Hide Articles List

17 articles on this Page

-BANGOR.I

BETHESDA, i

News
Cite
Share

BETHESDA, i Y Bedyddwvr.—-Cynbaliodd y Bedyddwyr eu cyfarfod blynyddol, gan ddechreu nos Sadwrn, y 24a.in y cynfisol, a thrwy y dyddiau Sul a Llun. Gwasanaeth- wyd gan y Parchn. Waldo James a Lee Davies, Bryn- aman. Cilfwyd pregetlnu da a chynulleidfaoedd llu- osog. Darlith.—Nos Fawrth, 27ain cynfisol, traddod- wyd da.rlith. yn Nghapel y Bedyddwyr, ga.n y Parch Waldo James. Ei desrtyn cedd "Y Crach Feddyg." Llvwyddwyd fan y Meddyg Lloyd. Cafwyd darlith dda. gyda rhai sylwadau doniol a digrifol, a rBodclodd amrvsr ddamodiadau o'r craph feddyg. Ar y diwedd dywedai y Llyvrydd fod y darlithv— wedi gwneud ymgais dda tuag at egluro iddynt beth oedd y crach feddyg. Yr oedd arno yntau awvdd trio ei law i rodd'i un darnodiad o hono. Wrth grach y me3"dyli" y bilonen hono sydd yn croni ar friw, ac yn ca.u arno. Felly, mae y crach feddyg bob amser yn rhoddi rhyw- beth ar y dolur i'w gnddio, vn lie ei wella. Cafwyd cynuSiad llitoso-g, a phawb i'w gweled yn mwynhan y wledd. Dprl'th ar G.niadaeth y Cvsagr.—Yr wythnog ddi- weddaf traddodwydi darlith ar y testvn uchod. yn Ysgoldv Glanocrwen gan Mr John Roberts, organydd, Glanosrwen. Llywyddwvd gan y Parch R. Ll. Head- ley. Yr osdd cyrulliad lluosoz wedi dyfod yn nghvd, ac ni siomwyd r.eb yn eu disewvtiadau mwyaf. Dy- Tredai mai un o'r ymarferiada.u crefyddol mwyaf diTnh"?"']] y a, nefolaidd ydyw oanu mawl i Dduw. Yn y gnniadaeth, meddai, mae yr enaid gerbron Duw yn cyflwyno iddo syniadau a theimladau ei ga.lon mewn ze:riau a, seiniau priodol, a chredai fod canu mawl mewn cysylltiad anwahanadwv a chrefydd, fel yn mho", le bynag y ceir y naill yn farwaidd y ceir y llall felly; ,,< o'r ochr araH, os bydd y naill yn llewyrchiis a bywiog bydd y llall felly hefyd. Rhodd- ni bwysigrwydd mnwr ar oa fath ddylai canu y cysegr fod, ac y dylid ei gadw i'r arwasanaeth yn unig, ac nid ei arferyd mewn lleoedd anheilwng, yr hyn a wneir yn rhy ami, fel mai gwa^thaf. Credai y byddi- ai yr hen ^erddorion yn y cyn-amserau yn cyfansoddi cerddhriaeth i'r ganiadaeth er mwyn crefydd yn unig, ac nid er mwyn arian, ac fod cyfansoddia,dau goreu i ganiadaeth y cysegr wedi eu cyfansoddi pan oedd ysbryd y geiriau wedi cacl sylw priodol, megis y "Messiah. "Elijah," Samson," etc. For cerddoriaeth j v cysegr yn casl ei wncud i fyny o "masses, chants, emynau, an them an, "cantatas." "oratorios, ac aeth yn mlaen i egluro y gwahanol fathau hyn o gerddor- iaeth. Dywedai fod y ganiadaeth yn cael ei chyfyngu i gyfansoddi ada.u lleisiol yn uni? (strict composition) llawer o ganrifoedd yn oli, ond cymei-wyd yr offerynau cerdd i mewn yn