Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
- AFON WEN.
AFON WEN. Marwolaeth. —Nos Fereher, wedi maith gystudd, bu farw Lizzie Williams, un o enethod Mr a Mrs Williams, Gorsaf Rheilffordd Afon Wen, a. theimlir y cydymdeimlad mwyaf a.'r teulu trallodus.
BANGOR.
BANGOR. Galwad.—Deallwn fod y Parch Rowland Hughes, B.D., Dolwyddelen, bruwd y Parch W. Parri Hughes, B.D., Dolgellau, wedi derbyn yr alwad i ddyfod yn weinidog yn Nghapel Pendref (A.). Fe fydd yn dechreu ar ei ddyledswyddau y Sul cyntaf yn Chwefror. Damwain Enbyd i Weitbi-wr.-Dyd-d Gwener bu i ddyn ieuanc o r enw Ttiomas Jones, Penygraig Cot- tage, Minffordd, gyfarfod a damwain enbyd tra. yn dilyn ei alwedigaeth yn lard Lechi Penton. Yr oedd Jones yn gweithio gyda pheiriant llifio liechi, a rhywfodd neu gilydd fe lithrodd ar draws "gwely" y peiriant gyda'r canlyniad i'w fraich dde tyned i'r Hi' gron a chael ei niweidio yn arswydus yn agos i gyswllt yr ysgwydd: lllfiwyd ei Iraich )igQ,:S drwodd. Bu i reolwr y gwaith (Mr J. Morgan Jones) anfon y dyn ar un waith mewn cerbyd i Ysbyt- ty Mon ac Arfon, lie y gweinyddwyd arno gan Dr. E. J. Lloyd a meddyg y lie (Dr. Beck). Yr Ysgolion Nos.—Mewn cysylltiad a'r ysgolion nos, ac o dan reolaeth y Bwrdd Ysgol, bydd i Mr J. A. Green, B.A., pen y Day Training Department, Coleg y Brifysgol, draddodi cyfres o chwech o anerchiadau i'r bobl ieuanc. Y mater yr ymwneir ag ef fydd "Bywyd a dyledswyddau dinesydd. Traddodir y cyntaf o'r anerchiadau nos yfory (Mercher), a pharheir hwy am y pum' nos Fercher dilynol. Bydd y tocynau mynediad i mewn i'w cael am bris isel, ac anturiwn obeithio y bydd i bobl ieuainc Bangor ddangos eu gwerthfawrogiad trwy ymbresenoli mewn nerth. "Hanes yr Eglwys."—Traddodwyd y gyntaf o. dair darlith ar "Hanes yr Esrlwys" yn y Penrhyn Ha.11. nos Fawrth, gan y Parch Arthur Clarke, rheithor Sawley, Swydd Derby. (LIywyddwyd gan yT Anrh. H. LI. Mostyn. Eglurid y ddarlith gan ndfer o "lime-light views" godidog. Yr oeddyn ddar- lith gwir ddyddorol, ac yr oedd yn amlwg ei bod yn cael ei gwerthfa-wrogi gan y <rvnulleidfa. Gweithid y "lantern" gan y Parch Is-janon Edwards. Gellir hysbysu i'r darlithiau hyn gael eu trefnu dan nawdd y Pwyllgor Esgobaethol er Amddiffyn yr Eglwys a Rhoddi Hyfforddiant Eglwysig, llywyddes Pwyllgor Gweinyddiadol pa un ydyw yr Anrh. Alice Douglas Pennant, a hi ei hun ddarfu drefnu y gyfres hon o ddarlithiau. Cymer yr ail ddarlith le heno (nos Fawrth), yn yr un lle, am saith o'r gloch, pryd y by-dd i'r Parch Arthur Clarke ymwneud (1) a r Diwygiad dan Harri VITI., Edward VI., ac Eliza- beth (2) yr Adweithiad yn Nheyrnasiad y Frehhin- es Mary; (3) yr ymheddychiad yn amser Elizabeth. Ychydig o'r atdyniadau neillduol a lluosog yn Sale W. O. Williams, Bangor, yr wythnos hon.—Qwilts Gwynion gwerth 10s 6c am 5s 11e. Defnyddiau dresses gwerth 3s 11e y llath, y cwbl am Is. Hetia.u. a Boneti wedi eu gostwng i Is. Is llc, 2s lie; eu pris arferol oedd Is 11e i 8s 11e. Capes, Costumes, a Jacedi, am haner pris, pethau newydd i gyd.— 348 a 350a, High-street, gyferbyn a Connah's Cycle Depot. 2972 Y LLYS YNADOL. Cynhaliwyd eisteddiad wythnosol yr ynadon ddydd Mawrth, gerbron Mr Thomas Lewis ac ynad- on eraill. Ymosodiad Nosawl.—Cyhuddwyd John Hum- phreys, William Humphreys, ac Evan E. Jones o ymosod ar William Williams, Bwlchyffordd, Myn- ydd Llandegai.—Ymddangosodd Mr Twigge Ellis dros yr achwynydd, a Mr Thornton Jones dros y. diffynyddion.-Yn ei dystiolaeth, yr Achwynydd a ddywedodd ei fod ef a'i wraig yn dychwelyd gartref o "Bethesda gyda'i frawd-yn-nghyfraith oddeutu un-ar-ddeg o'r gloch nos Sadwrn y Nadolig. Wedi cyrhaedd at Eglwys St. Ann yr oedd y diff- ynydd John Humphreys yn ymosod ar ddyn o'r enw John Thomas, a cheisiodd efe (yr achwynydd) eu gwahanu. Ymgasglodd torf o bobl i'r lie ac yn ddiweddarach, mewn Its o'r enw Pantyrafon, haer- ai'r achwynydd i'r tri diffynydd ymosod arno yn. gwbl dcliachos.-IVrtli ei groesholi, dywedodd ei fod ef yn sobr y noson hono.— Rhoddwyd tystiola?th gadarnhaol gan Griffith Jones (brawd-yn-nghyfr tith yr achwynydd), Evan J. Williams, ac eraill.—John Humphreys, un o'r diffynyddion. a wadodd id do ef a'r ddau ddiffynydd eraill ymosod ar yr achwynydd yn ddiachos.—Rhoddes William Humphreys ac Evan E. Jones hefyd dystiolaeth i'r un perwyl.—Dirwy- wyd y diffynyddion i bunt a'r costau bob un. Ysgarmes vn yr Ardd Fawr.—Catherine Davies, o'r Ardd Fnwr, Bangor, a wvsiodd! Joseph Roberts, John Jones, Thomas Roberts, o. Hannah Ellis, oil o'r Ardd Fawr, am wirfoddol niweidio drws ei thy ar nos Sadwrn cyntaf y flwyddyn.-Cafwyd' tystiol- aeth i'r perwyl fod "row" wedi cymeryd lie yn y gymydogaeth lie trig y pleidiau, ac yn yr ysgwffl i -ddrws yr achwynydd-es dderbyn niwed.—Aeth y diffynyddion ar eu llw mai nid hwynt-hwy wnaeth niwed i'r drws, a thaflodd y Fainc yr achos allan. Meddwdod.—Am fod yn feddw ac afreolus cafodd John Williams, Bethesda, ei ddirwyo i 5s a'r cost- au William Williams, Bangor, 2s 6c a'r costau Thomas Williams. Bangor, 10s a'r costau. Esgeuluso Plant.—William Lewis, labrwr, Pen- rhosgarnedd, ac Elizabeth ei wraig, a gyhuddwyd gan yr Arolygydd Rowlands (dros y Gymdeithas er Atal Creulondeb at Blant) gydag esgeuluso eu tri phlentyn.—Yr oedd yr achos wedi bod o flaen y llys yn flaenorol, pryd y eafodd ei ohirio er mwyn rhoddi yfle i'r rhieni ddiw^^gio.—-Yn awr haerid nad oedd ond un plentjn wedi diwygio. ond parhai y ddau eraill yn yr un cyflwr ag yn flaenorol.-Dywedodcl y Cadeirydd, as anfonid' y gwr i garchar, y syrthiai y gosp ar y wraig a'r plant hefyd, y rhai orfodid i fyned i'r tlotty.—Dirwywyd y tad i 10s a'r costau, a chaniatawyd deufis o amser iddo dalu. Marwolaetli Hen DdLnesydd1.—Yr wythnos hon gofidus nYIP- orfod cofnodi yma-dawiadl un; arall o'r hien ddinasrddion. Cyfeirio IT y-dym at farwol- aebh Mr William Davies, tad Mr W. Cadwaladr Davie-s (srwr y gantores aruchel Mrs MaryDaries). XVau o-blint fu i'r diweddiar Mr Davies: merch oedid rr aill, ac v mae ihi yn briod vyda'r Parch D. Milton Davies, gweinidog1 gvdia'r Methodist- iaid Calfinaidd ger y Wyddgxug. Mr Davies oedd ydia.con hynaf yn Nghapel v TabernacL, Bangor, ac yn sici' yr oodirl yn un o'r blaenoriaid pwysicaf, mwyaf defnyddiol a galluog fu erioed vn set fawr y capel hwnw. Dyn ydoodd yn meddu y cymer- iad cryfaf o ran purdeb a duwiolfrydedd, union- deb, aa unplygrwvdd. Yr oedd yn wr bonheddi-g trwvadi yn; ei ffordd, v cyfryw ag oedd yn .bnwlio pqirch pawb- y deuai ;i r^vfarfyddiad a hwynt. IHau y t-etnl,ir chwithdod mawr a maithi am Mr Davies. Clpddw.yd: ei wedldlillioni marwol yn mynwefnt Glan- ad:d: foreu Mawrth (beddyw)-cynhebrwng cy- thooddni.^ i ddyn'oni. pryd y gweinyddwyd gan y Parch T. J. Wheldon. Y roae cvdymdeimlad' dwfn i diffu-ant a'r teulu a'r perthynasau yn eu trallod.
BETHESDA.
