Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

--------_----------------NODIADAU…

CLYWEDIGION.

[No title]

AMMANFORD.

LLANDEILO-FAWR.

FELINDRE, PENBOYR.

MANORDEILO.

LLANFIHANGEL-RHOS-Y-CORN.

ABERGORLECH.

NEW INN, SIR GAERFYRDDIN.

News
Cite
Share

NEW INN, SIR GAERFYRDDIN. CYFARFOD LLENYDDOL.—Cynnaliwyd cyfarfod llenyddol yn ysgoldy y Bwrdd y lie uchod nos Wener, Chwefror y 6fed, o dan lywyddiaeth Mr [Morgan, Blaenblodau Hall, pryd y daech nifer luosog iawn yng nghyd i adrodd a chanu, ereill i wrandaw ar y rhai ieuainc yn myned trwy eu gwaith ag oeddynt wedi bod yn brysur barotoi er ys wythnosau. Synwyd ni with weled a chlywcd plant bach y lie yn adrodd a chanu mor ganmol- adwy, a dangoswyd talent til hwtjt ïn dysgwyliad gan bobl ieuainc y lie a'r amgylchoedd. Diau fod cyfarfodydd o'r natur yma wedi bod yn fendith ammhrisiadwy i laweroadd yn y gorphenol, trwy en hatal rhag cyflawiru llawer o ddrygau, i wag- rodiana, ac i wario eu harian a'u hamser am oferedd, "a'u llafuram yr hyn nid yw yn digoni." Credaf fod yn natur y cyfarfodydd hyn duedd gref i greu awydd yn yr ieUeuctyd i ymestyn am addypg yn ei gwahanol ganghenau, gan fod yma gymmaint o amrywiaeth. Gall y cerddor ddad- blygu ei dalent gerddorol y lienor ei lenydd- iaeth y bardd ei farddoniaeth a dyma gyfle rhagorol i'r ddawn areithyddol i ddadblygu ei hun felly y mae yma bob cyfleusdra i bawb i addysgu unrhyw ddysgeidiaeth a fyddo yn fwyaf tueddol ganddynt i ymaflyd ynrldi. Hefyd, y tuaent yn fuddiol i goetlii chwaeth eu haelodau trwy eu tueddu i yniwneyd a llyfrau da, ac i ym- serchu mewn pethau sylweddol yu lie gwagedd. Mae yn rhaid i'r meddwl dynol gael rhywbeth i'w wneyd yn barhiius. Os gwagedd ac oferedd a roddir iddo i ymborthi arnynt, rhaid (yn ol natur pethau) mai bywyd llygredig, buchedd ddrwg ao afreolus fydd cynnyrch y ffrwyth. Tra o'r ochr arall os rhoddir i'r meddwl ymborth iachus, Uenyddiaeth bur, rhinwedd sobrwydd, a phob flrwythan da fydd y cynnyrch. Bydd dylanwad y cyfarfodydd hyn yn fawr ar y plant sydd yn codi, a chynnyrcha ffrwyth toreithiog yn y genedlaeth a ddaw. Gwnawn yn fawro honynt, ac ymdrechwn o ddifrif drwy offerynoliaeth y cyfarfodydd hyn, i ddyrchafu egwyddorion moes- oldeb drwy y parthan hyn yn gyffredinol. Credwn y dylasem eu cynnal yn llawer amlach er rhoddi gwell mantais i'r oes sydd yn codi i ymddadblygu. Aethpwyd trwy brogram mahh, a chan fod cym- maint wedi cymmeryd rhan yn y cyfarfod, ni roddwn eu henwau yn bresennol ond cafwyd cyfarfod da a biiddiol, a dynumiad pawb yn bresennol oedd, "Eto moes m vy." Rhoddwyd gwobrwyon am ddarllen a sillebu yn Gymraeg ar y pryd, ac ennillodd Mr James Davies, Talog, am ddarllen, a Mr David Thomas, Blodeuen, am sillebu. Yr oedd yr holl ymgeiswyr yn dda, ond yr oedd y ddau hyn yn tra rhagori. Hefyd, gwobrwywyd Mri John Thomas, Now Inn Shop, David Jones, Blaenblodau Hall (is-gadeirydd) 11 ac ar ol talu y diolchiadau arferol, ymwahanodd pawb wedi cael eu llwyr foddloni.

0 TYRED, WANWYN MWYN.,

CYFARFOD CYSTADLEUOL YSTRAD.

BWRDD YSGOL CEINEWYDD.

UNBEN A DURIA ETH.I

I 1EUO, TYR'D AWEN,

MOESOLDEB I NI.

[No title]