Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Ar ol misoedd o wasanaeth gwerthfawr yn Ne- lienbarth Affrica, cyrhaeddodd meddygon yr Ys- pytty Milwrol Cymreig y wlad hon boreu dydd Gwener diwedidaf. Y ma.e yn dda iawn genym ddeall fod yr oil o hon yni, ag eithrio y Proffeswr Hughes, yn mwynhau iechrd da. Diamheu genym y bydd trigolion Cymru gyfan yn teimlo yn flin am fod Mr Hughes yn wael mewn can- lyniad i ymosodiad a ddioddefodd oddiwrth y dwymyn fu yn angau i gynifer o'n müwyr, as yn diymuno-iddo adferiad llwyr a buan. Gweith-, iodd y proffeswr yn ddiflino o blaid y mudiad fiel ysgrifenydd o'i ddeehreuad, ac ar gais y pwjillgor aeth allan i Ddeheubarth Aifrica yn mis Gorphenaf. Chwe' mis yn ol danfonwyd allan bump 0 feddygon mwyaf addawol Oymru, sef y Proffeswr Thomas Jones, Dr. Lynn Thomas, Dr. Mills-Roberts, Dr. Lanning Evans, a Dr. Herbert Davies. O'r pump nid oes ond tri wedi cael byw i ddychwelyd i"w gwlad. Bu y Pro- ffeswr Jones, prif feddrg yr yspytty, ac un o'r meddygon mwyaf galluog yn y deyrnas, a'r Dr. Herbert Davies, un o'r Crmry mwyaf anwyl ym- unodd ag unrhyw gymdeithas erioed, farw yn Bloemfontein, He y cvvllwyd hefyd wasanaetli dau o'r gweinrddwyr. Buasai yn ddyddorol cael hanes yr yspytty tra yn Neheubarth Africa; y treialon ddaeth i gyfarfod a hwynt yn nghyda'r modd y darfu iddynt fyned trwyddynt. Y mae yn fwy na thebyg y buasai yr lianes yn dwm i'r amlwg weithredoedd o wroldeb ac hunan- aberth teilwng -rhestru gyda gorchesfcion dewraf a glewaf ein mil wyr. Enillodd dau y staff y gymeradwyaeftli uchaf oddiar law awdurdodau milwrol, ao y mae y miilwyr fu dan eu gofal yn llawn ou clodydd. Hwyrach y dy- lasid fod wedi trefnu ar gyfer rhoddi derbyniad croesawus iddynt ar eu dychweliad gartref; ond gan na wnaed hyn, credwn y byddai llais a theimlad eu cydwlaawyr o blaid gwneuthur lhywbeth er dangos ein bod yn gwerthfawrogi eu llafur a'u liunanymwadiiad. Aethant allan o'u gwirfodd i wneud yr hyn oedd yn eu gallu i leddfu poenau ac ymgeleddn ein milwyr clwyf- edig, a rhaa o honynt yn gwneud aberth mawr er mwyn myned. Nid ydynt yn disgwyl cael un main, o dal am eni gwaith. Nid ydyw yn basibl gosod pris ar eu gwasanaeth. Ondl os na ellu- talu iddynt mown modd crdwierth gwas- anaebli, gall Oymru ddangos nad yw yn ddi- ystyr o'u llafurus gariad, ac nad ydyw yn fodd- lon gadael gweitiiwyr mor deilwng yn ddisylw heb wneud rhywbetli sylweddol er profi ei bod yn gallu gwerthfawrogi eu gwaith.

Yr Heddgeidwaid fel Gwrthwynebwyr…

[No title]

I Esgobaeth Bangor: Ethol…

Cydbwjllgor Hsddgsidwadsl…

----___--Bwrdd Gwarcheidwald…

Advertising

ADOLYGU SEFYLLFA'R PLEIBIAU,

[No title]