Hide Articles List

11 articles on this Page

'",...... { .. jJ. 1 -: CyQafan…

Eisteddfod Penuel, Bangor.…

[No title]

INODI ON O'H DEHEUDIR. j

News
Cite
Share

I NODI ON O'H DEHEUDIR. Trwy fwyafrif o un, darfu i Warcheidwaid Mer- thyr benderfynu fod y tlodion i gael cwrw gyda'u I ciniaw Ddydd Nadolig. Dywedir y bydd colled Ardalydd Bute mewn canlyniad i'r anghydwelediad yn y fasnach mewn gloyn Nghymru tua 150,000p. Yn foreu y Sabboth, torodd rhyw leidr i Gapel y Wesleyaid yn Abergafenni, ac yspeiliodd gyn- wysiad dau foes cenhadol oedd yno, Nos Fercher cynhaliwyd ail wledd flynyddol aelodau Cymdeithas Meistri Adeiladwyr Barry, yn y Barry Hotel. Yr oedd y cynulliad yn un lluosog. Dydd Sadwrn, cynhaliwyd yr arddangosfa flyn- yddol gyntafax gwn, dofednod, colomenod, ac adar, yn Femdale. Cafwyd arddaingosiad rhag- oroL Pasiwyd penderfyniad mewn cyfarfod o Gym- deithas Masnach a gynhaliwyd yn Merthyr, nos Fawrth, yn ffafr cynygiad i oleuo y dretf gyda'r goleuni trydanol. Yn hwyr nos lau torodd tan allan yn Ngwesty yr Angel yn Nghastellnedd. Llwyddwyd i gyf- yngu yr oddaeth ddifaol i un ystafell yn unig. Darfu i Mr J. Lewis, maer Cberfyrddin, estyn agos i 50p i'r gwahanol weinidogion yn y fwrdeis- dref, er iddynt hwy eu rhanu yn mysg y tlodion yn ystod y Nadolig. Y mae symudiad ar droed yn Nghaerdydd i sicrhau presenoldeb rhai o'r teulu brenhinol yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhelir yn y dref hono yr haf nesaf. Er dathlu agoriad eu g^veithiau newydd yn Nyffryn Nedd, darfu i'r Mri Blindell a'u Brodyr, etc., roddi ciniaw yn Ngwesty y Star, Cwmgwrach, nos Sadwrn. Anfonodd Ardalydd Bute lOOp at y diysorfa sydd yn cael ei chodi er cyflwyno anrheg i Esgob Pabaidd Oasnewydd, fel cydnabyddiaeth, ar ei 25ain fiwydd o'i gysegriad. Y mae trafnidiaeth ar y gamlas o Abercynon i Ferthyr wedi ei hatal yn llwyr hyd ddyddiad pell- ach, yn herwydd fod dwfr yn myned i rai o'r pyllau cylchynoL Cynhaliwyd Eisteddfod yn Neuadd Cory, yn Nghaerdydd, ddydd Mercher, yr hon oedd o dan nawdd Urdd yr Odyddicn. LIywyddid gan yr Henadur T. Morel (Maer Oaerdydd). Mewn cyfarfod o Gynghor Dosbarth Merthyr, ddydd Mercher, dadleuid dros fabwysiadu Oyfraith Tai i Weithwyr fel yr unig foddion effeithiol i gyfarfod a'r diffyg o dai priodol i weithwyr yn y dref. Mae y Parch Job Miles, gweinidog yr Annibyn- wyr Cymreig yn Aberystwyth, wedi gwella yn ddigon da o'i afiechyd diweddar fel ag i allu ail ymaflyd yn ei ddyledswyddau. Prydnawn ddydd Gwener, cymerodd ffrwydriad nwy Ie mewn siop yn Railway-st., Oaerdydd. Gwnaed cryn ddinystr ar yr adeilad, a diangfa gyf- yng a gafodd rhai o'r dynion oedd yno. Gwneir ymdrech i godi trysorfa i gynorthwyo I