Hide Articles List

12 articles on this Page

NODIADAU YR WYTHNOS.

News
Cite
Share

NODIADAU YR WYTHNOS. Pan ddaeth Mr Gladstone i awdurdod yn y flwyddyn 1880, ar ol saith mlynekl o lywodraeth I Geidwadol, safai cyfanswm ein masnach gyffre- dino!, yn cynnwys nwyddau tramoredig (exports) a dad f orion (imports) yn 697 miliwn o buimau. Ond yn filaii wedi i Mr Gladstone dderbyn awenan y llywodraeth, dechreuodd masnach ein gwlad sefyll, ac yna wanhau, fel yr oedd holl gymmeriaa ac ymddiriedaeth yn y wlad hon yn brysur ddad- feilio u dan ei lywodraeth hwyrfrydig a gwammal. Pan drodd y wlad Mr Gladst me allan o swydd yn 188;j, yr ydym yn cael fod ein masnach wedi syrtlii ) i lawr mor isel a 618 miliwn o bunnau, neu gwynipiad o 79 miliwn y fiwyddyn. Yn y flwyddyn 1886, anfonodd y wlad Arglwydd Salisbury i deyrnasu yn ei le, er cael weled pa beth allasai y gwr galluog hwn wneyd dro3 achos masnach a llwyddiant cyffredinol Liloegr. Ym- roddodd Arglwydd Salisbury ei hun at ei waith o ddifrif, gyda'r canlyniad iddo eangu ein trafnid- iaeth o 24 miliwn o bunnau mewn blwyddyn, o herwydd gwelwn fod ein masnach wedi cyrhaedd y swm o 642 miliwn erbyn diwedd 1887. Parhäodd y Prif-weinidog yn ddyfal ddyfal gyda'i ymdrechion, a choronwyd hwynt gyda chodiad o 43 miliwn erbyn diwedd 1888, pan safai y cyfanswm yn 685 miliwn Erbyn diwedd y flwyddyn ganlynol, yr oedd ein trafnidiaeth a gwledydd ereill wedi cyrhaedd 742 miliwn, neu godiad drachefn o 57 miliwl1 yn ystod 1889, ac ar ddiwedd y flwyddyn ddiweddaf yr oeddynt wedi cyrhaedd y cyfanswm mawr o 748 miliwll o bunnau, sef y swm fwyaf a wnaeth ein gwlad yn holl hanes ei masnach o'i mebyd hyd heddyw. Felly, gwelwn yn bendant y modd digymmar y mae y wlad yn llwyddo ym mhob dosbarth dan y llywodraeth bresennol. Nid oes modd gwadu y ffeithiau uchod-y maent yn rhy gadarn a chywir o lawer i hyd yn nod allu cywreinaidd y Radical mwyaf ffroeuuchel i wrthwynebu yo llwyddiannus. Gan fod y ffigyrau uchod felly yn ffeithiau nad oes modd i'w gwyrdroi, hyderwn y gwna pob person a gara ei wlad wnouthnr yr hyn a all i gadw y llywodraeth bresennol niewn gallu eto, ac y gwna yr hyn a fedr er darbwyllo ereill i weled pa blaid sydd wedi gwneyd ac yn gwneyd mwyaf dros lesoli ein gwlad ym mhob ystyr. # Mae Bwrdd Amaethyddol e';ii gwlad newydd gyhoeddi ei gyfrifebau am y flwyddyn ddiweddaf. Dwyn y cyfrifebiu hyn dystiolaeth arbenig i Iwyddiant amaethyddiaeth yn ystod y flwyddyn. Nid ydym am ddweyd fod y4!wyddiant yma i'w briodoli yn uniongyrdwl i weithrediadau y ly llywodraeth bresennol. O.id pan yr ydym yn gweled fod gwelliant cyffredinol wedi cyinmeryd lie dan y YVeinyddiaeth Undebol, nid yw yn afresymol i gredu fod y canlyniadau dysglaer a gobeithiol hyn yn ddyledus i raddau he!aeth i'r ymddiriedaeth, nou yr hyd?r ag y mae y llywodraeth wedi ureu ym mhob ewr o'r wlad a'r byd masnacliol. Yn y flwyddyn 1886, gwyneb- fesur y tir dan lafur ydoedd 47,802,590 cyfer. Yn y flwyddyn 1890, yr ydoedd wedi codi i 48,045,755, neu ychwanegiad o 243,165 cyfer. Nifer