BETHESDA. Caau Carotau.-Fel y mae eu harfer blynyddol, bu partion perthynol i St. Ann's, Llanllechid, Glan- ogwen, a Tanybwlch, yn cynal cyfarfod yn Ysgoldv GLanogwen, nos Lun, yr 8fed cyfisol. Llrwyddwyd y gweithrediadau gan y Parch R. T. Jones, ficer Glanogwen. Canodd' y ddau frawd, y rhai a gyn- rychiolent Llanllechid, y Mri Hugh Llechyd Wil- liams ac Owen Williams, yn rhaeorol; a chafodd y Brawd D. Bangor Jont-s hwyl dda gyda'i barti, sef pedwar o fechgyn y cerddor adnabyddus Eos Ceraint. Cafwyd deuawd, mewn modd rhagorol, hefyd, gan y JIri Robert Jones, Bryn Villa, ac H. Llechyd Williams. Canodd amryw o Gor Glan- ogwen yn wir dda,. Gallwn feddwl ein bod wedi cael digon o ganu carolau eleni; a gallwn fyw yn dawel heb ychwan"g o honynt hyd ddiwedd v flwyddyn hon. Dylasem ddweyd i'r llywydd roddi .a.nerchiad galluog yn ystod v cyfarfod. Dcaflwn mai y carolwr pybyr, Mr Thomas Griffith, Braich Melyn, a drefnodd y rhaglen, yr hwn oedd yn bur foddhaol. Cymdeithas Ddiwylliadol Capel Bethesda (A.").— Nos Fercher diweddaf, yn nghyfarfod y gymdeithas lion, dan lywyddiaeth Mr D. J. Williams, M.A., prifathraw yr Ysgol Sirol, cafwyd papyr gafluog, gan Mr W. J. Parry, Coetmor Hall, ar "Streics Chwarel y Penrhyn a'u Gwersi." Diamau mai an- hawdd fuasai cael neb yn ewybod cymaint am y trtreics hyn a'u canlyniadau na Mr Parry. Clywsom fod y papyr yn un gwir ragorol, ac iddo ddarllen copi o lythyr a anfonwyd at Mr Dawkins Pennant gan y chwarelwyr yn 1625. sef adeg y streic gyntaf gymerodd le yn Chwarel y Penrhyn. Deallwn fod y papyr drwyddo yn llctWIl dvddordeb, ac i'r cyfarfod hasio yn unfrydol yn erfyn ar Mr Parry ei gyhoeddi drwy y Cafwyd sylwadau ar ei gynwys gan Mr R. Haydn Thomas, is oruehwyliwr Chwarel Pantdreiniog, etc. Yna cafwyd caneuon gan Eos Tdwal, Mrs E. D. Lloyd, CoecJ Madog Misses M. J j. Jones, Mill-street; Annie Roberts, Penybryn; a rhwareuwyd ar y bardoneg gan Mr E. D. Lloyd, R.A.M. John Roberts. Pantffrydlas; a Misses A. Owen. Coetmor Hall, a M. J. Jones, Carneddi; y crwth gan Mr David Morris. Grey- ftreet; ac adroddiadl gan Mr W. Thomas, Cefnfaes- terTRCe. Cymdeithas Ddiwylliadol Capel Bethania (A. ).- Nos Iau diweddaf cafwyd cyfarfod byviog, dan lywyddiaeth y Parch T. Griffiths. gveinidog. Dadl oedd y noswaith hon ar "A ydyw ysbryd cystadiouol yo fanteislot i d.diwyllia.nt. Agorwyd yn gadarn- haol gan Mr D. Bryn Williams, ac yn nacaol gan Mr I John Hughes, Penybryn; a chymerwyd rhan yn v ddadl gan eraill. Ar y diwedd, rhoddwyd y cwest- iwn i bleidlais, pryd y cafwyd fod 20 yn ffafr y cadarnhaol, a dim ond chwech dros y nacaol. Der- byniwyd y canlyniad gyda chymeradwyaeth brwd- frydig. Marwolaeth Ddifrvfyd Mr Robert Lewis, Marciwr, Douglas-terrace.—Tarawyd trigcJion Bethesda a'r amgylchoedd gan fraw a dychryn mawr foreu ddydd Gwener gan y newydd difrifol ac annisgwyliadwy am farwolaeth Mr Robert Lewis, yr hwn oedd gyda'i orchwyl yn y chwarel hyd ganiad y noswaith flaen- orol, sef nos Iau. Ymddengys ei fod wedi myned o'i waith gyda'i gyfaill mynwesol, Mr Benjamin Thomas, i Llys Meurig i'w de, gan. fel yr ym- ddengys. fod ei briod yno yn mwynhau y prydnawn gyda Mrs Thomas. Pan braidd wedi dechreu cyf- ranogi o'r arlwy. cwynai fod rhywbethi rhyfedd yn ei wddf. ac yn ei atal i lyncu. Aeth allan i'r ffrynt, gan feddwl dyfod yn well, ond gwaethygu yr oedd, a rhoddwyd ef i orwedd, a rhoddwyd ychydig wisci iddo, ond dymunai gael myned gartref. Aeth Mr a Mrs Thomas, yn nghwmni ei briod, i'w ddanfon, a cherddodd yr hoi ffordd yn weddol dda. Agorodd y clo a goleuodd y "lamp" ei hun, ac wedi iddo dynu ei esgidiau. aeth i'w wely, ac aeth Mr Thomas ymorol am feddyg, ac hyd vn hyn nid oedd neb yn amau fod dim peryzl. Cvrhaeddodd Dr. Grif- fiths yn fuan, a gweinyddodd iddo, ond er holl fedr y meddyg. ehedodd ei ysbryd at vr Hwn a'i rho'es mewn modd tawel oddeutu haner-awr wedi un-ar- ddeg o'r gloch y noswaith hono, pan yn 59 mlwydd oed. Clywsom mai afiechyd v sralon oedd achos ei farwolaeth. Mae yr amgylchiad difrifol yn cael ei deimlo yn fawr vn mhlit-b pob dosbarth, ac yn neill- duol felly yn y chwarel, lie yr oedd yn fawr ei barch fel swyddog medrus a charedig. a dywedir nad oedd ganddo yr un gelyn drwy yr holl waith. Yr oedd yn un o'r clynion m-wtaf naturiol, a phob amser yn dawel nid oedd yn hoffi terfysg a thwrf gyda dim. Yr oedd yn hoff o'r digrifol, fel y byddai y gweitbw^T wrth eu bodd yn ei gwmni. Yr oedd, o ran ei gorph, yn wr tal a lluniaidd, ac o gyfansoddiad. cadarn yr olwg. Drwy ei fod, fel v dywedasom, o duedd ddigrifol. bu, pan yn ieuanc, yn swyno canoedd mewn cyngherddau, etc., a'i gan- euon digrifol. Yr oedd yn meddu ar allu dynwared- ol anghyffredin, a'i bertrwydd yn ddigyffelyb, fel. yn mha gymdeithas bynag v ceid ef. byddai yn sicr o fod y mwyaf amlwg ynddi. Eglwyswr cadarn a selog oedd, a. theimlir bwlch na lenwir mo hono am amser maith yn Eglwys Glapogwen. Bu, am lawer o flynyddau, yn warden yr eglwys hon. yr hon swydd a gyflawnodd er boddhad pawb. Bu hefyd yn arolygydd yr Ysgol Sul am faith amser, ac yn awr yr oedd yn athraw ar ddosbarth meibion mwyaf lluosog yn yr ysgol. fel y gellir dweyd iddo lanw pob swyddogaeth perthynol i'r eglwys er cliod mawr iddo ei hun a lies i'r eglwys. Gallwn ddweyd yn ddibetrus 1 Eglwys Glanogwen golli gwr da a gwir ddefnydd- iol, ac i gymdeithas oddiallan golli un o'r dynion mwyaf doniol a difyrus a feddai Bethesda. Mae y cydymdeimlad mwyaf diragrith gan holl drigolion Bethesda a'r amgylchoedd a'i briod unig yn ei phrofedigaeth sobr a difrifol. Duw fyddo yn nodded iddi yn yr argyfwng called. Bydd yr ang- ladd yn cymeryd lle-yr hwn fydd yn un cyhoeddus —prydnawn ddydd Mercher (yfory) yn Mynwent Glanogwen, a diamau y bydd yn un o'r rhai clluosocaf a fu yn Methesda ers llawer o flynyddau. Ceir manylion am y cynhebrwng yr wythnos nesaf.— Gohebydd.
CAERNARFON.
CAERNARFON. Cj-mdeithas Lenyddol yr Eglwys. Y r wythnos ddiweddaf, o dan y penawd uchod. gwnaed camgy- meriad trwy gofnodi fod "Eos Bradwen" wedi bod yn darllen' papyr ar "Pabyddiaeth yr Eglwys." "Psalmyddiaeth yr Eglwys" ddylasai fod. Eglwysig.—Yn ystod y mis bedydctiwyd wyth,priod- wyd pedwar, claddwyd saith. Darlith.-So,s Wener, o flaen aelodau Cymdeithas Lenyddol Engedi, bu Mr John Davies (Gwyneddon) yn traddodi darlith alluog ar "Y Myfyrian a Llen- yddiaetb Cymru." Y cadeirydd ydoedd Mr W. J. Williams, Bridge-street. Newydd Drwg.-Dydd Uun derbyniwyd Brys- neges o Antwerp yn hysbysu am farwolaeth Mrs Pritchard, priod y Cadbsn T. Barlow Pritchard, llywydd y Uong "Glenesslin." Yr oedd yn bwriadu cychwyn gartref dydd Llun, ond bu farw. Yr oedd yn ferch i Mr William Jones, Shirehall-street, yr hwn a ymfudodld at ei dri mab i fyw i Philadelphia, America, flynyddoedd lawer yn ol. Dawns.—Nos Lun, yn Ngwesty y Sportsman, cyn- haliwyd dawnsfa. Daeth 60 o foneddigesau a bon- eddigion yn nghyd, a chedwid v ddiawns i fyny hyd ddau y boreu. Rhingyll G. Roberts ydoedd meistr y seremoniau. Darparwyd v wledd gan Mrs a Mr closs Davies. Llys yr Ynadon.—Dydd Llun, o flaen y Maer ac ynadon eraill, gwnaeth Mr R. Gordon Roberts gais am drosglwyddiad trwyddedau y Market Vaults i Mrs Armsden yr Arvon Tavern i Thomas Williams, Bontnewydd a'r Gomer Tavern i D. Hughes. Can- ia.tawycl yr oil.—Am drespasu ar dir Mr J. Issard Davies i chwilio am helwriaeth, ac am roddi enw anghywir, dirwywyd Evan Griffith, Little Chapel- street, i 20s a'r costau. Gorchymynwyd i John Yaggarazi, masnachydd yn y "chip notatoes," dalu y costau am gadw ei siop yn agored ar ol un-ar-ddeg o'r gloch.—Gyhuddwyd Margaret Daniel Saddler, Ellen Edwards, a Mary Evans, yr oil o Baptist- street. or greulondeb tuagat eu plant. Rhoddwyd tystiolaeth gan yr Arolygydd Rowlands fod y tai vn y rhai yr oeddynt yn byw yn ddychrynllyd o fudron. ac yn rhy afiach i bobl fyw ynddynt, ac fod y plant yn haner newynog. Cafodd yr achosion eu gohirio am ddau fis, ■ • rhoddi cyfle i'r gwragedd ddiwygio. -Am. fod ye: ac afreolus cafodd Hugh Wil- liams (Kugli ,J().o. key) ei ddirwyo i 5s a'r costau.