perthynasau y rhai a gollasanli eu bywyd drwy suddiad yr "Eira," perthynol i Aberdyfi. Yr oedd pymtheg neu un-ar-bymtheg ar ei bwrdd, anaw o honynt o Aberystwyth. Darfu i Warcheidwaid Oasnewydd benderfynu na byddai iddynt benodi caplan i weinyddu yn y Tlotty. Credent y dylent wneud trefniadau (gwel gwasanaeth gwirfoddol clerigwyr a gweinidogion y dref. Yn nghyfarfod chwarterol Cvnghor Sirol Mor- ganwg, yr hwn a gynhelid yn Nghastellnedd, dydd lau, cynyguwyd penderfyniad fod swyddfeydd i'r Cynghor Sirol a'r Pwyllgor Unol yn cael eu codi yn Mhontypridd. Rhoddwyd ar Mrs Lewis, Angel Inn, Water^st., i dalu 2p a'r costau, am adael ei thy yn agored ar y Sabboth, yr lleg o'r mis hwn, o un i bum' munud i ddau; a dirwywyd dau o bersonau i 5s bob un am fod yno ar yr amser dywededig. .1 Dydd Gwener, bu y Milwriad Smith yn cynhal ymchwiliad ar ran Bwrdd y Uywodraeth Leol, mewn perthynas i wella ffordd y Owm, Llangibby, a benthyca y SWID o 240p i gario y cyfryw allan gan Gynghor Dosbarth Gwledig PontypwL Ymgynullodd cynulleidfa orlawn i gapel Eben- ezer, Tonypandy, nos lau, i wrando darlith v Parch Watkin Wynn ar "'Noson gyda'r delyn." Canodd Madame Martha Harries Phillips, Am- manford, a Miss Evans (Telynores Elli), yn ystod y ddarlith. Gwnaeth D. Jones, crydd, Catherine-street, yr hwn a adnabyddid wrth yr enw "Danws," ei ym- ddangosiad o flaen yr ynadon yn Nghaerfyrddin am y driugeinfed waith, ac anfonwyd ef i garchar am fis; a'i unig gysur yn y gwyliau ydoedd, nad oedd i gael llafur caled. Un o'r dynion lleiaf yn y Senedd yw Mr Prit- chard Morgan, ond gwel yn mhellach trwy helynt- ion China nag odid neb ac ar hyn o bryd, y mac yn y. wlad fawr heno yn ceisio meddianu cymaint ag a all o oleum. Ymgynullodd nifer luosog i'r Guild Hall, yn Nghaerfyrddin, noe Wener, er canu ffarwel a Mr I Ben Spivey, cyn iddo symud i Ohinde, Dehau- ddwyrain Affrica, lie y mae wedi derbyn swydd fasnachol bwysig. Yr oedd wedi bod yn hynod o wastanaethgar am amryw flynyddoedd gyda'r ys- pytty, a sefydliadau elusengar erailL Ac er dang- os eu gwerthfawrogiad o'r cyfryw wasanaeth cyf- lwynwyd i Mr Spivey gadwen aur ac amryw bethau erailL Yn ystod 254 o flynyddoedd, rhwng 1546 ac 1800, ni rifai y llyfrau Cymreig a gyhoeddwyd ond 1484; yr oedd y llyfrau a gyhoeddwyd o 1800 i 1895 yn 1605. Mewn geiriau eraill, cafodd mwy o lyfrau Cymreig eu cyhoeddi y ganrif hon na'r tair canrif flaenorol, a'u rhoddi gyda'u gilydd. Yn ystod y ganrif hon, y mae y boblogaeth wedi treb- lu ac y mae nifer y rhai sydd yn siarad Oymraeg yn Nghymru yn awr ddwy waith lluosocach na'r rhai a siaradent Gymraeg yn Nghymru pan ddech- reuodd y ganrif. Digwyddodd ffrwydriad nwy yn agos i dafarn y Red Clow, Plas