lied foreu i'w cynorthwyo, ac yn sicr. meddai, y maent wedi gwneud lies mawr. Cymerai ormod o ofod ni ddvfynu hanes caniadaeth y cvsegr drwy y gwahanol oesau. yn nghyd a i sylw- adan ef ar y rhai hyny, a'r moddion goreu er sicrha.u cania.daeth ddilwgr yn ein haddoliad. Credwn v buasai cyhoeddi y ddarlith hon drwy y wasg o les mawr i'n -.erfieoron y dyddiau hyn. Ar gyr.ygiad T Parch R. T. Jones, ficer, pasiwyd diolchgarwch mwy- af unfrydol i'r dirlithydd Y Nadolig vn Eglwys Glanogwen.—Yr oedd- yma lawer iawn o barotoiadau vedi bod ar hyd yr wyth- nos ar zyfer yr wyl fawr hon mewn addurno yr eq- lwys, etc. Arclygwyd y gweithredia.dau gan Mrs R. T. Jones, Mrs B. Thomas, Llys Meurig, a Mrs T. Herbert Htiehes, Glanogwen. Mae v ddwy fonedd1- iges ddiweddaf yn cymeryd dvddordeb mawr yn y gvaith hwn ers llawer o flvnvddu. Yr oedd nifer y boneddigesau oedd yn eu cynorthwyo yn dra. lluosoof, a acd gwaith ardd^rchoe. Yn sicr ni welsom erioed yr eglwys yn edrych yn well, beth bynag. Dechreuwyd y gwasanaethau drwy gynal gwasanaeth o'r Ojrmun Bendigaid am wyth o'r gloch yn. y boreu. ae am ddeg o'r gloch cafwyd gwasanaeth rhagofol, pryd y cymerodd y Parch R. T. Jones, ficer.. a'r Parch R. LI. Headley, curad, ran ynddo. Darllen- wyd y llithoedd gan Mr Evan Davies, a chanodd v cor anthem, dan arweiniad Mr J. Roberts, organydd, ac yn ystod y gwasanaeth canwyd nifer o garolau. Am chwartar wedi dau o'r gloch y prydnawn caf- wyd perfformiad o'r cantata. Y Bachgen Iesu," gan gor o blant, dan arweimad Mr Thomas Griffith, Braich Melyn, a. Mr W. Twigge Ellis, cyfreithiwr, a chafwyd amryw garolau. Yn yr hwyr yr oedd yr eglwys wedi ei gorlenwi yn mhell cyn amser deehreu, ac ugeiniaa wedi gorfod troi yn ol yn niffyg lie. Aed drwy y gwasanaeth gan y Parch R. Ll. Headley, a chafwyd pregeth briodol i'r amgylchiad gan y Parch j R. T. Jones, floor. Yr oedd efe, fel bob amser, mewn llawn teimlad a gwres. Yn ystod y gwasanaeth canodd y cor yr hen anthem Nadolig "Az yr oedd Bugeiliaid yn aros yn y Maes." Mae yr hen anthem hon yn dal yn ei bias yn barhaus, a chanwyd inar- ddeg o garolau. Er fod y canu yn rhagorol, eto "gormod o ddam nid yw dda." Canodd rhai o fechgyn y cor yn wir ragorol, ond gogoniant yr holl ganu yn ystod yr wyl oedd dadlganiad y "Star of Bethle- h.en!" gan Miss Gwendoline Hughes, Glanogwen. Y mae Miss Hughes yn werth i'w chlywed bob anoor. ond canodd y noswaith hon yn well nag y clywsom hi erioed. Mae atdynfa mawr y bobl i waaanaethau Eglwys Glanogwen yn dra lluosog bob Nadolig, ond erioed ni welsom gymaint Tn gorfod troi yn ol o ddiffyg lie. Mae yn ddiamau mai y prif achos 0 I hyn ydoedd y cyfnewidiadaa mawr sydd wedi cymer- yd