Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

34 articles on this Page

-I CYFARFOD DIOLCHGARWCH AM…

News
Cite
Share

CYFARFOD DIOLCHGARWCH AM Y CYNHAUAF. Styx, — Ymddengys oddiwrth. yr adroddiad o weithrediadau "Cyfarfod Chwarterol Annibynwyr Mon," a ymddangosodd yn eich rhifyn diweddaf, fod yr uchod wedi cael llawer o sylw yno, a phen- derfyniad wedi ei basio arno i'r perwyl "eu bod hwy (yr Annibynwyr) o'r farn mai y trydydd Llun yn Hydref yw y diwrnod mwyaf cyfleus i gynal diolchgarwch am y cynhauaf." Nid ydynt yn nodi unrhyw resymau dros eu barn. Hwyrach, pe ceid y rhai hyny, y buasai yn haws i rai nad ydynt yn cydolygu a hwy wneud hyny ond os caniatewch,Mr gu Gol., nodaf ychydig bethau sydd yn ymddangos i mi yn rhesymau yn erbyn y dydd crybwylledig. ( Mae y trydydd Llun yn Hydref yn rhy hwyr ar y I flwvddyn. Mae gormod o amser ihyngddo a diwedd y cynhauaf. Yr oedd y cynhauaf eleni wedi ei gael i ddiddosrwydd erbyn diwedd Awst, fel yr oedd rhwng hyny a'r diwrnod nodwyd gan y cyfar- fod misol i ddiolch am dano lawn fis, ac yr oedd hyny, mi gredaf, yn ddigon o oediad, ac nid oes dim i gael ei enill wrth oedi, ond mae llawer i'w golli, sef y gwres, a'r hwyl, a'r teimlad o ddiolchgarwch sydd yn meddianu pawb pan yn nghanol y mwynhad o ddiogelu daioni "yr Arglwydd i ni yn Ei Ragiuniaeth. Erbyn canol Hydref, mae y cynhauaf wedi myned yn hen. Hefyd, mae'r hin^yr adeg yma yn bur auafol, fel yr oeddym yn gorfod teimlo ddydd Llun diweddaf, ac mae hyny yn peri fod trafferthion vr amaethwyr yn amlhau ragor fyddant dair wythnos yn flaenorol. Nid peth bychan fuasai penodi ar ddydd yr wyl fawr hon ar adeg leiaf trafferthus i'r amaethwyr, a chredaf mai yn niwedd Medi y byddant felly ac, i os nad wyf yn camgymeryd, bydd y trydydd Liun yn Hydref y flwyddyn nesaf wythnos yn ddiwedd- arach nag eleni. Dydd Mawrth fydd y cyntaf 21ain fydd y trydydd Llun. Y 15fed oedd eleni. onide? Rheswm arall yn erbyn y diwrnod ciybwylledig yn nosbarth Llangefni yw fod llys ynadon y dosbarth yn cael ei gynal *bob mis yn gyson ar y tiydydd Llun, a bydd degau o, bersona.u yn. gorfod bod yno, o rai y byddai yn gan'-mil gwell ganddynt gael bod yn y capelau yn y cyfar- fodydd diolchgarwch. Clywais un yn dweyd ei fod wedi gweled cymaint yno ar ddydd diolch- garwch ag a fuasai yn gynulleidfa hardd mewn unrhyw gapel, heblaw yr ynadon fydd yn eistedd yn y llysoedd hyn, pa rai sydd erbyn hyn agos 4oll yn Ymneillduwyr perthynol i'r gwahanol enwadau. Fe ddywedir mai chwarelwyr Dinorwig sydd wedi penodi y trydydd Llun yn Hydref i gychwyn, ac mae yn ymddangos i mi* yn rhyfedd, os yw hyny yn wir, fod chwarelwyr yn trefnu ar fater sydd yn dwyn perthynas agosach-mewn un ystyr a'r amaethwyr. Tybiwyf nad yw? lawer o wahaniaeth iddynt hwy pa ddydd- Llun, ac y dylent roddi ffordd, er hwylusdod i'r amaethwyr. Hyderaf y gwna cyfarfod chwarterol y Bedyddwyr a'r cyfarfod misol roddi ystyriaeth bwvllog i'r mater cyn derbyn na gwrthod awgrymiad y brodyr Annibynol.—Ydwyf, etc., AMAETHWR.

YMDDYGLAD ANHEILWN G MEWNi…

Y FRENHINRS..

YICTOPJA DDA

YN BALMORAL,

BANGOR A BADEN-POWELL.

YR HENADUR HENRY LEWIS,

[No title]

--_-----------_------YSGYFAIN-T…

AMLWCH. !

BEAUMARIS. j

BRYNGWRAN.

CAERGYBI. -

COEDANA.

LLANFAETHLU!

LLANGADWALADR (Bodorgan).

LLANGEFNI.

LLYS YR YNADON.

LLANGWYLLOG.

LLANWENLLWYFO.

PENMYNYDD.

PORTH AMLWCH.

RHOSYBOL.

SEION, LLANDRYGARN.

..-----VALLEY.

---------------Llith rdramsyddcl…

Advertising

Dan Lythyr Oddiwrth "w n Ifan…

Advertising

|YR ETHOLIAD CYFFREDINOL.

| RHOSYBOL.

jLLANFAIR P. G.'

IGYM AN FA DDIRWESTOIL MON.

LLANDEGFAN.