Hide Articles List

17 articles on this Page

--------_----------------NODIADAU…

News
Cite
Share

NODIADAU YR WYTHNOS. !< 1 Un o ganlyniadau mwyaf calonog a dymunol gweinyddiaeth Arglwydd Zetland a Mr Balfour yn yr Iwerddon ydyw llwyddiant nodedig eu trysorfa tuag at liniaru peth o'r caledi a'r cyfyngder sydd, yn aiiffodu, yn uchel en penau yn yr Ynys Werdd yn awr. Tra nad ydym dros wneuthur yr un elw politicaidd allan u'r achos hwn, y mae yn amrnhosibl gochel cydnabod y ffaith fod y casgliadau fel cyfangorph wedi eu gwncyd gan yr Undebwyr. Pa ham y dylai hyn fod y mae yn anhawdd dweyd. Gwna pawb gan- iatau fod y arysorfa yn angenrhaid gwir gymhell- iadol Mae ei bwriad yn cael ei a Idef fel yn hollol deilyngu cefnogaeth, ac y mae yr egwydd- orion ar ba rai y mae yn seiliedig yn synwyrol a daienus. Mae llais beirniadaeth ac anghymmera- dwyaeth a'r ysbryd beio mor ddystaw a'r bedd. Nis gall g.vr.h.vynebwyr crafflis a bywiog y llywodraeth gael yr un esgnsawd dros haeru y bydd i'r drysorfa hon, mewn un modd, lygru yr hen a'r methedig, y tlawd a'r claf, yng nghyda phlant gweinion, ym mysg pa rai yn unig y bwriedir ei rhauu. Er hyn i gyd ni ddengys y rhestr o'r tanysgrifwyr ond ychydig iawn o aelodau y blaid hyny ac sydd yn gwaeddi mor uchel dros undeb calonau rhwng y ddwy wlad. Mewn damcaniaeth mae egwyddorion y gwyr hyu yn swynol dros ben, ond 0 aadewch vn llonvdd eu gweithredoedd. Geiriau ac addewidion gwag ydyw swm a sylwedd eu teimladau. Ymdrechant farchogae h areu cefnau i'rsenedd ond, y mae'r wlad yn dechreu eu pigo allan, ae- fe fydd yiia laddfa ofnadwy arnynt rhyw ddydd. Allan o gant a banner o aelodau seneddol sydd wedi cyfranu yn^ nghyd ddeg mil o bunnau at y drysorfa uchod, nis gwelir oud enwau chwech o ganlynwyr Mr Gladstone. Teg yw dweyd fod Mr Gladstone ei hun yn eu plith. Pan yr oedd gal wad ychydig amser yu ol dros gyfranu fcu^g at dreuliau y Cyn^hrair Cenedlaethol Gwyddelig, fel prawf o'r ymldiriedaeth llwyraf yn arweinwyr y blaid hon, gwelsom ddynion fel Mr Brnnner, a Mr Holden, yn dyfod allan a'u miloedd. Pa ham na wnant gyfranu heddyw ? Dywedant eu bod yn teimlo o galon dros y Gwyddelud. Dyma gyfle iddynt ddangos yn weithredol pa un ai gwir neu ynteu y:nddangosiadol yw en teimladau. Nid yw eto yn rhy ddiweddar. Gobeithiwn, felly, y gwna y Gladstoniaid symruud ymaith y sarhad sydd yn awr yn gorwedd arnynt trwy gymmeryd yn garedig at y drysorfa yma a gwneyd eu goreu dros chwyddo y cyfanswm, a thrwy hyny, alluogi Mr Balfour i gynuorthwyo y gwir angheuus ynyr Iwerddon. # # Nid oes llawer o ddynion wedi cymmeryd pob ochr ar bynciau cyhoeddus yn eu hareithiau a'u pamphledau. Siaradodd Mr Gladstone yn erbyn ac o blaid masnach rydd, yn erbyn diwygiad aeneddol, ac yna o'i blaid, a'r un peth o blaid dad cyssylltiad. Nid oedd neb mor wrthwynebol i Home Rule a r ef, ond yn awr y mae ef yn ei phleidio a'i holl egni, ac yn cydweithio fel llaw mewn maneg gyJa'r personau oedd ef yn gon- demnio fel rhai yn myned ym mlaen mewn celaneddau a gwaed. Yn awr, y mae ef ar y maes fel arwr rhyddid crefyddol, ac yn gwrthdystio yn erbyn cadw y Pabyddion allan o ddwy swydd— Arglwydd Canghellydd Lloegr, ac Arglwydd