anifeiliaid a defaid ein hamaethwyr yn 1886 ydoedd 39,719,150, ac yn 1890, 42,457,053, neu ychwanegiad o 2,737,903 mewn pedair blynedd. Nifer eu ceffylau ydoedd 1,918,190 yn y flwyddyn 1886, ac 1,964,911 yn y flwyddyu ddiweddaf, sef ychwanegiad o 46.721. Rhifai y moch yn 1886, 3,434,608, ac yn 1890, yr oeddynt yn 4,362,040, neu 877,432 yn rhagor. Dywed gohebydd achlysurol y Tyd, papyr Radicalaidd, nad yw Cynghor Sirol sir Aberteiti yn gofalu dim am hawliau y trethdalwyr, ond gofalant am hawliau y Methodistiaid. Siarad am crlid Pwy fel y Methodistiaid sir Aberteifi am erlid ? Nid yw o un pwrpas i neb dreio am swydd gyhoeddus dan y Cyugor Sirol heb fod yn Fethodist. Am nad oedd un Methodist yn yr heddlu y sir yn addas i fod yn ymgeisydd, gorfu iddynt fyned i sir arall i chwilio am un i lanw y swydd. Digon tebyg mai Methodist gaiff ei ethol yn grwner yn lie Dr. John Rowland. Dau Fethodist yw arolygwyr heolydd y sir, os ym i gredu gohebydd y Tyd. Y mae yn amlwg mai y Methodistiaid sydd yn ben ar y glwyd yn y Cynghor Sirol Aberteifi. Ni ddylai un sydd yn bwiiadu dal swydd gylioeddus gael ei benodi i 11 cl lanw y swydd, a chael ei dalu allan o arian y cy- hoedd, am ei fod yn perthjn i'r Methodistiaid neu unrhyw sect arall i ba un y mae mwyafrif y cynghor nen y pwyllgor yn perthyn iddi. Yr oedd llawer iawn o glochdar pan etho!wyd y cynghorau cyntaf, ac ymffrostio y buasai drafod busnes y siroedd yn well nag oedd yr ynadon yn trafod y fusnes yn y cwaiter sessiwn, ond y mae y airoedd wedi gweled erbyn hyn yn amgen nid yw llawer o'r aelodau sydd yn eu cyfansoddi yng Nghymru yli gwybod dim am foe-garweh a boneddigeiddrwydd; buasai bron yr un peth i Jawer sir gael cynghor o dinceriaid. Pellebyr o Etrog Newydd a gluda yr hanes fod Mr Edward Bosan^uet, mab i arianydd Seisnig, pan ar ymweliad a'r America, wedi ei frathu gan sarff gynffondrwst ddydd Sadwrn diweddaf, pan allan yn saethu y Florida. Brathwyd ef g in y sarff ar yr ochr fewnol i'w glun chwith. Ym- drechodd Mr Evelyn Walker sugno allan y gwenwyn, ac yna l'hwymodd y goes glwyfm. Codocld i gyfaill ar ei ysgwyddau a dechreuodd y ffordd gartref. Cyrhaeddodd yno yn lluddedig ac yn glaf oddi wrth eft'aith y gwenwyn a lwydd- odd sugno allan o glwyf Mr Bosanquet. Gwellhiiodd Mr Walker yn araf, ond bu farw Mr Bosanquet mewn pOetau dirfawr ychydig ar ol canol nos yr un dydd. # # Yn foreu dydd Sul diweddaf deffrowyd tri-olion y Friar's Point, Mississippi gyda'r bloeddiadau o 'dan.' Yr oedd carchardy y dref ar dan. Yr oedd llywodraethwr y carchar yn byw bellder oddi yno, a chanddo ef oedd yr agoriadau. Erbyn ei alw yr oedd yr adeilad wedi ei I"S,i yn agos i'r Jlawr a'r tri carcharor wedi trengu. Yin- ddeujys i'r tri hyn roddi fan i'r drwsgan obeithio trwy hyny allu dianc allan, ond yn lie dianc llosgwyd hwynt yn ulw. # No? Sul diwcddaf gwnand ymgais arswydus at lofruddio ysgo',feisfres ieuanc yn agos i Sheffield, swydd Efrogan ei chariad. Ymddenyg fod gwr ieuanc o'r enw Willi m Hill, yn talu ei sylw i M S3 Isabella gdge, ond nid oedd hi fawr am ei gwn;n Yn ystod yr wythnos ddiweddaf, an- f"n( d 1 Miss Edge lythyr at Hall i ddweyd wrfho nad oedd hi am ei gwmni rag.