Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

18 articles on this Page

'-.==----Tysteb Gynygiedig…

-lir Bryn Roberts, A.S., arr…

Yr Ysgelerwaith Mewn Pobty.

Tan Dinystriol yn Mangor.I

---------------__.--------.…

--------Eisteddfod Hen Golwyn.

Cyfarfod Cwmni y New "Welsh…

-------,-----,---.--I Marwolaeth…

[No title]

""'"""" ."p-" '--i Cynghor…

[No title]

- I Brawdlysoedd Cbwarterol.

-----------_--_.._-----Gwraig…

-------Ymddygiad Gwarthus…

News
Cite
Share

Ymddygiad Gwarthus Clerc o Lerpwl. Yn y Court of Passage, Lerpwl, dydd Mawrth, o flaen y Barnwr Baylis a rheithwyr, gwrandawjd achos Dixon yn erbyn Ronald. Yr achwynyades ydoedd Mrs Marion Dixon, yr hon cano yn mlaen fusnea fel ironmonger yn Park-road, Ler- pwl a dygid y cynghaws yn mlaen er codi swm o iawn oddiar y diffynydd—Angus Ronald, clerc, yn byw yn Rosslvn-street, St. Michael's—am ddar- ostwng ei m'ch, a'r golled o'i gwasanaeth mewn 1 canlyniad- Ymddangosodd Mr Tobin dros yr aehwynyddes, a Mr Rigby Smith dros y diffynydd. Yr oedd Mrs Dixon wedi bod yn weddw ers dwy flynedd, ac yn enill ei bywoliaeth trwy gjadw siop yn Park-road. Yr cedd ganddi wyth o blant yn byw gyda hi uwchben y slop. Ei merch hynaf oedd Marion Lucy, yr hon oedd yn 27 mlwydd, ac wedi arfer helpu ei mam trwy gadw llyfrau y bus- nes. Yr oedd y diffynydd wedi bod yn glerc am ddwy flynedd ar bymtheg yn swyddfa y Water- ford Steamship Company, Water-street, a'i oed. oddeutu deugain mlwydd. Tua'r Pasg, 1897, cyfarfu y diffynydd a damwain ar y rheilffordd, he aeth mab yr aehwynyddes i dy ei chwaer yn Rosslyn-street i edrych am, dano, canys yno yr oedd1 efe yn llettya. Ar ol yr adeg yma daeth y diffynydd i fod yn ymwelvdd gwastadol a thy Mrs ¡ Dixon, a magodd cyfeillgarwch rhyngddo a'i merch hynaf. Derbynid ef yn y teulu fel ymofyn- ydd anrhydeddus am law a chalomyr eaerh. Am- ryw weithiau y cafodd y ddau eu gadael wrthynt eu hunain yn yr eistedd-ystafell yn y llofft; ac yn mis Chwefror, 1898, darfu iddo, ebai Mrs Daxon, gyraeryd mantais ar yr eneth y cymerai arno fod yn ei charu. Ganwyd plentyn ar y laf o'r mis diweddaf, a honid mai y diffynydd oedd ei Marion Lucy Dixon a roddodd dystiolaeth i attegu yr achos. Hi a addefodd nad oedd amod priodas wedi ei wneud, ond darfu iddo yn Mehefin diweddaf ofyn iddi aros wrtho. Ni fu iddi erioed gadw cwmpeini gyda'r un dyn aralL Dywedodd Mrs Marion Dixon (y fam) ei bod wedi dwyn ei merch i fyny yn barchus a phriodol, a chafodd y diffynydd ei oiling i'r teulu ar y dealltwriaeth ei fod yn caru ei merch yn anrhyd- eddus. Wedi gwr and aw rhagor o dystiolaethau, cauwyd I yr achos dros yr achwynyddess. Yr amddiffyniad oedd gwadu y darostvngiad yn bendant. Y diffynydd a addefodd idclo gael ei gau mewn ystafell gyda'r eneth amryw