Rhaglaw yr Iwerddon, er nad yw y cyhoedd wedi anghofio yr ynv>sodiad a wnaeth ar deyrngarwch y Pabyddion. Yr wythnos ddiweddaf, ceisiodd ddileu oddi ar y Deddf-lyfr y fath anghyfiawnder a gwaradwydd. Y mae yn beth rhyfedd iawn na wnasth Mr Gladstone yr un ymgais i symmud y gwaradwydd a'r anghyfiawnder hwn pan ddi- ddymwyd y Test Act yn 1863. Nid oedd ef yn cofio am yr anghyfiawnder hwn pan oedd ef yn Brif-weinidog yn 1868. Pan ddaeth ef yn ol i'w swydd, ni wnaeth sylw o'r anghyfiawnder cywil- yddus hwn. Pan ofynwyd y cwe3tiwn iddo yn ei gylch, atebodd yn fyrbwyll, Nid yw y llywod- raeth yn bwriadu pleidio unrhyw beth o'r fath." Gwyr y rhai sydd wedi talu sylw i lygad-lymder Mr Gladstone, ei fod yn wastad dros beth sydd yn fanteisiol iddo ef ei hun. Nid oedd ganddo ddim ymgeiswyr Pabyddol i'r ddwy swydd hyn yn 1881. Gellir ef allai ddweyd fod hawliau Arglwydd Ripon a Syr Charles Russell yn meddu mwy o ddylanwad ar Mr Gladstone na hawliau cyfiawnder. Mae y Syr yn haeddu cael dyrch- afiad am ei wasanaeth i'w blaid. Yr oedd digon o resymau gan Dy y Cyffredin dros wrthod darllen Mesur Ripon a Russell yr ail waith. Yn y lie cyntaf y mae y wlad er ys hir amser yn rhydd oddi wrth ddygasedd dadleuon crefydd ond nid ydyw taniu rhagfarn grefyddol wedi myned alian yn llwyr. Dylid gochelyd adfywio dadleuon er mwyn heddwch a lies y wlad. Ni wnaeth y Pabyddion ofyn am y fath Fesur. Ni fu dim cyffroadau ym mhlith y Pabyddion ar y llaw arall, llaw-nodwyd y petisiynau gan filoedd o bob onwad Protestanaidcl yn erbyn y Mesur. Ni ddylai 'Ceidwad cydwybod y Frenines,' a noddwr rhyw 800 o eglwysi Protestanaidd i fod yn babydd. Dadleuodd Mr Gladstone fod Ma- homitaniaid, Hindwaid a Buddistiaid, yn llanw swyddi uchel, ond y mae cryn wahaniaeth rhyng- ddynt hwy ac Arglwydd Raglaw yr Iwerddon. Y mae ef yn gynnryehiulydd uniongyrchol Penadur Brotestanaidd, y mae yn rhaid iddo ef lywodraethu gwlad lie mae dygasedd crefyddol yn rhedeg yn uchel, ac nis gall ef fod yn am- mhleidiol os bydd ef yn Babydd. Ond i Mr Gladstone a'i blaid lwyddo llanw y swyddi a Phabyddion, y peth nesaf fydd gosod Pabyddion ar yr Orsedd. Cofiwnefoam hanes teyrnasiad Mari, am danau Maes-y-gofaint, Caerfyrddin, Caerdydd, Caer:oyw a Rhydychain. Nid yw Eglwys Rufain wedi cyfnewid dim ond iddi gael v gallu, g»vnaiff yr un peth eto ag a wnaeth Bon tier, # # Yr wythnos ddiweddaf, bu farw y Parch. Wm. Evans, gwuinidog y Methodistiaid yn Touyrefilil, Morganwg, yn 96 mlwydd oed. Yr oedd William Evans, fel yr oedd yn cael ei alw yn un o'r pregethwyr hynaf a mwyaf enwog yng Nghymru. Yr oedd ef yn cydoesi a'r enwog John Elias, John Evans, New Inn, ac creill, o'r hen dadati y Methodistiaid. Yr oedd William Evan yn cydio y ganrif ddiweddaf a'r un bresennol. Yr oedd ei feddylddrychau yn wir Geiawadol, nid oedd dim yn ei fluio yn gymmaint a gweled y pwlpudan yn ciel eu defnyddio at achosion bydol, darlithiau, &c. Pregethwr Efengyl hedd, ac nid pregetlnvr oy gwleidydliaeth beunydd yr oes ydoedd. Bedydd- iodd leiair cenedlaeth o'i ddysgyblion, ei blant, ei wyrion, orwyrion a gor-crwyrion. Parhiiodd oi boblogrwydd hyd ddiwedd ei yrfa hirfaith. o # # Bydd i ryfel annoeth y