>r, ac iddo felly (1, v ch allan am ryw un arall. Nos Sul cyfarfu- .eld Hall a Miss Edge, a gwnaeth ei hebrwng hyd ddrNs ei chartr _f. i n > gofyuodd id li a w,ietai hi (I tirn cadw ei gwmni ef ym mh llach. Ateb dJ y ieph yn niciol, a chyda hyny, tyaodl Ha'l r^ro'ier allan o'i bojed a saethodd dair ergyd ati. Try w,modd un o'r peleni ei gwyneb yn obydgan acliosi liiwaid tost iddi. Rhedodd Hall ymaith old rhcddodd ei hun i fyny i'r heddgeidwaid. Mae cyflwr Miss Edge yn isel, ac nid oes sicrwydd pa itii ai gwell ai peidio. # Eorea dydd Llun cliwoddif, talodd Bariholemow Sullivan gosp cithaf y gyfraith yng ngharchar Tialee am li frudlio Pairick FJahine, 23 mlwvdd yn agos i Glenlea, Awst 30.iiii, 1886. Ym- welwyd a'r coliddyn yn feunyddiol gan yr offeir- i-ul Pabaidd, mynachesau (nuns), yng nghyd a rhai o'i berlhynasau. Ymneillduodd i orphwys ii"s Sul am hanner awr wedi un ar ddes, a c'iy?godd yu drwm hyd hanner awr wedi chwech borou ei ddydd diweddaf ar y ddaiar. Am han- ner awr wedi saith, ymwelodd yr offeiriad a'i ys- tafell, a chafodd ef yn gweddio yn daer. Ar ol derbyn y Cymmun, aeth Berry y crogwr i fewn, ac ar 01 ei rwymo, arweiniodd ef i'r grogbren, lie y bu farw heb yr un ymdrech. Gwadai ei euog- rwydd hyd y diwedd, a gadawodd ar ei ol adrodd- iad o'i ddiniweidrwydd. *#* Mac llawer o arian yn cael eu casglu i'w hanfon cl i wareiddio ac efengyleiddio y paganiaid ac ar yr un pryd y mae digon o anwariaid genym gartref a mawr angen am eu gwareiddio. Nid oes dim achos i ni fyned ym mheHach na'r Eglwyswen, sir Benfro, i chwilio am danynt, i brofi ein gosodiad. Ychydig ddyddiau yn ol gwnawd cytuudeb rhwng Mr Peterstone a gor- uchwyliwr perchenogion y degwm ac arweintvyr y gwrthddegymwyr, na fuasai i'r olaf rwystio nac ymosod ar Mr Peterstone pan y hyddai iddo atafaelu meddiannau y ffermwyr oedd yii pallu talu eu dcgymau. Ar y telerau a ammodwyd, aeth Mr Pcterstone yno heb yr heddlu i'w am- ddiffyn, dim ond un neu ddau. Yr oedd y gwrth- ddegymwyr yno wedi casglu y mob yn barod i'w rwystro yr oeddynt yn waeth nag crioed ni wnaethpvvyd un sylw o'r ammodau oeddynt wedi wnayd. Yr oedd ymddygiad y cynhyrfwyr yn gywilyddus. Yr oeddynt yn ymddwyn fel ellyllon wedi cael eu gollwng yn rhyddion. Yr oedd eu 0 gweithrediadau yn dwyn anfri arnynt, a'r grefydd, ac yn llychwinio ein cymmeriad cenedlaethol. Yr oedd menywod yr Eglwyswen yn llawn mor ddrwg a menywod Wigwam yr Indiaid cochion. Pan oedd Mr Peterstone a'r Arnlygydd Phillips yn sefyll o dan ffenesfr ffernidy, arllwyswyd llestr yn llawn o ysgarthion dynion ar eu penau. Ni fuasai i'r Zulus ymadwyn yn waeth. Ni wnaeth Mr. Peterstone ddim i achosi y fath driniaeth. Gwnaeth bob peth a allai dyn wneyd i gyflawnu ei ddyledswyddau yn dawel ac heddychol ond nid oedd dim yn tycio ni chym- merent eu perswadio na gwrando ar reswm. Addefodd Mr. William Davies, pan yn siarad a