Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

--------_----------------NODIADAU…

CLYWEDIGION.

[No title]

AMMANFORD.

LLANDEILO-FAWR.

FELINDRE, PENBOYR.

MANORDEILO.

LLANFIHANGEL-RHOS-Y-CORN.

ABERGORLECH.

NEW INN, SIR GAERFYRDDIN.

0 TYRED, WANWYN MWYN.,

CYFARFOD CYSTADLEUOL YSTRAD.

BWRDD YSGOL CEINEWYDD.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

BWRDD YSGOL CEINEWYDD. At Olygydd Y JOURNAL. SVR,-A fyddwch chwi mor fwyn a chaniatiiu i mi ychydig ofod yn eich newyddiadur clod wi w i alw sylw y Parch. L. Roderick, Ceinewydd, at y cwestiynau canlynol. Y mae a fynont yn union- gyrchol a mater pwysig fu dan ystyriaeth y Bwrdd uchod yr wythnos ddiweddaf a chan ei fod ef yn aelod o hono, y mae yn ei allu i fy ateb yn gywir ac i'r pwynt 1. Beth oedd eich amcan chwi a'ch cyd-aelodau wrth osod dwy ferch ieuanc—y naill yn ferch i weddw yn y lie, a'r llall i weinidog yr Efengyl (pa mor deilwng o'r swydd ni plierthyn i mi yn bresennol ymhoii) ac aelod o'r Bwrdd, dan brawf arholiad (test examination) 1 2. Os mai cael allan i sicrwydd pa un o'r ddwy ydoedd y cynihwysaf i fod yn monitor yn Ysgol Fyrddol y lie oedd eich amcan, pa ham na fuasai barn Mr Williams yr examiner yn cael bod yn derfynol ar y mater? Onid oedd result yr examination, yng ngwyneb y penderfyniad y daethoch iddoyn flaenorol, yn eich rhwymo mewn ystyr foesol a chrefyddol i appwyntio Elizabeth Anne Evans yn monitor, a hi yn unig 1 3. Gan mai E. A. E. ym marn yr examiner oedd y goreu a'r cymhwysaf, beth yw eich amcan fel Bwrdd wrth osod y ddwy yn vioniton ? 4. A yw y ddwy i'w dwyn eto o dan y test examination ? Os ydynt, i ba ddyben ? 5. A ddarfu i chwi ddweyd, Peidiwch son am gytiawnderyn y dyddiau hyn," mewn atebiad |i gwestiwn oddi wrth wraig mewn perthynas a'r mater dan sylw 1 Gobeithio y gellwch yn wirion- eddol ei wadu. Daeth i'm clustiau fod hinawsedd tri o aelodau y Bwrdd wedi rhoddi ffordd o flaen haerllugrwydd dau Yn oeddwn wedi arfer edrych ar y tri' uchod fel tri o gedyrn mewn gwroldeb moesol, ond cenllif chwyrn haerllug- rwydd gwyneblwm a'u hysgubasant ymaith, il a'a henwau gawn, dyna i gyd 1" Rhai yn myned heibio a welant ac a edtnygant yr hen dderwen dalfrig, yr hon yn herfeiddlol a estyn allan ei breichiau cyhyrog, ond yr ystorm a ddengys pa mor ddwin i: r suil y mae ei gwreiddiau wedi myned, pa mor ddiogel yw ei gafael yn y ddaiar. Os na chaf atebion gonest a chywir i'r cwestiynau uchod yn eich rhifyi; nesaf, ys;rifenaf yn fanwl holl hanes yr ymdrafodaeth hon, a cbaiff pawb weled ar ba linellau y inio y Bwrdd uchod yn cario ym mlaen ei gweithrediadau. Agoraf ddrwa ei babell-cyfarfod, a chaiff y cyhoedd farnu ai iachus ynte atiachus fydd yr arogl ddaw allan Yr ei,ldoch yn benderfynol, TRETHDALWR.

UNBEN A DURIA ETH.I

I 1EUO, TYR'D AWEN,

MOESOLDEB I NI.

[No title]