedd oddiar hyny wedi dofi yr hen aelodau tel nad oes un perygl bellach y byddai" iddynt exseitio wrth feddwl am bwys- igvwydd y gystadleuaeth, a chodi y 'pitch" haner ton.
I HYN AC ARALL
I HYN AC ARALL GaIt. T-n-dd 1* Pethau amlwg iawn yn hanes trigol- ion yr Ynys Werdd. er pan ddaethant i sylw'r byd, yw ymffrostgarwch a thu- edd i gweryla a'u gilydd ac ag eraill; ac ni bu anfoddogrwydd parthed pobpeth ond yr hyn ddygai lun, ac a aroglai megys o sawr Gwyddelig i gymaint gradd ac heb can lleied o achos yn ffynu yn mhlith un genedl arall erioed. Yn ystod y rhyfel fawr, yr oedd yn y rhan Babyddol o'r Iwerddon ogwydd led gyffredinol i ochri gyda'r Hwniaid brol- fawr ac ystrywgar, fel y gorfodid Pry- dain i gadw miloedd o filwyr i'w gwylio drwy holl amser y rhyfel. Yn y fam- wlad, bu Rcber Casement, Pearce, Skeffington, a'u miloedd canlynwyr, a Jerry O'Leary a'i fath yn y wlad hon. Er y brithir hanes Gwyddelod gan an- wladgarwch a brad, nis gwel y Gwvdde yn yr hanes ond gwyndra di-ail a mawr- edd digvffelyb, ac fel rheol, myn mai ei bobl ef gyflawnasant bobpeth mawr a groniela hanes, yn arbenig felly mewn perthynas a'r wlad hon. Haerasid filwaith ar fanloriau ledlecl y cyfandir mai Gwyddelod, gan mwyaf a enillasant y rhyfel chwyldroadol, er y gwyddis nad oes un iod o sail i haer- iad o'r fath, canys yn amser y chwyl- droad, nid oedd o'r holl boblogaeth ond pedwar y cant yn Wyddelod, ac yn ngwyneb bro-liadau y Sinn Feiniaid pre- senol, dylid cofio nas cydymdeimlai y mwyafrif o'r rhai hyny a'u hamcanion hwynt, canys nid plant Rhufain oedd- ent, ond rhai wedi ymryddhau o ddalfa cadwyn y Pab, ac yn ngrym ysbrydiaeth 3. than dywyniad goleuni Protestaniaeth yn ymddyheu am ryddid eangach. Pe Gwyddelod o barthau Pabyddol fu- asai mwyafrif y chwyldroadwyr, sicr yw y buasai nod y Pab ar Gyfansoddiad yr Unol Dalaethau; ond nid oes ynddo yr un gair gydnebydd fodolaeth yr hen frawd hwnw, ac er i'w ganlynwyr ym- bil ac ymgrafangu am amlycach lie fel y cyfryw, ofer fu eu hymdrechion; ond nid adeg yw hon i garwyr gwir ryddid gysgu, canys anelir at ein llywodraeth o lawer cyfeiriad. Mae dichell Babyddol yn effro; mae grym cynyddol y Knights of Columbus yn creu braw yn mron llawer. Ni thery y Babaeth byth heb sicrwydd fod grym effeithiol yn ei hergyd, ac nis ceisia gaethiwo ond pan wyr fod holl ddolenau ei chadwen yn berffaith ac wedi eu chy- fanu fel nas tyr. Yn y Senedd-dy yn ddiweddar, fe ddywedai Mr. J. Sharpe Williams, un o'r Seneddwyr, o dataeth Mississippi: ''Hona'r Gwyddelod mai hwy wnant bob' peth, yn mhob man, bob amser"; ac y mae'r dywediad, yn nghyd a phethau eraill yn ei anerchiad, wedi creu cyffro a digllonedd yn nghymdeithasau Gwy- ddelig yr holl wlad. Peth arall sydd yn mron gwallgofl y gwersylloedd Gwyddelig yw ysgrif y Rear Admiral Sims yn un o fisolion Hydref parthed yftiddygiad Gwyddelod yr Hen Wlad at fechgyn llynges yr Unol Dalaethau. Yn ystod y ddwy flynedd ag y bu'r llynges oddicartref, bu pobl pob gwlad ond Sinn Feiniaid yr Iwerddon yn gjir- edig tuag at y bechgyn. Dug Admiral Sims dystiolaeth ddinacad fod y bobl hyn yn dangos nas pleidient ochr Pry- dain, ond y pleidient yr Hwn, ac y gweithient ddydd a nos er i'r Ellmyn fod yn fuddugol. Ymddygent dan ddylanwad y dyb- iaeth y gwnai buddugoliaeth Ellmyn- aidd sicrhau gweriniaeth iddynt, hwy, ac ymfoddlonent aberthu pobpeth er mwyn hyny. "Dyfether y Sais; treng- ed yr Unol Dalaethau; difoder y Ffranc- od, ond caffed y Gwyddel yr hyn geis- ia." Caethiwer y byd, ond aed yr Iwer- ddon yn rhydd. Dyna deimlad y Sinn Feiniaid, a honyna oedd egwyddor yr Hwn. Mae'r ddau wedi bod wrthi am lawer o flynyddoedd yn difrio pobloedd eraill, ac yn didduwio cyfrol hanes er boddio balchder ymerawdwr brolgar, a porthi gwagofouedd eglwys ffug a'i Phab!