— Ymddangotai Mr Bodvel Roberts ar ran y Cynghor Trefol, yn gofyn am archebion i gau tai neillduol yn Spring-place, dros ba rai yr oedd Mr C. W. Roberts yn oruchwyliwr. ty eiddo i Mr R. Howard, a thai eiddo i Mrs Lloyd Roberts, yn South Penrallt a British School Court, y rhai a honid oedidynt yn afia.ch i fyw ynddy-it. Ymddangosai Mr Richard Roberts dros Mr C. W. Roberts, a Mrs Lloyd Ro- berts gyda. Mr R. G. Davies dros Howard. Caniata- wyd yr archebion i gau, neu wellhau y tai yn ddioed. —Gorchymynwyd ar i R. G. Jones, Pool Side: Owen Jones, Stnr Inn a Margaret Bracegirdle, i symud eu hanifeiliaid o ystablau a beudai afiach. RSioddion Haelionus.—Nos Sadwrn gwnaed yn hvsbys gan Mr Silvester ei fod yn bwriadu cyfranu at y sefydliadau rhagorol y Cottage Hospital, lOp 10s St. Mark's Home, lOp 10s; a 5p 5s i'r Lifeboat Institution. Claddedig, -Prydnawn dydd Mawrth hebryng- wyd yr hyn oedd farwol o'r diweddar Mr Ellis Wil- liams, 37, Bridge-street, i dy ei hir gartref, i fynwent Llanbeblig. Yr oedd y cynihebrwng yn un cyhoeddus i ddynion. Bydd yn ohwith ar ei ol yn Caersalem, o'r hon Eglwys yr oedd yn aelod dichlynaidd. Damwain Ddifrifol.—Nos Sadwrn oddeutu haner awr wedi deg, rhwng Caernarfon a Dinas Junction, fel yr oedd nifer o ddynion ieuanc o Rhostryfan yn dychwelyd gartref yn ngherbvd marchnad yn cael ei yni gan Mr Ellis Hughes, Wernlas Ddu, a phan yn agos i Lodge y Dinas syrthiodd Thomas Williams a Griffith Thomas. Rhostryfan, y rhai oedd yn eisr- tedd ar sedd y gyriedydd, i lawr i'r ffordd. Cyn llwyddo i stopio y cerbyd aeth yr olwyn tros gorph Williams, a thorwyd amryw o'i asenau. Diangodd Thomas gydtg end ychydig archoll i'w ben. Clud- wyd Williams i dy cyfagos, ac anfonwyd am Dr. Parry, Bontnewydd, yr hwn a gyrhaeddodd yn ddi- ymdroi. Gorchymynodd y meddyg symud y dioddef- ydd i'w gartref, yr hyn a wnaed oddeutu un o'r gloch foreu Sul. Deallwn fod y gwr ieuanc anffodus yn parhau mewn cyflwr peryglus. Da.rlith.-No,s Lun, yn y Guild Hall, bu Mr H. H. S. Pearce, gohebydd rhyfel y "Daily News, yn traddodi darlith ar y testyn "Abu Klea i Khartoum." Yn ystod ei sylwadau profodd nad oedd rhith o wir- ionedd yn y cyh/uddiadau fod y milwyr oeddynt o dan arweiniad Arglwydd Kitchener yn euog o honynt. Cynorthwywyd gan Mr R. D. Williams gyda'r "magic lantern." Ar gynygiad y Cadben R. Jones. North-road, yn cael ei eilio gan Mr Henwood, pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i'r dajlithydd a Mr R. D. Williams hefyd i'r Cadeirydd. y Lieu- tenant-Colonel Ruck. y prif gwnstabl. Y Pavilion.—Y mae yr atdyniadau yn y Pavilion mor boblogaidd ag erioed. Yr wythnos hon, yn ol trefniadau. ydyw yr wytlmos ddiweddaf a chymer cystadleuaethau mewn unawdau a deuawdau le ar hyd yr wythnos, gyda chystadleuaeth y corau meib- ion nos Sadwrn. Y beirniad fydd Mr Emlyn Evans.
rCRICCIETH.
r CRICCIETH. Bwrdd Ysgol.—Cynlialiwya cyfarfod o'r Bwrdd nos Iau, y Parch John Owen, M.A., yn llywyddu. —Penderfynwyd rhoddi llythyrau canmoliaeth i'r MissesParry yti uiiol a:u cais.Am y swydd oswyddog gorfodoL yr ymgeiswyr oeddynt Mri William Owen, Union-row; Lewis Williams ac Owen R. Hughes. Yr olaf a ddewiswyd.—Rhoddwyd; bp o ychwanegiad yn nghjrflog Miss Mary Ellen Parry. -Dy-wedodd y Parch J. Lloyd Jones ei fod yn dy- muno gohirio ystyriaeth "manifesto" gan Esgobion Llundain a Rochester yn nglyn ag addysg grefyddol yn yr ysgolion dyddlol. Yr Ystorm.—Yn ystod yr vstorm ddydd Iau, fel yr oedd gwas fferm Llwynbwygeledd, ger Criccieth, yn rroddi pen ar y das wair. sef "corrugated iron roof," cbwythwyd y nen zyda?r gwas bellder o oddeutu 50 o latheni. Torodd y gwas ei fraich, ond ( yn godus ni dderbyniodd ychwaneg o niweidiau.
DYFFRYN NANTLLE AR AMGYLCHOEDD.…
DYFFRYN NANTLLE AR AMGYLCHOEDD. j Pwnc y dydd yn jy Dyffryn y dyddiau hyn ydyw y gyfraith rhwng meddianydd Melin Bryngro a plwrf Llanllyfni yn nghylch y dwfr o Cwmdulyn, yr hon a gynhelir yn Llundain rai o'r dyddiau nesaf. Gresyn na allesid cytuno cyn myned i gostau, yr hyn, ar y goreu, fydd ganoedd o bunau yn ddian. Amser a ddengys pwy fydd vr enillydd.
,FFESTINIOG A'R CYLCH.I
FFESTINIOG A'R CYLCH. I Y Wesleyaid.—CjTihaliwyd cyfarfod chwarterol y gylchdaith yn Maentwrog, a chafwyd fod 21 o gynydd yn ystod y flwyddyn yn rhif yr aelodau. Dewiswydi Mr J. W. Jones, Blaenau, a Mr G. Jones, Trawsfynydd, yn oruehwyliwr y gylchdaith am y flwyddyn. Gwahoddwyd y Parch David Pughe i aros yn y Llan am flwyddyn arall.—Ar hyd yr wyth- ¡ nos bu y Parch Hughes Jones, cadeirydd Gogledd Cymru, yn pregethu yn Nghapel v Blaenau. Yr oedd y weinidogaeth yn nerthol dros ben. Y Cymdeithasau.—Cafwyd tri anerchiad yn Nghymdeithas y Gwyr Ieuainc nos Iau-Mr William Jones ar "Onestrwydd," Mr W. R. Owen ar "Rag- farn," a Mr T. H. Jones ar "Hunanoldeb."—Yn Nghapel Brynbowydd cafwyd papyr ar "Dr. Arthur Jones" gan .Mr E. 0. Williams.—Yn Nghymdeithas Eglwyswyr y Llall traddododd v Parch D. Richards, I M.A., Blaenau, ddarlith ar "Darddiad Dyn."—Yn N ghymdeithas Bethel, Llan, cafwyd adolygiad ar waith y flwyddyn ddiweddaf,yn wladol, gwleidyddol, a chrefyddol. I Cymdeitlias yr Athrawon.—Prydnawn Sadwrn cynhaliwyd cyfarfod perthynol i athrawon yr ysgol- ion elfenol. Llanwyd y gadair i'w hymylon gan ein ficer doniol, y Parch D. Richards, M.A.. gan yr hwn y cafwyd anerohiad meistrolgar dros ben. Dilynwyd ef gan Mr Marshall Jackman, Llundain; Mr Tilby, Rhyl; ac eraill. Yna ca.fwyd te, a chan neu ddwy yn ystod yr amser. Diau y bydd cyf- newid syniadau fel hyn yn iles i'r Bwrdd Ysgol a'r athrawon. Cwymp Difrifol.—Wrth ddilyn ei orchwyl fel creigiwr yn "fall" Chwareli Oakeley syrthiodd Mr Cadwal'adr Lewis, Bodafon. fel careg i lawr i ddyfn- der o tua thri ugain llath. Cafodd niweidiau i'w holl gorph, ond yn benaf i'w gefn a'i ben. Yr oedd mewn cyflwr gresynus ac ymollyngol pan godwyd ef i'w gario i'r yspytty. Syndod yw ei fod yn fyw. Gweinyddwyd arno gan y Meddygon Roberts a Jones. Cynghaws Chwarel Rhiwbach.—Dl'o yn ol, bu "Mr Thomas Jones, cofrestrydd Llys Manddyledion Porthmadog a. Ffestiniog, yn gwrandaw ffeithiau a dadleuon yn achos Edwards yn erbyn Harris. Yr oedd Mr Richard Edwards, Rhiw, Bethel, Penrhyn- deudraeth, wedi cymeryd gwaith trwy gytundeb gan berchenog Chwarel Rhiwbach, Cwm, Penmachno a'r mater i'w benderfynu gan Mr Jones, fel canolwr, oedd—hawl y goruchwyliwr i dori v cytundeb pan yr ystyriai ei fod yn ddoeth gwneud hyny. Dewis- wyd Mri David Pritchard, C.E.. Brithwernydd, Pen- rhyn, a Moreland Johnson, C.E., Blaenau Ffes- tiniog. yn gyfla.fareddwyr, 1"Vda Mr Jones yn ganol- wr. Yn awr y mae y Ca.nolwr wedi rhoddi ei ddy- farniad fel y canlyn :—Fod Harris i dalu 19p 4s He am y gwaith wnaed eisoes, a 7p 10s fel iawn am dori cytundeb. Buddugoliaeth fawr i'r gweithwyr yw hon, fel y gwelir. HEDDLYS BLAENAU FFESTINIOG. Dydd Iau, o flaen Mr 'E. P. Jones ac ynadon eraill. Cadw Ci Heb Drwydded.—Yr Heddwas J. D. Davies a gyhuddai William Owen, Maenofferen- street, o gadw ci heb drwydded.—Gorchymynwyd iddo dalu cost y drwydded, a cbostau y llys—18s 6c. Meddw ac Afreolus.—Cafodd y personall canlyiyd eu dirwyo am fod yn feddw ac afreolus :-Edward Jones, Maenofferen-street, Is a'r costau; Griffith Parry, Taliesyn-terrace, Is a'r costau John Davies, Rhiw, 10s a'r costau William Jones, Rhydygro, 10s a'r costau John Williams, New Market-square, 10s a'r costau Richard Williams, Parry's-terrace, 10s a'r costau; James Davies, Bwlon Hwfa, 5s a'r costau. Teithio Mewn Tren Anmbiriodl.-T. H. Hoven- den, goruchwyliwr y Festiniog Railway, a gyhuddai David! Evans, Madoc-street, Portbmadog, o deithio gyda tlrrt|n anmhriodoi Riha.gfyn 14eg. Dirwywyd' ef i Is a'r costau.—Cyhuddwyd Edward Lewis, Penrhyn, o drosedd cyffelyb Rhagfyr lOfed. Tynwyd yr achos yn ol ar daliod y cludiad a'r costau. Symudiad yr Arolygydd Morgan.—Y Cadeirydd a sylwodd mai hwn oedd y llys diweddaf geid cyn i'r arolygydd adael y dosbarth. Dymunai dros y Fainc ddatgan iddo wneud ei waith i'w boddlon- rwydd, ac na chafwyd achos i gwyno am ddim a. wnaeth yma nac yn Ilys y Penrhyn. Dymunent ei lwyddiant yn ei le newydd. Cadwraeth y Ferch.-William Thomas, swyddog elusenol y Gwarcheidwaid, a ofynai Daniel Row- lands, Bethania., i dalu at gadw ei ferch, Maggie, oedd yn awr yn y tlotty ers Mehefin 14eg. Gwnaeth yr Ynadon arc heb fod y plentyn i fod dan ofal meistr y ty, a, bod y tad i daJu 2s yr wythnos o'r swm oedd yn ddyledus cyn y llys, a 2s yr wythnos am ei chadwraeth yn y tlotty.
