Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

18 articles on this Page

'-.==----Tysteb Gynygiedig…

-lir Bryn Roberts, A.S., arr…

Yr Ysgelerwaith Mewn Pobty.

Tan Dinystriol yn Mangor.I

---------------__.--------.…

--------Eisteddfod Hen Golwyn.

Cyfarfod Cwmni y New "Welsh…

-------,-----,---.--I Marwolaeth…

[No title]

""'"""" ."p-" '--i Cynghor…

[No title]

- I Brawdlysoedd Cbwarterol.

News
Cite
Share

Brawdlysoedd Cbwarterol. ARFON. Oynhaliwyd brawdlys chwarteiol y sir hon yn Nghaernarion ddydd lau, Mr J. E. Greaves (Ar- g^wydd Raglaw) yn llywyddu. Y Cadeirydd, yn ei anerchiad i'r uchel neithwyr, a ddywedodd fod y gwaith oedd ganddynt yn gyfryw ag y buasai ef yn eu llongyfarcli oheiwvdd absenoldeb troseddau yn y sir, ond nis gallai wneud hyny yn ngwyneb y gyflafan ofnadwy gym- crodd Ie yn Nghriccieth—trosedd nad oedd ei fath yn hanes y sir ac yr oedd yn ddrwg ganddo ddweyd, o berthynas i droseddau yn Nghymru, fod y flwyddyn ddiweddaf wedi bod yn un ddu i iawnu Mewn cysylltiad a'r achosion oedd i dd'od o'u blaenau dywedodd y Cadeirydd fod un yn yr hwn y cyhuddid dyn o ladratta crysau o siop yn Llanfairfechan. Yr oedd yn ymddangos fod y crysau wedi eu rhoddi i'w dangos y tuallan i'r ffenestr. Nid oedd amheuaeth nad oedd yr ar- feriad hwn o roddi nwyddau ar y ffordd y tuallan i'r masnachdai yn un beius iawn ac yn rhoddi temtasiwn na ddylid ei roddi. Cymerodd Mr Thomas Roberts, Aber, ei le fel ynad dros y sir. Cyfaddefodd Jpmes Thompson, 63, llafurwr, ei euogrwydd yn ngwyneb y cyhuddiad o gaffacl arian irwy dwyll-honiadau oddiar Mrs Anne Da- vies. Trebcrth, a Mr Charles Pierce, Bangor.— Dedfrydwyd ef i chwe' mis o lafur caled. Owen Jones, glanhawr clociau, 36, a gyfaddef- odd iddo ladratta deuddeg o grysau, gwerth 2p 2s, eiddo Llewellyn Frederick Jones, Llanfairfechan. Cyfaddefodd hefyd ei fod wedi ei euogfarnu droion o'r blaen.—Anfonwyd yntau i lafurio yn galed am chwe' mis. Benjamin Rose, 24. a gyhuddwyd o dori i dy J. Bolloren. Bargor, a chymeryd oddiyno oriawr arian a dwsin o lwvau arian, yr oil yn werth 7p, —Erlynai Mr S. R. Dew, ac amddiffynai Mr R. A. Griffith.—Yr amddiffyniad ydoedd fod y cy- huddedig yn Lerpwl ar y pryd yT haerid ei fod wedi tori "i'r ty.—Dygodd y rheithwyr i mewn ddedfryd o ddieuog, a rhyddhawyd y cyhudd- I edig. Taflwyd allan y cyhuddiad yn erbyn William Jones, ilafurwr, a gyhuddid o gaffael arian trwy dwyll-vmhoniadau vn Llangian. Dywedodd un o'r rheithwyr fod y rhai hyny o honynt oeddynt yn d'od o gymydogaeth Llan- dudno wedi dymuno arno alw syiw y Llys at yr anhwylusdod i amryw o honynt dd od i Gaernar- ion erbyn deg o'r gloch. Yr unig gerbydres idd- ynt oedd yr un a adawai Llandudno tua saith or gloch, acer mwyn cael hono bu raid i un bonedd- wr gerdded dwy filldir ac un arall dd'od mewn cerbyd 13 o filldiroedd. Buasent oil yn falch pe y gellid gwneud rhyw drefniant i gael cerbydres hwyrach neu eu bod yn newid yr awr i ddechreu v lly?.