Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Y METHODISTIAID CALFINAIDDI…

News
Cite
Share

Y METHODISTIAID CALFINAIDD I CYMREIG AC YMREOLAETH GARTREFOL. LLYTHYRAU PWYSIG GAN WEINIDOG METHOD- ISTAIDD DYLANWADOL. Ar ol darllen y diweddaf, dyma ail lythyr y Parch. Samlet Williams :— t Tachwedd 21ain, 1891. ANWYL MR. VANCE,—Yr wyf yn dymuno eich hysbysu fy mod, gyda mawr bleser, wedi darllen eich ail lythyr. Nis gallaf feddwl yn rhy uchel am dano. Bydd yn rhwym o gyflwyno ei hun i bawb o blegid y teimlad brawdgarol sydd yn treiddio drwyddo. Gyda parodrwydd yr wyf yn cyfaddef fy anwybod- aeth yng nghylch llawer o bethau, ond o barthed i'r gwahaniaeth sydd yn bodoli rhwng Protestaniaeth a Phabyddiaeth, yr wyf yn sicr ddigon fy mod yn ei ddeall. Fel gwein- idog yr wyf yn ami yn teimlo fy nyledswydd rwymedig yn fy mhregethau i adgofio y bobl o'r hyn y maent yn wybod yng nghylch y Dyn Pechod, yr Anghrist, a dyoddefiadau y brodyr a'r chwiorydd a broffesant eu cariad tuag at ein Hiachawdwr lesu Grist, o ddyddiau Peter Waldo byd y Diwygiad ojawr. Yr wyf yn adgofio yn eithaf da eich cyfeir- iad at yr hyn a elwir yn Home Rule,' neu yn hytrach Rome Rule.' Nid oedd yn flasus o gwbli lawer ag oeddyntyn gwrando ond pan wnaeth eich brawd parchedig a'ch cyd-gyn- rychiolydd gyfeirio at ddadsefydliad y r Eglwys yng N ghymru-bobl anwyl! y fath effaith a gafodd ar y 'llawer' hyny-ymddangosent ar unwaith fel pe baent wedi cael eu cludo drosodd i fath o Baradwys Yn 01 fy marn i, nid yw yn arwydd iachusol gweled materion ailraddol yn cael y lie blaenaf yn y meddwl, gan esgeuluso y rhan fwyaf pwysig o genad Eglwys Crist, sef hawliau Cristionogaeth fel yn erbyn ymhoniadau afresymol y Pab, yr hwn a faedda haeru fod ganddo agoriadan nefoedd ac uffern yn ei feddiant. Yr wyf am ddangos parch i bawb—y Pabyddion ac ereill yn gydradd, ond Crist ac Ef yn unig, yw fy Arglwydd a'm Pen. Pwy bynag a ddysga neu a bregetha yn wahanol, nid yw yn iawn ddeall Cristionogaeth. Y mae hanes ein cenadaeth yn Llydaw yn profi yr hyn yr wyf yn ddweyd, ie, i'r wir lythyren. Y mae y brodyr yno yn llafurio yn ffyddlon, ond y mae hynt cerbyd gwir Gristionogaeth yn araf o herwydd dylanwad Pabyddiaeth ar y bob!. A ydyw dylanwad y Pab a'i offeiriad- aeth yn llai galluog ym mharthau deheuol yr Iwerddon? Nag ydyw, bid aicr. Beth, gan hyny, yr wyf yn gofyn, yw eich dyledswydd fel cyfran o'r Eglwys Gristionogol yng Nghymru? Yr ydych yn eithaf piiodol yn cyfeirio ein sylw at weithrediadau cynnrychiolwyr ereill i'w cynghorfa, ac yn gofyn pa un a ydych neu beidio wedi esbonio eich commissiwn fel ag y gwnaeth ereill esbonio eu commissiwn bwy o dan y cyffelyb amgylchiadau. Do, fe wnaeth- och; ac yr wyf yn rhwym o dystiolaethu i chwi gyflawnu eich gwaith yn iawn. Ym mhellach, gwnaeth dirprwywr a anfonwyd i gymmanfa gyffredinol Lerpwl yn yr haf y flwyddyn ddiweddaf lefaru yn eglur ar y pwnc, a pa fodd y derbyniwyd ei anerchiad ef ? Yn ddigon oeraidd, fel yr ymddengys. Apeliodd drwy y geiriau 'Yr Iwerddon i Grist,' ac eto edrychwyd ar ei appeliad gan rai fel yn dysgu politiciaeth Pa ham gan hyny yr ymofynwch yng nghylch eich commissiwn i siarad ar y testyn hwn fwy na'r eiddo Dr. Lynd ? A pwy achos gofyn i chwi am awdurdod neiUduol i siarad ar ran ein brodyr Protestanaidd yn yr Iwerddon, ac heb ofyn awdurdod eich cyd-gynnrychiolwr i gyfarch y gymmanfa ar bwnc dadwaddoliad i Gymru ? Pa ham ammheu y commissiwn fel yn cynnwys yr hyn oedd fwyaf, ie, a llawer mwy pwysig na'r pwnc o ddadsefydliad 1 Yr wyf yn barnu ei fod yn Hawn bryd i wahanol adranau yr Eglwys Gristionogol yng Nghymru—y ni y Methodistiaid Cymreig a'r Esgobyddion—i droi cyfeiriad yr ymgyrch, ac i ymladd yn unedig yn erbyn y bwystfil Rhufeinig, eglwys y Pab, yr hon nid yw wir Eglwys, ac athrawiaeth pa un nid yw Gristionogol. Fy ngweddi a'm gobaith yw, y bydd appeliad brawdol a Christionogol ddwyn argraff dwfn ar feddyliau fy nghyd-Brotestan- iaid yng Nghymru, yn neillduol y Methodist- iaid Calfinaidd, yng nghred pa un fy magwyd, ac o hanesyddiaeth pa un yr wyf yn ymfalchio. Os cyhoeddir fy llythyrau, yr hyn yr ydych wrth eich rhyddid i wneyd, gobeithiaf na fyddant yn dramgwydd i neb o'm brody rj nis gellir eu hystyried felly, gan na ddatganasant ddim ond y gwirioneddau yr wyf yn eu pregethu, y gwirionedd fel y mae yn yr 1e8U.- Ydwyf, yn rhwymau'r Efengyl, eich brawd a'ch cyd-lafurwr, W. SAMLET WILLIAMS, Gweinidog. Y Parch. Isaac Vance.

NODIADAU.

PENBRYN.

DARKEST WALES. .--

'LLITH YR HEBOG.'

ADOLYGIAD Y WASG.

RING OUT, WILD BELLS.

ENGLYNION I'R 'LLYTHYR GLUDYDD.'

CYFLWYNEDIG I BYRON.

[No title]