lie yn y cor wedi dyfodiad ein ficer newydd yma, a Dydd N adolig ydoedd y waith gyntaf i'r cor ddyfod allan yn eu gwenwisgoedd. Yr oedd yr olygfa yn I wir fawreddus. Oychwynwyd yr orymdaitn. gyntaf yn gwasanaeth y boreu—54 mewn rhif, rhwng bech- gyn a dynion mewn oed. Daethant allan o'r festri, yn caeleu blaenori gan y bechgyn Ileiaf, a phawb 110'11 llyfr emynau yn eu dwylaw, ac yn canu yr hen emyn gorymdeithiol, gan gerdded yn rheolaidd a threfnus, a daethant yn ol, drwy ganol yr eglwys, ac i'w gwahanol leoedd yn y cor. Yr oedd rhyw symyl- rwydd mawreddog ag oedd vn creu teimladau dy- eithriol iawn yn y cynulliad lluosog, a gellid gweled; ami i ddeigryn yn disgyn ar hyd gruddiau Uawer un. Mae y diwygiad hwn yn nglyn a'r cor o edddo y Parch R. T. Jones, ficer, yn sicr o roddi gwedd mwy addol- gar ar y gwasanaeth. Diamau na threuliwyd gwyl Nadolig erioed mor fawreddus a.g eleni yn Eglwys Glanogwen. Ymdrechfa Gicyddol Fawreddog.—Dydd Sadwrn diw^ddaf ydoedd y dydd hir-ddisgwyliedig gan holl edmygwyr "sports" yr ardaloedd hyn, gan mai dyma'r dydd yr oedd yr ymdrechfa fawr i gymeryd lie. Ac ystyried mai hon oedd y gyntaf yn Bethesda yn agored i bawb, yr oedd nifer yr "entries" yn foddhaol iawn, ond trodd yr hin yn hynod anffafriol, gan fod y gwlaw yn disgyn drwy yr holl amser, ond ni fu hyny yn rhwystr i'r dewrion fyned vn mlaen a'u gwaith, nag ychwaith yn rhwystr i gynulliad anarferol ddyfod i'r maes i fwynhau y chwareu, ac nid oedd amheuaeth pe buasai yr hin yn ffafriol na fuasai mor boblogaidd a'n arddangosfeydd amaethyddol. Daeth wyth o "teams" i'r maes, a chwareuasant fel canlyn :—(a) Ogwen Siders v. Mountain Rangers; (b) Hirael United T. Bangor Steam Shed: (c) Nondescript, Aberdaron, T, Quarry Rovers; (d) Comet Swifts v. Quarry Reserves. Yn y diwedd yr oedd y "final" i'w chrwareu rhwng Ogwen Siders a'r Quarry Rovers, ond oherwydd i'r amser ddyfod i fmy, a'r nos eu dal, gohiriwyd yr ymdrechfa hon hyd ddydd Sadwrn nesaf. Y "referees" ooddynt Dr. Mills Roberts a Mr W. A. S. Williams, Yspytty y Penrhvn, a Mr John W. Prit- chard, cycle agent. Yr ydym yn disgwyl mai nid hon fydd y diweddaf o'r ymdrecnfeydd hyn, gan fod yma "Sports Committee" wedi ei sefydlu, gyda'r Dr. Mills Roberts yn llywyddu, Mr h. A. S. Williams, Yspytty y Penrhyn, yn ysgrifenydd, Mr John W. Pritchard, cycle agent, yn drysorydd, a nifer o ddyn- ion cyfrifol a dylanwadol yn aelodau o'r pwyllgor. Dyfodiad y Flwyddyn Newydd i Mewn.