GARN DOLBENMAEN.
GARN DOLBENMAEN. Am Dro yn 01 i Ddechreu y Flwyddyn 18. Ar ddechreu Blwyddyn Newydd fel hyn y mae y synwyr hwnw sydd yn hysbvs i bawb a elwir y cof yn ein hadgoffa y naill flwyddyn ar ol y llall am rhyw dd igwyddiadau bywyd. Ymae Iluaws mawr o ddarilenwyr y "Gwalia" wedi tw--led "of- nodiad ers ychydig fisoedd yn ol yn dangos rhestr o hen bobl a fu farw ddechreu y flwyddyn ddiweddaf, y rhai, pan yn gadael byd o amser, oeddynt, wedi cael byw i wth o oedran, ac wedi gweled llawer tro ar fyd, yr hyn sydd yn profi ac yn cadarnhau I dywediad y diweddar Dr. Roberts Poitbmadog "Fod y Garn yn un o'r lleoedd iachusaf yn Ewrop." Ond yn y Garn, fel yn mhob gwlad arall, mae angau yn dyfod at henafgwr fel y baban yn ei gryd. Mae yn cymeryd ymaith bob oedran, neu, fel y canodd un o hen feirdd Cymru ers llawer iawn o flynydd- oedd Mae angau fel medelwr, A'i gryman yn ei law: A phan bydd wrth ei orchwyl Fe ddyru fro mewn braw. Mae'n medi er amser Adda, A medi mae o hyd Ni rydd ei orchwyl heibio Nes medi'r maes i gyd. Ac felly y bu yn yr ardal hon vn ystod y flwyddyn ddiweddaf. Llawer baban bach. a phobl ieuainc, a phobl mewn oed a, gymerwyd ymaith, rhai de"ziydd- iol iawn, yn nghanol eu defnyddioldeb. Rha.i ddigon o rybudd, trwy gystudd maith eraill yn dra sydyn, fel y crybwyllasom am un yr wythnos ddi- weddaf yn ein newyddiadur. Ond er ein bod wedi edrych ar yr oclir dduaf yn gyntaf, mae yma ochr arall iddi hefyd. Mae yma lawer o bethau defnydd- iol iawn wedi dyfod i'n plith. Yn gyntaf, yr ydym wedi cael y "telegraph" yma o Borthmadog, a rhaid i ni oil addef fod hwn yn anhiebgorol i Ie. fel y Garn yn gyntaf, ar achlysur o afiechyd sydyn. Pan eisiau meddyg, rhaid anfon i Borthmadog, saith milldir c ffordd; neu i Benygroes, agos i ch-we! milldir eto; ac yn ail, y mae yn hwylus iawn i'r masnachwr. Peth arall mewn lie tawel fel y Garn, y tnae yma seindorf flodeuog iawn, yr hwn, wrth gwrs, sydd yn ccdi dipyn o fywyd yn y lie. Ac y mae yma adeiladu llawer o dai wedi bod, ac hefyd y mae yma adeiladu egIwys newydd yn y He. Nid ydyw y Garn chwaith ddim wedi bod ar ol yn magu beirdd, a chantorion, a llenorion, yn gystal a hynafiaethwyr; ond y maent wedi symud i fvw i leoedd eraill, neu wedi myned i ffordd yr holl ddaear, fel nad oes ond un yn aros yn y lie, sef Ieuan Dwyfach. Un arall blodeuog iawn ydoedd Myfyr o'r Coed, yr hwn ga'dd ei dori i lawr yn yr oed cynarol o 29, ac nid oes yn hen fynwent Dolbenmaen dlysach beddargraplf nag iddo ef o eiddo Garneddwen- Gwr hynaws, gwir awenydd-aedd ein bardd Yn ei boen ar gynvdd Ar uniawn ddelw ei Brynydd, Fore'r Farn, Myfyr fydd. Ac i ddarllenwyr y "Gwalia" nid annyddorol ar ddechreu y flwyddyn yma, os y cawn fywyd ac iechyd, fydd cael ychydig o hanes y Garn yn y blynyddoedd a aethant heibio. Llawer tro trwstan, a llawer dywediad digrif, a llawer hen gymeriad dyddorol sydd i'w cael ar hyd y blynyddoedd. Ac felly mi gadawn hi yn y fan yna. y tro yma.—Min-y- Ilan.
LLANRWST A'R CYLCH.
LLANRWST A'R CYLCH. Tan.—Tua haner-awr wedi chwech boreu ddydd Mercher clywyd gwaedd Tan Tan ar hyd heol- ydd Llannrst. Torodd y tan allan yn y Star Vaults, ond Hwyddwyd i'w ddiffodd cyn i nemawr niwed gael ei wneud. Daeth nifer o'r tan-ddiffodd- wyr i'r lie yn ebrwydd. ond nid oedd galw am eu gwasa.naeth. Marwolaeth Mrs Jones, Cartref.-Gofidus genym gofnodi am farwolaeth y foneddiges garedig uchod. I Yr oedd wedi myned i aros ychydig i Seaforth, Lerpwl, lie bu farw nos Lun; a chladdwyd Ei yn Mynwent Seion, Llanrwst, ddydd Gwener. Yr oedd yn fam dyner a charedig, ac mae dwy ferch yn galaru yn fawr ar ei hol. Torwyd hi i lawr yn ei 54 mlwydd o'i hoedran. Cymdeithas Dorcas Bettwsycoed.-Dydd Sadwrn cafwyd cyfarfod te a chystadleuaeth nodedig o Iwyddianus fel arferoL Cafodd y tlodion trwyr plwyf wledd o de a bara brith, a naw o honynt bunt yr un, ac ugain o honvnt bymtheg swllt yr un. Yr oedd y cyfarfod cystadleuol yn yr Wyr vn un dyddorol iawn, a Gutyn Arfon yn ei hwyliau 1 goreu yn anvain. LLYS YR YNADON. Dydd Llun, o flaen y Milwriad Johnstone ac ynadon eraill. Tadogi.—Mary Jones Roberts, Scotland-street, a :gyhuddodd A. Roberts o fod yn dad i'w phlentyn angiiyfreittilon.-Arclieb am haner-coron yr wyth- nos. Meddw ac Afreolus.—Heddgeidwad Jones a rrv. huddodd James Morris, Scotland-street, o'r trosedd hwn yn Denbigh-street.—Dirwy, swllt a'r costau. Meddw.—Yr AroLygydd Jarvis a gyhuddodd Ro- bert Taylor, Scotland-street, o'r trosedd hwn.— Dirwy. swllt a'r costau. Trosglwyddo Trwyddedau. T rosglwv ddwy d trwydded Crescent Inn, Llansantffraid, 0 i Edward Jones; ac eiddo Crown Inn, Llanrwst, i John Grif- fith. Herwhela.—Cyhude^wyd W. 0. Batten, H. Jones, ;w E..JuUb. II Tod ,n tl'e')aS,l ar d:r llelwrlneth.- Dadleuid, mown tiniddilfyniad, fod tranddynt hawl, trwy l'awnodiael y tir-ddaliwr.—Dirwywyd Batten 5s a'r costau. i'r d(l;i,ii arall i haner hyny. Chwareu Ei Gampiau ar v Rheilffordd.—Mr Fen- na., cyfreithiwr Cnmni y f/ondon and Nortli-Western, a gyhuddodd Edward .iackson, torwr ceffylau, o aflonyddu ar y teithwvr yn y tren rhwng Llanrwst a. Talycafn.—Cyhuddwyd ef yn mhellach o ymosod ar Mr Webb. gorsaf-fcii-tr Talvcafn, yr un noson.— Ymddangosodd Mr J. G. Humphreys ar ei ran, ac addefwyd y troseddau.—Dirwy, 2p a 2p 10s.