Mr. Peterstone, fod y degwm yn rhwym o gael ei dalu. Dylasai ef hefyd addef fod y sawl sydd yn attafaelu yn rhwyrn o gael ei amddiffyn gan y gyfraith. Beth yw'r achus fod yr heddgeidwaid yn esgeuluso cymmeryd enwau y personau sydd yn troseddu y gyfraith ? Lie mae yr heddlu dan r-olaoth y pwyllgorau, nid ydynt mor barod i wysio y troseddwyr yn rhyfel y degwm. Y gwir- iOIedd plaen yw o aelodau yn cydymdeimlo a|r cynhyrfwyr, ac o ganlyniad, nid ysF y swyddoL'iou yn ofalns. Y mae yn llawn bryd i'r gyfraith ddang >s ei huchafiaeth ar fob- yddiaeth. # Nos Wener di weddaf b i farw y bardd enwog, Mr. Thomas David (Dewi Wyn o Eyllt), ym Mhencoedcae, Pontypridd. Cafodd y bardd ei eni yn L'a'iedeyrn, Morganwj, a chafodd ei ddwyn i fyny yn Dinas Powis Essyllt y dyddiau gynt. Yroedd ei dad yn caclw melin a ffeini. Dechreuodd Dawi farddoni pin yn ieuanc. Ym- unodd mewn priodas a Jane Matchews, cyfnith- er Parch. E hvard Mathews, gweinidog y Method- istiaid. Cawsant dri mab ac un merch, yr hon sydd wedi goroesi ei thad ei ail fab oedd y Parch. John David, diwcddar ficer Llangofen a Penyclawdd, Mynwy. Bu y bardd yn cadw siop am flynyddoedd yn Dinas Powis ond nid oedd yn werth dim fel siopwr neu felinydd. Ar farwolaeth ei dad, cymmerodd y felin a'r fferrn. Nid llawer o feirdd Cymru a gododd mor gyflyin a Dewi Wyn o Essyllt. Ennillodd nifer anferth o gadeiriau a bithodau. Bardd philosoph- aidd oedd ef. Yr oedd yn feddyliwr mawr. Yr oedd hyn i'w weled trwy ei holl gyfansoddiadau barddonol. Symmudodd o Dinas Puwis i Bonty- pridd ugain mlynedd yn ol. Er ei fod yn fardd mor enwog, yr oedd yn anhawdd iawn i'w gael i siarad yn gyhoeddus, gan gymnniiit o-dd ei r, _-y yswilder. Yr oedd yn arfer beirniad u yn yr eis- teddfodau cenedlaethol. Nid ym yn gwyl od am un dyn mnvr mor deimladwy pan y byddai rhywun yn beirniadu ei gyfansoddiadau. Yr wyf yn cofio am lawer yagarmes boeth rhyngddo a'i gydoeswyr. Yroeddefyn 70 mlwydd oed pan fu farw. Cynnygiwyd ficeriaeth Llanofer, Gwent, gan aeneddgor Eglwys Gadeiriol Llandaf, i'r Hybarch Archddiacon Griffiths, Rheithor Castell-nedd, lie y bu am 37 o flynyddoedd, ac y mae yntau wedi ei dderbyn nid yw y dyledswyddau mor drymion a Chastell-nedd. Y mae yn bryd i'r htn arwr i gael llonyddach lie, ac nis gallai gael gwell lie na L!anofer gwncir pob peth yn Gymraeg yn y plwyf hwn braidd na ellir dweyd fod yr adar yn canu Cymraeg yno. Yr wythnos ddiweddaf wedi byr gystudd, bu farw Mr B isil Jayne, y.h brawd yr E,gob Jayne, Caerlleon, yn Llundain, a chladdwyd ef dydd Mawrth yn Llanelli Brycheiniog. Yr oedd efyn eglwyswr, ond Rhyddfrydwr mewn gwleid- yddiaeth. Yr oedd ef yn un o golofnau yr achos yn y rhanbarth Brynmawr Brycheiniog. # Y mae Boothyddiaeth yn tynu cryn lawer o syIw y dyddiau yun, yn enwedig cynllun yCadlyw- ydd Booth i oleuo y rhan dywyllaf o Loegr. Cy- hoeddwyd pamphled ychydig amser yn ol dan yr enw Y Babaeth Newydd." Brodor o Canada yw yr awdwr, ac un o gyn-swyddogion y fyddin. Llosgwyd y pamphledau ar awdurdod y fyddin, ond diangodd dau