Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

--------_----------------NODIADAU…

CLYWEDIGION.

[No title]

AMMANFORD.

LLANDEILO-FAWR.

FELINDRE, PENBOYR.

MANORDEILO.

LLANFIHANGEL-RHOS-Y-CORN.

ABERGORLECH.

NEW INN, SIR GAERFYRDDIN.

0 TYRED, WANWYN MWYN.,

CYFARFOD CYSTADLEUOL YSTRAD.

News
Cite
Share

CYFARFOD CYSTADLEUOL YSTRAD. At Olygydd Y JOURNAL. SYR,—Crefaf am ychydig bach o'ch gofod eto i wneyd ychydig o sylwadau mewn atebiad i lythyr diweddaf Bariton. Nid wyf mwyach am gyffwrdd a'r gystadleuaeth, a hyny am y rheswm digonol fy mod wedi siarad yn ddigon eglur i'r sawl oedd yn deall ac yn dewis deall. Ond yn eich llythyr diweddaf yn y JOURNAL, yr wyf yn eich cuel fel ag y meddyliais am danoch yn eich Ilytliyr cyntaf. Rhag i chwi feddwl fy mod yn ysgrifenu odditan ddylanwad ysbryd cas, ni wnaf ddweyd nad ydych yn deall peth cerddoriaeth chwareu teg i chwi, yr ydych yn deall beth yw ueges cerddoriaeth i'r byd yma ond yn hollol amddifad o'r wybodaeth beth sydd yn gwneyd i fyny gerddoriaeth, yng nghyd a'i pheroriaetli, mewn gwirionedd. WEI, i broii hyn, dywedvvch yn eich llythyr diweddaf ei bod yu beth ammhosibl i gor neu barti i ganu a chadw mewn ton heb gael offeryn i chwareu gyda hwy. GAynaf i chwi, Mr B., pan y bydd string hand, organ, harmonium, neu piano yn cad eu tiwnio, pa offeryn mwyaf pwysig fydd yn cael ei ddefnyddio at y gorchwyl ? ai nid y glnst1 Dywedaf mai te. Wel, os felly, a ydyw ddiir yn bosibl defnyddio yr un offeryn i diwnio y cor neu y parti ? Atebaf eto yn gadarnhiiol, ac hefyd y dylid defnyddio y glust, y geneu, y tafod, a'r teimlad, a hyny gan bob aelod o'r cor yn ogystal a chan yr arweinydd. Dylai pob un ofyn iddo ei hun y gofyniad hwn pan yn datganu, A ydyw yn trafod ei sain gyda'r gofal dyladwy? Pan y bydd ton o bed war llais yn cael ei chanu, dysgwyliaf mai pedwar llais fydd yn ei chauu, ac nid pedwar neu bump (mwy neu lai) o wahanol leisiau ym mhob Ilais. Dylid talu sylw fod pob sain yn cael perffaith chwareu teg ym mhob llais a dyhsid ddefnyddio y fantais sydd mewn simple practice, trwy redeg y lleisiau ar ben eu hunain, gan gymmeryd gofal fod y geneu yn cael eu trafod yn yr un arddull. Mewn top a bottom notes hefyd, dylid bod yn ofaltis am y cyd-bwysiad. Bydd pob un o'r ddau yn sicrhau llwyddiant y cor i gadw mewn cyweirnod iawn. Dywed Mr B. fod codi allan o don yn dangos ymgais am deimlad y gair. Ond uid yw ymgais neu amcan yn ddigon yn lie cyrhaedd yr amcan. Gall plentyn bach, pan yn dechreu cerdded, fod a'r ymgais i groesi yr aelwyd at ei dad neu ei fam ond mae ei aelodau yn rhy wan i gyrhaedd yr amcan, ac yna mae yn sicr o syrthio. Am ostwng, ni soniais o gwbl, a hyny am y rheswm mai codi a wnawd y tro yma. Ond eto, os ewch allan o'r llwybr iawn unwaith, gan nad pa un ai ar y dcheu neu yr aswy law, ymdrabaeddu mewn ditfaethwch y byddweh. Felly cadwer mewn ton, ac yna bydd siawns am ysbryd y gair. Yr ydyoli yn dweyd fy mod yn osoi rha eich gofyniadau. Dywedaf air a hyn er boddloni darlienwyr y JOURNAL, yr hyn hefyd a eglurwyd nos Nadolig, sef cyssondeb corau'r plant a chorau'r meibion. Datganodd corau'r plant yn gydradd, a chyferbynu'r cyfan. Cadwodd y ddau mewn ton hefyd, beth na wnawd gan y meibion. Yn eich sylwadau ar y brif don, yr ydych yn son am y gwreiddiol. Un gair ar hyn. Nid yw yn bosibl i don fod yn wreiddiol pan yn codi neu ostwng allan o don. Un argraff neillduol a wnawd arnaf gan eich Ilythyr diweddaf, sef eich bod yn ysgrifenu er mwyn boddloni rhyw bartis neilldunl, ac hefyd o bosibl er treio iselhau rhywrai ag oeddynt yn fwy galluog na chwi eich hunan. Credaf hefyd nadoeddychyn yr eistedd- fod o gwbl, neu yntejyr oe Iclycli yn sicr o fod yn eich cwsg banner eich amser. Deuwch allan y tro nesaf yn eich enw eich hunan, fel y galloui werthfawrogi eich galluoedd.—Yr eidduch, 11 THOMAS DAVIES. Llanybyther.

BWRDD YSGOL CEINEWYDD.

UNBEN A DURIA ETH.I

I 1EUO, TYR'D AWEN,

MOESOLDEB I NI.

[No title]