—Mae yn hen arferiad yn Methesda ers llawer o flynyddau, gan y bobl ieuainc yn enwedig, i gasglu at eu gilydd i ddisgwyl y flwyddyn newydd i mewn, a mawr fydd y twrw a'r berw fydd ganddynt yn gorymdeithio ar hyd y brif heol, yn ol a blaen, yn gwmniau o ugein- iau gyda'u gilydd, a phan yn agos i haner-nos, Dydd canoedd lawer wedi ymsefydlu yn ymyl porth yr eg- lwys yn pryderus ddisgwyl yr hen bregethwr blyn- yddol, Mr John Parry, clochydd, yn cyhoeddi, urwy y gloch, ddyfodiad y Flwyddyn Newydd i mewn, cunys nid oes neb ond yr hen Bar. yn gwybod yn iawn amser ei ddyfodiad. Ac os oedd y twrw a'r borw yn fawr o'r biaen, mae yr awr yn gan mil mwy, oblegid pan glywir tine gyntaf y gloch, bydd pawb am y cyntaf yn llefain, gan lougyfarch eu gilydd gyda "Blwydayn Newydd Dda," a'r hogiau yn heidiau gyda'u gilydd yn bloeddio ac yn anfon tan gwyllt i fyny, a bydd amryw o'r rhai hyn i'w clywed yn ce-idded yn ol a blaen am criau wedi i'r trigolion fyned i hun a heddweh, pe cf-id. Pa leshad sydd yn d llliaw o rhyw firi fel hyn? Credwn y buasai yn ver h trdiiach iddynt fod yn e>i gwel/au, yn enwed- i y merched ieuainc penchwiban a gwamal. ni- T-jgiwch ferched anwyl, neu byddweh yn hen ferched bob copa walltog o honoch. Cvmdeithaji Lenyddol vr Eglwys.—Nos Fercher diweddaf, yn nglyn a'r gvmdcithas hon, cynhaliwyd "noswaith lawen," sef eyfarfod amrywiiethol mewn canu,adrodd,etc.,a gallwn ddweydmaiungvirlaven ydoedd o'r deehreu i'w ddim-cdd. Y llywjald, yn cgystal ac arweinydd y cyfarfod, ydoedd Mr R. Morris, Brynlvryd, a chafodJ hwyl rhagorol i fyned drwy ei waith. I ddechreu cafwyd unawd ar y ber- done-a gan Mr W. J. Pritchard, Penybryn. Can. "Bedd y Bugail," yn wir dda, gan Mise Chariotte Williams. Adroddiad campus o'r "Noble Boy" gan Miss A. M. Thomas, Llys Meurig. Unawd ar y crwth gan Mr Derfel Roberts (Patagonia gynt). Dtniawdi, "Gwraig y Milwr," gan ddau o fechgyn Alaw Lle^hyd. Encoriwyd, a chanasant "Ystorm y Morwr." Cr;ner,idwyaeth uchel. Bydd teulu yr AJaw yn cae: drrbyniad calonog bob amser. Ad, rcddiad," rn. Bi.hel," gan Mr Evan Davies. Can. "Alono on the Raft," yn rhagorol, gan Miss Gwen- doline Hughes, Gtanogwen. Encoriwyd. Unawd ar y berdoneg, yn dda iawn, gan Miss L. J. Owen, Original Crown. Can ddigrifol gan Mr Robert J. Williams. Cafodd y brawd hwn hwyl anarferol, nes tj nu y ty i lawr gan chwerthin. Can, "Baner ein Gwiad," yn rhagorol, gan Mr Owen Williams, Llan llechid. Encoriwyd, a chanodd y deuawd "Mai Cjmiu'n Barod ar y Wys," Mr Robert Jones, Bryn Villa, yn uno ag ef. Can, yn wir dda, gan Mr T. Price Thomas. Hen gan Gymreig ddoniol,"Hafod yr Esgob," gan Mr John Lewis, Cae'rberllan (Pentanc), cafodd yr hen gyfaill hwyb anghyffredin, ac encoriwyd ef yn frwdfrydig, ond ni ddaeth yn mlaen ailwaith. Can, "Death of Nelson," gan Mr Hugh Llechyd Wil- liams er ei fod yn ddyoddef gan anwyd tost canodd fel bob amser yn rhagorol. Can, "Kilarney," gan