Hide Articles List

12 articles on this Page

NODIADAU YR WYTHNOS.

EMLYN.

--[DIOGELIR POB HAWLFRAINT.]

[No title]

ADGOFION AM LLANGYNNWR.

News
Cite
Share

ADGOFION AM LLANGYNNWR. Mae rhywbelh yn felus iawn mewn adgofion am ddygwyddiadau a phersonau, y rhai sydd wedi myned, a'u He nid edwyn mo honynt mwy. Nid oes neb, feddyliwn, a all daflu cipolwg yn ol am ddeugain mlynedd lai na theimlo yn ofidus, wrth feddwl am lawer gwyneb sydd wedi cael ei briddo, na diolch i Dduw am ei arbed. Yn y flwyddyn 1850, telais ymweliad am y waith gyntaf â Llangynnwr. Y ficer yr amser hwnw oedd y Parch. James Griffiths. Braidd nas gallwn ddweyd ei fed yn ei flodau, er fod y pren almon yn dechreu bloieuo. Cyn pen ychydig amser, yr oeddym yn gyfeillion, a pharhaodd y cyfeill- parvvch hwnw tra fu ef yn fyw. Brodor o Gilgerran oedd Mr Griffiths; derbyniodd ei addysg foreuol yn Ysg >1 Ramadegol Aberteifi, ac wedi hyny yn Ysgol Ramadegol Llanbedr, dan yr ysgolhaig enwog, y Parch. Elieser Williams. Cafodd ei urddo gan yr Esgob Burgess, a gwasanaethodd fel curad mewn amryw blwyfi, ac wedi hyny cafodd fywoliaeth Clydai a bu am flynyddoedd yn gurad Sant Pedr, Caerfyrddin. Pan oedd ef yma, ymunodd mewn priodas a Miss Webb, o'r un dref, a bu iddynt bumpo blant, tri mab a dwy ferch :-Ge,)rge Griffiths, cyfaill yr Esgob Thirlwall cafodd ef ei addysgu yn Rhyd- I y ychain y Parch. James Griffiths, un amser ficer LlauddeUy a'r Parch. William Griffiths. Bu farw y ddwy ferch yn ieuanc. Pan oedd Mr Griffiths yng Nghaerfyrddin, yr oedd eisteddfodau Dyfed yn eu hanterth. Y Parch. David Rowland (Dewi Brefi) oeddei gyd-gnrad, a hwyilldau oedd ysgrifenyddion yr eisteddfod. Yr oedd hen cisteddfodau Caerfyrddin yn werth eu galw yn eisteddfodau yr oedd hufen dysgeidiaeth a thalentau yn wyddf,)d,,l ynddynt-y Parchedigion Daniel Evans (Daniel Ddu) John Jones (Tegid); Walter Davies (Gwaliter Mechain) Thomas Price (Carnhuanawc) Cawrdaf, a Iolo Morganwg. Iolo urddodd yr E gob Burgess yn Dderwydd. Gurfu i'r esgob dyiiii ei esgidiau i fyned i'r cylch. Yr oedd Mr Griffiths yn hoff iawn o fyned dros hanes yr enwogion a nodais. Pan oedd Iolo yn yinweledaChaerfyrddin, yr oedd yn arfer gwneyd yr hen ficerdy yn arosfa. Cysgai yng nghadair farddonol Dyfed, yr hon oedd yu cael ei chadw yn nhy Mr Griffiths. Yr oedd ygadair yn cael ei chadw yn ofalus yn llyfrgell Canon Griffiths, Nid oedd Iolo yn gallu tysgu mewn gwely am saith ar hugain o flynyddoedd, o herwydd ditiyg anadl. Yr oedd pobymwelydd a'r ficerdy yn cael ei wahodd i eistedd yn y gadair. Yr oedd Canon Griffiths yn Gymro trwyadl, ac yn noddwr i lenyddiaeth Gyinreig. Yr oedd ganddo gasgliad rhagorol o lyfrau fel pregethwr, nid oedd yn cadw llawer o swn. Yr oedd mater a chyfan- soddiad ei bregethau yn wastad yn dda. Tradd- odai ei bregethau yn araf iidd, ac mewn llais eglur. Nid pregethwr y teimlad oedd y Canon. Cyhoeddodd bregeth a draddododd o flaen Cym- mrodorion Dyfed. Yr oedd yr eisteddfodau yr amser hwnw yn cael eu hagor gyda gwasanaeth a phregeth. Yn 1850, agorodd ysgrifenydd y llinellau hyn yr ysgol gyntaf yn y plwyf, yn yr hen y-goldy ysgoldy