degwm gosti yn agos i £ 900 y iiiii i sir Benfro, a'r cwbl yn cael ei achos gan ystyfnigrwydd nifer o ffermwyr anwybodus, y rhai aga narweinirgan bregethwyr gwleidyddol. Y maent yn awr yn achwyn fod yr heddgeidwaid yn cael eu dwyn allan i amddiffyn Mr Peterson, goruchwyliwr perchenogion y degwm. Gwnaeth- out arumodi i beldio cynhyrfu nag i aflonyddu os bvddai iddo fyned yno heb vr heddla. odd Mr Peterson yr ammodau a wnawd, ond ni al,v ond ni chadwodd y gwrthddegymwyr eu haiumodau ac yr oeddynt mor derfyaglyd ag erioed, mewn gair, yr oedd eu hymddrgiad yn fwystfilaidd. Mae yn amiwg fod y Cymry wedi cael eu Gwyddeleiddio i berffeithrwydd. Nid oes dim son fod ffermwyr yn y rhan Seisnig o'r sir yn gwrthwyneba y degwm. Y rheswm yw eu bod yn fwy deallwar, ac nid oes gan y pregethwyr gymmaint o ddyfan- wad arnynt a^ sydd ganddynt ar y Cymry yu v Gogledd. # # Dydd Ian yn yr wythno« ddiweddaf cyhudd- wyd aelod o Gynghor Sirol, Dinbych, o ymosod r_1 ar Mr Craft, arwerthydd, pan yn attafaelu meddiannau fferm wr dros y degwm berchenog yn L'anefydd ar y 12fed o'r mis diweddaf. Ym- ddengys i'r cynghorwr fohil Williams daro yr arwerthydd a'i ddwrn. Gim nad oedd y cyhuddwr dros wasgu y cyhuddiad yn erbyn Williams, cafodd yr olaf ei twlael yn rhydd trwy dalu y costau yn unig, a'i rwymo yn y swm o 1:5 i g&dw yr heddwch o hyn i maes. Dirwywyd dan nrall am ymosod ar Mr Ctait nr adeg arall. Dydd lau cyhucldwyd Catherine Croakc, 29 mlwydd oed, a gwraig ifrethynwryn Llynlleifiad, o lofruddio ei baban trwy dori ei wddf. Nos Fercher blaenorol rhedodd y ddynes allan o'i thy a dywedodd wrth un o'r heddgeidwaid ei bod wedi Iladd ei phlentyn gan y tybiasai fod y diafoi ar ddyfod i'w hol. Pan o flaen yr Ustusiaid nid ymddangosai fel yn alluog i amgyffred y cyhudd- iad ofnadwy a ddygid i'w herbyn. Credir ei bod j yn wallgofns. Mynegir fod dygwyddiad echryslawn wedi cym- meryd Jle yn Ninas Winnebago, talaeth Minnesota, America. Yr oedd yn y ddinas yma I ysgolfeistres ieuanc o'r enw Miss Lent. Un fc iiwrnod, bu yn angenrheidiol iddi geryddu un o'i I hyagolheigion o'r enw Cruzen, chwaer pa un a 1 redodd gartref i hysbysu i'w rhieni yr hyn a I ddygwyddodd. B^fsiodd y rhieni i'r ysgol. 1 Tarawodd y tad yr ysgolfeistres i'r llawr allyfr. I Yna neidiudd y fam ym mlaen a gafaeliodd yng ) ngwallt gwrthddrych eu Hid gan ei llnsgo oddi ) amgylch yr ysgoldy. Wedi ei llabyddio dros ysbaid, taflwyd yr ysgolfeistres allan drwy y ffenestr. Tarawodd ei phen yn nerthol yn erbyn y palmant a bu farw bron yn uniongyrchol. 11 y Edrychai yr ysgolheigion yn iud ar y weithred echrydus, ac yna rhedasant gartref gan fynegu yr hyn oedd wedi cymmeryd He. Mae Cruzen a'i wraig yn awr yn y carchar yn aros eu prawf. Yn ol pellebyr a gyhoeddwyd yn y New York Herald am y 30aiii o'r mis diweddaf, ymddengys fod swydd Wright, talaeth Minnesota, wedi ei chynhyrfu yn ddirfawr gan enedigaeth rhyfeddol, yr hyn a ddygwyddodd yno rhyw fis yn ol. Desgrifir yr anifail gan y rhai sydd wedi ei weled fel "diafoi." Gorchuddir ei gorff gan flew dwy fodfedd o hyd. Y mae ganddo gym, cynfton, a thraed tebyg i groes rhwng dyn a chi. Ei fam ydyw Mrs Sarah Morris, dynes o dadogaeth Seisnig, acyn