Marl, ddydd Mawrth. Ymddengys fod dyn o'r enw Roger Thomas yn sefyll yn agos i meter nwy, pan y darfu iddo daflu matsien oleu- edig, gyda'r hon yr oedd wedi tanio ei getyn. Syrthiodd trwy grat oedd yn gorchuddio y meter a chymerodd ffrwydriad Ie mewn canlyniad. Chwythwyd Thomas ar draws y ffordd, ond diang- I odd heb dderbyn niweidiau trymion. Derbyniodd dyn araJI niwed trwy y grat, yr hon a chwythwyd i gryn bellder. I Yn Llys yr Ynadon, yn Mhenybont-ax-Ogwy, I cyhuddid pedwar o fechgyn, o'r enwau Edwin James, Caleb Biyant, Thomas John, a Thomas I Robertsi, oedran pa rai oedd yn amrywio o 15eg i 17eg—o dori i siop y Mri David Williams, chweg- nwyddwr, a lladratta cigars, tybaco, etc. Tjrnwyd yr achos yn erbyn Roberts yn ol er iddo ef roddi I ci -dy,tiolap.th. Myn wyd n> eichiafaeth o lCp cm ddeuddeng mis dros John a Bryant; ac anfonwyd James, yr hwn oedd wedi troseddu o'r bl^en, i'r ysgol ddiwygiadol. Nid unol iawn yw yr alcanwyr yn trefnu eu I h&mgylchiadau. Chvestiwn y ddau undeb yn aros i dynu sylw. Cyfarfod cynhyrfus yn Llanelli nos Sadwrn i ystyried arcodau rweithio mewn tri o'r prif weithfeydd ddechreu y flwyddyn newydd. I Methwyd gwneud dim y noson hono, a gohlriwyd I hyd nos Sabboth. Peth newydd yn Llanelli, yn I ddiau—cynhal cyfarfod o natur felly ar nos Sul. Penderfynwyd gweithio yn y tri gwaith ar y go.s- tyngiad p'.eser.ol, 15e y cant dan Fafon 1874. Mwl" hyderir na fydd rhwyrr pellach. ÅTOS o hyd wna gwehhlau mawrion Morewood. Oesglir yn y gweithiau cylchynol i gynorthwyo y rhai sydd yn segur mewn canlyniad i hyny. Yn ddiweddar, cafodd Mr George Thomas, Mar- dy, ei wneud yn Gymrawd o'r Gymdeithas Ddaear- J egol. Mab ydyw i Mr Edwin Thomas, Mardy, ac ) efe oedd yr unig efrydydd llwyddianus mewn daeareg yn arholiad y B. Sc. y llynedd. Dyma yr aelod ieuengaf o'r Gymdeithas DdaearegoL Cynhaliwyd trengholiad yn Aberdar, ddydd Sadwrn, ar gorph Thomas Thomas, ond yr hwn a adnabyddid yn well yn nghylchoedd y bel droed fel "Taylor, yr hwn oedd wedi marw mewn can- lyniad i'r niweidiau a dderbyniodd wrth gicio y bel droed. Dychwelwyd rheithfarn o "Farwolaeth ddamweinioL" I Yn Rhymni, ddydd Sadwrn, darfu i swyddogion y glofeydd sydd yn ngwasanaeth Cwmni Haiarn Rhymni gyflwyno anrheg o lestri te a choffi i Mr John Powell, eu diweddar lywodraethwr. Y mae Mr Powell wedi ymgymeryd a gofal glofeydd new- ydd yn Abertyswg, perthynol i Gwmni Haiarn Tre- degar. Yn nghyfarfod Cynghor Dosbarth Buallt, ddydd LIun, cyflwynwyd planiau i gael cyflenwad newydd ú ddwfr i ffynhonau Ivlanwrtyd o ffynhonau Llwyd wilo, yr hwn a dderbyniodd gymeradwyaeth un- frydol. Gwneir cais at Fwrdd Llywodraeth Leol am. gydsyniad i sicrhau y benthyciad