Miss Gwendoline Hughes, Glanogwen, cafodd y dad- ganiad hwn dderbyniad uchel ac nid yn anhaeddianol. yr oedd yn ddadiganiad uwchraddol. Deuawd, "Flow gently, Deva," gan y Mri Hugh Llechid Williams a Robert Jones. Bryn Villa; ac ni raid dweyd dim am ganu y ddau gerddor hyn macnL yn hen adnabyddus. Cododdi y Parch R T. Jones, ficer Glanogwen, i gynyg diolchiadau i'r 11 v wydd ac i bawb oedd wedi bod mor garedig a gwasanaethu, ac yn neillduol i ysgrifenydd y gym- deithas, Mr John Thomas, Victoria-place, yr hwn oedd wedi dangos gallu anghyffredin yn gweithio allan y fath gyfarfod a thynu allan raglen mor gyfoethog a chwaethus. Eiliwyd gan Mr B. Thomas, Llys Meurig, a phasiwyd yn unfrydol. Wedi i Miss Gwendoline Hughes ganu yr Anthem Genedlaethol, y gynulleidfa yn uno, terfynwyd cyfarfod ag yr oedd pawb yn awyddus am gael un eyffelyb yn fuan eto. Cyfciliwyd gan Mr John Roberts, organydd. Oymdeithas Ddliwylliadol Capel Bethesda (A.). —Nos Ferefcer ddiweddaf, cynhaliwyd cyfarfod y gymdeithas yn Ysgoldy y Cefnfaes, dan lywydd- iaeth Mr W. Elias Williams, Pantffrydlas. Tro- wyd y cyfarfod hwn eto yn "noswaith lawen," pryd y cafwyd adroddiadan, ystoriau, a chanu doniol a difyrus gan y Mri W. Thomas, Oefnfaes- t-errace; y doniol Lewis Jones, Gordon-terrace; R. Griffith, Cae'rberllan Thomas Morris, Eos Idwal, John Roberts, Penybryn; Edward Ed- wards, eto; Miss M. E. Parry, eto; a Miss Mary Williams, John-street. Enillwyd y wobr am ar- eithio yn ddifyfyr gan Mr Lewis Jones, Gordon- terrace ei desrtyn oedd "The Town Crier," a chafodd John W; Hughes, Quarry Vielf Stores, yr ail wobr. ir oedd yma gystadleuaeth hefyd ar gyfieithu, ond ni chlywsom pwy oedd yh fudd- ugol. Yr oedd yfto gynullia4 da, a chafwyd cyf- arfodl difyrus dros ben. Cyfeiliwyd gan Mr John Roberts, Pantffrydlas. Dal Uwyrogod.-Deallwn fod swyddog helwr- iaeth Arglwydd Penrhyn yn y Benglog yn parhau i ddal y creaduriaid difaol, ond cyfrwysgall hyn, ac iddo yn ystod y pythefnos ddiweddaf lwyddo i ddal naw o honyat, yr hyn sVn gwneud nifer yr oil a ddaliodd yn ystod yr ychydig amser mewn cymhariaeth y maie wedi bod yn y He yn 63, heb- law iddo dori traed dros ugain eraill, a rhyfodd yw mae amryw o'r naw a ddaliodd ddiweddaf gyda rhai o'u traed wedi eu tori ymaith, ac ni chlywsom chwaith eu bod wedi cael traed o goed na chyrc yn eu lie. Mae y gwr hwn yn ddiamheu yn gwneud gwasanaeth gwerthfawr i dir-ddalwyr y cymydogaethau.

CAERNARFON.,

CRICCIETH.

DEINIOLEN.

DYFFRYN NANTLEE A'R AMGYLCHOEDD.

FFESTINIOG A'R CYLCH.

LERPWL.

LLANDINORWIG.

PENRHYNDEUDRAETH.

PORTHMADOG.

TALYSARN (NantUfc/i

WYDDGRS^

Advertising

!3WLLHELEL

GARN DOLBENMAEN.

[No title]