PORTHMADOG.I
PORTHMADOG. Llwyddiant.—Y mae Miss Owen, o'r Llytliyrdy, wedi myned yn llwyddianus drwy arholia,d cysylltiol a'r Llytliyrdy. Yr Ystorm. -Tcinilwyd holl rym yr ystorm yma ddydd Ian, ond yn ffodus ni wnaed dim niwed er i amryw gorn-sumddeiau gael eu chwythu ymaith. Addysg Gan oliiddol. Wener, gerbron cymdeithas lenyddol y Capel Seisnig, Mr J. Rhys Evans, M.A., yn llywyddu, cafwyd papyr galluog a dyddrxrol ar addysg yn. Nghymru gan Dr. Win. Jones-Morris, a chafwyd sylwadlau pellaob gan nifer o'r ae'o(laii. Cjmdeithas y Garth.—Nos Lun, Mr William Jones (Ffestinfab) yn y gadair, caed dadl ar "Pa un ai y Uygaid ai y glust a weinydda fwyaf o fwyn- had? Ag(;r\ryd mewn papyrau da. gan Miss Kate Lewis, Bellue Vue. a Mr William Owen, Terrace- road. Dilynwyd gan amryw eraill, a chafwyd mwy- afrif sylweddol dros y llygad. Anrhegiad, e-t.c.-Y ma.e Miss Elizabeth Helen Humphreys, merch 'hynaf Mr a Mrs R. G. HUJm- phreys, High-street, wedi dletrbyn penodiad pwysig yn Yspytty Frenhinol Gloucester. Ar ei hym- adawiatl o'r dref cyflwyniwyd iddi Feibl (Oxford) haxdd fel cydnal>ydcliaeth| o'i llafur ffyddlon fel aihrawes yn Ysgol Sul Eglwys Tremadog, lie yr oedd hefyd yn organydd. Gwnaed yr anrhegiadi gan y Parch R. H Williams, curad. Cymdeithas Lenyddol y Tabernacl.—Cynhaliwyd cyfarfod o'r gymdeithas uchod nos Lun, dan lywydd- iaeth Mr David William, Ivy House, pan y gwas- anaetliwyd ynddo gan rai o, oreuon eylchwyl lenyddol Nadolig y Tabernacl, fel y canlyn:—Ad- roddiad, "Beth fyni fod," gan Master Alun Wil- liams, Park-square: oboe solo gan Mr Walter Mc- Lean; detholiad o'r prif draethawd, sef "Pwyeig- rwydd o feddu amcan priodol mewn hywyd," gan Mr Emlyn Jones, High-street; unawd gan Miss Elizabeth Jones, Snowdon-street; adroddiad, "Ben yn y ffos, gan Master Ed. Owen Jones, High- street adroddiad y gan ddesgrifiadol "Y Farchnad Gymreig" gan Mr W. M. Jones, cyfreithiwr clari- net solo gan Sergeant Hammond. Darllenwyd y "Ilythyr desgrifiadol" gan Mr J. R. Prichard, T.H., o eiddo Mr 0. D. Griffith, Garth. Terfyn wyd y cyfarfod trwy gael y "musical drill" gan ugain o fechgyn, o dan aiweiniad Mr R. G. Prichard. Bwrdd Ysgol.—Cynhaliwydi v cyfarfod misol nos Fercher, pan yr oedd yn bresenol Air D. R. Thomas (cadeirydd). Mr Richard Hughes (is-gadeirydd), v Parch W. Ross Hughes, Dr. William Jones Morris, 1 Mri J. E. Jones, H. Parry, E. W. Roberts, a Wil- liam Morris Jones (clerc).—Pasiwyd i ychwanegu cyflog Miss M. G. Parry, meistres gynorthwyol v Borth, i 45p y flwyddyn.—Anfonodd Mr W. D. Jones, Morfa Bychan, hefyd am godiad yn ei gyflog, a. chaniatawyd iddo 5p.—Darllenwyd adroddiadau arolygydd Ei Mawrhvdi mewn perthynas i'r ysgoI. ion. a chydag un eithriad, yr oeddynt oil yn dra boddhaol. Y CYNGHOR DINESIG Cynhaliwyd cyfarfod misol v Cynghor prydnawn ddydd Mawrth. pan yr oedd vn bresenol: Mr David Morris (is-gadeirydd) yn llvwyddu, Dr. William Jones Morris, Mri Jonathan Davies, Robert Isaac, John Hughes, Henry Roberts. Richard Newell. Wil- liam Pritchard. David Williams, Ebenezer Roberts, R. P. Lewis, Griffith Roberts, Morgan) Jones, John Jones (clerc). a Thomas Harris' (arolygydd). Hysbyswyd fod Mr Cadwaladr Griffith, Snowdon- street, a Mr William Pritchard, New-street, wedi cydsynio a dymuniad y Cynghor i dynu i lawr adeiladau ystyrid yn groes i'r man-reolau. Derbyniwyd llythyr oddiwrthi Mr C. S. Denmss, rheolwr Cwmni Rheilffordd v Cambrian, yn hysbysu fod y cyfarwyddwyr wedi penderfynu gwneud gwell- iantau yn ngorsaf y rheilffordd er dyogelwch teitb- ie wyr.—Nid oedd Mr Newell yn ystyried fod yr ateb- iad' yn un boddhaol, gan y gofynid am bont er cyfleusdra teithwyr dros y "crossing," ac efe a gynygiodd fod iddynt ysgrifenu ato yn nghylch hyn. —Eiliwyd gan Mr David Williams, a phasiwyd. Pasiwyd i roddi gwysiadau allan yn erbyn y per- sonau hyny oeddynt yn gwrthod' ufud'dhau i rybudd* ion y Cynghor mewn perthvnas i droi geu-dai yn "water closets," ac i symud ymaith "nuisances," etc. Bu cwestiwn goleuo Highi-street a IThremadoj? dan ystyriaeth Pwyllgor Amcanion Cyffredinpl, a chyfeiriwyd y mater yn mhellach i sylw is-bwyllgor. Mabwysiadwyd nifer o blaniau, ac yn eu plith eiddo twr Eglwys St. loan. Dygodd yr Arolygydd gynllun diwygiedig ger- bron yn nglyn a'r gwelliantau bwriadedig i neuadd y farchnad, a chyfeiriwyd hwv i bwyllgor. RHEILFFORDD BEDDGELERT. Dygodd Mr Jonathan Davies ei gynygiad vn mlaen yn galw sylw at y cais a wneir yn awr am awdurdod i wneud rheilffordd o Rbyd-ddu i Fedd- gelert, a'r effaith niweidiol a gaffai y cyfryw reil- ffordd ar fasnach Porthmadog. Dywedodd fod boneddwr mewn cysylltiad a'r North Wales Narrow Gauge Railway, o'r enw Mr Russell, wedi gwneud ca.is am archeb dan Ddeddf Rheilffyrdd Ysgafn i wneud rheilffordd o Rhyd-ddu i Feddgelert. Os y caniateid hyn byddai yn sicr o fyned yn erbyn v syniad o gael rheilffordd o Borthmadog i Bedd- gelert. Ei gred ef ydoedd fod cynlluniau y rneil- ffordd fwriadedig wedi eu tynu allan yn y fath fodd fel ag i fod yn atalfa, os nad yn rhwystr, i unrhyw reilffordd o Borthmadog. Os gwneid y llinell fe gymerai ymaith lawer iawn o fasnach oedd eisoes vn bodoli, ac yn enwedig masnach y dyfodol. Nid oedd! ef yn credu y byddent fel Cynghor yn gwneud eu dyledswyddau tuag at y trethdalwyr a pherchen- ogion eiddo yn y dosbarth os na fyddai iddynt wneud rhywbeth yn erbyn y rheilffordd fwriadedig, a dyient ar bob cyfrif gefnogi llinell i redeg o Borth- madog i Rhyd-ddu. Yr oeddynt hwy yn Mhorth- madog wedi dangos yn barbaus nad oedd araynt eisiau y rheilffordd redeg i Beddgelert yn unig, ond hefyd i Rhyd-ddu. Yr oedd vchydig wahaniaeth barn rhyngddynt oddeutu blwyddyn yn ol, nid yn gymaint yn erbyn rheilffordd, ond y dull o'i chario yn mlaen. Pan yr oeddynt vn awr yn canfod perygl oddiallan credai y dyient gau eu rhengau, -i suddo pob man wahaniaeth, n dyfod yn mlaen yn eofn a dweyd fod yn rhaid iddynt gael rheilffordd i Rhyd-ddu, a chefnogi hvrwyddwyr y fath linell. Yr oedd hyrwyddwyr y rheilffordd ysgain o Borth- madog i Rhyd-ddu yn parhau i symud yn mlaen, ond yr oedd arnynt angen cefnogaeth. Yr oeddynt wedi gwario swm mawr o arian-ac nid oedd dim rheswm pabam yr oeddynt yn gwneud hyny mwy na'r Cyng hor—ond yr oeddynt yn gwario yr arian er lies v cvhoedd. Un ffordd i gefnogi yr hyrwyddwyr oedd trwy gael mwy o bersonau neu nwdlurdodau i uno a hwy. Yr oed-d un boneddwr galIuog-ni chaninteid iddo ei enwi—wedi ymuno a hwy yn wirfoddol. Gallai y Cynghor, yr un modd, uno fel hyrwyddwyr, a gallent gyfyngu eu cyfrifoldeb i unrhyw IfWm ddewisent. Ffordd1 arall i'w cefnogi oedd trwy gyf- ranu tuag at y treuliadau rhagbarotoawl. Ffordd arall oedd ymddangos gerbron v Dirprwywyr i wrth wynebu Mr Rusll. Nid oedd' yn sicr a fyddai ganddynt hawl i hyny, ond os nad' oedd ganddwt gallent wneud deiseb gref yn erbyn cais Mr Russell os na estvnid y rheilffordd i Borthmadog. A pheth arall, gallent a-pelio at awdurdodau Etifeddiaoth Madoc, gan ddangos allan y perygl oedd yn bygwth y lie, a gofyn iddynt un ai muno fel hyrwyddwyr neu ddangos en cydymdeimlad a'r cvnllun, ae nid aroo yn "neutral1" fel o'r blacn. Pyma y pedwar peth oedd wedi d'od i'w feddwl. Nid oedd am gynyg yr un o honynt heddyw, ond, fel aelod o'r Cynghor ac fel trethdalwr, ni theimlai y byddai yn gwneud ei ddyledswydd pe v gadewai i Mr Russell fyned' yn mlaen heb ddweyd' vn blaen ei fod ef (Mr Davies) yn ystyried fod pervgl dirfawr i ddyfodo! masnach y gymydogaeth. Y Cadeirydd Y mae yn fat-er pwysg iawn. A oes genych cliwi.Mr Davies.unrhyw syniad a oes gan y Cynghor amser ai peidio i ystyried y mater? Dywedodd Mr Davies nad oedd yn gwybod. I Mr Newell: A wyddoch cliwi pa bryd y bydd i'r I Dirprwywyr gynal ymchwiliad? Mr Davies Nid wyf yn meddwl eu bod wedi penodi y dyddiad, ond yr wyf yn deall eu bod yn ewy!lysga.r i dd'od yn y gwanwyn, ac yr wyf yn meddwl y bydd iddynt y pryd hwnw ystyried y cidau gynllun os eir yn mlaen gyda'r cynllun o Borth- madog. Gofynai Mr Henry Roberts onid oeddynt braidd yn hunanol yn gwrthwynebu rheilffordd i Bedd- gelert am na cheid hi i Borthmadog? Mr Jonathan Davies a ddangosodd y gwnai hyny ddrwg i'r ardal, ac mai y cwrs naturiol oedd myned neu ddyfod o Borthmadog. Y Cadeirydd a ystyriai y byddai beth bynag a wnacnt hwy yn sicr o gryfhau dwy law yr hyrwydd- wyr. Mr Morgan Jones a ddywedodd na. fuasai ef yn leicio gweled Mr Russell yn cael ei gynllun i Fedd- gelert. Buasaj ef, fel un, yn gwrthwynebu. Mr Robert Isaac Ond a wnewch cliwi gefnogi cynllun Porthmadog? Mr Morgan Jones a ddywrdodd nad oedd van Mr Isaac bawl i ofyn hyn. Qrnygiodd Mr Newell "Ell bod yn deisebu Dir- prwywyr Rheilffordd Y sgafll vn erbyn cynllun bwr- iadedig Mr Russell i gael rheilffordd o Rhyd-ddu i Feddgelert, ond ein bod yn cefnogi cynllun rheil- ffordd drwodd o Borthmadog i Rhyd-ddu." Eiliwyd gan Mr Jonathan Davies. yr hwn a ddywedodd na fuasai yn gwrthwynebu i Mr Russell pe na fuasent iiwy yn alluog i gynyg rhywbeth gwell. Gofvnodd Mr R. P. Lewis a oedd unrhyw debygol- rwydd' y delai cynllun Mr ^ussell a'r rheilffordd i Borthmadog ? Dr. William Jones Morris a ddywedodd nas gallent wrthwynebu cynllun Mr. Russell oddigerth ar y tir nad oedd yn gyflawn hyd nes y deuid i Bortlimadog. Cafodd y cynygiad ei gario vn ddiwrthwynebiad. Yna rh'oddodd Mr Jonathan Davies rybudd o'r cynygion canlynol, er mwyn eu trafod yn y cyfar- fod nesaf, sef:—"Kin bod yn vmddangos gerbron v Ddirprwyaeth trwy far-gyfreithiwr ein bod yn d'od yn un o hyrwyddwyr y rheilffordd ein bod yn cyfranu tuag at y treuliadau rhagbarotoawl; a'n bod yn ceisio cael Etiiecldiaeth Madoc i gefnogi v cynllun oddiyma i Rhyd-ddu." Yn ystod y mis yr oedd Mr David Jones, "over- seer" cynorthwyol, wedi casglu 223p 6s lc o dreth y tlodion. Deisebai trigolion Britannia terrace yn erbyn cyflwr y ffordd, ac ar gynygiad Mr Newell, yn cael ly ei eilio gan Mr Jonathan Davies, pasiwyd i aI" sylw dioed cynrythiolwyr Ystad Tremadog at v IDOJwr-Yr oedd cyffelyb oddiwrth .Mr S. Harrow parthed y ffordd ger v Felin Fla.wd.Rys- byswyd mai nordd yn perthvn i'r ystad oedd" hon iheCyd,. ond fe benderfynodd y Cynghor ei had- gyweirio hyd at y gwaith nwy ar gyfer y felin.