IAM.RYWION ANMRWD
I AM.RYWION ANMRWD Gan Lizzie Owen, Denver, Colo. -1 ii.. Dywed gair Seisneg: "When the devil was sick, the devil a saint would be." Dichon fod yr hen "foy" yn teimlo yn anhwylus pan lefarodd y geiriau yna, ac o ganlyniad, yn dipyn o sant, a'r hyn a ddywedodd yn ysbrydoledig. Sicr yw iddo deimlo yn anhwylus yn fuan ar ol hyny, wedi i'w gynlluniau a'i gynllwyn- ion droi yn fethiant. A chaniatau fod yr hyn a ddywedodd yn wirionedd, prin yr ydym yn barod i gydnabod "tad y celwydd" fel safon o ymddiried. Yr hyn sydd yn syndod yw, nid fod cymaint gwahaniaeth barn, ond fod y rhai sydd yn honi credu yr oil o'r Beibl eto yn troseddu ei orchymynion pen- dant, a rhywfodd yn gallu suo eu cyd- wybodau wrth wneuthur hyny. Dywed y Beibl am fath o greaduriaid, adar a physgod: "Aflan ynt i chwi, na fwyt- ewch o honynt." Dywedodd un pre- t gethwr doniol a gwreiddiol wrth son am gig moch, ei fod y "bwyd y bu i Moses ei gondemnio, a Iesu Grist ei foddi"; ond beth yw ei hanas? Ca le parchus a phwysig yn y ewpwrdd ac ar y bwrdd. Os bydd picinic Ysgol Sul, sosial neu swper yn y capel, neu de gan y gwrag- edd, nid yw y ddarpariaeth yn gyflawn os na fydd "boiled ham" neu "ham sandwich," neu bob un o'r ddau; ac, yn wir, beth sydd yn fwy boddhaus i'r archwaeth? Byddaf fi yn ei fwynhau N,edi ei ffrio, ei ferwi, a'i rostio, ac hyd yn nod yn "gosyn pen"; ond wfft byth i'r "pigs feet"! Boddlon wyf i'r sawl ii myno i'w cael i gyd. Mae rhywbeth yn wrtihun i mi yn eu golwg a'u bias; traed moch ydynt yn ystyr helaethaf y gair. A beth am y Igwningen a phethau er- aill ellir nodi? Os oes rhywun yn eu dibrisio, cred-af nad y gwaharddiad yw y rheswm am hyny. Yn mysg rheolau y bwyta, cawn eiriau fel hyn: "Na fwytewch ddim a fo marw o hono ei hun; dod ef i'r dyeithr fyddo yn dy byrth, a bwytaed ef neu gwerth ef i'r dyeithr." Meddyliwch am rywun yn ein dyddiau ni yn gwneyd peth fel yna; ystyrid ef yn gymeri-acf peryglus i gym- deithas, a charchar y dalaeth neu' r, crogbren fyddai ei dynged. Rhag ymdroi gormod gyda'r pethau hyn, awn yn mlaen at y bymthegfed Salm, ac Utn ardderchog yw. Yn ateb- iad i'r gofyniad yn yr adnod gyntat, "Arglwydd, pwy a drig yn dy babefTl, pwy a breswylia yn mynydd dy sant- eiddrwydd?" rhydd ddesgrifiad syml a manwl o'r cymeriad a gyfrifir yn deil- wng i gael y fraint yna. Clywais am- ryw o dro i dro YID. esbonio'r Salm, ad- nod ar ol adnod, brawddeg ar ol braw- defeg, ond am ryw reswm anhysbys yn tewi heb gyffwrdd a'r burned adnod, yr hon sydd fel y lleill yn rhan o'r des- grifiad: "Yr hwn ni roddes ei arian ar usuriaeth." Ai tybed fod pwnc y Hog ym rhy dyner i'w drin? Carwn weled rhestr o'r bobl sydd yn mesur i fyny a'r oymwysder yna. Yn y Salmau eto, cawn eiriau fel hyn: "Gwyn ei fyd a gymero ac a dar- awo dy rai bach wrth y meini." Diar mi! peth fel yna yn ysbrydoledig? Yr ydys wedi bod yn condemnio y Kaiser, a hyny yn gyfiawn, am ei ddull barbar- aidd o'chreulawn yn llofruddio plant bychain, yn anog ei filwyr i wneuthur hyny, ac yn eu gwobrwyo am eu hysgel- erder; ond dyma'r Salmydd yn galw y cyfryw yn wynfydedig! Clywaf rywum yn dywedyd, "Cellwair gyda phethay cysegredig yw peth fel hyn." Yr oedd Crist yn enyn gwg ceidwaid y ffydd yn y dyddiau hyny yn fynych. Byddai yn myned trwy yr yd ac ym iachau ar y Sabboth, yn gwrthod ym- prydio, yn peidio talu treth, ac amddi- ffynai ei hun yn ngwyneb y cyhudd- iadau trwy alw ei gyhuddwyr yn rhag- rithwyr, a choffa iddynt eu bod yn gof- alu am y mintys a'r amis gan esgeuluso pethau mwy eu pwys. Cawn ef fwy nag unwaith yn cyfeirio at yr Ysgrythyrau oedd ganddynt y pryd hwnw, trwy ddweyd, "Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt," ac yma condemniai yr hyn a ddywedwyd gan y rhai gynt, gan egluro iddynt ffordd gywirach a dysgeidiaeth well. Adegau eraill, gwneir cyfeiriadau at yr un Ysgrythyr, trwy ddweyd, "Yr hyn a ddywedwyd trwy y proffwyd, nid gan y proffwyd, ond trwy y proffwyd." Mae yna wahaniaeth dirfawr gydrhwng yr hyn a ddywedwyd gan y rhai gynt, a'r hyn a lefarwyd trwy y proffwyd, a chredaf ei bod, nid yn unig yn ddyogel, ond yn ddyledswydd arnom ninau i wahaniaethu rhwng y traddodiadiau