—^Dywedodd Mr Osmond Williams a'r Cad-I eirydd fod yr un peth yn cael ei deimlo yn rhan- au deheuol y sir, ac ychwanegodd y diweddaf fod yn ddrwg ganddo o'r oherwydd,ond ofnai nas gall- ai v Llys roddi unrhyw gynorthwy. Gohiriwyd y llys hyd dranoeth. Ar ail-gynulliad y Llye ddydd wener: cyfeir- iodd Mr John Hughes at ymddiswyddiad Syr Llewelyn Turner a'r Oadben J. G. Wynn Griffith r o Bwyilgor Ymweliadol r Carchar, a dywedodd ei fod yn sicr nad oedo y LIys yn dvmuno i hyny basio heb iddynt bwy fel ynadon ddangos eu gwerthfawrogiad o'u gwasaixaeth maith a'u cyd- ymdeimlad a hwy yn eu gwaeledd. Oynygiai ef henderfyniad i'r perwyl. -—Eiliwyd hyn gan Mr John Robinson, a chariwyd yn unfrydol. Dygwyd yn mlaen apel gan awdurdodau y cyllid II yn erbyn dyn o'f enw Robert Jones, Nantlle. Ymddengvs i Robert Jones, ar y 5ed o Hydref, fyned gyda Mr Tom Ro- binson, Tan'rallt Hall, i saethu ar dir yr oedd gan y diweddaf hawl i saethu arno, yn pys- ylltiedig ag ystad Broom alL Yr oedd gan Mr I Robinson drwydded helwriaeth s Jones drwydded saethu, ac fod yr atebydd wedi saethu at. amryw 2dar, a 11 add dan ed hunan. Cyhuddwyd ef gerbron ynadon Pwllheli. y rhai a daflasant yr achos allan.—Caniataodd y Fainc yr apel, a dirwy- asant Robert JG11 i 2p yn cytmyf y costau. DINBYOH. I Llywyddai y Cadben Griffith-Bosra>v'eii dros Frawdlys Clnyurterol Dinbych yn Rhuthyn ddydd I Gwener. Nid oedd yr un carcharor ? dd'od ger- bron, ac anrhegwyd y Cadeirydd a phar o fenyg gwynion. I MEIRION. Yn Dolgellau, ddydd Mawrth, y eyidialiwyd Brawdlys Ohwaiterol Meirion, Mr W. R. M. Wynne (Arglwydd Raglaw) yn y gadair. Penodwyd jt Anrhydeddus O. H. Wynn, Rhug, a Mr R. D. Roberts, Corweni, yn ymweiwyr a Charchar Rhuthyn, a Mr John Jones, Ynysfor, a Mr A. Osmond Williams, Caste-ll Deudraeth, a Charchar Caernarfon. Dywedodd Clerc yr Heddwch nad oedd dim car- charorion i'w profi. Dymunodd y Cadeirydd i bawb "Flwyddyn I Xewydd Dd'a" gan obeithio y byddai yn un lwydd- ianus. Gofidiai fod y Gyfraith yn gofyn am i'r I uchel-reithwyr ymbresenoli yn y llys pan na fydd- ai carcharorion i'w profi ond yn unol a threfniant newydd nid oedd yn angenrheidiol i'r rheithwyr ymbresenoli. Oddiwrth adroddiad y Prif Gwn- stabl gwelai nad oedd dim trosedd bron yn y sir. Yr oeddynt yn agos i dldiweddl canrif yn awr, a'i obaith ef oedd i droseddau fyned yn llai o hyd y ganrif nesaf. Yna anrhegwyd y Cadeirydd a phar o fenyg gwynion. MON. Oynhaliwyd brawdlys chwarterol Mon yn Beau- maris ddydd Mercher, Syr Richard Williams Bul- keley, llarwnig, yn llywyddu dros gynulliad mawr 0 ynadon. Nid oedd yr un carcharor i'w brott. Cymeirodd y boneddigion canlynol y llw fel ynadon newyddion :—Mr W. Lloyd, Bryndyfrydog, Llanr- erchymedd y Cadben T. G. Kendall, Caergybi; a Mr R. Jones Edwards, Bryngoleu, Caergybi. Yr oedd Mr William Thomas, Tregarnedd, Llan- gefni, a Lerpwl (cyn uchel-sirydd), wedi ei alw 1 r fame, ond nid oedd yn bresenol i gymeryd ei Ie. Y Cadeirydd, yn ei siaxs i'r uchel-reithwyr (blaenor y rhai oedd Mr Edward Jones, Pen- traeth), a ddywedodd fed yn bleser ganddo eu hysbysu nad oedd dim gwaith iddynt. Cyn eu gollwng dymunai alw eu sylw at y ffaith fod Deddf ar fin .dyfod i rym a ystyriai ef fel un o'r rhai goreu basiwyderiœd er atal meddwdod. Cyfeirio yr oedd at y Ddeddf, yr hon nad oedd yn barod eto i'w rhoi mewn grym, a roddai allu i'r ynadon i anfon meddwon parhaus i fath o sefydliad diwygiadol lie y cymerid gofal o honynt, a He, gooeithiai