angenxlieidiol i gario allan y gwaith. Mr Humphreys Owen, A.S., oedd yn rhanu y gwobrwyon yn ysgol sir Pontypridd, lie y mae yn awr 105 o 'fechgyn ac 84 o ferched. Dywedai Mr Humphreys Owen fod yr amser wedi dyfod y dylid dysgu rhvwbeth buddiolach na ieithoedd meirwon a thramor i fechgyn sydd yn gadael yr ysgol yn 15eg ac yn 16eg mlwydd oed. Bu y Parch Phillip Jones, Abergwaun, yn tra- ddodi ei ddarlith ar "Y Tri Ymneillduwr," i gyn- ulleidfa luosog yn Heol Awst, Caerfyrddin, nos Fawrth. Gwnaed sylw sylweddol, yr hwn elai i gynorthwyo myfyrwyr yr Hen Goleg. Mae hon yn ddarlith wir ddyddorol ac addysgiadoL Oadeir- iwyd gan Mr John Lewis, Maer y dref. Yn Llys yr Ynadon, yn Mhontypridd, ddydd Mercher, gwysiwyd William Rees, haliwr, William Williams, a Henry Matthews, llafurwyr, am ym- osod ar yr Heddgeidwad Kavanagh. Cydnabydd- odd Williams mai efe oedd wedi ymosod ar yr heddgeidwad a rhoddwyd ar Williams a Matthews i dalu 5p bob un, neu, yn niffyg hyny, i fyned i garchar am ddau fis. Boreu ddydd Sadwrn, cyfarfyddodd tanwr, o'r enw Henry Pomeroy, yr hwn oedd yn gweithio ar Ffordd Haiarn y Great Western yn Pontypool- road, a damwain angeuoL Ymddengys ei fod yn croesi o dan rhyw wageni, y rhai a symudasant, a derbyniodd yntau y cyfryw niweidiau ag a drodd yn angeuol 'iddo yn mhen ychydig oxiau wedi hyny. Ceir yn "Y Drych" hanes marwolaeth Mr Lewis Anthony, brodor o Cwmaman, sir Gaerfyrddin, yr hwn a aeth c Gymru yn y flwyddyn 1867. Bu Mr Anthony ar un adeg yn ddechreuwr canu yn Nghapel Ebenezer, Abertawe, ac yr oedd yn un o golofnau yr achos yn Eglwys Gynulleidfaol Ed- wardsdale, Penn., lie y gweinidogaetha y Parch T. 0. Edwards, D.D. (Cynonfardd). Darfu i'r Parch T. Mortimer Green, cofrestrydd Coleg Prifysgol Cymru, roddi hysbysiad allan yn ddiweddar am glerc i'w gynorthwyo. Ymgeisiodd pedwar cant a haner am y swydd ac yr oedd am- ryw o wyr y prif-ysgolion, dros ddeugain oed, yn mysg yr ymgeiswyr. Penodwyd clerc o swyddfa newyddiadur yn Aberystwyth, am gyflog o 70p yu flynyddoL Y mae effeithiau tymhor y gwyliau i'w canfod yn amlwg yn Neheudir Cymru eto i gyd y mae busnes mawr wedi cael ei gario yn mlaen, a chadw- odd prisiau y nwyddau penaf i fyny yn dda. Par- haodd y glo ager goreu yn gadarn yn ol 12s 9c i 138 6c y dunell; mathau eraill o lo ager, o 10s 6c i 12s; etc, man, 6s 6c. Glo sir Fynwy, o 10s 9o i lis 3c.. Marwaidd ydyw y farchnad gyda phlat- iau alcan. Y mae graddau helaeth o fywiogrwydd i'w ganfod yn ngweithfeydd dur Dowlais a Chyf- MtMa. _———

BLAENAU FFESTINIOG.

LLANRWST A'R CYLCH.

Family Notices

ifanvolaetli Mv Lhw&lyn Adams.…

---Bwrdd Gwarcheidwdd Penrtyndendraetbt…

TrycMneb yn yr Afon Uyfrdwy.

-------------TRAWSFYNYDD.