weithiau, ond nad oedd erioed wedi cam-ymddwvn tuag ti: ac nid ocdd yn off ohcni o gwbl. Bu yn gyd- nabyddus a'r teulu am ddeng mlynedd, ac yr oedd wedi eu parchu un ac oil. Yr oedd wedi cael Marion Lucy bob amser yn foneddiges ieuans weddaidd, barchus, a geirwir. Wrth ed groesholi gan Mr Tobin, dywedodd y diffynydd na ddarfu iddo erioed ofyn am gael bod wrtho'i hun gyda Miss Dixon. Nid oedd ef yn hidio dim am dani, gan ei fod yn rhwymedig i ferch ieuanc arall. 0 A ddywedasoc h chwi wrth Mrs Dixon a'r teulu eich bod yn rhwymedig?—Yr oeddynt oil yn gwy- bod. -=> b Beth ydyw enw y ferch ieuanc—ysgrifenwch ef 1 lawr.—Waeth gen i ddweyd na pheidio: ei henw yw Miss Gardener, o Glasgow. A ydych chwi wedi ymrw^mo iddi?—Nac yd- wyf. dim ymrwymiad wedi ei wneud, ynte 1 i Yna paham y dywedasc.ch wrth Mrs Dixon eich bod yn. rhwymedig i'r ferch ieuanc hon?—Nid oedd ymrwyrniad priodol yn bodoli. A ydyw y ferch ieuanc hon, Mass Gardener, enw yr hon roddasoch mewn Hys cvhoeddus, yn bodoli o gwbl-beth yw ei chyfeiriad, os oes ganddi gyfeiriad?—Ibrox, Glasgow. Deallais chwi yn dweyd ar y eyntaf eich bod yn "engaged" i'r foneddiges hon o Glasgow ?—Na, nid oeddwn wedi jrmrwymo yn ffurfiol, ond yr oeddwn yn cadw cwmpeini gyda hi. Y Barnwr: Darfu i chwi ddweyd eich bod yn rhwymedig iddi. Mr Tobin A ddywedasoch chwi wrth fam Miss Dixon eich bod wedi ymrwymo gyda boneddiges arall?—Naddo camgymeiiad yw hynyna. A roddasoch chwi enw y foneddiges ieuanc iddi ? —Nid wyf yn meddwl i mi wneud. Pa bryd y dywed!a?oc]i chwi hyn wrth y fam 1- Uwchlaw deuddeng mis yn ol—o flaen Ionawr, 1898. Beth ydyw enw bedydd yr eneth hon?—Isa- bella. Dywedweh wrthyf rif ei thy yn Ibrox. Yr wyf fi yn awgrymu nad ydyw hi yn bodoli. Mr Swift: Nid oes genych hawl i awgrymu. Diffynydd Yr wyf yn gwrthod rhoddi ei chyf- eiriad. Apeliedd Mr Tobin at y Bamwr i'w orfodi i roddi y cyfeiriad. Ei Arglwyddiaeth a reolodd mai nid teg ydoedd enwi person, pan na feddai gyfle i amddiffyn ei hun. Yvrth ei groesholi yn mhellach, y diffynydd a ddywedodd iddo ddyfod yn gydnabyddus a bonedd- iges ieuanc Glasgow yn Mehefin, 1897, a'u bod wedi ymobebu a'u gilydd. Ni welodd efe erioed mo Miss Dixon yn cadw cwmpeini gydag unrhyw ddyn arall: ni welodd vT_un dyn arall erioed yn y ty. Daliodd ef i ymweled a'r tv hyd o fewn pump neTi chwech wythnos i enedigaeth y plentyn, ac n:d cyn i'w brawd hi siarad ag ef y darfu iddo p.top.o myned yno ati. Yr oedd yn gweled fod obaith magu. L Ar 01 vmohirio i gael tamaid o fwvd. ail alwyd y diffynydd yn mlaen a'r pryd hyn rhoddes mewn ysOTifen gyfeiriad Miss GardeneT. vn Glasgow. Dyfamodd y rheithwyr o blaid Mrs Dixon, gyda 50p o iawn, yr hyn a gadarnhawyd gan y Bam- wr. y

NODlUN O'R DEHhUhiK.

----7 ! Masnach Yd yr Wythnos.

Family Notices

Advertising