ef, y byddai iddynt ga61 eu gwella. Credai ef fod meddwdod yn haint, a gobeithiai ef y byddai i'r meddwvn mewn amser ddychwelyd o r sefydliadau i'w sefyllfa gymdeithasol yn ddyn wedi cyfnewid, Yn ddiamheu, mewn amser, gof- ynid i lawer o r siroedd ddarpar allan o'u cronfa eu hunain gartrefi fel hyn i feddwon parhaus, yr un fath i raddau pell ag y mae yn rhaid iddynt ddarpar gwallgofdai. Teimlai ef yn hvderus cs y gweithid y Ddeddf allan yn briodoil y byddai yn un o'r camrau mwyafeffeithiol a gymerwyd erioed er meddwdiod. Gall nad oedd pawb o 110nynt yn cytuno a manylion v Ddeddf new- ydd ond credai en bod oil yn cytuno y dylid gwella meddwdod rhywfodd, ac ediychai ef ar V Ddeddf hon fel cymhorth mawr yn yr ysstyr yma. Dr. John Roberts-, Porthaethwy, a gynygiodd: — Fod y FrawdlYS1 Chwarterol yn y dyfodol i'w chynal ar gylch yn Llangefni, Caergybi, a Beau- maris gan ddechreu yn Llangefni yn Ebrill nesaI. Dywedodd Dr. Roberts fod arno eisiau newid yohyd:;g ar y cynygiad. Credai na fyddai yr ad- ■eiladau newyddion yn Llangefni yn hollofbarod erbyn mis Ebrill, gan na fyddai y paent wedi cael amser i galedu. Felly cynygiai fod y llys cvntaf i'w gynal yn Llangefni ganol yr haf. 1899. I ategu ei gynygiad dywedodd Dr. Roberts fod y symudiad wedi cyohwyn o ymdeimlad dwfn a chyffredinol yn Llangefni, ac yn awr yr oedd yr adeilad bron wedi ei orphan. Yr oedd yr Ar- glwydd Raglaw (Syr R. Williams Bulkeley) yn garedig wedi anrhegu y sir a thir, a gallai ddweyd nad oedd neb wedi cymeryd rhan mwy blaenllaw nm Syr Richard mewn cael adeilad priodol yn Llangefni. Oredai ef pan y deaiai yr amser i gynal y Frawdlys Chwarterol yn Llangefni y byddai yr un boddhad' yn cael ei deimlo a phan y deehreuwyd yn Nehaergybi. Y Milwxiad Hampton Lewis a ddywedodd ei fod gyda phleser yn. cefnogi y cynygiad. Nid oedd ond yn gobeithio y eaffai y Hys hefyd mewn amser ei gynal vn Amlwch (clywch, clyweh). Y Cadeirydd* a ddywedodd fod y llys, a siarad vn ymarferol, dan addewid y eaffai y frawdlys chwarterol ei chynal yn Llangefni mor fuan ag y bvddai He priodol i hyny wedi ei ddarpar. Yr oedd vn falch fod y cynvgydd wedi gweled yn biiodol newid geiriad y cynygiad, gan nad oeda yntau yn credu y byddai y lie yn gwbl barod ui'bjn mis Ebrill. Cariwyd y cynygiad yn unfrydol. Ail-apwvntiwvd y Milwnad T. E. J. LIo) d iri G. J. "Roberts, Thomas Owen, a Harry Olegg yn xistusiaid i ynuv-olcol a C'harchar Caernarlon. M- Harry Glegg a ddywedodd fod cyfarfod i w yn fuan vn Nghaernarfon o berthynas i'r Gymdeithas er Cynorthwyo Carcharorion. Nid y cwestiwn yn gymaint oedd cael arian at y gym- deithas, ond enill cydymdeimlad cyflogwyr llafur, fel y gallai y carcharor pan y gollyngid ef o giar- char gael gwait.h i ato yn lie dychwelyd i'w ffyrdd drygionus. Gobeithiai ef y gwnai yr ynad- on bob ymdrech i fod yn bresenol. Siaradadd y Milwriad Lloyd hefyd am y gwaitb da a wneid gan y gymdeithas.. At oynygiad Mr J. Matthews, yn cael ei eiho gan Mr O. E- Jones, pasiwyd pleidlais unfrydol o gydymdeimlad ,a theulu y diweddar Mr O. Lloyd Jones, Gwredog. >

-----------_--_.._-----Gwraig…

-------Ymddygiad Gwarthus…

NODlUN O'R DEHhUhiK.

----7 ! Masnach Yd yr Wythnos.

Family Notices

Advertising