Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

[No title]

MARWOLAETH CYMRO IEUANC 0…

News
Cite
Share

MARWOLAETH CYMRO IEUANC 0 HUMBOLDT PARK, CHICAGO, ILL. Gan Wm. Ishmael Jones. Mae y darlun hwn yn un lied gywir o'r diweddar Robert Jones, 2329 New- land Ave., Chicago; yn marwolaeth y brawd anwyl uchod mae yr adnod hono yn cael ei gwireddu, 'Canys yn yr awr ni thybioch y daw mab y dyn.' Ym- restrodd gyda llynges Canada Awst 13, 1917, gyda chyfaill iddo, sef Inigo Jones, Chicago, oni ni chawsant y fraint o fod gyda'u gilydd ar yr un Hong; gweithia Inigo ar H. M. C. S. 'Festubert,' a Ro- I Robert Jones. bert Jones ar H. M. C. S. 'Cartier,' er hyny, yr oedd y ddau yn dygwydd bod yn Halifax yn amser y difrod mawr hwnw trwy ffrwydriad. Daeth Robert oddi yno yn ddianaf, oni ni bu Inigo mor ffortunus, oblegid cafodd ei anafu yn ei ben Chwefror 16. Tra yn morio yn y Bay of Fundy ar noson oer a thym- estlog rywfodd yn anffortunus golch- wyd Robert Jones oddiar fwrdd y Hong i'r dyfnder, ac er ohwilio yn ddyfal am lano am tua dwy awr methasant ddod o hyd iddo. Mab ydoedd i Henry a Catherine Jones, Bryn Goleu, Llan- bedrog, G. C. Daeth i'r wlad hon fis Ebrill, 1911, a gwnai ei gartref gyda'i frawd, sef Griff- ith Jones a'i briod, 2329 Newland Ave. Bu yn aros am gyfnod yn Milwaukee, Wis. Saer coed ydoedd wrth ei alwed- igaeth, a ganwyd ef Meii 24, 1892, yn Llanbedrog, G. C. Ar bwlpud eglwys Gymraeg Humboldt Park mae baner. ac arni chwech seren yn cynrychioli chwech o fechgyn Cymreig o'r ardal. yma sydd wedi aberthu pob peth er mwyn ymladd dros ryddid a chyfiawn- der, seren Robert Jones erbyn hyn yn seren aur. Cafwyd gwasanaeth coffad- wriaethol iddo nos Sul diweddaf. Can- wyd amryw o emynau gweddus i'r am- gylchiad pruddaidd. Siaradodd y Parch. T. O. Jones yn hynod effeithiol. Mae cydymdeimlad cyffredinol a'i deulu yma a'r rhai syid yn yr Hen Wlad. Gadawodd i alaru ar ei ol dad a mam, un chwaer, Jane Jones, pedwar brawd, sef Henry, John a William yn Nghymru, a Griffith Jones yn Chicago, ac amryw o berthynasau eraill. Nawdd y net fyddo drostynt oil yn eu galar a'u hiraeth am un oedd mor hoff ganddynt.

NODION 0 NEW YORK.

DINAS Y CARIAD BRAWDOL. I

I Alliance, Ohio. I

NODION PERSONOL