Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

NODIADAU YR WYTHNOS.1

[DIOGELIR POB HAWLFRAINT.]…

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1893.

G E I F R.

DYFFRYN CLETTWR.

LLANDEILO. I'

News
Cite
Share

LLANDEILO. I ETHOLIAD Y BWRDD YSGoL.-Wele un rhyfel etholiadol wedi pasio eto, a mawr y awn a'r dWll- dwr sydd yng nglyn a'r etholiadau yma yn bresen- nol. Gallasem feddwl fod cyflog dda yng nglyn a r swyddi hyn wrth weled yr ymdrech a'r egni sydd yn cael ei arddangos er sicrhau sedd ar.rai o'r byrddau hyn, a dichon fod rhywbeth fel hyn mewn golwg. Gwir yw nad oes cyflog union- gyrchol yng nglyn a hwy, ond eto gallwlI ganfod, fod rhai o'r aelodau yn gwthio eu plant i fewn i swyddau sydd yng nglyn a'r byrddau hyn. Di- I U ra^^a,;i i gyfrif am yr ymdrech sydd yn cael ei arddangos er cael sedd ar y bwrdd. Mae yn rhaid hefyd cae! rhywun o'u capel ni' i lanw poh swydd. Y mae yr ysbryd secfyddol mor uchel ei ben fel mae y da a'r cymmeradwy Vl1 myned mor ddiwerth os na fydd o'n sect nL' Ond at etholiad y Bwrdd Ysgol yr wythnos ddi- weddaf. Yr oedd yma foneddigion, masnachwyr, ffermwyr, pregethwyr, adeiladwyr, &c., yn ceisio am le ar y bwrdd. Amrywiaeth da, onid e ? Ond fel y crybwyllasom yn barod, y mae'r da a'r cym- meradwy yn myned o'r gnlwg ym nihoethder y frwydr sectyddol y dyddiau hyn. Cyfaddefir yn gyffredin fod yn drueni fod yr haelionus a'r twymgalon foneddwr o Dreib allan, yr hwn sydd wedi profi yn ddibetrus ei fod yn haeddu cefnog- aeth. Pwy sydd i'w feio am hyn, tybied ? Y mae yr yswain o Dregib wedi cefnogi ac wedi aberthu llawer er mwyn y blaid Radicalaidd, a naturiol iawn fuasai gweled yr hwn sydd wedi en cefnogi gymmaint, a hwythau gymmaint yn y mwyafrif yn sir Gaerfyrddin, yn d'od allan ar beu uchaf y res. 0 na; gwell ganddynt hwy droi eu cefnau arno a chefnogi y crwtyn dibrofiad, am fod ei dad wedi eistedd ar y bwrdd. Mawr y crio sydd wedi bod gan y blaid hon yn erbyn cynllun Ty- yr Aglwyddi, ond gwelwn eu bod hwy yn mabwysiadu yr un cynllun eu hunain drwy osod personau ar y bwrdd yn unig am fod en tadau wedi bod arnynt. Wel, wel, dyma gys- sondeb. Gallem feddwl fod hyn yn ddigon o achos i'r boneddwr o Dregib i beidio rhoddi gor- mod o ymddiriedaeth yn y blaid Radicalaidd o hyn allan. Gresyn na fyddai y bobl yn cael llonydd i ddewis fel y mynont, ac nid cymmeryd eu perswadioiddewisedigy gweinidogion. Gresyn hefyd na welai y gweinidogion fod gwaith mwy pwysig ganddynt na myned o dy i dy i berswadio dynion yng nghjlch pwy i osod ar y gwahanol j fyrddSu. Dywedant o'r pulpud, "Ceisiwchyn gyntaf deyrnas Dduw ï." ond yn eu hymddyg- iadau, dywedant "CelSlwch yn gyntaf sedd ar y bwrdd ysgol neu ar y cynghor airol." Mae yn rhaid myned o amgylch a pherswadio dynion yn bersonol am yr etholiadau ond am fater yr enaid, taflant ef o'r pulpudau. Dyma gyssondeb eto, onid e I BOANF.ITGES.

LLANYMDDYFRI.

| CYFARFOD CYSTADLEUOL YSTRAD.

IN MEMORIAM.

A WELWCH CHWI "FI 1"

MOELFRE.

ANERCHIAD