dal cyssylltiadau uchel mewn cym- deithas. Pan welodd Mrs Morris yr anferthedd hyll yma, hi aeth yn wael iawn, ac y mae yn awr yn gorwedd yng nghlafdy y dref yn hollol wa!l- gofus a thu hwnt i adferiad. Mae y "diafol blentyn" wedi dadblygu ei hun yn gyflym, a phwysa yn awr ddau bwys ar hugain. Mae eisoes wedi dangos mwy o ddealldwriaeth na wna plentyn deuddeg mis oed fel rheol. Dywed rhai o aelodau tylwyth Mrs Morris i werthwr llyfrau ymweled â'i thy rhyw ddau fis cyn y genedigaeth. Yr oedd y dyn yn daer ara werthu Beibl iddi, onddanfonodd Mrs Morris ef ymaith gyda'r gair y byddai yn llawn cystal ganddi weled y diafoi ei hun yn ei thy a gweled y Beibl. Gwnaeth y sylw hyn ddanfon y llyfrwerthwr yn bur ddigllawn tuag ati, a chan godi ei ddwylaw, dywedodd y gwnai anfon y diafol ati. v Oddi wrth y Columbia, newyddiadur American- aidd am y 22ain o'r mis diweddaf, gwelwn fod y Parch L). Jcnes, gynto gapel Annibynol y Towyn, Cei Newydd, yng nghyda'i brilld wedi cyrhaedd ei gartref newydd yn Patagonia yn ddyogel. Boreu y Sul canlynol ymaflodd yn ei waith gan agor y cyfarfod o flaen Mr Jones y cenhadwr o'r India ac yn y hwyr, rhoddodd anerchiad i'r dorf lluosog oedd yn bresennol, gan alw sylw y gwrandawyr, y cantorion, yr aelodou a'r diacon- iaid at eu dyledswyddau. Cafodd pawb wir foddlonrwydd ynddo, fel gwr llygadgraff, ac yn meddu ysbryd gweithgar, medd gohebydd y Columbia. Hyderir y byddo fendith i'r achos ac i'r lie. Ychydig ddyddiau yn ol cludwyd y newydd i Mr Benjamin Davies, glowr oedranus, yn byw gyda'i wraig yn heol y Commercial, Mountainash, fod ei frawd yug nghyfraith, yr hwn a fu farw tua deuddeg mis yn ol yn yr Unol Dalaethau, wedi gadael iddo y swm fawr o ugain mil o bunnau. v Newyddion o New Zealand a'n hysbysa. i weithwyr ym mhwll glo y Ralph yn ddiweddar gael eu claddu ynddo yn fyw drwy syrthiad darn o dir. Trefnwyd gwarediad iddynt yn gyflym, ac fel yr oedd y gwyr yn cloddio tuag atynt, clywent ddau o'r anffodusion yn taer weddio am warediad o'n carchar. Dau Gatholic oeddynt a chlywid hwy yn adrodd Gweddi'r Arglwydd, a Henffych Well Mair." Cyn eu cyrhaedd cymmerodd cwymp arall le, a thorwyd ymaith holl obaith o'u gwaredu yn fyw. Pan o'r diwedd y daethpwyd atynt, a cafwyd y ddau yn farw ac wedi boglymu ym mhreichiau eu gilydd. <:> :II< Y mae wedi myned yn etholiad brwd yn Northampton am sedd y diweddar aelod, Mr Bradlaugh. Y mae tri yrageisydd ar y maes, ac wedi cael eu henwi dydd Llun diweddaf, sef Mr Manfield, Gladstonian; Mr Germaine, Ceidwadwr ac Undebwr; a Dr. Aveling, Social- ist. Gwrthwynebwyd i Dr. Aveling, am y methwyd cael security dyladwy o gan punt. Bu un Ceidwadwr yn cynniychioli Northampton am flynyddau ac er 1880 y mae dau Radical wedi cynnrychioli y lie. Dyma gyfle i'r Ceid- wadwyr i ad-ennill y sedd a gollasant yn 1880. Cymmerodd yr etholiad le dydd lau (Chwefror 12fed).

CLYWEDIGION.

[No title]

AMMANFORD.

LLANDEILO-FAWR.

FELINDRE, PENBOYR.

MANORDEILO.

LLANFIHANGEL-RHOS-Y-CORN.

ABERGORLECH.

NEW INN, SIR GAERFYRDDIN.

0 TYRED, WANWYN MWYN.,

CYFARFOD CYSTADLEUOL YSTRAD.

BWRDD YSGOL CEINEWYDD.

UNBEN A DURIA ETH.I

I 1EUO, TYR'D AWEN,

MOESOLDEB I NI.

[No title]