PWLLHELI.
PWLLHELI. Marwolaeth Cadben Lewis.-AVedi maith gystudd, bu Cadben Lewis, Whitehall Hotel, farw yn ei 58ain mlwydd oed, ros Fawrth, a chladdwyd ef ddydd Sadwrn. Bwrdd y Gwarcheidwaid.—Mewn cyfarfod arbeiiiv ddyd'd Mercliertdi,oddodd Meistr y ty (Mr Watkins) fod Cadeirydd y Bwrdd (Mr J. T. Jones) a Dr. Hunter Hughes wedi rhoddi gwledd o de i'r deiliaid, baco i'r hen bobl, a bara, brith, etc., i'r plant. Hefyd, ar y 29ain cynfisol, rhoddwyd gwledd iddynt gan athrawon yr Ysgol Sul, yn nghydag aur-afalau, 11 11 el myglys, etc. Yn yr liwyr, cafwyd arddangosiad gyda'r "magic lantern" gan y Parch J. J. Jones (A.), a chynhaliwyd cyfarfod cystadleuol, pan y rhoddwyd gwobrwyon am ganu, etc. Llywycktwyd gan Mr Richard Williams, Abererch-road, yn absenoldeb v Maer (yr Henadur Anthony). yr hwn oedd wedi anfon darn aur at roddi gwobrwyon. Cyfranodd Mr Evan R. Davies, clerc trefol. hefyd arian. a chafwyd "toys" a phapyrau gan y Parch John Prit- chard, Pwllheli. Y Cynghor Trefol.—Dydd Mawrth cynhaliwyd cyfarfod o'r Cynghor. y -NJaer (yr Henadur Anthony) yn llywyddu.—Mewn perthynas i adael ceryg calch yn y borthfa, cyfeiriwyd y mater yn mhellach i bwyll- gor.—Darllenwyd adroddiad1 Pwyllgor y Neuadd Newydd a'r Farcbnadfa, yn cymhell peidio gofyn am y tir ddelir gan Mr W. Edwards, y Crugan, ond boddloni ar y tir sydd ganddynt at adeiladu neuadd a ddaliai 1300,a llys-ystafell sryda hyny,a marchnadfa islaw.—Pasiwyd yr adroddiad. -.0'1' Pwyllgor Cvffredinol o'r holl Gynghor darllenwyd llythyr yn cynwys telerau Mr Assheton Smith, trwy ei orueh- wyliwr (Cadben Stuart), yn cynwys caniatad, ar amodau, i gael ceryg o'r graig yn ngwinllaji y Mri Dickinson.—Cynygiai Mr Cledwyn Owen dderbyn vr adroddiad, a'r llwybr a enwyd, tua y "Penmaen" i'r Ala-road:, tra. y cynygiai Mr J. Williams y llwybr pellaf. Caed chwech tros bob cvnyg, ond rhoddodd y Maer ei bleidlais tros gynulliad y pwyllgor, a. hyny basiwyd.—Darllenwyd argymhellion yr arolygydd (Mr Dickinson) a'r cynllun synygiai mewn perthyn- as i ledu y Cob. Golygir lledu y ffordd i fod yn 50 o droedfeddi, cymaint arall ag ydyw yn awr, a rhoddi arni dramffordd o'r dref i South Beach. Pleidleisiodd un-ar-ddeg dros hyn, a phasiwvd i wahodd cynygion. —Ar gymhelliad y Maer, a chefnogiad Mr Cledwyn Owen, pasiwyd i ohebu a Bwrdd y Gwarcheidwaid1 a'r Cj-nghor Dosbarth gyda srolwg ar y fantais o gael cottage hospital i'r dref. 15 Claddedigaeth Dr. Evans.—Cymerodd claddedig- aeth Dr. Henry Evans le prydnawn ddydd Iau yn nghanol arwyddion cyffredinol o barch a gofid. Yr oedd y tywydd yn hynod o anffafriol, a. dymuniad y teulu oedd fod i'r corph, gael ei gludo i'r fynwent van gyfeillion, ond yr oedd mor vstormus fel y bu raid dcfnyddio cei-bydau. Y nrif alarwyr oeddynt Parch John Jones Evans (brawd), Master Edward Evans, Mr Henry Jones, station-road Llan Ffes- tiniog; a. Mr Edward Jones, T'v-nviii-,) es. Yn mysg eraill yr oedd Dr. Robert Roberts (Isallt), Ffestiniog; Dr. S. Griffith, Porthmadog; Dr. Jones, Penrhyn; Dr. Langford Jones, Bansror; Dr. Wil- liam Jones Morris, Dr. Walter Wiilliams, Dr. R. Owen, Belle Vue, Porthmadog Dr. Charles Wil- liams, Dolgellau; Mr William Roberts (cynortliwv- wr yr ymadawedig), Mr David Breese, Mr R. P. Lewis, etc. Yr oedd hefyd vn bresenol gynrychiol- wyr ar ran Clybiau Cleifion v Gweithwyr, yr Od- yddion, y Coedwigwyr, a'r Seiri-Rhyddion. Cyn- rychiolid yr olaf gan y Mri W. G. Williams, C. E. Breese, John Davies. William Jones (N. and IS. W. Bank), A. Bromwich, William Williams (Boston Lodge), J. R. Pritchard, William Davies, etc. Gwasanaethwyd gan y Ficer (y Parch Llewelyn R. Hughes, M.A.). Anfonwyd nifer o wreaths hardd. Mr Robert Lloyd, cabinetmaker, ydoedd yr under- taker. LLYS YR YNADON. Cynhaliwyd hwn ddydd Gwener gerbron Mr J. E. Greaves (yn y gadair) a Mr Thomas Burnell. CYHUDDIAD 0 DWYLLO CWMNI Y CAMBRIAN. Cyhuddwycl Robert Jones, llafurwr, Dublin-street, Tremadog, o deithio ar linell y Cambrian, rhwng Criccieth a Phorthmadog, gyda'r amcan o dwyllo y ewmni.-Erlynwyd gan Mr Minshall. ac amddi- ffynwyd gan Mr C. E. Breese. -Dad-leiiid- fod, y di- ffynydd wedi codi tocyn am Griccieth o Borthmadog, ac nad oedd wedi ei roddi i fyny, ond ei fod wedi ceisio ei ddefnyddio wrth. ddvchwelyd o Griccieth i Borthmadog. Tystiodd John Ridge, archwiiiwr tocynau yn nghwmni y Cambrian, fod y diffynydd ar y 29ain o Hydref wedi rhoddi iddo docyn o Borth- madog i Criccieth. Dywedodd y tyst na wnai liwnw y tro, a gofynodd am un o Griccieth i Borthmadog. Ar hyny talodd y diffynydd v "fare" o 5c.-Dadleuai Mr Breese nad oedd cais o gwbl i dwyllo, a tTiyst- iodd iddo roddi ei docyn a chwe' cheiniog i'r aroJyg- ydd, a'r rheswm dros hyny oedd na chafodd ef (y tyst) amser i fyned i ymofyn tocyn am Borthmadog. —Cadarnhawyd hyn gan Hugh' Williams,Rock-place, Tremadog, a Thomas Jones, Porthmadog.—Nid oedd y Fainc yn ystyried y tystiolaethau yn ddigon i Drofi yr achos, yr hwn a deflid allan. DEDDF HELWRIAETH. Cyhuddwyd Robert Pritchard, Tan Rhiw, Bedd- gelert, o droseddu cyfraith helwriaeth.—Addefodd y diffynydd y trosedd.—Tystiodd yr Heddgeidwad Hugh Williams iddo ganfod v diffynydd tuag un-ar- deg o'r gloch y nos yn agos i Craflwyn Lodge. Yr oedd ganddo gi gydag ef. a chan fod y tyst yn amheus dechreuodd archwilio y diffynydd, a cha.fodd yn ei feddaint ddwy rwyd fawr. Erfyniai ar y t'"t beidio ei wysio.- Dirwywyd y diffyndd i 5s a'r costau (9s 6c). ESGEULUSO EU PLANT. Cyhuddwyd Thonitis Griffith ac Alice Griffith, Rock-place, Tremadog, o esgeuluso eu tri phlentyn. -Erlynid ar ran y Gymdeithas er Atal Creulondeb at Blant gan Mr John. Humphreys (Mri Jones Jones). —Tystiodd Dr. Walter Williams iddo ym- weled a thy y diffynyddion, ac yr oedd y ty yn ffiaidd o fudr a'r plant yn Ilawn pryfaid. Yr oedd pump yn cysgu mewn ystafell oedd yn llawer rhy fychan yn ol deddfau iechydol.—Cadarnhawyd tran yr Arolygydd Rowlands.—Y Cadeirydd, wrth anerc!) y diffynyddion, a. ddywedodd: Y mae wedi ei broii tuhwnt i amheuaeth eicli bod wedi esgeuluso eich plant fel ag i beiyglu eu hiechyd. Y mae eich* ty. fel y profuyd, mown cyflwr ffiaidd a gwartluis, ac -> mae yn amlwg nad ydyw yn lie priodol i ddyn fyw ynddo. Rhaid dwyn adref i cliwi, a phobl tebyg i chwi, fod genych ddyledswyddau i'w cyflawni tuagat eich plant, a.c os nad ydyw teimladau naturiol rhieni t 4 at y plant yn ddigon, rhaid dwyn y gyfraith i rym. Mae arnaf ofn fod yr esgeulusdra hwn yn ganlyn- iad eich meddwdod chwi, Thomas Griffith. Gan mai hwn yw y trosedd cyntaf. ac nid o gwbl am ei fod yn drosedd bychan yr ydym am ymddwyn dipyn yn dyner tuagatoch, ac yn eich dirwyo i 5s a'r costau, gan obeithio y bydd yn rhybudd i chwi. Os byth y (Feuwcll, yma eto bydd eich cosb yn llawer trymach.—Hysbyswyd Thomas Griffith fod y ddirvvy a'r costau yn 15s, i'r hyn. yr atebodd nas gallai eu talu.—Dywedwyd wrtho os na thalai y byddai raid iddo fyned i garchar am 14e«- diwrnod. MEDDWDOD. Am fod yn feddw ac afreolus yn Nghriccielh, dir- wywyd William Roberts, gwas yn Aberkin, Llanys- tumdwy, i 2s 6e a'r costau.—-Profwyd yr achos gan yr Heddwas Owen.—Am gyffelyb drosedd yn Mhorth- madog dirwywyd Stephen Jones, Borth, i 5s a r costau.—Profwyd yr achos gan yr Heddgeidwad Rowlands. w 0 CYNGHOR DOSBARTH GWLEDIG LLEYN. Cynhaliwyd y cyfarfod misol yn y Tlotty ddydd Mercher, Mr J. T. Rees yn llywyddu, a'r Henadur T. E. Griffith (Beren) yn Ilenwi yr is-gadair. AMSER GWEITHIO. Tra yn edkych dros gyfrifon Mr David Williams, cwynai Mr J. T. Jones fod amser lla.wn yn cael ei roddi ar gyfer cyflogau gweithwyr ar y Nyrdd. Yr oedd ef yn sicr nad oedd yr un gweithiwr yn alluog i weithio allan yn llawn y dyddiau diweddaf.