gopi yn ddianaf, a chafodd y pamphled ei ail gyhoeddi. Dywed fod y cad- lywydd wedi gofalu yn dda am ei deulu. Cafodd ei fab hynaf ei benodi i lywodraethu matprion cartrefol, ac y mae yn llywyddu gwledydd ereill. Bu ei ail fab yn ben-llywydd ar y trefedig- aethau Awstralaidd. a chymmerodd fordaith tr gweled pa fodd oedd pethau yn myned ym mlaen. Ar ei ddychweliad adref, cafodd ei benodi i ofalu a llywodraethu yr Unol Dalaethau, a thaflu allan y dirprwywr Smith, yr hwn oedd tiewydd dynu y wlad trwy argyfwng peryglus. Cafodd y trydydd mab, cyn braidd iddo dyfu i oedran pwyll, ei wneyd yn llywodraethwr y cartrefi hyfforddiadol yn LJoegr; ac fel hyn y rhoddir hyfforddiad y swyddogion i Loegr a gwledydd tramor yn nwy- law llanc anaeddfed, ac y mae yntau wedi bod dros y byd. Mae y ferch hynaf mewn cyflawn awdurdod i lywyddu y fyddin yn Ffrainc a Switzerland er pan ddechreuwyd y gwaith yno a'r ail ferch wedi bod am rai blynyddoedd yn llywodraethu cartrefi hyfforddiadol i ferched, ac y mae hi wedi priodi y cyn-farnwr Tucker, dirprwywr yn yr India. Olynodd y drydedd ferch ei chwaer i lywodraethu y cartrefi hyfforddiadol. Fel y gwelir y mae pob un o'r teulu mewn swydd cyn dyfod i'w hoedran. Dywed hefyd fod meddiannau y fyddin yn Canada yn werth 100,000 o ddoleri. Chwech mlynedd yn ol nid oedd ganddynt ddim meddiannau. Hard pounding that," a dylai Mr Booth roddi eglurhad ar yr hyn a gyhoeddwyd yn y pamphled. =II< Nos Fawrth diweddaf bu merch yr Esgob Colenso yn darlithio yng Nghaerdydd ar y Zulus. Condemniodd yn llym y polisi Prydeinig, ac yr oedd yn gobeithio y byddai i'r senedd wneyd cyfiawilder a'r genedl hon. Canmolodd y di- weddar Mr Bradlaugh am eu hamddiffyn. Cafodd Dr. Tanner, yr aelod dros canolbarth Cork, sen lem gan gadeirydd y pwyllgorau y nos o'r blaen, pan geisiodd daflu ar ffordd mesur y degwm, a bu yn foddion i oeri tymmer y doctor, ac actli y mesur ym mlaen yn dawel. Y mae angen am fyslo llawer o'r Gwyddelod cegrwth sydd yn gwneyd defnydd o gliced eu gen yn barhiius. # Dywedodd Mr Ashmead Bartlett yn ei araith yn Hurst, fod y digwyddiadau sydd yn cymmeryd lie yn Neheubarth America yn profi anefydlog- rwydd, a di-ddefnyddioldeb sefydliadau gwerin- awl. Yr oedd y ddwy lywodraeth Chili ac Argentine fel math o gynllun perflaith o lywod- raethau Republicanaidd. Aeth yr olaf trwy amryw o chwyldroadau arianol a gwieidyddol. Mae yr olaf yn cael ei blino gan ryfel gartrefol gan drawsfeddiant a gormes y llywydd. Yr oedd Brazil yn heddychol, llwyddiannus a blodeuog dan Don Pedro yr ymerawdwr ond er pan gafodd ei chyfnewid i Republicaniaeth, nid yw ddim amgen na llywodraeth oimesol lygredig Nis gall dim un llywodraeth fod yn flodeuog a llwyddiannus os na fydd yn troi o amgylch un pegwn yn y canol, sef unbetiatitli. Mae Gwerin- iaeth yn bwdr trwyddi draw. ———————————

EMLYN.

--[DIOGELIR POB HAWLFRAINT.]

[No title]

ADGOFION AM LLANGYNNWR.

CAPEL CYNFAB.

--ABERBANC.1

LLANDYSSIL.

FELINDRE, PENBOYR, A'R GYMMY-DOGAETU.

ER PARCHUS GOF

ER SERCHUS GOF

[No title]