yr lie i ffasiwn oedd yma yr amser hwnw. Yr oedd yr hen adeilad yn garnedd diolwg. Pan ymwelais y tro diweddaf a'r hen adfeilion, daeth geiriau Glangeirionydd i'm cof ;— Pa le ? pa fodd ? mae heddyw y lluaws yma fu Cyd-ddysgu a chyd-chwareu, aehyd-yin.jomio'n gu ? Mae rhai mewn bedd yn huno, a'r lleill ar leJ y byd, Nid oes un gloch a ddickon eu galw heddyw 'nghyd. A llawer o'm hen gyfeillion yn y plwyf, yn enwedig y diweddar Mr James Phillips, Green- hill. Yr oedd yn flin genyf weled ei fod yntau yn ei argel wely. Nid oedd dim son yr amier hwnw am yr anhawsdra crefyddol. Yr oedd y plant yn cael eu haddysgu yn athrawiaethau yr Eglwys; ac yr oedd yr Ymneillduwyr yn fodd!awn i'w plant i ddysgu catecism yr Eglwys. Bob boreu Sul, yr oedd y plant yn myned yn orymdaith o'r ysgoldy i'r Eglwys. Yr oedd Canon Griffiths yn eu blaenori o'r ficerdy yn ei wn du, yn Ilawn serchogrwydd. Druan ag ef mae yntau yn cysgu cwsg hirnos angeu ym mynwent y Llan, a chanlynwyd ef gan y ficer presennol, fy hen gyfaill, y Parch. Samuel Jones, yr hwn a a 1 waenwn pan oeddwn yn fachgen ieuanc yn Llanddewi-Brefi. Yroedd yn dda genyf ddeall ei fod yn gwella o'i afiechyd diweddar. Nid oedd dim un gorfodaeth ar y plant i fyned i'r Eglwys. Yr oedd yr Esgob enwog Thirlwall yn arfer ym- weled â Vangynnwr yn ami, ac ymwelai a'r ysgol. Yr wyf yn cofio am y tro cyntaf y talodd ymweliad a hi gyda Tegid a'r Canon Griffiths. Gorchymmynodd yr Esgob i mi roddi gwers i'r plant. Nid oeddwn wedi cael ond ychydig o brawf yr amser hwn o sefyll o flaen y fath enwogit n dysgedig a Dr. Thirlwall a Tegid yr oeddwn yn teimlo yn bur yswil; ond yr oedd yr esgob yn garedig iawn. Cefais ar ddeall wedi hyny iddo gael ei foddloni yn fawr. Boreu dranoeth anfonodd y swm o £ 5i'r Canon Griffiths i'w rhoddi i mi. Or amser hwnw nes iddo neillduo o'i swydd, cefaisyranrhydeddo ohebu a'r esgob, a derbyniais lawer o garedigrwydd oddi ar ei ddwylaw. Nid oedd neb mor barod ag ef i gefnogi ilenyddiaeth. Ar ei ymweliad a Llangynnwr y cyfansoddodd Tegid yr 'hymn ganlynol a ymddangosodd yug nghasgliad llyfr hymnau Bangor :— Crist a gar a'r cariad puraf— Car cywir yw Uwch law brawd a'r chwaer anwylaf, Car eywir yw, &e. Druan o Tc-gid! ni welais mo'i wyneb ar ol y tro hwnw. Ymwelais a'i fedd ym mynwent Nantyfer wedi ei gladdu. Yr oedd y Canon Griffiths yn Ganon Ty Ddewi, yn Gaplan Cymreig ac Arholydd yr eigob. Nid oedd ef yn cymmysgu llawer a'r byd o'r tu allan ond yr oedd ef yn wr boneddig trwyadl. Arferai roddi ciniaw i'r hen bobl oedd yn byw ym mliell oddi wrth yr Eglwys. Heddnch i'w lwch hyd foreu y codi. MR. JOHN WALTER JONES. Yr amser pan oeddwn yn Llangynnwr, yr oedd y dyn ieuanc uchod yn gweithio yn y mwn Cystanog. Pan ymadawodd a'r 11", aeth i Lundain, a bu am amser mewn rnaelfa mas- nachydd, a daeth yn fasnachydd ei hun, ac mae yn awr yn werth ei filoedd yn y flwyddyn, ac yn byw mewn palas hardd yn Llanfair Villa, Carshalton, Surrey. Cafodd Mr Jones ei eni yn Llanfair-Clydogau.—RHEIDIOL.

CAPEL CYNFAB.

--ABERBANC.1

LLANDYSSIL.

FELINDRE, PENBOYR, A'R GYMMY-DOGAETU.

ER PARCHUS GOF

ER SERCHUS GOF

[No title]