—Mr D. Williams a atebodd mai anhawdd iawn fvddai cael dynion i weithio am 3s y dydd heb ryw drefn fel hyn.—Cynygiodd Mr Samuel Roberts fod iddynt bwrcasu time sheets," er rlloddi amser y gweithr wyr i lawr.—Eiliwyd- gan Mr Edward Williams.— Fel gwelliant, cynygiodd Mr Richard Williams fod iddynt barhau fel yr oeddynt hyd ddiwedd y flwydd- yn arianol.-Pleidleisiodd, dau dros y gwelliant, tra y eariwyd y cynygiad gwreiddiol gan fwyafrif mawr. 'fREULIAU Y FFYRDD. Yr oedd treuliadau y ffyrdcl am y mis fel y can- lyn :-Dobarth Mr Robert Williams, 112p 6s 7c; dosbarth Mr David Williams, 162p 12s 6c. FFORDD BERYGLUS. Galwodd Cynghor Plwyf Nefyn sylw at sefyllfa beryglus ffordd Penbryn Holborn, Nefyn, lie yr oedd damwain angeuol yn ddiweddar wedi digwydd. —Ar gynygiad Dr. Thomas, yn cael ei eilio gan Mr 0. G. Jones, pasiwyd i ddeisebu y Cynghor Sirol vn nghylch y mater. ADRODDIAD YR AROLYGYDD IECHYDOL. Mewn perthynas i'r achos o "typhoid" yn Llith- faen, adroddodd yr Arolygydd (Mr Thomas) ei fod wedi anfon at Dr. Fraser, ac yr oedd wedi addaw ymweled a'r lie. Yr oedd achos arall o "typhoid" wedi tori allan yn mhlwyf Llanfihangelbachellaeth. Bu iddo dalu ymweliad a Ffynon Ty'ntwli, Aber- erch, ac yr oedd wedi anfon v dwfr i'w ddadansoddi gan Dr. Fraser. DWFR NEFYN. Dywedodd Dr. Thomas ei fod ef wedi darllen adroddia.d Dr. Fraser mewn nerthynas i gyflenwad dwfr Nefyn, ond gallai sicrhau y Cynghor eu bod hwy yn Nefyn yn symud yn mlaen, ar yr oedd Mr Bowen Jones, Caernarfon, wedi ei benodi i wneud ymchwiliad,. ond yr oedd yn anmhosibl iddo wneud hyny yr adeg yma o'r flwyddyn. FFORDD TANYFOEL. Cafwyd adroddiad Mr O. G. Jones a Mr 0. G. Williams mewn perthynas i'r ffordd hon, a chan eu bod wedi cael tystiolaetha.u pellach, pasiwyd yn un- frydol i adgyweirio y ffordd. LON TYDDYN FFRAINC. Anfonwyd cais i adgyweirio y ffordd hon, a phen- odwyd pwyllgor i ymweled a'r lie.
RHOS A'R CYFFINIAU.
RHOS A'R CYFFINIAU. Anfonodd Mr Robert Davies, Porthaethwy, lOOp tuag at chwyddo trysorfa Capel Cenhadol M.C. Pen- trefelin, GAvrecsam. Mr T. T. Roberts, Edge Hill, Bangor, yr nwn fu farw yn ddiweddar, oedd tad Mrs Prichard, priod y Ficer T. Prichard, Rhos. Masnachwr hen a pharchus oedd Mr Roberts, ac aelod, ffyddiawn gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Darllenodd Mrs S. A. Edwards, Ponciau, bapyr yn nghyfarfod Cymdeitlias Ddiwylliadol Seion ar "Pa fodd i fod yn ddedwydd wedi priodi." No dai fel prif sylfeini dedwyddwch, doetliineb, sobrwvdd, a, duwioldeb. Y mae ardalwyr Penycae wedi penodi chwech o ddynion i fod yn aelodau o Bwyllgor CVffredinol Coffadwriaethol y diweddar Syr George Osborne Morgan, ei cyn aelod Seneddol. Yn nghyfarfod Cymdeitlias y Ford Gron Capel Jerusalem, Rhos, adroddwyd amryw ranau o fardd- oniaeth Islwyn; ac yn Nghymdeithas Ddiwylliadol Capel Bethlehem darllenwyd papyrau ar "Barliad mewn gras." Syrthiodd Mr Joseph Bellis, mab y ddiweddar Beth Bellis Dduwiol, Rhos, i lawr craig tua. phedair llath o ddyfnder, yn y Ponciau, a bu farw mewn canlyniad. Y mae yn debyg iddo golli ei ffordd yn y tywyllwch, drwy fyned ar ol ei het. yr hon a gipiwyd gan y gwynt. Yr oedd amryw arwyddion ei fod, ef wedi ceisio dyfod allan o'r dyfnder, ond heb allu. cael y lie priodol, ac iddo. wedi llethu, ddisgyn ar ei gefn, a rhynu yn yr oerni. Yr oedd ef wedi bod yn Awstralia, ac wedi enill llawer, ae yn cartrefu gyda'i fab, Hywel Bellis. Cynhaliwyd cyfarfod undebol i weddio gan Gyng- hor Undeb Eglwysi Rhyddion y cylch yn Nghapel Wesleyaid y Rhos. Cymerwyd rhan ynddo gan wcinidogion a lleygwyr perth1101 i'r gwahanol enwadau. Yr oedd arwyddion amlwg o ddylanwad- au ysbrydol ar y cyfarfod. Dirwywyd pedwar o we it hwy r Glofa Hafod-y- bweb i 5s yr un am "gyffogeth" (riding) ar res o fan wageni yn llawn o lo tra yn dyfod allan o'r gwaith, yn hyn oedd yn groes i reolau cyfreithiol y glofeydd1, ac yn arferiad tra. pheryglus. Y mae Cwmni Rheilffordd Gwrecsam. Wyddgrug. a Connah's Quay, wedi newid enw Gorsaf Caergwrle yn Hope Village, a Gorsaf Bridgend yn Caergwrle Castle. Amser all ddweyd pa un ai gwellhad neu waethygiad fydd y newidiad enwau, ond achosir llawer o ffwdan i deithwyr am lawer o amser. Cwyna rhywrai fod Ymneillduwyr ardaloedd y Rhos yn cyfyngu bron yr oil or testynau cystadleuol llenorol i gylch aelodau Ysgol Sul, neu gylch cym- deithas gysylltiol a'r capel lie y cynhelir y gystadleu- aeth, tra yn rhoddi v testynau cerddorol yn rhydd ac agored i bawb geisio am v gwobrwyon. Yn y cyfarfod blynyddol a gynhaliwyd yn Wrec- sam, dydd Gwener, mewn cysylltiad a'r Denbigh- 11 1 shire and Flintshire Federation, yn yr hwn yr oedd cynrychiolwyr o'r amrywiol lofeydd., crybwyllwyd v buasai swyddogion y gymdeithas yn cael ni o draiferth, ac y buasai sefyllfa arianol y gymdeIthas yn well, pe buasai pob lie yn talu, cystal ag ardal y Rhos., yr hyn a ofynid ganddynt i'r drysorfa. A gwrthodwyd y cynygiad o ofyn am fwy o daJiadau i mewn, am yr adeg bresenol o leiaf. Cydsyniwyd a'r cais am i gynrychiolwyr o'r rlian yma o'r wlad fydd yn bresenol yn Nghynadledd Federation Prydain Fawr i ategu y cais am godiad yn y cyflog- au o saith a haner y cant. Pasiwyd hefyd eu bod yn gryf dros gael gwelliant vn y Ddeddf sydd yn dwyn cysylltiad a rheolau v "checkweighman" fel ag i'w wneud yn gyfreithlawn iddo ef ga.el anerch neu gynghori y glowyr fyddant yn cyfranu tuag at ei fywoliaeth ef. W 1mddengys oddiwrth sefyllfa yr amgylchiad i un o'r enw John Armstrong, Saltney, 62 oed, golli ei fywyd drwy iddo fyned ar hyd ysgol i ben uchaf y ddistillfan yn y gwaith olew, ¡p"da "lamp," a goleuni noeth ar y "lamp," yr hyn na ddylasai wneud heb "safety lamp." ac yntau yn gwybod yn mha sefyllfit yr oedd yr olew yn y ddistillfan. Cymerodd yr hyn a gyfodai o honi dan, a llosgwyd Armstrong yn ofnadwy. Y mae glowyr y Rhos wedi cymeryd yn lied an- ngharedig am fod y Cynghor Plwyfol mor hwyrfryd- ig a didaro yn nghylch eu cais hwy am i r lampau sydd yn Phenant-road, ac wrth gamdda Johnstown, gael eu gadael yn oleu hyd chwech o'r gloch— yn y boreu, er mwyn i'r glowyr gael goleuni yn y lleoedd hyny i fyned tuag at ac oddiwrth eu gwaith. Cyn- wysa y rhai sydd yn myn'd a dyfod drwy y lleoedd hyny ran fawr o'r trethdalwyr. Bydd tymor v dyddiau byrion presenol wedi myned heibio yn ebrwydd, a dim goleu wedi ei gael. Y mae pobman a phobpeth mor ddu yn ardaloedd y glofeydd, ac am hyny y mae yn fwy- pervglus i deithio yn y tvwyllwch. Y mae cyngherddau yn foddion atdyniad mynych yn y Rhos, ac anaml: iawn y mae yr un o honynt heb gyraedd y nod "llwyddiant." ao yr oedd yr un a gynhaliwyd yn y Neuadd Gyhoeddus nos Lun vn un o'r rhai ardderchog. Cyngherdd cydnabyddol (complimentary conceit) i Mr Tom Edwards, R.C.M., y tenorvdd da, ydoedd. Cynorthwyid ef yn y cyngherdd gan Miss A. Nicholls. R.C.M., Miss L. Hoder, R.C.M., Mr David Hughes, R.A.M., a'r Proffeswr Alberto Visetti, athraw Mr T. Edwards yn yr Athrofa Gerddorol Freiniol, Llundain (y mae ef yn llawn asbri eerddorol er yn hen). Hefyd, f-ymerodd Cor Meibion v Rhos ran fedrus yn y cvng- herdd, dan arweiniad Mr Wilfrid Jones. R.A_. M. Mr Caradog Roberts oedd v cyfeilydd. Yr oead v neuadd yn rhy facli o lawer iawn.
