Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

NODIADAU YR WYTHNOS.1

[DIOGELIR POB HAWLFRAINT.]…

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1893.

News
Cite
Share

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1893. Dymunem awgrymu i eisteddfodwyr yr holl fyd Cymreig, y dylai eisteddfod fawr y genedl yn flwyddyn 1893 gael ei chynnal yn y lie y cynnelir Ffair y Byd. Bydd holl genedloedd y ddaiar yn dyfod yno a'u pethau penaf i arddangos eu rhagoriaethau a' hurddas cenedlaethol. A fydd y Cymry yno gyda rhyvvbeth i ddangos eu bod 11 el hwythau hefyd yn genedl ? A pha beth y deuant ? A pha beth hefyd ond eu heisteddfod. Nid ydym yn gwybod am ddim arall y gallwn wneyd ar- ddangosiad neillduol o hono. Coder yno bavilion ardderchog dan warchaediaeth y Ddraig Goch gweler yno ddarluniau enwogion y genedl, heb anghofio glaniad darganfyddwr Cymreig y Cyfandir gorlletvinol. Ffair bedwarcantnlwyddol darganfyddiad Colombns o'r Cyfandir fydd Ffair Fawr y Byd yn Chicago yn 1893. Gosoder yn yr adeilad enfawr bethau eraill daiaregol, celfydd- ydol, hanesyddol a dullweddiadol o ddyddiau Derwyddiaeth i lawr, a chyflawner gwasanaeth y babell gan feibion a merched gwrolwedd, gwridgoch, glan, wedi ymwisgo yn niwyg nod- weddiadol preswylwyr Gwlad y Gan. Rhodder allan destynau barddol, lien a cherdd, yng nghyd a gwrthddrychau ceingelfawl y gall yr 0 holl genedloedd gystadiu arnynt yn iaith y Cymry ac ym mhrif iaith y byd—y Seisneg. Ar ddyddiau arbenig yr wyl, Uywyddir gan Arlywydd y Talaethau Unedig, gan Frenines Roumania, gan H. M. Stanley a thywysogion a mawrion ereill. Addurnir y llwyfan gan bresennoldeh aelodau dros Gymru, ac enwogion penaf y genedl yng Nghymru, America a'r holl fyd. Pan ii cenedloedd ereill heibio a gweled y pavilion hwn ac ymhoii, yna y daw yn wybyddus i bawb fod yr hen gangeu lion o'r teulu Celtaidd eto yn genedl, a bod iddi ei He ym mhlith y canedloeJd byw. Beth, ai breuddwydio yr ydym A ydyw y fath eisteddfod yn ddichonadwy ? Mae yn berftaith ddichonadwy. Nid oes yn angenrheidiol 'w dwyn yn fiaith ond arian a chydweithrediad. Viae arian yn ddigonol gan y cyfoethogion, acond :ael cynllun cyfundrefnol i weithredu ceir cefnog- 0 aeth ndd yn unig gan Gymry arianog, ond hefyd gan garedigion o fysg cenedloedd ereill. Nid ydym ni ond taflu allan awgrymiadau. Rhaid i'r cychwyniadddyfodtrwy Gymry rhagorol Chicago, Racini, Miiwankee ac ereill o breswylwyr glanau y Michigan. Nid oes dadl yn ein meddwl na cheid cydweithrediad parod gan Gymry yr holl wlad. Pe felly, oni byddai cystal i chwithau Gymry Cymrn roddi heibio y meddwl o gynnal eistedd- fod fawr genedlaethol y flwyddyn hono, fel y gellid cydgrynhoi holl adnoddau y genedl at wneyd eisteddfod deilwng i'w gweled gan yr holl fyd am unwaith ? Gallech wneyd hyn o garedig- rwydd a ni yr ochr hon i'r Werydd. Dywedir nad oes yma lai na thri chan mil o honom yn awr yn siarad Cymraeg, a fod yma bedwar can mil drachefn yn Gymry o waed dilwgr. Niae genym deimlad parchus at hen wlad ein genedigaeth a'i phobl, ac oni ddylai ein hymdrech i gadw mewn bri yr hen sefydliad cenedlaethol mewn gwlad estronol gael ei ystyried yn garedig aenychi Daw cannoedd lawer o honoch drosodd y flwyddyn hono. Bydd rhadlonrwydd y cludiad yn annog- aethol i hyny ac wedi i chwi weled rhyfeddodau maw rion y wlad hon, a thrachefn brif ryfeddodau y byd yn y Ffair fawr yn Chicago, onid bendi- gedig o beth fyddai i ni gael cydgyfarfyddtad .,Y dedwydd mewn gwyl eisteddfod fawr?—CoJitmbia.

G E I F R.

DYFFRYN CLETTWR.

LLANDEILO. I'

LLANYMDDYFRI.

| CYFARFOD CYSTADLEUOL YSTRAD.

IN MEMORIAM.

A WELWCH CHWI "FI 1"

MOELFRE.

ANERCHIAD