[No title]
Yn gyffredin, mor fuan ag v tybir fod gan ddyn dipyn o aiian, y m:w ei wraig pi mvned yn rhy gloff i gerdded, a rhaidi iddi ?ael cerbyd.
Advertising
ALLTUDIWCH Y G £ LYJ» AMDD EfCH CORPH YN IN EERTNT IKGHTD /f PTUGH n W!(LWJ' ^CAiMSt ° Y MAE Hughes's Blood Pills Yn Braaau a Phuro y Gwaed, yn Cryfhaa a Rheoleiddio yr Ystymog, yn Gosod yr Afn mewn Cywair a Chyflwr i weithio, yn Cynhyrfu iachnsel Weithrediad yr Arenau, yn Cadarnhan y Nerves, yn Cymhell Llifiad iachusol o'r BUe, yn clirio y Croen o bob nam, yn Rheo'eiddic y Coluddion, ac y* dwyn blodau Iechyd i'r Gruddiau. Y MAE Yn Atal a Iachau y Scurvy, Croen Doriadaa, Corn- wydon, P-ceema, Scrofula, Krysipelaa HUGHES'S (y B'ast:, Pen-Boen, Afa dirwgj 11 hwrn7, odd, G wend id, Nerves, Blinder I Tmenyddol, Iselder Ysbryd, y Piles, BLOOD j Cwsg-fethiant, Anhwyldeb yr Ar«*au I Gwyneyon, DifEyg Traul( Indigestion I Biliousness, Cefn-oen. PILLS J SYLWCH AR Y TRADE MARK HWX SEF I.LUN Y GALOr AR BOB BLWCH HEB HWN TWYLL YDYW. 1 WYR A Y mae y Pills hyn yn I GWRAGSBB Gyfaddas ac Anmhrisiadwy i (MEIBION A J MBRCHED. W-Y maent yn iachau ar ol i bob peth Arall Vethu. Heb Oedi Danfonwch am flwch o HUGHES'S BLOOD PILLS Gwerthir hwy gan bob Chemist a Gwerthwyr Patent Medicines am Is lid, 28 9d, a 4s 6d, neit danfoner eu gwerth mewn Stamps neu P.O. i'r Gwneuthurwr JACOB HUGHES, llanafaoturiag Chemist, Penarth, Cardiff American Agency R. D. WILLIAMS, Chemist, Plymouth, Pena. GOMER'S BALM Y ELI AT BOB CLWTF GOMER'S BALM a Iacha Glwyfau ar y Traed CJuniau, Pen, Gwdàf, Erys- ipelas, Mannu. Ilidiog, » Digroeneid, Carawydoa Crawnltyd. GOMER'S BALM a lacha Rronau a Pen Bronam Doiurus, Pi es, Traed Chwys- edig, Toriadau allan, Crach yn Mhenau a Gwynebaw Plant, Llygriadau a.' Llosgiadau yn mhob ihan o'r Corph. GOMER'S BALM a Iacha Ddwylaw Toriadol, Llygaid ac Amrantau Deluvs, Crafu Scurvy, Gwynegon, Cymalau Poenus, Okwydd- iadav, Tarwden, Malaethau, ke. Y mae GOMER'S BALM yn hyn.d effsitkiol at bob math a Glefydau allanol y Corph. Rhodder prawf arno. Ar werth gan bob Chemist a gwerthwyr Patent Medicine, am Is 1 c y blwch, neu danfoner eagwerth mewn Stamps at y Darganfyddwr— JACOB HUeiljB8 MANUFACTURING CHEMIST, PENARTH, CARDIFF.
Y CEFN A'R CYMYDOGAETHAU.
Y CEFN A'R CYMYDOGAETHAU. Y mae y wal sydd erbyn hyn wedi ei chwbfhau o tlaen y tir sydd yn ymyl Glasgow House, Cefn, yn liarddu y lie, ac yn diogelu rhag perygion. Boreu Sadwrn, cyn y wawr-ddydd, yr oedd dynion yn Ngwaith Trefynant yh codi barifaid o olew i'r wagen rheilffordd, i fyned i Waith y Rhos. Rhyw- fodd symudodd y postyn oedd wedi ei osod i gynal drws y wagen, a syrthiodd Edward Jones, Garth, ar y liawr wrth ochr y wagen, a disgynodd y baril llawn o'r wagen ar ei ol ac aeth ar ei droed, gam ei ysigo yn drwm. Ond y mae yn gwella dian ofal Dr. T. 0. Jones, Cefn. Y mae y gweithwyr mewn cryn brydar o berth- ynas i'r cymorth a roddir i'r dynion a gyfarfydidant a damweiniau eto, er i'r Ddeddf lawn am Ddam- weiniau ddyfod i weithrediad. Nid ydyw y Ddeddf yn ei holl adranau i fyny a'r disgwyliadau; ac fel pob Deddf newydd, nid ydyw mor eglur, cywir, a diamheuol ag y gellir ei gwneud i gyfartod a gwahan- 01 ddamweiniau mewn gwahanol fanau a thrwy wahanol achosion. Pethau dyrys iawn ydyw dam- weiniau, ac anhawdd iawn i'w holrain i'w gwir achosion. Yn fyr, ac mewn gwirionedd, peth an- mhosibl ydyw penderfynu beth oedd gwir a dirget achos o ami i ddamwain gall fod yn rhanoi yn ami. Y mae, rhai gweithwyr eisieu cael difodi y cymdeithasau darbodol, a elwir yn ami ya "accident- al funds, gan y meddyliant nad oes angen em danynt wedi i'r Ddeddf Iawnol ddyfod i rym. Y mae eraill yn awyddus am gadw yn mlaen y cym- deithasau hyny, beth bynag am dymor, nes y gallant, fel gweithwyr, gael amser cyfaddas i gvd-drefnu ffordd i gael gan y Senedd wella yr aumherffeith- derau sydd yn y Ddeddf yn bresenol. Pa beth bynag ellir ddweyd am ragorjaeth y Ddeddf, y mae yn amlwg, heb fyned ddim pellach na'r chydig ffeith- iau y gwyr llawer o honom am danynt, fod y cym- deithasau darbodol wedi bod yn sefydliadau oen- dithiol ia.wn. ac yn atalfa rhag mwy o bwysau ar drethi y wlad. Dengys y ffigjTrau a ganlyn beth a wnaed ganddynt gyd a'u gilydd —Sefyd! wyd hwy yn y flwyddyn 1878. Nifer aelodau yr holl aym- deithasau drwy y deyrnas yn niwedd y flwyddyn 1897 oedd 334,428. Swm y derbyniadau, 313,309p. Swm oedd mewn llaw, 714,024p. Rhif gweithwyr wedi eu hanalluogi i weithio drwy ddamweiniau, ac a dderbyniasant gymorth o'r cym- deithasau yn ystod 1897, oedd 59,592; rhif gwragedd a wnaed yn weddwon drwy i'w gwyr gyfarfod a dam- weiniau, ac yn derbyn o'r cymdeithasau. oedd 3395 rhif plant amddifaid, yn derbyn o'r cymdeithasau, 4392. Dengys y cyfrifiad hwn. a. ddarlle nwyd yn y mis olaf o'r flwyddyn sydd newydd derlynu, gerbron cynghor o gynrychiolwvr y cymdeithasau darbodol ar gyfer damweiniau yn Llundain, fod y budd a dal- wyd er pan eu sefydlwyd yn 1878 yn 5878p lis. Gwelir oddiwrth yr ychydig bethau a nodwyd, mai nid y rhai sydd mewn cysylltiad a'r eymdeithasau hyn yn. unig a ddylai fod }*n falch o'r gwaith gwerth- fawr a wnant. ond trethdalwyr yn gytfredinol hefyd.
Priodi o'r Carchar.
Priodi o'r Carchar. Y mae amgylchiad lied anghyffredin newydd gy- mcryd lie yn Rhnthyn. Yr oedd carcharor benyw- aidd ar fin ,cael ei gollwng o ga.rchar y dref, fie bu yn dwyn ei phenyd am rhyw drosedd' neu gilydd. Cafodd ei thraed yn rhydd foreu Mercher. ac aeth ar ei bunion i Eglwys Pedr Sant, Rhuthyn, i gael ei huno mewn glan briodas g>rda dyn "ieuanc" o Johnstown, rhwng Gwrecsam a Rhiwabon. Yr oedd y "gostegion" wedi eu dyledus ylv)eddi y tri Sabboth blaenorol. yn ystod na rai yr osdd y briod- fcicli yn "qualifif)'" trwy brcswyliad yn y archar. Disgwylid i'r "gwr ieuainc"' gyrliaedd gyda'r tren un-ar-ddeg o'r gloch, ond ni ddaeth afe a phryd na chyrhaeddodd gyda.'r tren haner dydd. naturiol oedd i'r ddyweddiedig deimlo yn anesmwyth. Yr oedd curad yr Egl'wys hefyd. Parch J. Fisher, B.A., a'r clochydd, yn mawr g^'dymdeimlo a hi yn ei phro- fedigaeth. Pa. fodd byrnig, fe gyrhaeddodd y dyn i'r dref gyda'r treni haner awr wedi da.u o (iaer. Yna cymerodd' y seremoni le, yn mhresenoldeb rhai cvfeillion wedi hyny ymadawodd y "par dedwydd" gyda'r tren o Ruthyn. Argraphwyd a Chyhoeddwyd dres y "North WaIeø Chronicle" Company, Limited, gan David Williams, yn y "North Wales Chronicle" a'r "Gwalia" Print- ing Works, Caxton House, High-street, llangor. yw Mklwyf Bangsr. yn Sir Gaernarfon.—Bydd Mawrth, Ionawr 17, 1899.